Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DYI ;D GWENER, MEDI 4, 1874.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

CRYNNODEB WYTHNOSOL. Y pwngc sydd yn attynu mwyaf o sylw yn yr Unol Daleithau ar hyn o bryd ydyw y cyhuddiad o anliadrwydd a ddygir yn erbyn y gweinidogenwog, y Parch. Henry Ward Beecher. Gwedir y cyhuddiad yn y modd mwyaf pendant gan Mr Beecher, ond parha Mr Tilton ilynu wrth yr hyn a ystyria yn 1feithiau mor gyndyn, fel y bygythia ddwyn yr achos gerbron yr awdurdodau cyfreithiol. Cyhoeddir yr oil o'r gohebiaethau cyfrinachol rhwng y 'pleidiau, a dadlenir y ffeithiau mwyaf gwaradwyddus ar bob Haw. Llenwir colofnau y wasg Americanaidd ag esbon- iadau ar yr achos o wahanol gyfeiriadau, ond haenr a gwedir gyda'r fath bendant- rwydd ar y naill ochr a'r llall, fel y mae yn anmhosibl gwahaniaethu rhwng y gwir a'r gau. Ettyb y drafodaeth un amcan pwysig, sef tynu y lien oddiar athraw- iaeth lygredig sydd yn cael ei chredu yn nghymmydogaeth Eglwys Plymouth. ym Ymddengys fod yno luaws mawr o gred- inwyr yn y pwngc o "rydd-garu," a cheisia chwaer Mr Beecher ganddo gyf- addef ei ymlyniad wrth yr athrawiaeth halogedig, fel cyfran o'u cyfundreTn grefyddol, dros ba un y mae wedi cyd- synio i fyw," er na faidd gyhoeddi hyny i'r byd. Ar y cyntaf dygwyd yr achos gerbron cyfeisteddfod eglwysig, gan ba un y rhyddhawyd Mr Beecher oddiwrth y cy- huddiadau ond disgwylir datguddiadau llawer pwysicach pan drafodir y pwngc mewn llys gwladol. Yn sicr y mae yr achos yn un tra rhyfedd ac atgas, ac hyd yn nod pe deuai Mr Beecher yn rhydd mewn llys barn, nid oes amheuaeth nad erys cwmwl ar ddysgleirdeb cymmeriad un o brif bregethwyr y byd. Dyn rbyfedd ydyw Syr Wilfrid Lawson, ac yr ydym yrj. barod i gyfaddef yn rhwydd ein banaliy. i ddirnad ei syniadau am gyssondeb, Gwyr ps-wb m,ai efe ydyw apostol mawr yr "elfen 4eneu ysblenydd," ac nad oes derlyn ar ei ymdr#chion j s.obr- eiddio cymdeithas drwy)\ offerynolia.{jth pastwn cyfreithiol; ond i ni ymddengys cyssoniun o'i weithredoedd diweddaraf a'i gredo yn orchwyl tra anhawdd. Ychydig JJdyddiau yn ol rhoddodd y barwnig wa- hod^iajd paredig i aelodau cymdeithas genedlaethol y tafarnwyr i gynal arwest ar ei dir, a datgaijai ei barodrwydd i weithredu fel cadeirydd iddynt, ps dymun- ent ddatgan eu syniadau. Ar yr ua pryd j gomeddai iddynt werthu diodydd, ond ychwanegai na ofynid unrhyw gwestiynau gyda golwg ar y swm o wirod y gallent fod yn ei gludo yn guddiedig o gylch eu personau, Y mae y meddylddrych am Syr Wilfrid yn ljy wyddu cyfarfodo dafarn- wyr yn un rhyfedd, ond y mae y rhyddid a gyhoedda i ddwyn gyda hwynt unrhyw swm o wirodydd meddwol yn rhyfeddach fyfch. rranoeth wedi digwydd, ceir gohebydd dieuw yn ysgrifeuu i un o newyddiaduron Ballarat yn nghylch prawf Tichborne. Dywed ei l'od yn cofio yn Jberffaith am lan- iad dwylaw llongddrylliedig y Bplla, a'i I fod yn arfer siarad a hwynt yn ddyddiol; am yr yspaid o dair wythnos. Yna aiff yn mlaen i hysbysu y byd ei fod mor sicr mai yr un person ywyr "hawly44"a Syr Roger Tichborne ag ydyw o'i fodoi-, aeth ei hun. Anhawdd ydyw dirnad pa amcan a ddichon fod mewn golwg gan y fath berson pan yn rhoddi cyhoeddus- rwydd i'w haeiiadau; ac os ydyw yn fedd- iannol ar y wybodaeth a fyntumia, gofyrhr yn naturiol paham na estynasai ei gyn- northwy yn brydion gyda golwg ar nchub- iad Syr Roger. Hyfryd genym ddeall fod rbagolygon amgylchiadau yn ardal Bethesda fel pe yn dechreu goleuo, a chymmylau yrannghyd- welediad yn teneuo. Cyfarfu pwyllgor y chwarelwyr a Mr Pennant Lloyd ddydd Mawrth, ac ymddengys fodgobaith o'r diwedd am gymmodiad y pleidiau; ond hyd yn hyn bernir yn ddoeth gadw y cyf- j newidiadau y cyttunwyd arnynt yn ddir- gelaidd. Ymddengys fod y dynion yn barod i gydsynio ar y cyfan a chynnygion 9 Arglwydd Penrhyn, ac mai yn erbyn y goruchwylwyr yn benaf y mae eu cwynion presennol. Credem o'r dechreu y byddai i'w argiwyddiaeth gynnyg telerau mor gymmedrol fel nas galiai y chwarelwyr yn rhesymol rwgnach yn eu heruyli ond gyda golwg ar y gwyn sydd yn awr yn ymddangos fel yn llurho y maen rhwystr ar ffordd cymmodiad, nid ydym ni mewn mantais i wybod am natur y pwngc. Modd bynag, teimlir yn lied hyderus y gellir dyfod i delerau bellach, ac y mae genym sail i gredu y bydd y gweithwyr wedi ym- aflyd yn eu gorchwylion cyn y bydd ein rhifyn nesaf yn nwylaw y darllenydd. Foreu dydd Mawrth dienyddwyd Mary Williams a Henry Fiannagan o fewn mur- iau carchar Kirkdale, Lerpwl. Gwnaed ymdrech at arbed bywyd y ddynes an- ffodus, ond wedi ystyned yr achos, yn fanwl, hysbysodd Mr Cross nad allai ym- yraeth a chwrs cyfiawnder. Cofus gan y darllenydd ddanod i Mary Wiiliams gael ei iieuogiarnu am saethu dyn o'r enw Manning, tra yr elai heibio drws ei thy < ond hyd y munyd olaf daliai i haeru mai ei gwr a oilyngodd yr ergyd. Ymddengys fod 31 miyneid ers pan ddienyddwyd benyw o'r blaen yn KirKdale. Y trosedd am ba un y colifarnwyd Elannagan yd- oedd llofruddio ac anrheithio ei lodryb yn ei pbreswylfod, pan ydoedd mewn cyflwr o leddwdod. Y dienyddwr ydoedd lin Wilhanl Marwood, o swydd Lincoln; a threngodd y colifarnechgion yn union- gyrchol. Cydnabyddir Llywodraeth Madrid gan yr holl o brif alluoedd Ewrop, oddigerth Rwssia, a bernir y bydd i'r ffaith efteithio yn narostyngiad y Carlistiaid, er nad oes rhyw la>ver o obaith am derfyniad buan y gwrthryfeL Ychydig ddyddiau yn ol cymmerodd ymladcifa gyndyn le ger Puycerda; ond ymddengys na wneir llawer o wrhydri gan yr ymosodwyr na'r amddiffynwyr. Yn of y newyddion di- weddaf, dywed y Carlistiaid ddarfod idd- ynt drechu y Maeslywydd Zabala, yr 11 hwn, gyda 16,000 o filwyr, a ymdrechai gael mynedfai Vittoriagyda chynnorthwy. Ar y lfaw arall, ceir iiysbysrwydd swydd- ogol oddiwrth Lywodraeth Madrid fod tan amddiffynwyr Puycerda wedi creu yn ddinystr yn rhengau y Carlistiaid,ym- drech pa rai i gymmeryd y dref drwy ruthr a brofodd yn fethiant. Os gellir rhoddi coel ar yr adroddiad swyddogol am ddianglad y Maeslywydd Bazaine, diosgir yr hanes o gryn lawer o'r rhamantedd a wisgai ar y cyntaf, Yn ol esboniad yr adroddiad hwn o'r amgylch- iad, cafodd y gwylwyr eu llwgrwoorwyo, a cherddodd Bazaine allan o'i garchar yn hamddenol yn ngolwg y gwyliedydd, i'r hwn y telid yn hael am ei cidallineb ond y mae yn anmhossibl penderfynu pa ad- roddiad sydd gywir. 'Ymddengys'iiad all ein cymmydogion Ffrengig gyfyngu eu hymyriad a rhyddid y wasg i newyddiad- uron a gyhoeddir yn eu gwladeu hunain oj^egid ýh) dig ddyddiau yn ol, rhoddwyd attalfa 'ar werthiant newyddiadur Seis- nig o'r enw Hour yn Paris; unig drosedd yr hwn ydoedd dangos pieidiaeth" i'r Maesiywydd Bazaii,c. JL)ysgwylir y Maes- lywydd drosodd i Lundain yn mhen ych- ydig amser, a dywedir mai yn swyddfa yr Jtiuiir y geilw gyntaf.

CYMDEITHASFA Y METHODISTIAID…