Hide Articles List

12 articles on this Page

ANNERCHIAD

CASTELL Y PENRHYN.

EMULYN

'.Y DYN FFALS. -"f

.Y it HAl) L.

ANNERGillAD A DilADDODWYD…

[No title]

BE1RNIADAETHAU.

, GOFYNIAD.

[No title]

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN. FONEDDIGION, Cymmaint oedd fy awydd i ymweled a Bangor yn adeg yr eis- teddfod--GwyiFawr Cenediaetholy Cymry —fel y mynais weled a chlywec), gwybod a theimlo, rhanau helaeth o honi. Ac yr oedd yn dda genyf weled bonedd a gwreng yn arddangos cymmaint o ddy- ddordeb eisteddfodol. Mae yn wir fod dosbarth o ddynion i'wcael na ddeffrowyd hwy erioed i wir deimlad o natur ac amcan yr eisteddfod; ac o herwydd hyny, yn tueddu i ddirmygu ac amcanu dinystrio pawb a phobpeth cysylltiedig a hi. Ond dylid cofio fod y dosbarth hwn yn gyfan- soddedig, naill ai o ddynion diddysg, difarn, a dichwaeth at lenyddiaeth neu ynte, o ddynion a ystyrient eu hunan wedi cyrhaedd pen bryn cnwogrwydd, a defnyddioldeb, fel nad yw yr eisteddfod yn eu golwg hwy ond cwrcld p!entynaidd; ac ambell un lied sych-dduwiol yn ddigon ] laerllug i daeru dyn yn erbyn pob rheswm mai melldith yr oes ydyw cynulliadau o'r fath. Ondgwyddom ni, a dylent hwythau wybod, na bu gan genedl y Cymry erioed sefydliad mor efteithiol i ddwyn dynion allan i feddwl a myfyrio ag ydyw yr eisteddfod. IViae yi-i wir fod rhai pethau yn nglyn a'r eisteddfod y gellid eu heb- gor ond ni cbeir y da heb y drwg, na'r melys heb y chwerw. Felly, os mynwn ninau gofleidio yr hyn sydd dda, gwrth- odwn, ac amcanwn ymlid ymaith yr hyn sydd ddrwg, fel y byddo y da yn ber- ffaith. Gyda golwg ar Eisteddfod Freiniol Bangor, yr oedd, ar air a chydwybod, yn un o'r rhai godidocat a welais erioed ond ei diffyg penaf hithau oedd, ei Seisnig- rwydd, yr hyn sydd sicr o fod yn lladd teimladau Cymroaidd y cyffredinolrwydd. Y mae llawer, fel fy hunan, yn methu yn lan a deall paham nad ellid cael eistedd- fod hollol Gymreig—yr areithio yn Gymraeg, y canu, y cyfansoddi, a'r beirniadu, yo, oll yn Gymraeg. Yr oedd yn ddrwg iawn genyf glywed cymmaint o Saesneg yn cael ei siarad yn Mangor, a -hyny yn nglyn a hen sefydliad y genedl- sefydliad sydd wedi bod heb un wythien Seisnig yn amrywio ei gyfansoddiad. Nid wyf wrth ddyweud hyn yn dirmygu iaith ein cymyclogion ar un cyfrif; ond yr wyf yn teimlo y dylai yr hen elfenau Cymreig I Z, gael rhyddid teg i weithio eu hunain allan yn eu lliw priodol eu hunain, yn lie ym- rithio mewn gwisg estronol. Sonir llawer am gadyn fyw yr iaith Gymraeg soniaf finau hefyd o eigion calon ond attolwg, ddarllenydd, beth y mae eisteddfod yn ei wneud ? Y mae ar y naill law yn gwaeddi, I" byw byth hyddo yr iaith Gymraeg," ac ar y llaw arall yn rhoddi dyrnod trwm iddi. Ac yr wyf yn ofni i'r dyrnod hwn gasglu nerth ychwancgol, lies o'r diwedd Iwyr lethu-y cyfansoddiad, fel na bydd dim yn aros o'r elfenau Cymreig ond yr esgyrn syehion. Chwi, bwyllgorau Eis- teddfodau 1875, gochelweh y dinystr, a mynweh bob peth yn Gymraeg. Bydd hyny yn glod i chwi, yn feddyginiaeth i'r iaith, ac yn fendith i ninau. A chofied pob perchen barn a chydwybod na ddylai yr eisteddfod fod yn ddarostyngedig i ddyrchafu neb, na boddio teimladau neb ond y Cymry i'r rhai y perthyn iddynt hawl aphriodoldeh i appelio am eistedd- fociau hollol Gymreig iw- Wrtli ddyfod adref o Fangor, ymwelais 1 ag ardal C-r-m-1, er mwyn d yfod dippyn yn wybyddus o natur a thuedd- iadau ei phlant. Deallais fod cwyn gyffredinol gan foneddigesau yma oher- wydd fod y dynion ieuaingc yn tueddu i feithrin gormod o yspryd mynachaeth nfeu feudwyaeth, h.y., yspryd byw eu hunain, neu yn ol esboniad Mr Jones- ? byw yn hen langciau. Yr wyf erbyn hyn yn llwyr argyhoeddedig fod sail i'r gwyn gyffredinol yma oblegyd, wrth ch willa, cefais allan fod yn yr ardal tua deuddeg o hen langciau, a deuddeg ereill o fewn cam neu ddau i groesi y line. Mae hwn yn wirioneddgalarus, pan ystyriwn fod merched ieuaingc yr ardal, o angen- rheidrwydd, yn gorfod myned i ystad anhawdd gan neb arall eu prynu. Ond- clywais gyda sicrwydd, fod yn mwriad un o brif-feirdd y lie, chwilio i mewn i'r mater pwysig hwn, er dwyn mesur allan o'r. enw—" Rheoleiddiad Tueddiadau," a chyda cyd-syniad clwy ran o dair o wyr a gwragedd profiadol yr ardal, gwneir y mesur yn ddeddf mor ddiwyro, a deddf y Mediaid a'r Perskid. Poed felly y bo, medd,— LLWYNOG CWMSILIN. ü. i i

[No title]