Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

----HYN AR LLALL, YMA AO ACW.

EISTEDDFODAETH CYMRU.

News
Cite
Share

EISTEDDFODAETH CYMRU. FONEDDIGION,Dyma bwngc poblog- aidd yr oes bellach ag sydd wedi llyngcu meddwl y genedl a sylw ei llenorion. Dengys hyn y fath ymlyniad sydd gan y Cymro at lenyddiaeth ei genedl, a'r fath gymmwysder sydd yn ei llenyddiaeth at ctiwacth y genedl. Cawn hanes ein heisteddfodau yn mhob oes a chanrif, weithiau'n flodeuog, bryd arall yn y niwi. Y mae'r ysgrifenydd yn cofio'n dda Eisteddfod fawr Beaumaris (lie cafodd yr hyn a elwir urdd), pan wisgai ein Grasusaf Frenhines (y pryd hyny yn Dywysoges), Gwilym Caledfryn ac Eben I Fardd. Cynnaliwyd o hyny hyd yma eisteddfod o ryw lun mewn. ardal, tref, neu gilydd, weithiau'n llewyrchus, bryd arall yn an- ifodus, hyd nes y ffurfiwyd y cynllun cenedlaethol. Wedi rhoi'r engine cenedl- aethol i dynu cerbydau yr Eisteddfod tybiai pawb yr ai yn ben sefydliad y byd, ac y byddai pawb yn eu haddoli fel delw Nebuchodonozor. Ond och! yr oedd y pridd, a'r pres, a'r haiarn mor annghyd- weddol ynddi, fel y maluriodd yn fuan, gan cdryllio a briwio teimladau ac am- gyichiadau llawer eisteddfodwr. Oddiar olion yr hen adeilad gwympedig, codwyd Eisteddfod Eryri, Eisteddfod Fynwy, &c., ac er syndod dyma'r Wyddgrug y llynedd yn ymrithio yn enw yr hen sefydliad cenedlaetholl Mae'n debyg nad oedd patent arno. Dyma Fangor fawr yn Ngwynedd yn rhoddi'r gair Breiniol wrth gwt ei henw! Beth nesaf, tybed ? Beth hefyd, syned yspryd Ceridwen, chwardded drychiolaethau Plenydd, Alawn a Gwron.; ond na fyneger ef yn Gath ac na chyhoedd- er ef yn heolydd Ascelon-tair o eistedd- fodau yn cael eu cyhoeddi oddiar y maen chwyf. Beth, a oes ymraniaeth wedi ilygru gwaed y Cymro nes ei gymmysgu a'i noli weithrediadau moesol, llenyddol, gwladol, yn ^stal a chelfyddydol. Beth a darawodd yti mlien y brawd Gwalchmai gyda rhyw ddyrnaid dinod i gyhoeddi eisteddfod yn Nghonwy pan y gwyddent fod rhybudd wedi cael ei roi yn y Wydd- grug am gynnal yr Eisteddfod am 1875 yn Mhwllheli, tref a chartref ag sydd gan mil addfetach iddi na Chonwy, a thref na bu y fath betli ynddi o'r blaen ? Os nad ydyw awyr Conwy yn iachach mewn ystyr Eisteddfodol -na'r eiddo Llandudno, goreu po bellaf y bo'r eisteddfod o honi, oblegid dyma un 6'1' lleoedd oedd yn melltithio plant yr awen a'u fieSteddfod, ac yno y llrndagwyd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn enw ysprydion yr holl feirdd, o Alawn i Dewi Wyn, gpdewch chwareu teg i Bwllheli am eleni. Gwelsoch y derbyniad mor wresog a gaf6dd y:r adnoddau Eistedd- fodol or bedd, a'r golwg calonog am lwydd: sydd sicr. Gwyddoch pan fo tri efaill yn cael eu magu, fel rheol rhyw nychu y bydd y tri. Gellweh benderfynu un peth ceir gogwydd, llaij, ac egni beirdd Cymru dros Bwllheli, oddigerth rhyw ychydig iawn iawn ag y gwyddis "y rheswm pam." Felly fy nghyngor i fel hen fardd, ydyw peidio dangos yspryd ymraniaeth, ac wrth roddi'r arwyddair "Yn Nawdd Duw a'i Dangnef," ymgadw rhag rhwyg y ai ormes.— Yr Eiddoch, 9 HEN EISTEDDFODWR. Glyn Awen, Awst 24, 1874.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

DAMWAIN HYNOD.

[No title]

----=-.-..-_-------DIENYDDIAD…

[No title]

Y FHlF FARCHNADOEDD CYMREIG.