Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.

News
Cite
Share

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE. Un diwrnod o'r wythnos aeth lieibio aethum yn nghwmni Mr Richards, athraw > Ysgol Genedlaethol Machen, a Mr Martin arwib-daithddeutroed, acynystodein hynt ymwelasom ag amryw leoedd enwog mewn hanesyddiaeth Gymreig, yn Ngwent a Morganwg. lludri.—Plwyf gwladaidd yw hwn, ac Eglwys fechan heb ddim addurnwaith ar- ni. Nid pell o'r llan hwn y saif Ehuppera Castle, anneddle y Milwriad Morgan, A.S. Y mae y castell hwn yn perthyn i deulu Tredegar. Llettyodd y bremn anffodus Siarls y cyntaf yma un noswaith ar ei ffordd o Gaerdydd. Yr oedd Morganiaid Tredegar yr amser hwnw fel yn awr yn deyrngarwyr o'r bon i'r brig. C) Cejen Mably.—Palas y Milwriad Kemys Tynte, boneddwr ag sydd yn disgyn o 10 welielyth enwog. Y mae gan bawb air da i'w roddi iddo. Ceir gweled hen arlun- iau heirddion yn y palas hwn yn mhlith ereill darlun o Nell Gwynne, un o fonedd- igesau Siarls yr ail, menyw lan odiaeth, a darluniau o'r Kemysiaid. Lladdwyd Syr C. Kemys wrth amddifiyn Castell Casgwent dros ei frenin. Yr oedd Syr Nicolas Kemys yn godymwr heb ei fath. Clywodd cod. ymwr mawr yn Nghernyw son am ei wr- hydri, a phenderfynodd ei dreio. Aeth yr holl ffordd o Gernyw ar gefn et ful i Cein Mably, a'r dyn cyntaf a gyfarfu oedd Syr Nicolas Kemys yn y pare. A ydyw Syr Nicolas gartref mectdai y gwr o Gernyw. Tyma fe," ebai Syr Nicolas, "beth sydd ,-fynochI''A mi." Yr wyf wedi dylod yma i ymafiyd codwm a chwi." "Cerddwcb i gael bwyd a diod." "Na," ebai y dyn dy- eithr, "yn awr amdani." Ehoadodd Syr Nicolas ef ar wastad ei gefn dair gwaith. "A ydych chwi yn foddlawn yn awr," ineddai Syr Nicolas. "Nac wyf," oedd yr atteb y mae yn rhaid i chwi fy nhatlu dros y wal eto," athrosy wal allan o'r pare y cafodd ef fyned. Gotynodd Syr Nicolas iddo a oedd ef wedi cael ei foddioni. "Byddaf yn foddlawn ond i chwi daflu y mui ar fy ol." Cododd Syr Nicolas yr asyn yn ei grynswth dros y wal, ac aeth y dyn i'w ffordd wedi ei focidloni. Y mae darlun o Syr Nicolas a'r codymwr i'w weled yn awr yn y palas. Syr Nicolas ddysgodd Sior y cyntaf i yfed ac ysmoccio, yn Hanofer. Pan ddaeth ef yn frenin Lloegr, dywedodd fod awydd arno weled ei hen gyfaill o Gein Mably. Dywedodd un o'l swyddogion fod byr Nicoiao N-ra pleidio y Pretender. Pw pw," meddai y brenin, anionwch am dano." Dycii- welodd Syr Nicolas yr atteb canlynol;- « Yr wyf yn barod i yfed glasiad ac ysmoc- cio pibell gydag ef fel Elector Ranofer, ond dim byth fel brenin Lloegr." Yr oedd hen gan ar lafar gwlad yn Morganwg a'r geiriau canlynol ynddi:— Tri dawnsiwr penria'n Nghymru, Syr Charles Kemys o Cefumabiy, Ysgwier Lewis gwycb or Van A Nicol Carne Eweuny." Pan oedd ef yn -teithio mewn gwledydd iramor, clywodd ferch o Gymraes yn eu ,canu, a gwnaeth ymholiad yn ei chylch, a .chafodd ar ddeall iddi gael ei chario o Gymru fel caethferch. Dygodd hi yn ol i Forganwg. Y mae hyn yn wirionedd. Yr oedd boneddigion y parthau hyn oil yn Jacobites, hyny yw, yn bleidwyr i deulu y Stuarts. Their last hoof and horn and hide, They would gie for bonnie Charlie." Yr oedd y ffermwyr yn ei bleidio. Yr oedd hen ffermwr yn byw yn mhlwyf Gelligaer, aeth teiliwr a to un diwrnod i ofyn am fenthyg punt; ond bu yn hir cyn ei thalu. Cyfarfyddodd un diwrnod a'r Ifermwr ac annerchodd ef: Tri plieth 'rwyf jn eierchi Cael echwyn am y gini A chael Pretendwr ar y faingc A chael bath Ffraingo i dalu." arian. Maddeuodd y ffermwr iddo yn y fan. Yn mlwyf Llanedarn, gerllaw i Gefnmably, y mae hen balas o'r enw Coed-y-gorras, anneddle y Morganiaid, hen deulu cyfrifol. Mab i Coed-y-gorras oedd Datyrid Morgan, bar-gyfreithiwr, Counselar y Pretender, fel yr oedd yn cael ei alw. Ymunodd Dafydd Morgan a byddin y Pretender yn Manceinion, ac yr oedd yn un o'i gyfeillion ffyddlonaf, ar ol i fyddm y Pretender en- cilio. Cymmerwyd Dafydd Morgan ac amryw ereill yn garcharorion am deyrn fradwriaeth, a chawsant oil eu condemuio i farw. Cawsant eu crogi a'u chwarteru ar gommin Kensington. Cyn iddynt gael eu dienyddio, taflodd Dalydd Morgan sypynau o bapurau i blith y dorf. Bu amryw o brif deuluoedd y De a'r Gogledd mewn helbul yn nghylch y Pretender. Llaneurwg.—Pentref hardd a tl-llws, yn sefyll mewn man hyfryd a dymunol ar ben boncyn gyferbyn a'r mor. Y mae yr Eglwys yn setyll fel dinas ar fryn a'i thwr uchel yn sefyll fel yr oedd ganrifoedd yn ol yn dangos i'r plwyfolion fod "gwlad i'w chael uwch ser y nef, sydd well na'n daear ni." Y mae Llaneurwg yn cadw ei hagwedd cyntefig-nid oes yma ddim math o weithfeydd, dim peiriannau yn mygu ac yn chwythu tan. Dal a wnaut rhwng ddl. a papt Y boreuaf 0 beiriant," Sef yr aradr. Eu galw yn arwydd y Bell y mae pobl y parthau hyn yn hoffi galw y gwestai wrth enwau clychau, &c. Yn Bedwas gelwir y brif dafarn "Tafarn yr Eglwys;" ac un arall yn Risca." Tra yr oeddem yn cymmeryd lluniaeth, yr oedd nifer o ddynion yn siarad am y llofruddiaeth, a phob un yn arllwys ei anathema ar ben y llofrudd James Henry Gibbs. Condemnient y ferch anffodus Mari Jones hefyd. Yr oedd dyeithriaid yn heidio yma o bob cwr i weled y fan He y cyflawnwyd un o'r llofruddiaeth au gwaeth- af a gyflawnwyd o fewn cof—llofruddiaeth a yrodd aeth trwy fferau trigolion y wiad. Yr unig gasgliad a allem dynu oddiwrth deimlad y lie ydoedd, pe buasai i James Gibbs gael ei ryddhau, na fuasai yn wiw iddo ymweled a Llaneurwg. Galw yn nesaf yn yr ysgoldy, cael tippyn o ymgom ^'r athraw, Mr Porter, yr liwn oedd fel r 1 1i arieroi yn iiawn caredigrwydd. Y mae yma ysgol ragorol, plant bochgoch, glan- waith, a thrwsiadus, yn deilwngo bentref glanwaith Llaneurwg. I'r gorllewin o'r pentref y saif Glanrumney Hall, palas George Williams, Ysw., lie yr oedd James Gibbs yn fwtler dangoswyd y fan i ni, lie y llofruddiwyd Susan Gibbs, druan o honi. Nis gallem lai na theimlo wrth feddwl i greadur ffyddlon a diniwed gael ei denu i'r llannerch dawel hwn i gael ei chigyddio fel dafad. Nid oedd neb ger- llaw ond dau ddyn yn rhwymo gwenith. Bydd enw fferm Glanrumney mwyach ar gof a cliadw am bir amser. 0 Rumriey Caerdydd, neu Dei yr Eleirch.— Y mae yma Eglwys anferth o fawr i bobl- ogaeth mor lechan. Nid oes llawer o amser er pan gafodd ei hail adeiladu. Adeilad Normanaidd yw, a chlochdy mawr ar y pen gorllewinol. Y mae yn debyg fod pobl Rumney yn byw oes batriarchaida. Y mae un gareg yn y gangell yn cofnodi am ddyn a fu byw nes oedd yn agos i ddau cant oed. Y mae yn amlwg mai camsynied wnaeth y cerf- iwr, fel ei frawd yn St. Andreas, yr hwn a gerfiodd ar gareg bedd rhyw ddyn ei fod yn 34 yards."—Galw yn y ficerdy ar y Parch. Morgan Morgan, brawd ficer Ysceifiog, a chael croesaw mawr, ac ym- gom hir am yr hen amser gynt, pan yn blant difatter. Y mae rhywbeth yn anwyl cael gweled hen wynebau a adwaenem pan yn blant, a myned dros hen ddigwyddiadau, &c. Y mae dyddiau ieuengctyd yn piccio o flaen ein Ilygaid OUQ ayna.'i.- gTr^tl^f, nirl Fm v cwbl riciirn ond megys breuddwyd. Dywedir mai! gerllaw Rumney y safodd Harri yr Ail a'i ganlynwyr pan ar ei ffordd o'r Iwerddon ar ddydd Sul y Pasg. Y boreu hwnw aeth Harri i gapel St Padrig yn Heol y Cryddion, Caerdydd a phan oedd ef yn dyfod allan aetii Meudwy i'w gyfarfod i'w rybuddio am ddiwygio, ond ni wnaeth un sylw o hono nes oedd ef ar Bont Rumney. Anfonodd un o'i swyddogion yn ol i chwilio am dano; ac arhosodd yntau yma; ond diflanodd y Meudwy. Dyma ben ar y mwdwl heddyw. Y GOHEBYDD GWIBIOL. O.Y.-Rhagor yi wythnos nesaf.

LLITH DAFYDD EPPYNT.

O'R DEHEUDIR.

Advertising