Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CENAD HEDD AM 1910. .
News
Cite
Share
CENAD HEDD AM 1910. PRIS DWY GEINIOG Y MIS. GOL YGWYR Parchn. J. THOMAS a 1 JONES MERTHYR TYDFIL. ANWYL DDARLLENWYR,- Yn y rhagolwg o groesi gyda'n gilydd o 1909 i 1910, ein gorchwyl cyntaf yw diolch i chwi am eich cefnogaeth werthfawr am un flwyddyn arall. Daeth y Cenad Hedd atoch o fis i fis yn gwbl ddiym- hongar, a gosododd ger eich bron ei arlwy heb honi ei bod yn well nag eiddo ereill, a dangos- asoch chwithau, o dro i dro, eich bod yn ei mwynhau. Yr ydym wedi ceisio gofalu fod yr oil a osodasom ger eich bron yn iachus eiriau y ffydd,' ac yn gyson a'r pethau a gredir yn ddiamheu yn ein plith.' Nid ydym yn credu mewn brysio at y newydd am ei fod felly, eithr hoffwn, yn hytrach, chwilio a yw yn well na'r hen-yn fwy cyson a goleuni nas gellir gyda rhesymoldeb ei wrthod. Un peth yw bod yn wahanol, peth arall yw bod yn well. Bwriadwn y flwyddyn nesaf eto ddilyn yr un prif linellau ag a ddilynasom er's blynyddoedd, gan ein bod wedi cael profion diddadl eu bod yn eich boddloni chwi. Daw DARivtJN bob mis o rywun y bydd am- gylchiadau yn cyfiawnhau galw sylw ato ond nid ymddengys neb yn ein Horiel na fydd yn gymeriad da, ac wedi rhoi gwasanaeth teilwng. Parhawn i dalu sylw i'r AEI/WYD. Yr ydym wedi cael ami brawf fod darnau sydd wedi eu cyhoeddi yn y Cenad Hedd wedi bod yn gy- mhorth mawr i feithrin crefydd ar yr aelwyd. Nis gwyddom am ffurf ar wasanaeth y carem yn fwy ei gyflawni yn efteithiol. Ymdrechwn gadw yr amcan hwn mewn golwg ar hyd y flwyddyn ddyfodol. Rhoddir y flwyddyn ddyfodol eto BREGETHATJ a THRAETHODAU byrion ar destynau o ddyddor- deb, a bwrir golwg dros brif symudiadau y dydd yn y COFNODION MISOL. Adolygir, fel arfer, Lyfrau, Cyfnodolion, &c., a anfonir i'r Swyddfa. Parha EIFIONYDD i ddarparu ARLwy AD- RODDIADOL bob mis ar gyfer ein bechgyn a'n merched sydd yn hoff o adrodd, a gofala am iddynt fod yn gyfaddas i Gyfarfodydd yr Ysgol Sul a Chymdeithasau Llenyddol. Ymddengys y WERS SABBATHOL, hefyd, a gofelir am bersonau cymhwys i'w hysgrifenu. Parha Mr. J. M. WEBBER, G.T.S.C., i ofalu am ein HADRAN GERDDOROI,, a gofala am gadw i fyny ei rhagoriaeth. Anfoner Cyfansoddiadau Cerddorol i Gethin Cottage, Abercanaid, Merthyr Tydfil. Y mae yn adeg pan y mae o'r pwys mwyaf i gadw ein hieuenctyd gyda phethau na fydd perygl iddynt dderbyn niwaid oddiwrthynt; gan hyny, taer erfyniwn am i arweinwyr ein heglwysi roi iddynt bob cefnogaeth yn nglyn a. hyn. Gwnawn ein goreu i ofalu am ddarpar- iaeth deilwng o fis i fis. Yr eiddoch yn ffyddlon, Y CYHOEDDWYR A'R GOLYGWYR. "'l -v.<
Advertising
Advertising
Cite
Share
'M-M- SARDIS, YNYSDDU. DYDD agoriad capel yr eglwys hon yn cymeryd lie D lonawr 17eg, 1910, gan yr Henadur David Jones. YH., Ebbw Vale. Dysgwylir i gymeryd rhan, weiaid- ogion Oyfundeb Mynwy. ac ereill, a phregethir y nos- weithiau dilynol gan y Parchn R. E. Peregrine, B D Bhymni; Thomas Rees, Sirhowi; P. W. Bough, a J. Morgan Jones, Coed-duon Thomas Tudor, Ebbw Vale; Robert Evans, Penmaen I). Lloyd Williams, Beaufort; Thos. E Jones, Efailisfif Thos. J. Morgan a D. T. Rhys, M.A Bristol; Thomas Richards, Gasnewydd E Brunant Powell, Maesycwmwr; a C. Tawelfryu Thomas, Groeswen. Am fanylion, ymofyner ag R. COBDEN DAVIES, Ysgrifenydd, 6, Greenfield- terrace, Ynysddu, Mon. i,.iS" HOTEL, (Established over 100 years,) Suffolk St., PALL MALL, LONDON Adjoining Trafalgar Square. (Successors to MR ROBBRTS, Thanet Place.) Telegraphic Address—'Pleasant,' London. Telephone-No. 8889, Central. Proprietor-H. R. JONES OUR CHRISTMAS LIST. NEW WELSH NOVELS. -I Cynwyn Rhys,' by Elwyn. 2/6 net. 'Plant y Gorthrwm,' by Gwyneth Vaughan. 2/6 net. 'Y Seren Unig,' by Oliver Don. i/-net. 'Mwyar Duon,' by Defynog. 1/- net. NEW WELSH DRAMAS.—1 Taid a Nain,' R. Williams. i/- net. Ruth,' J. J. Williams. Music by James Davies. 6d. EMINENT WELSHMEN.-Handsome volume with illustrations. 10/6 net. SELF-MADE WELSHMEN. (For Boys). 1/6 net. ADGOFION W A TCYN WYN.-il6 net. CANIADAU ELFED.—In one volume. 3/6 net. WELSH ALPHABETS, PRIMERS, AND Readers. Readers. FOR WELSH SUNDAY SCHOOLS.—Large Welsh Reading Charts. Three Sets. 10/• each net. Hanes Iesu Grist i Blant.' 1/- net. (Illustrated.) (Illustrated.) Please send for Catalouge post free to The Educational Publishing Company, Ltd., Trade-street, Cardiff. .<<ft" CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN. pYNELIR vn y Foel dyddiau Iau a Gwener, ° IOIJHwr 27ain a'r 28ain, 1910. Y Gynadledd am 10.30 dydd Gwener Pregethir gan y Parch D. Morgan, Trallwm, ar Gymdethasiaeth Gristionogol,' a ch-n y Parch J. E. Thomas, Meifod, ar I Ddylei- swydd yr Eglwys at yr Ieuenctyd; a dyledswydd yr leuenctyd.at yr Eglwys.' Gwahoddiad cynes i'r hoil frawdoliaeth; ond dysgwylir i bob un a fwriada fod yn breseriol, anfon at y Parch J. Williams, erbyn Ionawr 23ain. J. 0. JONES, Ysg. CYFARFOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR MON. fYNELIR yr uchod yn Libanus, Benllech yr ail ° Llun a Mawrth yn Chwefror, 1910. Y Gym- deithws Genadol Gartrefol am 10.30 y boreu, a'r Gyn- adledd Ohwarterol am 1.30 nawn y dydd cyntaf, pryd y darlleuir papyr gan Mr R. Williams, PenHyn, Llau- fechell, ar fater o'i Jddewisiad ei hun. Y Parch W. Waiters, Rhosneigr, i bregethu ar Ddirwest y noson gyntaf. Cemaes, Mon. J. S. EVANS, Ysg. CYFARFOD CHWARTEROL DINBYCH A FFLINT. PYNELIR y nesaf yn Brynteg ar y dyddiau Mawrth a Mercher, lonawr 18fed a'r 19eg. Y Gynadledd am 10 yr ail ddydd. Yu lie y pregethau arferol ar y Pwnc a Dirwest, cynelir cyfarfod cyhoeddus am 2 o'r gloeb, pryd y sieredir ar y materion- I Paham yr wyf yn Brotestant?' Paham yr wyf yn Ymneillduwr ?' a Phaham yr wyf yn Annibynwr?' Y siaradwyr ydynt y Parchn J. Howells, Ponciau Ben Williams, Prestatyn a T. Ogwen Griffiths, Rhyl. T. ROBERTS, Ysg. CYMANFA BREGETHU ANNIBYNWYR MON. pYNELIR yr uchod yn Mhortbaethwy y Mawrth a'r Mercher olaf yn Mehefin, 1910. Y Gynadledd (Jhwarterol am 10 o'r gloch y dydd cyntaf. Mater y Gyfeillach am ddau o'r gloch fydd, Gogwyddiadau yr Oes, a Rhwymedigaeth yr Eglwys yn wyneb hyny.' Y gwahocldedigion ydynt y Parchn J. Thomas, Merthyr P. Price, B.A., Dowlais; S. Williams, Pen- rhiwceibr; Stanley Jones, Caernarfon; ae R. r. Williams, Oaergybi. J. S. EVANS, Ysg. CYFARFOD CHWARTEROL ARFON. CYNELlR yn Moriab, Porthdinorwig, ar y dyddiau- Mercher ac Iau, Ionawr 19eg a'r 20fed, 1910 Cynadledd am 10 o'r gloch boreu lau, a'r Gyfeillach dan lywyddiaeth y Parch J. A. Enoch, Llanddulas, am ddau o'r gloch. Mater y Gyfeillach—' Rhwym- edigaethau Aelodau Eglwysig fel Dinasyddion.' Gwahoddir cynrychiolwyr o'r holl eglwysi i'r cyfar- fodydd. Trefriw. HENRY JONES, Ysg. CYFUNDEB CYMREIG MVNWY. QYNELIR Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Mynydd Seion, Casnewydd, nos Fercher a dydd Iau, Ionawr 12fed a'r 13eg. Dysgwylir y Parchn E. S. Jenkins, Abertyswg, ac Edwyn Evans, Aber- bargoed, i bregethu ar y pynciau, a'r Parch W. Phillips, Salem, Trelyn, i ddarllen papyr ar William Wroth' yn y Gynadledd boreu yr ail ddydd. j R. E. PEREGRINE, Ysg. EGLWYS MORIAH, YSTRAD MYNACH. ySGRIFENYDD presenol yr eglwys uchod ydyw Mr John Williams, Arfryn, Hengoed-road, Y strad Mynach, near Cardiff. j EGLWYS BETHANIA, GER BRYNAMAN. CYFARFOD ORDEINIO. SUL a'r Llun, Chwefror 6ed a'r 7fed, cynelir cyfar- fodydd yn nglyn Ag Ordeinio a Sefydlu Mr John Llewelyn, Brynaman, yn weinidog aryr eglwys uchod. Bydd y Cyfarfod Ordeinio am 2 or gloch dydd Llun. Cymerir rhan gan weinidogion y cylch ac ereill. Croesaw cynes i bawb. JOSHUA ANTHONY, Ysg. CYFUNDEB GORLLEWINOL CAERFYRDDIN C YN ELIR y Oyfarfod Ohwarterol nesaf yu Gibeon, St. Clears, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Chwefror 22aln a'r 23ain Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, yn yr hon yr agorir ymddyddan gan y Parch D. G. Williams. Bethlehem, ar Gynydd mewn Gras.' Pregethir yn yr hwyr, ac am 10, 2, a 6 yr ail ddydd. Cyfarfod 10 ddydd Mercher i fod yn un Cenadol, yn yr hwn y gweinyddii yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Dysgwylir y Parchn J. Rogers, Pembre, a T. G. Owen, Elilll, i bregethu ar y pynciau y cyntaf ar y Oymundeb. a'r ail ar y Genadaeth. Anfonir cerbydau dydd Mawrth i gyfarfod &'r tren 1130 vn y Sarnau, ac i St. Clears i gyfarfod a'r tren 12.4. Bydd yn hyfrydwch mawr gan y Parch D. R. DR vies a'r eglwys yn Gibeou gael presenoldeb cryno brawdoliaeth y Cyfundeb yn y cyfarfodydd. Philadelphia. T. W. MORGAN. MORIAH, NEATH ABBEY. YN EISIEU, ^700 ar log ar y Capel uchod. Llog, pedair punt y cant Am fanylion, ymofyner &'r Ysgrifenydd, Mr L. DAVIES, Tai- IIwyd, Neath Abbey. Meddyginiaeth Ddyogel AT r Anhwylderau'r Croen a'r Gwaed Os ydych yn dyoddef oddiwrth unrhyw afiechyd sydd vn codi oddiar anmhuredd y gwaed, megys ECZEMA SCROFULA, GWENWYN Y GWAED, OLWYFAU o unrhyw natur, CHWYDDIADAU CROENOL CLUNIAU DOLURUS, CRYDCYMALAU, GOUT, &c dylech broii gwerth Clarke's Blood Mixture y Gwaed Burydd ac Adferydd bydenwog. Gwarentir i glirio y Gwaed oddiwrth pob anmhuredd sydd yn CODI ODDIWRTH BOB AOHOS, ac y mae yn rhydd oddi- wrth bobpeth sydd yn niweidiol ilr oyfansoddiad mwyaf gwanaidd i un o'r ddau ry w, o fabandod hyd henaint Miloedd o dystiolaethau o bob parth o'r byd. Oddiwrth yr holl Fferyllwyr a'r Ystordai, 2s 9c y botel. Gofynwch am elarke's Blood Mixture GWYL1WCH EPELYCBIADAU DIWFRTJ3