Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TRO TRWY FRO ENEDIGOL Y DEGWM.

News
Cite
Share

TRO TRWY FRO ENEDIGOL Y DEGWM. At Olygydd y Tyst. SYR,—Gwelaf fod Mr J. S. Parry, golygydd y Llan, heb gredu eto fod y Llywodraeth wedi rhoi arian y cyhoedd at adgyweirio yr Eg- lwysi i ac yn ei anwybodaeth o'r ffeithiau, dywed ei bod tu hwnt i fy ngallu inau i brofi y gosodiad, yr hyn sydd nodwedd perthynol i'r anwybodus a'r balch. Pan geir dyn wedi ei ddonio yn helaeth a'r ddwy elfen yna, teimla hwnw nad oes neb yn gwybod nac yn gallu, os bydd efe yn metha Pan ddarllenais nodyn cyntaf Mr Parry, deallais nad oedd ei wybod aeth yn eang, ond ni ddychymygais nad oedd yn gwybod peth am y pwnc ymgymerai &g ef ond gwelaf yn awr fod yn rhaid ei gymeryd fel un o'r infant class. Dywed ei fod yn fodd- Ion i gofnodion y Lly wodraeth; os felly, cyf- lwynaf un neu ddwy esiampl iddo. Yn y flwyddyn 1835, gwariwyd o arian gafwyd gan y Senedd at adeiladu ae adgyweirio eglwysi a chapeli y swm o £ 7,299 17s. Yn y flwyddyn ar ol hono, gwariwyd y swm o £7,347 9s. 1c a chawn symiau fel yma dan y penawd 'Repairs,' £52 9s. 9s., a £13 16s 11c., heb son am y symiau geir dan yr enw Re- built' ac I Enlarged.' Gwel 'Return of Grants of Public Money for Building and Repairing Churches and Chapels.' Gan fod Mr Parry gymaint ar ol yn ei hanes mewn perthynas a'r glwys, gweil gadael ar hyn heddyw, ac os dawi allu meistroli yr ychydig ffeithiau uchod yn iawn, yr wyf yn meddwl y daw i weled nad haeru dan fy nwylaw wnes pan yn cyfeirio at sut mae yr Eglwys wedi adgyweirio ei had- eiladau. Ydwyf, &c., Gwernllwyn. D. JONES.

....... < A NEW INDUSTRY FOR…

LLENYDDIAETH UNDODAIDD YN…

GLYN-NEDD.

CAERLLEON.

YR ARGLWYDDI.

BETHLEHEM, CAERDYDD.

Advertising