Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- YR YSGOL SA8BATHOL --

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SA8BATHOL Y WERS RYNGWLADWRIAETHGL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TREFFYNON. IONAWR 23iin.—Gwir Wynfydedigr wydd. — Matt. v. 1-16. Y TESTYN EURAIDD. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.'— Adnod 8. Y RHANAU I'W DARLLEN YN DDYDDIOL Llun (Ion. 17eg),—Matt. v. 1 16. Mawrth.—Luc vi. 12-26. Morcher.-Iago ii. 1 5. lau.-Salm i. 1-6 Gwener.—Salm xxxii. 1-11. Sadwrn.-I Pedr iv. 12 19. Sabbath —Dat. vii. 9-17. RHAGAR WElNIOL. YN y Bregeth ar y Mynydd eglura yr Arglwydd Iesu natur a deddfau y Deyrnas yr oedd wedi dyfod i'r byd i'w sefydlu. Nid ydyw yn cynwys yr oil o'r gwirioneddau yr oedd ganddo i'w dysgu i'r byd-gwirioneddau oeddynt yn dal perthynas a Daw yn Ei bertbynas a threfn iachawdwriaeth y byd, megys aberth iawnol y Gwaredwr er maddeuant pechodau. Ond eglura ddeddfau Ei Deyrnas a chymeriad ei deiliaid, gan osod allan eu rhagorfreintiau a'r gwynfydedigrwydd oedd yn perthyn iddynt. Y mae pob dyn yn chwilio am ddedwyddwcb, ac yn y Bregeth cawn y cyfarwyddiadau hyny, a dysgir pa fodd i gyrhaedd gwir ddedwydd- wch. Nid ydyw o fawr bwys pa un a edrychir ar y Bregeth hon fel un Bregeth a draddodwyd ar un adeg, ai ynte crynodeb o addysg yr Iesu a draddodwyd ar wahanol adegau. Diau mai (Vi 17 49^W h0a a'F Utl 3 g0fQ0dir gan Luc ESBONIADOL. Adnod 1.—'A phan welodd yr Iesu y tyrfa oedd, Efe a esgynodd i'r mynydd; ae wedi iddo eistedd, Ei ddysgyblion a ddaethant ato.' Tyrfaoedd. Crybwyllir am danynt yn yr adnod olaf o'r benod flaenorol. I'r mynydd. Sef yr ucheldiroedd oedd yn ymylu ar y llyn, Dyma Sinai yr oruchwyliaeth newydd. Eistedd. Dyma oedd arferiad y dysgawdwyr Iuddewig wrth ddysgu. Ei ddysgyblion. Sef y rhai yr oedd efe wedi eu galw i fod gydag Ef yn wastadol. J Adnod 2. Ac Efe a agorodd Ei enau, ac a' a dysgodd hwynt, gan ddywedyd.' Agorodd Ei enau. Ymadrodd yn gosod allan bwysigrwydd yr hyn oedd yn lefaru. Dysgodd hwynt. Eglurodd iddynt egwyddorion Ei Deyrnas. Adnod 3 Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.' Gwyn eu byd. Y ffurf uchaf o hapusrwydd- bliss. Byd gwyn. Y tlodion yn ur ysbry(I Dyma sylfaen profiad Cristionogol. Tlodion ac yn teimlo y tlodi. Tlodi ysbrydol yr unig gymhwysder i dderbyn maddeuant. Nis gall Duw ddiwallu angenion dyfnaf yr enaid heb deimlad o'n hangen. Eiddynt yw Teurnas Nefoedd. Hwy yn unig gant fwynhau bendith- ion y Deyrnas, sef ei rhagorfreintiau, ei chvf- oeth, a'i gogoniaot. Gadawa Luc allan yr ymadrodd yn yr ysbryd.' Adnod 4.—'Gwyn en byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddyddenir.' Y rhai sydd yn galaru. Tristwch dwfn am eu beiau eu hunain a beiau ereill. Galar oherwydd pechod ynddynt eu hunain ac yn y byd. Canys hwy a ddyddenir. Trwy yr ymwybyddiaeth o fadd- euant Cant heddwch cydwybod. Adnod 5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.' Y rhai addfwyn. Rhai dyoddefgar a gostyngedig. Yn dyoddef heb rwgnach yn dyoddef cam heb ysbryd dial. Etifeddant y ddaear. Hwy a wir fwynhant bob peth sydd yn perthyn i'r byd a'r bywyd presenol. Adnod 6.—'Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder canys hwy a ddiwellir.' Newyn a syched am gyfiaionder. Yn gosod allan deimlad angerddol. Cyfiawnder. Uniondeb calon a sancteiddrwydd buchedd. Hwy a ddiwellir. A lenwir yn gyflawn a'r cyfryw fendithion. Dyma nodweddion y cymeriad Cristionogol-tlodi ysbrydol, galar I am bechod, addfwynder, neu ysbryd ymos- tyngol i ewyllys Duw, a syched enaid am gyf- iawder. Sicrheir i'r cyfryw drugaredd, purdeb, ymwybyddiaeth o fod yn blant i Dduw. Adnod 7.-1 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gant drugareddGwyn en byd y trugarogion. Y rhai sydd yn meddu ar ysbryd maddeugar a thosturiol. Hwy a gant dru- garedd. Cdnt fwynhau trugaredd eu hunain. Cymharer dameg y gwas anhrugarog, penod xviii. Madden i ni ein dyledion fel y madd euwn ninau in dyledwyr.' Adnod 8 —' Gwyn eu byd y rhai pur o galon canys hwy a welant Dduw.' Gwyn eu byd y rhai pur o galon. Purdeb calon. Gwir burdeb, nid purdeb seremoniol. Caru yn unig y da oddiar egwyddor dda. Ewyllysio y da yn unig ac ymhyfrydu ynddo. Hwy a welant Ddww. Ei adnabod, Ei fwynhau, a chymdeithasu ag Ef. Y mae yr adnabyddiaeth yn gynyddol fel y mae y galon yn cael ei phuro. Adnod 9.—' Gwyn eu byd y tangnefeddwyr canys hwy a elwir yn blant i Dduw.' Gwyn eu byd y tangnefeddwyr. Yn med lu ar ysbryd heddychol eu hunain, ac yn ymdrechu dwyn pawb i heddwch A'a gilydd, Hyn yn codi oddiar brofiad u heddwch a Duw Canys hwy a elwiJ. yn blant i Dduw Gan eu bod yn feddianol ar anian dduwiol—anian sydd yn eu gwneyd yn debyg i Dduw. Duw yr heddwch ydyw Duw. Adnod 10.—' Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.' Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder. Dyoddef oherwydd gwirionedd a chydwybod. Y mae yr achos y dyoddefir o'i blegid yn penderfynu pob peth. Eiddynt yw teyrnas nefoedd. Mwynhad o fendithion y deyrnas. Adnod 11. — Gwyn eich byd pan y'ch gwar- adwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn I, a hwy yn gelwyddog.' Gwyn eich byd pan y'ch gwar- adwyddant. Eu gwawdio a'u dirmygu, Erlid- iant. Trwy gosbi a charcharu. Ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn. Erlid trwy air. Cyhuddiadau anwireddus. Er fy mwyn 1. 0 achos eu bod yn ddysgyblion iddo Ef. Adnod 12. -1 Byddwch lawen a hyfryd canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd; oblegid felly yr erlidiasant bwy y proffwydi a fu o'ch blaen chwi.' Byddwch lawen a hyfryd. Yn hyn oil gallant fod yn ddedwydd am eu bod yn gwasanaethu achos gwirionedd. Mawr yw eich gwobr yn y nefoedd. Taledigaeth y gwobrwy yn y nefoedd. Oblegid felly yr erlidiasant hwy y pi-offtoydi, &c. Bydd coflo hyn yn gynorthwy iddynt ymgynal yn ngwyneb erledigaeth. Cafodd y proffwydi, y goreu o ddynion, yr un driniaeth. Adnod 13 —'Chwi yw halen y ddaear; eithr o diflasodd yr halen, d pha beth yr helltir ef ? ni thai efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.' Chwi. Fy nysgyblion. Yw halen y ddaear. Tcwy halen cedwir pethau rbag llygru. Yr oedd eu dylanwad hwytbau yn y byd i fod fel halen. 0 diflasodd yr halen. Halen wedi colli ei allu i halltu. A pha beth yr helltir ef ? Os bydd i chwi fy nysgyblion fod yn anffyddlon, pwy a geir i gadw y byd rhag llygru ? Adnod 14.—' Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio.' Chwi yw goleuni y byd. Y mae y byd trwy bechod mewn tywyllwch. Yr oedd y dysgyblion i fod fel goleum i'r byd, trwy y gwirionedd oedd gan. ddynt i'w gyhoeddi. Dinas a osodir are fryn ni ellir ei chuddio. Cymhariaeth yn dano-os nas gall gwirionedd beidio bod yn amlwg. ° Adnod 15.—' Ac ni oleuant ganwyl], a'i dodi da,n lestr, ond mewn canwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y ty.' Ae ni oleuant gamoyll, a'i dodi dan lestr. Canwyll, neu y lamp. Y llestr. Un o ddodrefn eyffrediii ty. Cymhar- iaeth er dangos mai trwy gael ei gwneyd yn gyhoeddus, mewn gair a gweithred, yr oedd yr Efengyl i gyrhaedd ei dyben, fel y ganwyll yn y canwyllbren, neu y lamp wedi ei chrogi i fyny, ac nid drwy ei chuddio.' Adnod 16 —' Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithred- oedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.' Llewyrched felly eich goleuni. Llewyrched eich bywyd fel y gol- euni. Bydded eich bywyd sanctaidd a diargy- hoedd yn amlwg i bawb. Trwy hyn arweinir dynion i ogoneddu eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd. GWERSI, 1. Nodweddion gwir ddysgyblion yr Ar- glwydd lesu. Ymdeimlad o dlodi ysbrydol. Dyma sylfaen y bywyd crefyddol. Y mae yr ymdeimlad o dlodi ysbrydol yn cynyrchu galar, Y mae y tlawd ysbrydol yn addfwyn, yn ym- wybodol o'i ddiffygion ger bron Duw, ac felly yn amyneddgar yn wyueb camdriniaeth oddi- wrth ddynion. Y mae yn teimlo yn angerddol am i'w fywyd gydymffurffo ag ewyllys Duw. Y mae y bywyd hwn yn dangos ei hun mewn bod yn drugarog, yn bur o galon, a chreu heddwch. II Gwynfydedigrwydd gwir ddysgyblion yr Arglwydd lesu. Y mae yn wynfydedigrwydd sicr, er nad yn rhydd oddiwrth dreialon. Y mae y tlawd ysbrydol yn etifedd bendithion ysbrydol. Ca ei ddyddanu trwy yr ymwyb- yddiaeth o faddeuant pechod. Trwy addfwyn- dra, etifedda y ddaear. Diwellir ei syched 4 bendithion ysbrydol, Ca brofiad newydd, o drugaredd trwy fod yn drugarog. Trwy burdeb calon, daw i adnabyddiaeth gynyddol 0 Dduw, a thebygolrwydd iddo Trwy wneuthur heddwch, daw i undeb a. Christ, y Brawd hynaf. Ill Dylanwad bendithiol bywyd gwir ddys- gyblion yr Arglwydd Iesu. Y mae bywyd y gwir ddysgybl fel halen ac fel goleuni. Halen yn gwrthweithio llygredigaeth y byd; goleuni i oleuo tywyllwch y byd GOFYNIADAU AR Y WEIRS. 1. Pa le y llefarodd yr lesu y Bregeth hon ? 2. Beth oedd ei amcan wrth ei Ilefaru ? 3. Pwy ydyw y rhai sydd yn cael eu cyhoeddi yn wynfydedig ? 4. Eglurweh yr ymadroddion tlodion yn yr ysbryd,' rhai sydd yn galaru,' rhai add- fwyn.' 5. Pa fodd y mae y rhai addfwyn yn etifeddu y ddaear ? 6 Eglurweh y bendithion neiliduol a addewir i'r rhai sydd a newyn a syched am gyfiawnder, rhai pur o galon, a'r rhai trngarogion. 7. Pa gynaliaeth arbenig a addewir yn wyneb erledigaeth, &c. 8 Eglurwch ystyr y gymhariaeth o halen a goleuni ? 9. Beth ydyw y gorchymyn neiliduol a roddir i'r dysgyblion ?

YR HYN BRISIA MERTHYR. -