Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TABOR, PENYGRAIG, RHONDDA.

News
Cite
Share

TABOR, PENYGRAIG, RHONDDA. AGORIAD CAPEr, NEWYDD. Nodyn lion yw'r nodyn hwnw glywir yn tori ar ein clustiau pan fyddo rhywun neu rhyw- beth ag sydd yn ddwfn yn ein serch yn llwyddo. Dydd o lawen chwedl oedd dydd agoriad Tabor, Penygraig. Yr oeddem fel deadell fechan wedi bod ar flaenau ein traed megys yn dyheu am weled gwrid gwawr dydd yr agoriad yn cerdded crib y mynydd yn ei sandalau arian. Do, torodd y wawr, a daeth y dydd, sef Rhagfyr 5ed, 1909. Er na chawsom ddydd yr agoriad yn y gwan- wyn tlws, pan mae'r ddol wedi ei harlwyo o flodau amryliw, eto i gyd cawsom awelon y gwanwyn nad yw yn darfod,' a phersawr y blodau nefol yn ei chol. Er mai mis Rhagfyr yw hi, a'r gwyntoedd yn rhwygo'r awyr, credwn i ni gael o ddylanwad y gwynt nerthol' hwnw glywyd ei swn yn yr oruwchystafell ugain canrif yn ol. Buom yn breuddwydio (?) am ein haddoldy, ac yn dyheu am ei glydwch. Mae y capel bach' yn edrych yn hardd mae yn cael ei wresogi gan heating apparatus. Dywed pawb na welsant dlysach festri erioed. Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo boreu Sul, Rhagfyr 5ed, gan y Parch F. Richards Tonypandy, gweinidog y fam-eglwvs B eglwys Soar (B.) mor garedig a rhoddi ei chanel ef1^g,a1t eu* gwasanaeth prydnawn Sul, a phreg- ethodd y Parchn G Penrith Thomas, Ferndale, fC Jnr^rs Jones (W.), Penygraig. Nos Sul (yn Tabor) pregethwyd gan y Parchn F. Richards a G. Penrith Thomas. Nos Fun cawsom wasanaeth y Parchn Rowland Hughes. B.D., Tylorstown, a T. D. Jones, Bodringallt. Nos Fawrth, y Parchn D. R. Jones, M.A., Caer- dydd, a Ll. S. Davies, Trewilliam. Nos Fercher, y Parchn J. J. Williams, Pentre, a W. Oscar Owen Cynier. Nos Iau, y Parchn J. Williams, Aberllechau, a D. C. Jones (B.), Penygraig Cawsom bregethau neillduol o rymus o foreu Sul dan nos Iau. Clod i'r brodyr da uchod, oblegid bu eu gwasanaeth yn rhad. Llywydd- vJl °U cyfarfociydd gan y Parch F. Richards. Teg ydyw cofnodi yr anrhegion gawsom 1 addurno a dodrefnu y cysegr Beibl ^lrtdJan. Mr a MrS Rees Thom?s (tryst- ydd). Beibl at wasanaeth y cyfarfodydd wyth- noso1 gan Miss Davies, ysgolfeistres, Trealaw. Llyfr Emynau i'r pwlpud, Misses Mattie, Hettie, r1Ien JhTaS' fmynau i'r organ gan ddosbarthiadau Mri Samuel Parker a T. B Davies. Bwrdd gan ddosbarth Mr. W Rhydd- Music hfh i'rpwlpud §an Mr Thomas, Music Stores. Awrlais gan Mr a Mrs Parker Llian bwrdd lr Cymundeb gan Mr a Mrs Job, Co-operative Stores. Fliambwrdd gan Mr a Mrs Flooks. Oilcloth gan Mr T. B. Davies carpet &c., ir pwlpud gan ddosbarth Mr. Jonathan Davies. Clwyd y tuallan i'r capel gan Mr Thos. Lewis, gof, Tonypandy. CYdnabyddwyd yn y Tyst yn hanes y corfforiad am roddion ar- dderchog em mam-eglwys, sef £ 500 a'r organ. Gosodasom nod pur uchel o'n blaen fel swm y carem wneyd ar yr agoriad, sef £roo. Aeth y plant ati o ddifrif gyda'u llyfrau bach, sef y rd., 2d., and 3d., brick system, a bu yr arolygwyr a brodyr a chwiorydd ereill yn ddiwyd i geisio cyrhaedd y pmacl uchel. Wei, erbyn nos Iau, S? vi aW j ^7°> ac y mae yn agos i £ io o addewidion y dysgwylir eu derbyn erbyn yr ymddengys yr hanes hwn yn y Tyst. Credwn fod y casgliad uchod yn dystiolaeth ynddo ei hun fod gan y Taboriaid galon i weithio, ac hefyd yn gredit i eglwys mor ieuanc, oherwydd dim ond mis Mehefin diweddaf y corfforwyd hi. Mae rhif yr aelodau dros 140. Lluddiwyd amryw o'r eglwys i fod yn yr agoriad drwy afiechyd, a'r ddau frawd canlynol drwy ddamweimau, sef Mri Fred Flooks, diacon, a Richard Hughes, ond y maent yn gwella yn ardderchog. Gwywr.

CYFARFOD CHWARTEROL MAL-DNYN…

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. -

[No title]