Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BETH A WNA CYMRU?

News
Cite
Share

BETH A WNA CYMRU? NID oes lIawer a amheuaeth na ddychwela Cymru Ryddfrydwyr y tro hwn fel y mae wedi gwneyd bob tro yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Cred llawer y bydd ei chynrychiolaeth Ryddfrydol a Llafurol y tro hwn eto yn ddifwlch fel y tro diweddaf. Mae hyny i'w fawr ddymuno dan yr amgylchiadau presenol, ac nid yw yn anhebyg, os dyogelir i'r frwydr fod yn un onest rhwng dwy blaid, oblegid yn mhob etholaeth yn y Dywysog- aeth y mae pleidwyr cynydd yn y mwyafrif. Yr ydym yn gresynu at rai dynion yn goddef i ragfarnau personol ac uchelgais anghymedroi eu tywys i bleidio ymgeisiaeth sydd yn rhoi mantais i Geidwadwr mewn argyfwng o'r fath ag yr ydym ar hyn o bryd y n pasio drwyddo. Hyderwn fod yn y bobl ddigon 0 deyrngarwch i egwyddorion pwysig cynydd i droi eu cefnau gyda dirmyg ar bobl hunanol ac ystyfnig sydd yn euog o beth fel hyn, fel y gallo Cymru gael mantais i barhau yr enw da a wnaeth iddi ei hunan yn yr etholiad diweddaf. Rhaid dyweyd fod y Blaid Doriaidd wedi gwneyd llawer i'n cynorthwyo mewn un ystyr. Y mae yr ymgeiswyr mae wedi osod br y maes, i ymladd yn erbyn ein dynion ni, y fath ag sydd yn rhoi pob mantais i ni enill y frwydr. Ag eithrio dau neu dri, pwy ydynt ? Ewch o etholaeth i etholaeth drwy Ogledd a De, a gorfodir chwi i ofyn yr un cwestiwn. Enwau newyddion, dyeithr ydynt yn mron i gyd. Ni wyr y genedl fel cenedl ddim am danynt. Ni chymerasant ran yn ei bywyd hi, nac mewn unrhyw symudiad pwysig a berthyn iddi, ac eithrio dau neu dii ohonynt. Meibion pendefigion ydynt, heb fod wedi gwneyd dim erioed ond bwyta A hela, a chyfreithwyr dinod heb fod wedi enwogi eu hunain erioed am ddim ond gofalu am eu buddianau eu hunain, a chablu Rhyddfrydwyr ac Ymneillduwyr. Pe cesglid hwynt i gyd at eu gilydd i'r un fan, hawdd iawn fyddai gweled gymaint o gymhorth mae'r Toriaid wedi roi i ni wrth eu dewis hwynt i wrthwynebu ein hymgeiswyr ni. Y mae ein hymgeiswyr ni yn ddynion y mae eu henwau wedi d'od yn adnabyddus i'r genedl oblegid y rhan maent wedi gymeryd yn nglyn a'i gwabanol symudiadau cyhoeddus, neu ei sefydliadau addysgol hi, a rhai ohon- ynt yn adnabyddus i'r byd oblegid eu gwaith fel diwygwyr eymdeithasol. Y maent wedi enill eu hawl i gefnogaeth drwy eu llafur a'u hymroad. Y maent gan mwyaf yn ddynion wedi eu profi eisoes. Ond dynion yr ochr arall gofynwn eto, pwy ydynt 1 Beth maent hwy wedi wneyd erioed i baeddu yr anrhydedd o gynrychioli unrhyw ran o Gymru Ymneillduol a Rhyddfrydig ? Anturiwn ddyweyd eu bod agos i gyd yn ddynion na chlywodd naw o bob deg o'r genedl ddim cymaint a'u henwau cyn yr etholiad presenol-naddo ddim cymaint a'u henwau. Insult i'r etholaethau Cymreig yw gofyn iddynt roi i fyny eu hen gynrychiol- wyr profedig a da er mwyn rhoi He i ddy ion fel hyn a byddent yn ynfyd pe y gwnaent. Ac eto, dym'a y rhai y gelwir ar Eglwys- wyr ein cenedl i'w pleidio dros y wlad i gyd I Qeilw ein hesgobion, a'n deoniaid, a'n harchddiaconiaid, a'n clerigwyr agos yn un- llais ar Eglwyswyr Cymru i bleidio pobl fel hyn. Gwyddant nad oes dim mymryn 0 ysbryd diwygiadol yn y rhan fwyaf ohonynt, nac o awydd myned i'r Senedd nac unlle arall i ymboeni yn nghylch dyrohafiad dyn, pe y gadewid llonydd iddynt; ac eto, dyma y rhai y galwant ar eu pobl yn mhob man i'w pleidio. Hwynt-hwy! Dynion yn proffesu bod yn unig gynrychiolwyr y Diwyg- iwr IESU 0 NAZARETH yn mysg e in cenedl ni! Dynion sydd yn honi bod yn fwy di- wylliedig a duwiol nag Ymneillduwyr y Dywysogaeth, ac yn edrych i lawr gyda chryn dipyn 0 dosturi arnom. Dynion nad ydynt yn sicr nad yw Ymneillduwyr Cymru ar y ffordd i ddamnedigaeth i gyd oblegid eu Hymneillduaeth Dyma y dynion y galw- ant ar eu pobl i'w pleidio yn erbyn personau sydd yn profi eu hunain yn ddiwygwyr o duedd ac egwyddor Mor anghenediaethol yw y safle a gymerant, ac fel y cadarnha y cyhuddiad a ddygir yn erbyn yr Eglwys—ei bod yn anghenedlaethol ac anwladgar. Arweinwyr crefyddol apwyntiedig y genedl yn galw ar eu pobl i bleidio helwyr a. chwareuwyr, a thipynach o gyfreithwyr, yn yn erbyn dynion a'u hysbrydoedd yn llosgi gan wres diwygiad, ac awydd i ddyrchafu y werin Dyna yr olygfa a welir yn Nghymru yn y dyddiau pwysig hyn, ac y mae yn ddigon i beri i engyl wylo. A dyma y rhai a gefnogir hefyd gan gymaint 0 waed glas ag sydd yn ein mysg ni. Cymaint o'r bendefigaeth ag sydd yn Ngwalia-y bodau ffroenuchel a siaradant gyda dirmyg am ddynion fel LLOYD GEORGE, S. T. EVANS, HERBERT LEWIS, &C., ac a broffesaut ymarswydo rhag y syniad o i ddyvion fel hyn ddyfod i fwy o awdurdod yn y deyrnas; ïe, dyma y dynion a gefnogir yn mhob man gan y rhai hyn eto. A yw synwyr eyffredin wedi gadael ei orsedd? Beth sydd yn bod ? Mae'r peth mor afres- ymol 0 wrthun, fel y temtir ni i ofyn cwest- iwn fel yna. Ond dyna, fel hyn yr ydym ni yn Nghymru wedi gweled pethau bob amser, Y mae ein cynefindra a hwynt wedi ein hysbeilio o'n gallu i synu atynt. Yn wir, nid ydym yn gallu synu bellach, ond at y dyfnder i ba un y gall rhagfarnau eglwysig a chymdeithasol lusgo dynion. Yr ydym yn synu tipyn at hyny o hyd. Yn unig, rhaid i ni rybuddio y bodau uwchraddol hyn, pa un ai clarigwyr neu ereill, na ddylent ddigio yn anfaddeuol, na synu yn ddirfawr, pan fyddwn yn gwrthod derbyn eu cyfarwyddiadau. Yr ydym am fod ar delerau da a hwynt yn y dyfodol eto. Bydd raid i ni fyw yn yr un trefi a phlwyfi a hwynt eto fel o'r blaen, ac felly anhyfryd i ni fyddai eu gweled yn digio yn anfaddeuol wrthym am wrthod eu eyfarwyddiadau. Ond byddai yn rhy ddig- rifol i ni, y rhai ydym yn credu mai lie i ddiwygwyr yw Senedd Prydain Fawr i roi ein pleidleisiau i'r pendefigion ieuainc helwrol a'r eyfreithwyr anwladgar hyn, a throi heibio y dynion sydd wedi ein gwasanaethu mor rhagorol yn y gorpbenol. Rhaid iddynt ein hesgusodi yn wir, oblegid pe y gwnaem hyny, dangosem ein hunain mor farw i fudd- ianau goreu y genedl ag y maent hwythau. Na, na, fe ofala Cymru yn bur sicr i gadw ei chymeriad yn yr Etholiad hwn eto fel gwlad sydd, os yn fechan, wedi rhoi ei bryd ar ymddyrchafu, ac fel un ffordd i wneyd hyny, wedi penderfynu anfon i'r Senedd drosti hi ddynion mewn cydymdeimlad llawn a'i dyheadau uchaf. Hei lwc iddi gario allan ei rhaglen yn llawn.

AT EIN GOHEBWYR.

MARWOLAETH MR FOULKES JONES,…

[No title]

[No title]