Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
PILE S.-Gwarentir y bydd i un botelaid o PILA' wella yr achos gwaethaf o'r Piles gwaedlyd neu y Piles gwthiol. Yn rhydd trwy y Post, Is 3c.— HUGHES, Chemist, NantymoeJ.
ABERDAR A'R CYLCH.
News
Cite
Share
ABERDAR A'R CYLCH. Ebenezer.—Cynaliwyd, fel arferol, gan yr eglwys hon ei chyrddau blynyddol ar ddydd Nadolig a'r Sabbath dilynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn Oscar Owen, Cymer Ben Davies, Pant- teg; a H M. Hughes, B.A., Caerdydd. Caed cyfarfodydd lluosog a phregethau grymus iawn. Horeb, Llwydcoed -Cynaliwyd tri chyfarfod yma yn nglyn a chyfarfod chwarterol yr Ysgol Sul, y Sabbath olaf yn y flwyddyn. Yr oedd trefn y cyf- arfodydd yn gynwysedig o lafur deiliaid yr Ysgol Su! mewn canu, adrodd, ac anerchiadau. Llyw. yddwyd yn y boreu gan Mr Thomas Davies, yn y prydnawn gan Mr W. P. Davies, ac yn yr hwyr gan Mr David Motgan. Caed cyrddau gwir dda.
Advertising
Advertising
Cite
Share
j COLDEflRETURIIS t -<ë'i,i'\iMI!tI Darlun o Pecyn W nB. ARCHER'S GOLDEN RETURNS PESRTFEJJHBWYPP MY GUYS PIB
BARN JOHN JONES.
News
Cite
Share
BARN JOHN JONES. • II. Rhoisoch awgrymiad i mi i ofyn am y man- ylion yn nghylch y cwrdd gweddi gynaliwyd yn nhy Evan Siams i Ellen y ferch. Pe bai hi yn hollol ddyeithr i mi, synwn i ddim at yr awgrym o gwbl, ond yr wyf yn ei hadwaen, a rhydd y ffaith fach yna dipyn o oleuni i mi ar rediad eich meddyliau chwi, John.' I Wel.' meddai yntau, 1 yr ydych yn adwaen y fenyw fwyaf dalentog yn ein plwyf ni, yn ol fy marn i.' Chip of the old block," yn sicr i chwi. Ydwy i ddim am gelu y ffaith, hi ddy wedodd helynt y cwrdd gweddi wrtho i, a mwy na hyny, y cwrdd gweddi oedd y cyntaf o lawer o bethau ddygwyddodd yn ei chysylltiad hi a'r Eglwys Wladol ar ol hyny. Ac mae gwerth anhraethol mewn peth ddywed menyw fel hyn. Mi allaf wrando ar hon yn siarad, nid yn unig am ei bod yn dyweyd ei meddwl yn rhwydd ac yn rhydd, ond mae cymaint o gydwybod yn yr hyn mae yn ddyweyd; mae yn onest, ac wedi arfer meddwl yn dda yr hyn mae yn ddy- weyd cyn ei fynegi. Y gwir mae yn ddyweyd, ac mae yn ei draethu mewn gwirionedd.' Cot genyf, John, gwrdd ag Ellen; yr oedd hyny cyn marwolaeth ei thad, ac yn rhyw fodd neu gilydd, trodd y siarad rhyngom ar yr Eglwys. Ac yn wir, yr argraff adawodd ar fy meddwl i oedd, fod gan yr hen Eglwys un gol- ofn gadarn yn y plwyf.' cO, Ïe, cyn y cwrdd gweddi oedd hyny,' meddai John, ac wrth ysgogiad ei ben yn lied awgrymu, ei fod yn hollol gyfarwydd a'r hyn y cyfeiriwn ato. I'r Eglwys yr ai hi i addoli 0 y pryd hyny, a dim ond yno, a mawr fel y ceis- iai ddigaloni ei thad i fyned i gyfarfodydd bach yr Ymneillduwyr. Dywedodd Evan wrthyf fwy nag unwaith mai gweinidogaeth deneu iawn i ddilyn arni oedd gan yr offeiriad, "ond pan fyddai i yn absenol y mae e' yn preg- ethu." Yr own yn deall yn dda beth feddyliai.' Wedi clywed yr hen frodyr yn gweddio, y dechreuodd hi farnu, mesur, a phwyso pethau, a pheth anffodus iawn yw peth felly i'r Eglwys, Mae'r hen sefydliad wedi dysgu cymaint i wrando heb feddwl; ond unwaith y dechreuant feddwl, nid yn hir y parhant i wrando yno wed'yn. Rhesymu ei hun i'r un cyfeiriad a'i thad o'i blaen wnaeth hi. Pa fodd y daeth hen bobl syml, ei chymydogion cyffredin hi, mor nerthol mewn gweddi ? Ni chredai fod y fath beth yn bosibl, oni bai ei fod yn ffaith yn ei hanes, ac yn gysegredig yn ei chof. Daeth i'r penderfyniad hyn yn union-fod ei sel at yr Eglwys wedi ei dallu i'r hyn allasai fod yn gymeradwy ac yn ddigon priodol yn rhagor- iaeth yn y capeli. A'r tro cyntaf yr aeth i gapel Ymneillduol oedd y noson hono pan oedd y Dr pregethwr mawr yr Anni- bynwyr, yn gweini yno. Ac wedi yr oedfa, gelwais heibio i wel'd yr argraff. O druan ohoni, yr oedd mewn cornel yn deg. 'Doedd ganddi ddim i'w ddyweyd. Pregeth Pedr ar Ddydd y Pentecost oedd testyn y Dr. Glyw- soch chwi rywbeth fel yna gan yr offeiriad rywbryd ? Edrychodd arnaf, a dy wed- odd, 'Clywed fel yna! ydwy i ddim yn meddwl i Pedr ei hun bregethu yn well na y pregethodd y dyn yna heno; chlywais i erioed ei bath o'r blaen." Ac meddwn inau, Cewch ei thebyg, os ewch i gapel y Method- istiaid ar y cyfarfod blynyddol." 'Doedd dim eisieu ei chymhell; yr oedd yno, ac oedfa nad aiff byth yn anghof oedd hono. Mater y bregeth oedd Paul o flaen Ffestus.' Bu yn fanwl yn dangos culni a gelyniaeth yr Iudd- ewon, a sefyllfa galed yr apestol yn gacharor am dros ddwy flynedd. Cariai ei bortreiad gorchestol argyhoeddiad i ysbryd y dorf. Ar 01 yr oedfa hono, dyna ddywedodd Ellen wrthyf—ei bod yn gwel'd yr hen frodyr fu yn gweddio yn en ty hwy yn union fel yr Apostol Paul, a hithau fel yr Iuddewon yn eu dirmygu. Ni fu arni gymaint o gywilydd o'i hun erioed o'r blaen. Hefyd aeth i gapel y Bedyddwyr pan oedd y dyn poblogaidd yna yn pregethu ar • Stephan o flaen y Cynghor.' Wrth sylwi ar ei amddiffyniad gwych, nodai mai nid ei ddar- llen o bapyr yr oedd, ond ei draddodi yn ferw o'i ysbryd. Pwy bregethu wna dyn a'i drwyn mewn papyr!—y pregethau oedd yn byw ac yn peri i ereill eu teimlo oedd y rhai oedd wedi eu meistroli a'u deall." Fel yna, pob ergyd yn
O'R BE DO I'R PWLL.
News
Cite
Share
O'R BE DO I'R PWLL. Da yw gweled fod y cyfeillion yn Lleyn ac ISifionydd wedi penderfynu gwneyd un ymdrech fawr trwy Bazaar yn 1911 i glirio dyled Beddgelert. Cyn y gwel y llinellau hyn oleuni dydd, bydd y pwyllgor cyffred- inol wedi cyfarfod. Y mae chwiorydd Salem, Porthmadog, wedi dechreu eisoes. Y mae eglwys y Capel Coffa wedi ei chlwyfo yn drwm iawn yn ddiweddar trwy golli dau ddiacon o fewn ychydig wyth- nosau i'w gilydd-y naill yn mherson Mr Lewis Jones Lewis, New-street, a'r llall yn mherson Cadben David Richards, High- street. Brodor o Leyn oedd Mr Lewis, ond treuliasai gyfran helaeth o'i oes yn Mhorth- madog, a bu yn ddiacon ffyddlon yn y Capel Coffa am flynyddau. Ganwyd Cad- ben Richards yn Morfa Bychan, yn y ty agosaf i'r un y ganwyd y diweddar Barch H. Parry Thomas ynddo. Treuliodd gyfran o'i oes yn morio, a bu yn feistr y porthladd am lawer blwyddyn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Capel Coffa, a bu yn ffyddlon iawn i'r achos yno hyd y diwedd Gedy y naill a'r llall weddw i alaru ar eu hoi, a theimla yr eglwys yn ysig iawn o'u colli. Y dydd o'r blaen, claddwyd aelod Ilynaf Siloam, Morfa Bychan, sef Mrs Sarah Williams, Garegwen Fach. Daethai i fyw i'r ardal tua 65 o flynyddau yn ol, tuag wyth mlynedd cyn sefydlu achos ac adeil- adu capel yn Morfa Bychan. Yr oedd yn 86 oed. Hi oedd yr olaf o hen do o gref- yddwyr. Cafodd eglwys Penlan, Pwllheli, ei chlwyfo yn marwolaeth Mr Thomas Ellis, un o'r diaconiaid. Gwr rhagorol oedd Mr Ellis, a bydd colled fawr ar ei ol. Aeth y gwyliau heibio yn dawel iawn, mor bell ag yr oedd gwersylloedd Anni- bynia yn y cwestiwn. Y trydydd Sabbath yn y mis o'r blaen (Rhagfyr), bu eglwys Borthygest yn cadw Jubili Diwygiad 1859, ac ar yr un pryd ddydd pen blwydd Diwygiad 1904, Caf- wyd anerchiadau gwresog gan amryw o fifty-niners TYWODYN.
BARN JOHN JONES.
News
Cite
Share
myn'd adre'. Cyfaddefai yn onest na welodd hi ddim arall-darllen yr oedd pawb yn yr Eglwys, o'r archesgob i'r ciwrad, a dyna sydd yn dangos llwmder yr hen sefydliad yr hyn mae wedi cael ei sefydlu i'w wneyd, mae wedi methu ynddo. Eglwys Efengyl ganddi i'w gynyg i fyd, a dim un dyn yn ei phwlpud all ei chyhoeddi yn iaith y bobl nes peri iddynt ei derbyn.' Nid wyf wedi edrych ar yr Eglwys yn y goleu yna,' meddwn i wrth John yr wyf yn ystyried fy mod yn weddol hyddysg yn hanes Cymru, ac yn gwybod rhywbeth am ei sefyllfa bresenol, ond allaf fi ddim galw i gof un o'i phregetbwyr sydd wedi, neu yn bod, a gydna- byddir yn wlad-enwog.' Dim un,' meddai John; ddim cymaint ag un. Ond dyna, yr wyf yn eich troi oddiar eich stori. Dyna pa'm gadawodd Ellen yr Eglwys, ai e?' 0 na, ond fel yna yr oedd y llinynau yn gollwng yn raddol. Bu yn ffyddlon yn yr Eglwys am dymhor wed'yn. Wrth dd'od i feddwl yn fwy parchus am gapeli, 'doedd hi ddim yn rhwym o golli ei pharch i'r Eglwys. Dyna o'wn i yn ei hoffi yn ei thad o'i blaen-yr oedd ganddo y fath lywodraeth drosto ei hun. Ond yr oedd d'od i gyffyrddiad ag Ymneilldu- aeth yn peri i'r ferch ymgydnabyddu mwy a'r Beibl, ac o hyny i ddarllen awduron Beiblaidd, nes yr oedd y ddarpariaeth gyffredin yr arferai hi ei chanmol wedi myn'd yn fwy diflas i'w chwaeth. Dysgwyliai am fwy a gwell, a theimlai heb ei diwallu. Ond goddefai hyny yn dawel; wel, o ran dim allasai hi na neb o'i chydgymunwyr wneyd i wella ei sefyllfa, goddef yn dawel oedd oreu. Beth by nag, un prydnawn Sul wedi ciniaw, yr oedd yr offeiriad yn myn'd i wel'd rhyw gyfaill, a threfnodd gyda'i wraig i dd'od a'i Lyfr Gweddi a'i bregeth, yr hon oedd ynddo, iddo ef i'r Eglwys i wasanaeth yr hwyr. Yr oedd yn hwyr dymunol iawn, yn hirddydd haf. Yr oedd torf wedi ymgasglu. Wedi i'r wraig gymeryd ei lie, gwelwyd wrth symudiadau yr offeiriad yn y pwlpud ei fod yn mynegi rhywbeth drwy yr arwyddion wnai i'w wraig, a gwelwyd hithau yn siarad a'r bachgen mewn canlyniad. Cyd- iodd yntau yn ei gap, ac allan yr aeth. Rhoddodd yr offeiriad emyn i'w ganu, a darllenodd benod ac wrth ddarllen edrychai yn fynych i gyfeiriad y drws, a phob tro yr edrychai, troai ei wraig ei llygaid hefyd Canwyd emyn eto Pan oedd y gynulleidfa yn canu, daeth y bachgen yn ol at ei fam Gwel- wyd hithau yn ysgwyd ei phen ar yr offeiriad, ac yna aeth hi a'r bachgen allan. Wrth eu gwel'd hwy yn myn'd, dilynodd yr offeiriad. Rhai o'r gynulleidfa, yn ofni fod rhywbeth an nymunol wedi cymeryd lie, ac yn barod i roi hyny o gymhorth a allent, yn dilyn ar eu hoi; wedi i un fyn'd, aeth llawer, nes yr oedd rhyw anesmwythder drwy y gynulleidfa i gyd. Ond erbyn i'r sawl aeth allan gyrhaedd tu faes i'r drws, yr oedd yr offeiriad yn d'od yn ol drwy ddrws arall y pen draw i'r eglwys, a'r wraig a'r bachgen yn myn'd mewn brys am y ty. Dychwelodd y bobl i'r Eglwys, ac mewn amser byr yr oedd y wraig a'r bachgen yn dychwelyd, ac yn d'od drwy y drws bach i fewn i'r Eglwys a thra yn canu yr emyn nesaf, aeth y bacbgen a'i neges i'w dad i'r pwlpud Wedi y gwasan aeth, yr oedd pawb yn gofyn, Paham yr oedd yr offeiriad yn pregethu yr un bregeth y ddau Sabbath dilynol?" Rhai ohonynt yn dyweyd dan chwerthin, Onid yr un bregeth i ni yn ei gael bob Sul, ond fod y testyn yn newid ?" A'u hesboniad hwy oedd na newidiodd hwnw ddim heno. Ond dyna, 'doedd fawr gwahaniaeth am y bregeth; er hyny, cyn gorphwys yn esmwyth, rhaid oedd cael eglurhad ar y cyffro yn nechreu y gwasanaeth. Ymddengys mai fel hyn yr oedd Anghoflodd y wraig dd'od a'r llyfr a'r bregeth gyda hi i'r Eglwys wedi eistedd yn y set y coflodd, yna danfonodd y bacbgen i'w gyrchu. 'Nawr, wedi i'r wraig a'r bachgen fyn'd o'r ty i'r gwasanaeth, aeth y forwyn allan, a chlodd y drws. Pan aeth y bachgen i wneyd ei ffordd i'r ty, 'doedd yno ddim agoriad, ac nis gwyddai b'le 'roedd y forwyn. Yna aeth ei fam gydag ef i dy cymydog i nol y forwyn a'r allwedd hithau, yn ei brys mawr, gydiodd mewn cam synied yn y llyfr yr oedd y bregeth y Sal blaen- orol ynddo, ac felly 'doedd gan y pregethwr ddim ond hono fedrai ei gyfranu iddynt. Edrychodd J John arnaf, ac mae yn debyg fy mod yn ddrych o syndod. Ydych chwi yn I amheu hyn? Yr oeddwn yn y gwasanaeth fy hun; ac wrth gydgerdded adref gydag Ellen, yr oedd wedi syrffedu ar y gwasanaeth a'r Sef- ydliad. I Me ddyliweb,' meddai, 'wel'd Pedr, Paul, neu Ste phan mewn trybini fel yna, neu un o'r tri phregethwr yna fu yn y capeli yma yn ddiweddar, y rhai y mae ein hoffeiriad ni a'i ddosbarth yn ein dysgu i'w dirmygu a'u cashau. Ac os dygwydd i chwi glywed rhywun yn dyweyd mai nid yr hyn wyf wedi ei roi i chwi yw y gwirionedd am Ellen, yr ydych bellach yn gwybod mai dyna paham y gadawodd hi yr Hen Eglwys.' W. D.