Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DIWEDDAR MR W. FOULKES-JONES,…

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR MR W. FOULKES- JONES, Y.H., CORWEN. Fel y cyfeiriwyd yn Rhifyn diweddaf y TYST, bu farw y gwr da hwn yn ei bres] wylfod clyd a dymunol o dan gysgod y Berwyn, ac arlan y Ddyfrdwy, nos Sadwrn, Ionawr iaf, wedi yn agos i bed war mis o gystudd caled, yn 55 mlwydd oed. Treul- iodd ran foreuol ei oes yn ardal Tre'rddol, a derbyniwyd ef yn ieuanc yn aelod o'r eglwys yn y lie gan yr Hybarch H. Ellis, Llangwm, a phrofodd yn aelod hynod o werthfawr a gwasanaethgar, a mawr oedd y dyddordeb a deimlai yn yr eglwys y magesid ef ynddi. Dewiswyd ef a Mr T. Evans, Glandwr, yn ddiaconiaid, i gydwasanaethu a'rhenafgwr parchus, J. Morris, Berthddu, i'r hwn yr oedd ei barch yn ddiderfyn. Daeth yn dir- feddianwr eang yn ieuanc, a thrwy ei ddi- wydrwydd, chwanegodd lawer ato. Mynych y soniai am yr amser dedwydd a dreuliodd yn Rhuthyn, gyda y diweddar Mr J. D. Jones yn yr ysgol, pryd y ffurfiodd gyfeillgarwch agos a'r gwr sydd yn debyg o dd'od yn Aelod Seneddol dros Feirion. A chofir mai cyfarfod cyntaf Mr Haydn Jones yn Nghorwen oedd y cyfarfod cy- hoeddus diweddaf, tuallan i gylch ei eglwys, a gafodd Mr Jones cyn ei gymeryd yn wael. Yn y flwyddyn 1885 yr ymbriododd a Miss S. Roberts, merch y diweddar Mr John Roberts, Plasynddol, un o'r amaeth- wyr mwyaf cyfrifol yn y gymydogaeth, ac y mae iddynt bedwar o blant yn fyw, sef dau fab a dwy ferch. Yn y cyfnod hwn, symudodd i Gorwen, ac yr oedd Haw Rhagluniaeth yn ym- ddangos yn amlwg yn hyn. Yr oedd yr eg- lwys Annibynol yn Nghorwen yn dechreu rhyw ddeffro o ddifrif am gael capel newydd, a bu dyfodiad Mr Jones i'w plith yn fywyd ac yni newydd ynddynt. Buont yn ffodus i gael man cyfleus i adeiladu arno, ac ymdaflodd yntau a'i holl enaid i'r gwaith, a rhoddodd holl goed y capel newydd yn anrheg i'r eglwys. Yn y cyfnod hwn y mae yn ymgodi yn gyflym i sylw a defnyddioldeb mewn gwa- hanol gylchoedd pwysig. Yn 1886, dewis- wyd ef yn Drysorydd Cenadaeth Gar- trefol Cyfundeb Annibynwyr Meirion, a chyflawnodd y swydd hon gyda manylwch, gofal, ac ymroddiad, fel y byddis yn rhwym o deimlo colled fawr am ei wasanaeth. Pan ymgymerodd yr Enwad a chasglu Cronfa i gychwyn achosion newyddion, efe a ddewiswyd yn drysorydd y mudiad yn Meirion, a thrwy ei ymroddiad ef fel try- sorydd, a'r Parch J. Hughes, Jerusalem, fel ysgrifenydd, y gwnaeth Meirion ei rhan yn anrhydeddus. Ac fel gwarogaeth o'i lafur a'i ffyddlondeb, dewiswyd ef i gyn- rychioli Meirion ar Bwyllgor y Gronfa, a chyflawnai ei waith i'r fath foddlonrwydd fel yr ail-ddewiswyd ef gydag unfrydedd y naill flwyddyn ar ol y llall. Yn 1891, dewiswyd ef yn Gadeirydd Cymanfa y Sir, ac ar gyfrif ei feistrolaeth yn y gwaith, bu yn gadeirydd achlysurol lawer gwaith ar ol hyny. Nidjoedd genym neb yn nghylch y Gymanfa yn fwy ffyddlon a gwasanaeth- gar. Y oedd ei ysbryd hynaws a'i ddyn- oliaeth dda:yn perili bawb ei hoffi a'i garu. Hefyd, yr oedd iddo le arbenig yn nghyfarfodydd a Phwyllgorau yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig. Bu yn gadeirydd yn amryw o'i brif gyfarfodydd, ac efe oedd Trysorydd Pwyllgor yr Un Maes Llafur, yr hon oedd un o swyddi pwysicaf yr Undeb, nd gwnaeth ei waith mor effeithiol fel y penderfynodd y Pwyllgor gydnabod ei wasanaeth a'i ffyddlondeb mewn anrhegion gwerthfawr, ac yr oedd yn hawdd gwybod ar y wen foddhaus fyddai ar ei wynebpryd wrth eu dangos ei fod yn eu gwerthfawrogi yn fawr. Nid un oedd fyddai yn myned i'r gwahanol bwyllgorau a chyfarfodydd ei Enwad pan yn gyfleus iddo, ond torai drsvy anhawsderau. Bu yn aelod ffyddlon o'r Cynghor Sir o'r dechreu. Cofiwn yn dda am y diwrnod hapus a gawsom gydag ef a Mr Roberts, Bronygraig, i ganvassio yn etholiad cyntaf y Cynghor ugain mlynedd yn ol; ac y mae wedi bod yn gwasanaethu yn y tymhor maith hwnw ar brifBwyllgorau y Cynghor, megys Addysg, yr Heddlu, Prif-ffyrdd, a'r Gwallgofdy. Ac efe oedd Is-gadeirydd y Cynghor Sir eleni, a buasai yn d'od i lanw y brif gadair yn Mawrth nesaf. Nid oedd neb yn fwy yn ffafr ei gydaelodau, o bob plaid, a gair da iddo gan bawb am ei degwch. Yr oedd yn Ynad Heddwch dros Feirion a Dinbych, ac aberthodd lawer o'i amser i fyned i Gerigydruidion i'r Llys Ynadol. Byddai yn wastad yn ffyddlon i'w egwydd- orion Ymneillduol, a chafodd Dirwest gefnogaeth ffyddlon ynddo ar y Fainc Ynadol. Ar farwolaeth ei gyfaill, Mr Parry, Bala, dewiswyd ef i lanw ei le fel Trysorydd y Dysgedydd, ac yr oedd ei sel yn angerddol dros yr hen gyhoeddiad clodwiw hwnw. Pan y cofir am ei fasnach eang a phwysig, y mae yn anhawdd meddwl pa fodd yr oedd yn cael amser i dalu sylw i gynifer o bethau, am ei fod yn un o,r masnachwyr mwyaf adnabyddus yn Ngogledd Cymru Nid un a garai ei weled yn manau am- lycaf y dyrfa yn unig ydoedd, ond ni byddai yn anghofio ei gylchoedd cartrefol. Cafodd Undeb Ysgolion Edeyrnion a GodreCaereini gefnogydd ffyddlon ynddo. Bu yn gadeir- ydd iddo am ddau gyfnod maith, ac yr oedd yn dal y swydd yn awr, a mawr fu ei was- anaeth iddo. Byddai yn wastad yn bres enol yn ei bwyllgorau a'i gyfarfodydd blynyddol, ac yr oedd hyny yn codi o'i syniad am yr Ysgol Sal; oherwydd hyny, teimlai yn anrhydedd i gael bod yn athraw ynddi, a byddai yn parotoi yn ddyfal ar gyfer ei waith. Nid oedd ar Bwyllgor Addysg lleol Corwen aelod mwy gwasanaethgar a ffydd- Ion. Cymerai ddyddord'eb mawr ynddo, a rhoddai lawer o'i amser i gario ei drefn- iadau allan. Cymerodd ran amlwg yn holl fywyd y dref a'r wlad o gylch. Nid oedd neb yn fwy parod ac ewyllysgar i wneyd yr hyn a allai mewn unrhyw gylch. Teimlir colled fawr gan yr eglwvs yn Nghorwen ar ei ol, ac yn neillduol felly yr achos ieuanc yn Ngharog, yn yr hwn y teimlai ddyddordeb mawr yr oedd ei ofal a'i bryder yn neillduol am y ddeadell fach hon, a dangosai hyny yn amlwg yn ei waeledd. Mae ein cydymdeimlad dwysaf a'r teulu yn eu dwfn brofedigaeth a'u colled, ac a'i chwiorydd, yr hwn a fu iddynt fel tad bob amser. Y GLADDEDIGAETH. Cymerodd y gladdedigaeth (przvate). le ddydd Mercher, Ionawr 5ed, yn nghladdfa gyhoeddus newydd Corwen. Gwasanaeth- wyd yn y ty ac yn y gladdfa gan y Parchn Lewis Davies (ei weinidog); H. C. Williams (B.); J. Williams (M.C.); H. Evans (Cyn- for) (W.), a J. Pritchard, Druid. Ac yr oedd yr holl wasanaeth yn weddus a dwys. Yn y capel am 7 o'r gloch y noswaith hono, cafwyd gwasanaeth coffadwriaethol. Yr oedd yn hawdd gweled ar y cynulliad lluosog a ddaeth yn nghyd, fod tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio, a bod hwnw, ar gyfrif ei wasanaeth wedi enill iddo ei hun le dwfn yn serch yr holl wlad. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch H. Evans (Cynfor) (W.) Yr oedd emynau priodol i'r amgylchiad wedi eu hargraffu, gyda darlun o Mr Jones. Wedi anerchiad gan Mr Davies, y gwein- idog, galwodd ar Mr J. Hughes, diacon hynaf yr eglwys, yr hwn fu yn gydswyddog ag ef am 24 mlynedd, i ddyweyd gair am dano yn ei wasanaeth ffyddlon i'r eglwys yn Corwen. Y Parch J. Williams (M.C.), yn ei berth- ynas ag eglwysi y dref a'r cylch Parch J. Pritchard, yn ei berthynas a'r Cyfarfod Chwarterol; Parch H. C. Williams (B.), fel dinesydd a gwladgarwr; a'r Parch Owen Evans, D.D., Seacombe, yn ei berthynas a'r Undeb Cynulleidfaol Cymreig. Cafwyd cyfarfod gwir ddymunol a c adeiladol. Cyn ymadael, cododd yr holl gynulleidfa ar ei thraed, tra buwyd yn chwareu y Dead March, gan Mrs Davies Hughes, merch Mr J. Hughes, diacon hynaf eglwys Corwen. Heddwch i'w lwch hyd foreu y codi. J. P.

HUNAN-DDIFYNIAL).

[No title]