Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

ANHAWSDERAU Y WEINIDOGAETH.*

News
Cite
Share

ANHAWSDERAU Y WEINID- OGAETH.* MEWN cyfnod pryd y mae cymaint o son am ddiffygion y gweinidogion, pwnc hynod o amserol yw| Anhawsderau y Weinidog- aeth. Yn y cyfarfod diweddaf, buom yn son am anhawsderau y gweinidog ac y mae anhawsderau y gweinidog ac anhawsderau y weinidogaeth mor debyg fel mai an- hawdd eu gwanhanu yn y papyr byr hwn— mae'r naill a'r Hall yn toddi i'w gilydd yma, fel y mae y ddau yn un. Hefyd, y gweinidog a'r weinidogaeth yn ein cylchoedd ein hunain y soniwyd am danynt; ond nid ydym drwy hyny am awgrymu nad oes gan bob cylch ei anhawsderau, pa un ai yn yr ardal wledig dawel, yn y pentref bywiog, neu yn nghanol berw a dwndwr y gweithfaoedd, y dref, a'r ddinas. Tra yn bryderus yn nghanol siomedig- aethau, mor naturiol yw meddwl a chredu fod byd pob gweinidog mewn cylehoedd ereill yn wynach na'r byd yn ein cylch ni; a phrofiad calon ambell i feddwl trwmlwythog ydyw, O na bai i mi aden- ydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith.' Ac ar hedfan y byddai llawer pe yn gwrando ar deimlad pryderus o dro i dro, ac yn pasio eu gilydd yn yr awyr—o'r wlad dangnefeddus i olwg tips a mwg Morganwg, ac o ganol y tips a'r dwndwr i olwg caeau gwenith ardaloedd amaeth- yddol. Onid yw yn rhyfedd fod ambell i weinidog yn byw ar hedfan tra *y byd newydd y chwilia am dano heb ddyfod yn fwy o sylwedd na breuddwyd dychy- mygol yn ei galon siomedig. Na symuder heb orchymyn y Meistr-a dyna bob peth yn dda, os na fydd pob peth yn ddymunol. Ni fu y weinidogaeth yn Nghymru erioed mor bur, mor athrylithgar, mor ddysgedig, nac yn llawnach o ymgysegr- iad ac ysbryd hunanaberthol nag ydyw heddyw. Cafodd y pwlpud oreu pob oes- dynion wedi eu galw gan Dduw, ac wedi eu donio a'u cymhwyso i'r weinidogaeth dynion o argyhoeddiadau diamheuol, yn ffyddlon i'r gwiironedd, ac yn barod i ddyoddef hyd at waed dros y gwirionedd. Ond ni welodd y gorphenol gystal gweinid- ogion a gweinidogaeth ag sydd genym yn Nghymru ar hyn o bryd. Cafwyd mwy o hwyl,' o bosibl, yn y blynyddoedd gynt, ond nid oedd cystal pregethu, er fod y pregethau hyny y peth goreu i'r oes hono. Peth eithriadollyw cymeriad amheus yn y weinidogaeth erbyn hyn; ac un- waith y ceir sicrwydd fod dyn o gymer- iad anheilwng yn esgyn grisiau pwlpud, una byd ac eglwys er ei yru allan. Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Merthyr. Gwyddom y cyhuddir gweinidogion eto hwnt ac yma o fod yn fydol,' ac yn ariangar,' ac yn anheg ac yn druenus o brin os yn talu pregethwr yn eu lie yn awr ae eilwaith; ond diflanu a wna y gweinidog bydol, a goreu oil—er mwyn Duw a dynion-pe byddai wedi llwyr ddiflanu. Credwn mai peth eithriadol yw gweled y creadur inelyn a elwir cybudd yn y weinidogaeth. Gwawried y dydd pryd na bydd yr eithriad yn ffaith. Camgymeriad dirfawr ydyw i neb feddwl am gasglu cyfoeth yn y weinidog- aeth. Byddai yn fwy anrhydeddus iddo, a byddai yn fwy tebyg o lwyddo, pe yn cymeryd ei bwynt mewn awyr-long tua Klondyke Gwir fod amrywiaeth dynion, a doniau, a doethineb yn y weinidogaeth, ond yr oil i lod wedi eu galw a'u sancteiddio a'u cymhwyso i'r gwaith.. Dylem gofio fod pob cyfnod newydd yn dwyn ei nodweddion gydag ef ac y mae pob drws newydd ag sydd yn ym- agor o'n blaen yn ein harwain i ganol anhawsderau newyddion. Onid yw prof- iad yr Apostol Paul yn fythol newydd? Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer': Nid peth newydd yw anhawsderau y 'weinidogaeth, ac nid peth diweddar yw rhwystrau y gweinidog a'r pregethwr. Onid un o bethau gwerthfawrocaf gweinid- ogaeth y Pregethwr mwyaf a welodd y byd yw gwersi yr anhawsderau ? Onid oedd yn methu eyflawni nemawr o weith- redoedd nerthol mewn ambell fan oher- wydd eu hangrediniaeth hwynt' ? Gwel- som rywrai yn synu ac yn rhyfeddu, gan godi eu dwylaw a dywedyd nad oedd ei frodyr yn credu ynddo.' Danodwyd iddo Ei fod yn weithiwr tlawd. Gofynent yn awgrymiadol, Onid Hwn yw Mab y saer ? Melldith rhagfarn Poenwyd Ef gan ragrith dynion a honent eu bod yn dduwiolach na'r duwiolaf a gwelodd droi ty Ei Dad yn nythle masnachwyr anonest; ie, troi ty gweddi yn ogof lladron.' Nid peth eithriadol iddo Ef ydoedd dyfod i wrthdarawiad gyda'r ysbrydion aflan yn y cysegr. Mor awgrym iadol geiriau Luc (iv. 33) 'Ac yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan ac efe a waeddodd a lief uchel.' Ceir ambell i 'ddyn a chanddo ysbryd cythraul aflan' yn y synagog eto ae, fel rheol, y mae yn hoff o waeddi a lief uchel.' Yr oedd gan yr Arglwydd Iesu Ei rwystrau yn mhob cyfeiriad—fel Pregeth- wr, fel Athraw, fel Meddyg, fel Diwygiwr, ac fel Gwaredwr. Dyna brofiad holl broffwydi yr Arglwydd o dan yr Hen Destament; dyna brofiad pob apostol o dan y Testament Newydd. Yr oedd Paulfyn gorfod gofyn yn ddifrifol, Onid wyf fi yn apostol ? Tystiwyd mai dyn digymeriad ydoedd Martin Luther, a thaera y Babaeth heddyw ei fod ynlwall- gof. Croes gafodd y Messiah, a chrog- bren gafodd John Penry. If Ie, hynod mor debyg i eiddo'r Arglwydd Iesu Grist yw anhawsderau gweinidogion yr Efengyl heddyw. Anghrediniaeth yw y gwraidd, a cheir rhagfarn, a rhagrith, a chamgy- huddiadau a phob math o felldithion yn tyfu allan o'r cyfryw. Gwir fod hen elynion yn cymeryd ffurfiau newyddion gyda thoriad gwawr pob cyfnod newydd. Os ceir Diwygiad a wna weddnewid y wlad drwy wedd- newid y bobl, ffaith nas gellir ei gwadu hefyd yw gweddnewidiad Satan er cyf- addasu ei hunan ar gyfer yr amgylch- iadau newyddion. Nid ydym ni heb wybod am ei ddichellion ef ac un o'i hen driciau mwyaf newydd yw troi allan fel angel y goleuni;' ac fel angel y goleuni,' ac nid fel ellyll du a hagr,' y llwydda yn ei amcanion. Anfantais fawr i lwyddiant y weinidogaeth yw'r ffaith fod dynion yn colli golwg ar y ffaith yna yn hanes yr archelyn. Gwelsom ef yn nghanol gorfoledd Diwygiad 1904-5 clywsom ei lef yn uwch na phawb ereill mewn ambell oedfa y pryd hwnw, a llwyddodd, i raddau helaeth, i ddiffodd y tan o'r nef.' Bu y weinidogaeth o dan anfantais mewn ambell gylch yn adeg y Diwygiad ceisiwyd rhoddi taw ar y pwlpud, a'r muzzle ar y diacon a'r gweithiwr ffyddlon, a gorfodwyd rhywrai i wrando y baldordd rhyfeddaf 'yn enw gweddi,' a'r ffolineb mwyaf disynwyr yn enw profiad.' Do, cafwyd Diwygiad, nid oes amheu- aeth am y tan o'r nef cafwyd cynhauaf cyfoethog a gwerthfawr ond daeth yr ysbryd aflan i'r synagog mewn ambell ardal, a sylweddolir heddyw fod y gelyn ddyn wedi bod wrthi yn gyfrwys ddirgel ddyfal yn hau efrau yn y maes gwenith. Anhawdd dygymod a sydynrwydd cyf- newidiad amgylchiadau, gan gyfaddasu ein hunain ar gyfer yr amgylchiadau newyddion. Ddoe, yr oedd y tyrfaoedd yn gorlanw yr addoldai, a phob cynull- eidfa yn wenfflam heddyw, y mae llawer wedi cefnu ar ol y wledd, gan lanw clybiau cwrw a chwareudai. Ddoe, clywyd swn gorfoledd y miloedd yn tori allan yn Ddiolch iddo gan Goroni Mab y Dyn heddyw, clywir rhai ohonynt yn Ei wadu'n gyhoeddus, tra y weddi ar y wefus wedi troi yn rheg, a'r profiad yn gabledd. Mor sydyn y newidiodd yr hinsawdd, ac mor ddiseremoni yr aeth tyrfa o orfoleddwyr o baradwys i'r anialwch. Nid rhyfedd fod rhywrai wedi cael chill ysbrydol, drwy ddisgyn o ganol tan y Diwygiad i ganol eira a rhew pegynau angrhediniaeth. Un o anhawsderau anhawddaf y gwein-