Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

----__ YR YSGOl SABBATHOL

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOl SABBATHOL Y WERS RYNCWLADWRIALTHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D OLIVER, D.D., TREFFYNON. Ionawr i ('eg.-Dechreuad y Weinidogaeth Galileaidd.—Matt. iv. 12-25. Y TesTyn Euraidd.—C Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr ac i'r rhai a eisteddent yn mro a cliysgod angeu, y cyfododd goleuni iddynt.'—Adnod 16. Y RHANAU I'W DARiir,N YN DDYDDIO. Llun (Ionawr lofed).—Matt. iv. 12-25. Mawrtli.-—Marc. ii. 13-17. Mercher.-Ioali i. 35-42. Iau.-Lue v. 1-11. Gwener.—2 Cor. iv. 1-7. Sadwrn.—Marc viii. 34-38. Sabbath.-2 Tim. iv. 1-8. RHAGARWEINIO. Y MAE yn amlwg fod yna gyfnod o gryn amser yn hanes yr Arglwydd Iesu rhwng yr amgylch- iadau a ddechreuir eu cofnodi yn adnod 12 a'r anigylchiadau a gofnodir yn nechreu y benod. Y mae yr efengylydd loan y 11 rhoddi hanes y cyfnod hwn, sef gweinidogaeth yr Arglwydd lesu yn Judea. Cawn fod Hi weinidogaeth yn Judea wedi creu y fath wrthwynebiad fel y penderfynodd yr Iuddewon Ei wrthod Ef fel Messiah. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd loan Fedyddiwr yn parhau ei weinidogaeth yn anial- wch Judea, ac yr oedd mor effeitlxiol fel y pen- derfynodd Herod Antipas ei ddal a'i roddi mewn carchar. Pan glywodd yr lesu fod loan Fed- yddiwr wedi ei roddi yn y carchar, penderfyn- odd fyned i Galilea, a dechreuodd ar unwaith bregethu trwy alw y bobl i edifarhau, "canys nesaodd leyrnas Nefoedd.' Cymerodd i fyny gri loan Fedyddiwr, gan ychwanegu Efengyl y Deyrnas. Yn Matthew, cawn hanes gweinid- ogaeth yr Arglwydd Iesu yn Galilea. Cymharcr Marc i. 14, Lue iv, a loan iv. 1-3. Esboniaxjol. Adnod 12. A phan glybu yr Iesu draddodi loan, Efe a aeth i Galilea.' A phan glybu yr Iesu draddodi loan. Dyma'r rheswm paham y penderfynodd adael Judea. Ele a aeth i Galilea. Cyf. Diw., A ymneillduodd i Galilea.' Y mae yn debygol iddo fyned trwy y nordd agosaf-trwy Samaria. Daeth i'r penderfyniad, nid oherwydd Ei fod wedi Ei ddal gan ofn, ond oblegid y gwelai fod yr luddewon yn Judea wedi ymgaledu yn Ei erbyn, ac aeth i Galilea i gy- mhwyso gweinidogaeth loan at y bobl. Adnod 13. A chan adaw .Nazareth, Efe a aeth ac a arosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y mor, yn lighyffiniau Zabulon a Naph- thali A chan adaw Nazareth, Ele a aeth ac a arosodd yn Capernaum. Yr oeddynt wedi Ei wrthod yn Nazareth (Luc iv. 29). Felly gwnaeth Ei gartref yn Capernaum—tref ar lanau mor Galilea. Y mae ei saile yn ansicr. Adnod 14. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaias y proffwyd, gan ddy- ^edJdT. Fel y cyfiawnid yr hyn a ddywedwyd. Gwel Esaiah vui. 11 -ix. 6. Y11 yr ameylch- pro/wXHShefa,gy'ydd 5'" 8Wded Ad2-°d-,i5-Tir Zahuk>'1, a thir Nephthali wrth ffordd y mor, tu hwnt i'r Iorddouen, Galilea y Cenedloedd. Tir Zabulon a thir Nephthali, wrth ffordd y mor. Cyf. Diw., Tua'r mor/ Golygir preswylwyr y wlad oddeutu y mor Yr oedd yn cyrhaedd o For Galilea hyd at for y Canoldir. Galilea y Cenedloedd. Sef y rhan breSWy'id ga" ? Syriaid a Adnod 16.-Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, y cyfododd nY ^°bl °eM yn eistedd mewn tywyllwch. Tywyllwch anwybodaeth ac angpn Zl I dJni Jn ,hyw dan £ addug gorthrymder iZJu f YU ysbrydol, yr ocdrlynt mewn tywyllwch mawr. Goleuni mawr. Pan ddaetli yr Iesu atynt, llewyrchodd goleuni iddynt A eisteddent yn raro a chysgod angeu. Y mad- rodd yn gosod allan y graddau isaf o ddifater- weh ac anwybodaeth. Yr oeddynt yn gyffelyb i rai wedi meirw. ? Adnod 17. 0'1' pryd hwnw y declireuodd yr lasu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch canys nesaodd Teyrnas Nefoedd.' O'r pryd hwnw y declireuodd yr Iesu bregethu. Pregethu, cyhoeddi i glywedigaeth y bobl. Edifarhewch, canys nesaodd Eeyrnas Nefcedd. Y mae y Deyrnas yn agos, a'r Brenin Ei Hun ar wneyd Ei ymddangosiad. Er mwyn bod yn ddeiliaid y Deyrnas, yr oedd yn rhaid iddynt barotci eu hunain trwy edifeirweh. Yr un ydyw Teyrnas Nefoedd a Theyrnas Dduw. Adnod 18.—' A'r Iesu yn rliodio wrth for Galilea, Efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r in or; canys pysgotwyr oeddynt.' A'r Iesu yn rhodio wrth for Galilea, Ele a ganfu ddau. frodyr. Neu ddau frawd. Yr oedd yr Iesu wedi eu cyfarfod o'r blaen (loan i. 40-42). Yr oeddynt yn adnabod yr lesu, a'r Iesu yn eu hadnabod hwythau. Yn bwrw rhwyd i'r mor (casting-net). Yma, ac yn Marc i. 16, yn unig yr arferir y gair Groeg. Adnod 19.—' Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol I, a Mi a'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion,' Deuwch ar Fy ol l, a mi a'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion. Deuwch yn ddysgyblion i Mi, a Mi a'ch gwnaf yn offerynau i ddal dynion- argyhoeddi dynion a'u dwyn at Grist. Adnod 20.—' A hwy yn y fan, gan adael eu rliwydau, a'i canlynasant Ef.' A hwy yn y fan, gan adael en rhwydau. Yn uniongyrchol, heb betruso. Rhoddasant ufudd-dod parod i alwad yr lesu, heb ymgynghori a chig a gwaed. Adnod 21.—'Ac wedi myned rhagddo oddi- yno, Efe a welodd ddau frodyr ereill, lago fab Zebedeus, ac loan ei frawd, mewn llong gyda Zebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau ac a'u galwdod hwy.' Ele a welodd ddau frodyr ereill. lago, yr hwn a laddwyd gan Herod. Yr oedd yna ddysgybl arall o'r un enw, yr hwn a elwid Iago Leiaf, a brawd yr Arglwydd. loan y dysgybl anwyl. Mewn llong gyda Zebedeus. V chwanega Marc, Gyda'r cyflog ddynion.' Yn cyweirio en rhwydau. Trefnu eu rhwydau trwy eu hadgyweirio yn barod i'w gosod i lawr yn y mor. Adnod 22.—' Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant Ef, Hwythau yn ebrwydd, 6-c. Gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oeddynt wedi dyfod dan ddylanwad Crist, ac yn barod i'w ddilyn. No nets can entangle those whom He constrains.' Adnod 23.—' A'r Iesu a-aeth o amgylch lioll Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phreg- ethu Efengyl y Deyrnas, a iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl. Gan ddysgu yn eu synagogau. Eleoedd i addoli. Adeiladwyd y lleoedd hyn gan yr Iuddewon i'r dyben i'r bobl ymgynull i weddio, ac i glywed y gyfraith yn cael ei hesbonio a'i darllen. Yr oeddynt hefyd yn ysgolion, ac yn lleoedd i weinyddu barn. Cymerodd yr lesu fantais o'r synagogau i ddysgu ac egluro y gyfraith. Pregethu. Cyhoeddi yr Efengyl mewn dull cylioeddus. Efenoyl y Deyrnas. Am mai trwyddi hi y mae Teyrnas Dduw yn cael ei gosod i fyny yn y byd. Iachau pob clefyd. Anhwylder yn perthyn i'r holl gyfan- soddiad. A fiechyd. Anhwylder yn perthyn i ryw ran neillduol o'r cyfansoddiad. Adnod 24.—' Ac aeth son am dano Ef trwy holl Syria a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd aniryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt; ac Efe a'u hiachaodd hwynt.' Ac aeth son am dano Ef trwy holl Syria. Gwlad yn ymylu ar Wlad Canaan. Drwg eu hwyl. Rhai yn cael eu blino gan unrhyw anhwylder. Clefydau a chnofeydd. Iwymynau a phoenau arteithiol. A'r rhai cythreulig. Rhai wedi eu meddianu gan ddiafol A'r rhai lloerig. Cyf. Diw., A'r rhai a'r lles-. mcirglwyf arnynt.' Gwallgofrwydd a dybid yn well neu yn waeth yn ol sefyllfa y lloer. Dangos- odd yr Ies.u Ei allu trwy eu hiachau hwynt ell. Adnod 25. A thorfeydd lawer a'i canlyn- 5 iy asant Ef o Galilea, a Decapolis, a Jerusalem, a Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.' A thorfeydd leaver a'i canlynasant Ef. Yr oedd poblogrwydd yr Iesu yn fawr iawn yr adeg yma. Docapolis. Talaetli yn cynwys deg dinas o du y gocdedd- ddwyrain i for Galilea. Tu hwnt i'r Iorddonen. Sef y wlad o'r tu hwnt i'r Iorddoileii-Perea. Ystyr y gair Perea ydyw y tu hwnt. Gwersi. I. Yr oedd dyfodiad yr Iesu i'r byd yn oleuni y byd. Goleuni y byd ydwyf Fi.' Goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch-tywyllwch anwy- bodaeth, gorthrwm, ac anghyfiawnder. Y mae lesu Grist wedi dwyn gwybodaeth i'r byd- gwybodaeth am Dduw, am ddyn, am y byd ysbrydol. Y mae yn tori iau caethiwed a gorth- rwm yn dwyn dynion i ryddid yn sefydlu iawnder yn y tir. Yr oedd dyfodiad yr lesu fel codiad haul ar fyd oedd yn gorwedd mewn tywyllwch ac yn mro a chysgod angeu. II. Yr oedd dyfodiad yr lesu yn dwyn meddyginiaeth i ddynion. Nid yn unig yr oedd yr lesu yn llefaru geiriau grasusol, ond hefyd yn cyflawni gweithredoedd trugarog. Yr oedd ganddo allu i iachau anhwylderau a chlefydau. Rhoddi traed i'r cloff, Uygaid i'r dall Vr oedd pob gweithred o'i eiddo yn dangos Ei ewyllys da a'i dosturi. Yr oedd y gweithred- oedd hyn yn arwyddion o'i allu i gyfarfod angenion dyfnaf dyn—angenion ei enaid. Yr oedd yr Hwn a allasai iachau eu cyrff o glefydau yn alluog hefyd i iachau yr enaid o effeithiau pechod. Y mae pob dyn yn dyoddef oddiwrth effeithiau niweidiol pechod. III. Y mae Iesu Grist yn hawlio ufudd-dod i'w alwadau. Ufuddhaodd Andreas a Phedr, Iago ac loan, i'w alwad, ac aethant ar Ei ol fel dysgyblion iddo. Gallwn iiinau fod yn ddysg- yblion iddo trwy ufuddhau i'w orchymynion Y mae yn deilwng o ufudd-dod. Y rhai sydd yn ymddiried fwyaf iddo sydd yn canfod Ei ragoriaethau, ac yn teimlo Ei ddylanwad dyrchafol ar eu bywyd. Trwy fyw yn agos at yr Iesu cawn ein gwneyd yn gyfryngau i fod o ddaioni a bendith i ereill. GOFYNIADAU AR Y WERS. I. Paham y penderfynodd yr Iesu fyned i Galilea ? 2 Faint o amser y bu yr Iesu yn Judea cyn dychwelyd 1 Galilea ? 3. Paham yr arosodd yn Capernaum, ac nid yn Nazareth ? 4. Pa leoedd a olygir wrth tir Zabulon, Nephthali, a thu hwnt i'r Iorddonen ? 11 5' Zanf°dd y darlunir cyflwr y trigolion yn y lleoedd hyn ? J 6. Beth oedd natur gweinidogaeth yr Iesu yn y lleoedd hyn ? Pa ddylanwad gafodd ? 7. Pa rai o'i ddysgyblion a alwodd, ac o dan ba amgylchiadau ? 8. Pa ddefnydd a wnaeth yr lesu o'r syn- agogau yn Ei weinidogaeth gyhoeddus ? 9. Beth oedd yn gwneyd Ei weinidogaeth mor boblogaidd yr adeg yma ? Pa fodd y mae yr efengylydd yn dangos Ei boblogrwydd ?

------------BETH WELODD DYN…