Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

NODION.

News
Cite
Share

NODION. CAFWYD tipyn o egwyl Canol y Berw. dros y gwyliau yn nglyu a'r etholiad, ond yr ydym yn awr yn nghanol y berw eto, a rhaid i'r tan ffyrnigo a chynyddu o hyn i'r diwedd. Bydd pobpeth drosodd erbyn diwedd y mis, ac nid oes alller i'w golli cyn cario'r fflamdorch i bob pentref a chwmwd yn Nghymru. Mae y gelyu yn estyn pob gewyn, ac nid yw yn esgen- luso unrhyw gyfle i hau ei wenwyn a Iluchio ei laid. Mae pob ysgoldy sectar- aidd, pob eglwys blwyfol a threfol, pob persondy ac ysweindy, pob swyddfa weithfaol neu dirol perthynol i Doriaid, eisoes yn ganolfanau pob egni a chynllwyn ac ymgais i hudo'r werin i gredu pobpeth ond y gwir, ac i dynu eu sylw oddiar unig bwnc mawr yr etholiad, sef traha a gormes Ty'r Arglwyddi. Mae yn frwydr bywyd iddynt hwy fel i ninau, ac ymostyngant i unrhyw ystryw, cam neu gymhwys, gau neu gywir, er enill y dydd. Mae pob cymdeithas Eglwysig yn nythle o ddiwyd- rwydd, a phob offeiriad, o'r esgob i lawr i'r ciwrad distadlaf, yn agent anghydna- byddedig y blaid a'r caucus Doriaidd. Tra defnyddir unrhyw a phob moddion i gyrhaedd dybenion plaid, protestir, bid siwr, nad ydynt yn pregethu politics, nac yn ymyryd a dim ondbuddianau Eglwysig. Ond er amddiffyn y rhai hyny, boddlon ydynt i werthu'r werin a Thy'r Cyffredin, a gwneyd yr Arglwyddi yn ben y wlad maent yn barod i weled Diffyndollaeth a'i holl erchyllderau, megys y bara du, a'r trusts, a'r prinder gwaith ac ymborth; rhoddant i fyny hyd yn nod hawl y bobl i drethu eu hunain, ac hawl y Brenin i dori'r Senedd; yn wir, caiff yr holl Gyfansoddiad Prydeinig fyned i'r wadd a'r ystlumod, ond iddynt hwy gael cadw eu cysylltiad fel enwad a'r Wladwriaeth, a thrawsfeddianu plant ac ysgolion y bobl. Dyna'r agwedd Eglwysig i'r fyddin sydd yn ein herbyn, ac nid oes ball ar ei beidd- garwch. Os amheua neb hyn, darllened Manifesto Esgob Tyddewi. Ac nid yw'r Pabyddion fymryn gwell. Tra yn gor- chymyn i'r ffyddloniaid Rhufeinig i weddio am gyfarwyddyd oddiuchod i wneyd yr hyn sydd iawn, dywed Arch- esgob Westminster yn mlaen llaw beth yw'r atebiad i'r weddi i fod, sef pleid- leisio dros y Tori. A dyna wnaiff y Pab- yddion gan mwyaf, canys y priest, wedi'r cwbl, ydyw eu teyrn hwy, a rhoddant iddo ufudd-dod dall. Mae holl alluoedd y fasnach feddwol eisoes ar y maes, a gellir meddwl beth i'w ddysgwyl oddiwrthynt hwy. Mae yn ddigon i godi arswyd ar angylion-ac nid hawdd eu dychrynu hwy -i ddychymygu'r filfed ran o'r llanastr annuwiol a ddilyna eu hystranciau hwy. Ac, fel arfer, ymladdant ochr yn ochr a'r esgobion a'r Eglwys. Ac, wrth gwrs, mae'r tirlwyddi eisoes ar flaen y gad, gan chwythu yn eu hudgyrn eu hysgrech olaf. A diolch mai ysgrech ydyw, ac nas gall canlyniadau echrydus 1868 ddilyn eu cri a'u cynddaredd. Ac mai gwyr yr aur a'r miliwnau yn glafeirio a bytheirio, ond hawdd yw gweled trwy eu triciau hwy. Crafangu yw eu crefft, ac nid argoel gysurus o gwbl iddynt yw gweled fod y bobl wedi penderfynu tori eu crafanc yn effeithiol a therfynol, hyd yli nod pe cymerai fwy nag un etholiad i wneyd hyny. MAE yni ac anes- Beth ydym ni mwythyd y gelyn yn yn wneyd ? codi'r gofyniad, Beth ydym ninau yn wneyd i wrthweithio'r dylanwadau niweidiol a nodwyd ? Credaf fod Cymru mor deyrn- garol ag erioed i achos mawr rhyddid a chynydd, ond nis gwiw dibynu ar gadernid

EIN CYFLE MAWR.