Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ANWYI, A FFYDDLON GYFEIION,

Advertising

[No title]

...--LLANELLI.

News
Cite
Share

LLANELLI. Caftel A Is.—Cjmaliodd cerddorfa y lie hwn gyfarfod nos Nadolig, fel arfer-y Parch T. Johns, D.D., yn y gadair. Cawsom gryn lawer o ganu, adrodd, a chwareu ar amrywiol ofFerynau cerdd gan feibion a merched. Yr oedd yn gyfarfod dyddorol a difyrus. Daeth cyuulleidfa luosog yn nghyd, a gwtiae-d elw da trwyddo.-Boreu Sabbath, pregethodd y Parch T. Johns, D.D., ar Enedigaeth y Messiah, a nos Sabbath perfformiodd y cor a'r gerddorfa Fessiah' Handel. Cafwyd canu ar- dderchog. Daethai cynulleidfa fawr yn nghyd.—Y nos Wener dilynol, cynaliodd y cor soiree blynyddol. Yn Nghyfarfod Diwvlliadol y Bobl Ieuainc, traddododd Mr T. Davies ddarlith ar 'Yr Ardd,' yr hon oedd yn llawn addysg. Dock Chafiel.-Nos Nadolig, bu cyfarfod adloniadol yma o dan lywyddiaeth y Parch D. Lewis. Cymerodd nifer luosog o'r bobl ieuainc o'r ddan ryw ran. Cafwyd cyfar- fod hyfryd. Daethai llawer yn nghyd i fwynhau y wledd, Lloyd street.-Cynaliodd yr Ysgol Sul ei chyfarfod chwaiterol, prydnawn Sul y Nadolig, o dan lywyddiaeth y Parch J. J. Jones, B.A. Y mae yr ysgol hon mewn gwedd lewyrchus. Cafwyd cyfarfod rhag- orol. Canu ac adrodd gan feibion a merched gyfansoddodd y wiedd hyfryd. Melus, moes eto, oedd teimlad y dorf ddaethai i wrando. Yr Etlioliad.-Mae Bwrdeisdrefi Caer- fyrddin a Llanelli yn myned i ethol Mr W. Llewelyn Williams, M A., gyda mwyafrif anrhydeddus, ar Ionawr 2iain. Ei wrth- wynebydd yw Arglwydd Tiverton-bargyf- reithiwr ydyw yntau, ond y mae yn Dori, ac yn Tariff Reformer. Bu Mr D. Lloyd George ac Arglwydd Abertawe yma yn ddiweddar yn dynoethi twyll y Tariff. Yr ydym yn llawenhau fod Cymro bach wedi gosod trap, a bod yr Arglwyddi yn myned iddo llwyr eu penau y dyddiau hyn. GOHKBYDD.

MARWOLAETH MR W. FOULKES-JONES,…

MARWOLAETH MR HENRY EYNON,…

EIN CYFLE MAWR.