Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

ANWYI, A FFYDDLON GYFEIION,

News
Cite
Share

ANWYI, A FFYDDLON GYFEIION, Yr ydym yn nesu at derfyn blwyddyn sydd wedi bod yn un dra cliyffrous ac wrth fwrw golwg yn ol drosti, teimlaf na fuom ni yn ol o gymeryd ein rhan yn aiddgar yn ei llafur a'i dygwyddiadau, yn grefyddol ac yn wleid- yddol, gan ymdrechu bob amser gymeradwyo a chefnogi yr hyn a farnem yn dda, a chondemnio a gwrthod yr hyn a ystyriem yn ddrwg. Yn Wleidyddol, tra siomedig y profodd y flwyddyn i ni fel Ymneilldnwyr Cymreig. Pan yn eich cyfarch ar ei dechreu, anturiais ysgrif- enu 1 Y mae o gylch cwestiwn Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru ryw ansicrwydd poenus iawn. Yn fy myw nis gallaf weled rheswm digonol dros hyny, yn enwedig yn awr pan yr ydym yn nesu at y Senedd-dymhor yn mha un yr addawodd y Weinyddiaeth ei gymeryd i fyny. Dichon y bydd yn angenrheidiol cy- meryd cwrs cryf iawn yn glyn a'r mater hwn a byddaf fi ac ereill yn barod i wneyd hyny, os bydd rhaid.' Yn gySon a'r mynegiad yna, anturiais roi cyfle o dro i dro i'r rhai a fynent feirniadu ymddygiad y Weinyddiaeth yn nglyn a'r mater hwn, yn ogystal ag i'r rhai a deimlent y dylent amddiffyn. Rhyngddynt yr ydych chwi wedi cael y ddwy ochr yn bur lawn, ac wedi bod yn alluog i ffurfio eich barn eich hunain ar y mater pwysig hwn. Credaf eich bod yn cymer- adwyo y cwrs a gymerwyd genyf ar hyn. Yn nglyn a Thy yr Arglwyddi ysgrifenais ar ddechreu y flwyddyn Y mae haerllugrwydd Ty yr Arglwyddi wedi myned yn annyoddefol, a gwn na fydd un cwrs a gymer y TYST i ymladd brwydr y bobl yn ei erbyn yn rhy gryf yn ngolwg y darllenwyr. Y mae ei ymddygiad trahaus yn nglyn a'r Mesur Trwyddedol wedi difetha pob gronyn o ymddiried oedd genym ynddo fel Ty i arolygu mewn ysbryd teg fesurau a anfonid i fyny iddo o Dy y Cyffredin. Dichon mai un o'r dyledswyddau penaf yn ystod 1909 fydd ceisio dangos y Ty hwn yn ei wir gymer- iad, ac ni fydd y TYST yn ol o wneyd ei oreu.' Trodd allan,.yn waeth hyd yn nod nag yr ofnwn pan yn ysgrifenu felly. Bu Ty yr Arglwyddi yn fwy beiddgar nag y mae wedi bod er's ugeiniau o flynyddoedd, canys gwrthododd Fesur Arianol y flwyddyn, er iddo gael chwe' mis o ystyriaeth ddifrifolaf y Ty isaf a'i basio gydag agos ddau cant a haner o fwyafrif. Gwnaethom ein goreu i fwrw goleu llawn o wythnos i wythnos ar ei ymddygiad, a dysgwyliaf fod darllenwyr y TYST yn mysg y rhai cryfaf eu penderfyniad i ymladd ^yn erbyn gormes y Ty anhymig hwn. Oblegid ymddygiad yr Arglwyddi agorir y Flwyddyn Newydd gan Etholiad Cyffredinol eto, er nad yw y presenol wedi rhedeg ond ychydig gyda haner ei gwrs. Cwestiwn mawr yr etholiad fydd y berthynas rhwng y ddau Dy. A y blaid Ryddfrydol i'r frwydr gyda phender- fyniad i gwtogi llawer ar hawl yr Arglwyddi i wrthod Mesurau Ty y Cyffredin ar bob mater, ac i wneyd i ffwrdcl yn llwyr a'u hawl i ymryyd Mesur Arianol o flwyddyn i flwyddyn. Dyna bwnc mawr yr etholiad, ac yr wyf yn awyddus iawn am i ni i gyd-gynorthwyo y bobl yn yr ymgyrch hon. Y mae hi eisoes wedi dechreu, a swn cyflegrau y ddwy ochr yn lledu drwy yr oil o'r deyrnas. Gobeithiaf y dychwelir y blaid Ryddfrydol eto, ac y rhoddir iddi fwyaf- rif a'i galluoga i gario allan ei bwriad o roi terfyn ar ormes y Ty Uchaf. Erys ein prif Ysgrifenwyr yr un eleni eto, a gwn y bydd yn dda gan y darllenwyr ddeall hyny. Rhydd GWLEIDYDDWR gyfrif o'r holl Jf^surau a ddygir ger bron y Ty, a sicrha ei hir gynefindra a'r gwaith na chyll darllenwyr y | TYST ddim a fydd o bwys. I Ysgrifena H.' Y NODION fel arfer, a sicr yw y gesyd ein darllenwyr dan fwy o ddyled iddo nag erioed. Gwylia bob symudiad y bydd o bwys galw sylw ato. flgNid oes ond un a all ddesgrifio yr hyn a wel wrth deithio 0 FRYN I FRYN fel y gwna yr hwn a ysgrifena dan y penawd hwnw i'n colofnau, a phery ef i wneyd ei waith. Gofala G.' hefyd gadw ei olwg ar BOB OCHR I'R HEOIy, a gwneyd sylw byw ar bob peth a wel. Parotoir Y WERS SABBATHOL gan yr un law alluog a chyfarwydd ag sydd wedi ei phar- otoi ar hyd y blynyddoedd ac os gallwn gael y ffordd yn glir, bwriadwn roi cymhorth gyda Gwers YR UN MAES LLAFUR. Clorianir y Beirdd gan ein cyfaill galluog PEDROG, fel arfer, a rhydd GOLOFN FARDD- ONOL flasus i ni yn awr ac yn y man. Gyda'r oil, pery ein Gohebwyr ffyddlon dros y wlad, heb gymhorth y rhai nis gallem droi allan y TYST o wythnos i wythnos, i anfon i ni bob newyddion enwadol. Gocheler gorfeithder, a danfoner mewn pryd. Mae anfon hanes cwrdd pregethu, neu briodas, neu angladd, yn mhen mis ar ol iddo gymeryd lie allan o bob rheswm, a beiir y Swyddfa yn fynych pan, pe gwyddid yr amgylchiadau i gyd, y gwelid fod y bai ar ereill. Da genyf wybod fod y TYST yn cyrhaedd mwy o gartrefi yn awr nag y bu er's blynyddau, a chylch ei ddefnyddioldeb yn araf eangu, a gobeithio y bydd y flwyddyn ddyfodol yn un dra llwyddianus iddo. Gwnaed ymdrech fawr yn y gorphenol i'w gadw yn fyw i fod yn gyfrwng i groniclo dygwyddiadau ein Henwad yn Nghymru, ac i roi cyfarwyddyd, o safbwynt Ymneillduol a Rhyddfrydol, ar faterion cy- hoeddus; ni fyddem, gan hyny, yn ffyddlon i'n tadau heb i ni wneyd ein goreu i helaethu ei gylchrediad a'i ddefnyddioldeb. A gaf fi apelio ar derfyn y flwyddyn hon eto am gy- mhorth ein Dosbarthwyr ffyddlon, a'n Gweinid- ogion a'n Diaconiaid, i wneyd hyn. Gwyr pawb fod cylchrediad Newyddiadur Cymraeg, ac yn enwedig Newyddiadur Enwadol Cymraeg, o angenrheidrwydd yn gyfyng, ac anheg ac angharedig yw cymharu ei ymdrechion i eiddo Newyddiaduron Seisonig, y rhai y mae y mil- iynau yn agored iddynt. Gyda hyn o eiriau, dymunaf o galon i bawb ohonoch unwaith eto FLWYDDYN NEWYDD DDA. Yr eiddo ch fyth, JOHN THOMAS. Rhagfyr I geg, 1909.

Advertising

[No title]

...--LLANELLI.

MARWOLAETH MR W. FOULKES-JONES,…

MARWOLAETH MR HENRY EYNON,…

EIN CYFLE MAWR.