Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
FLWYDDYN NEWYDD DDA !
News
Cite
Share
Dymunwn yn gyntaf oil, ac o galon gynes, i holl ddarllenwyr y golofn hon FLWYDDYN NEWYDD DDA Diolch i'r beirdd am eu ffyddlondeb. Mae nifer o gyfansoddiadau ar y bwrdd yn aros eu tro. Rhaid gwneyd defnydd o'r darnau mwyaf cymhwys o ran hyd ac ansawdd. Yr ydym yn barod i gyhoeddi darnau ar achlysuron tystebol, priodi, geni, marw, &c. Ond rhaid ceisio cymhwyso y cyfan i derfynau gofod a dyddordeb cyffredinol y darllenwyr. Mae y testynau personol, yn enwedig marwnadau a phriod asau, yn rhy he!aeth o lawer ar gyfartaledd i des- tynau ereill. Anodd boddhau pawb. Oawsom o bryd i bryd lythyrau yn dwrdio am na chyhoeddesid yr hyn a lanwasai golofnau o'r TYST, o linellau pur gyffredin, ar achlysuron cyffredin iawn a chawsom hefyd gwynion am gyhoeddi gormod o bethau felly. Gwnawn ein goreu, yn ol ein barn ni, o'r gofod sydd ar ein cyfer ac erfyniwn ar ein gohebwyr am iddynt gofio byrdra a phriodoldeb, ac mai colofn o bapyr, ac nid India rubber, sydd ar eu cyfer yn y TYST. Ymadawiad, &c.-Gofynai yr awd" r i ni gy- hoeddi ei linellau fel y maent.' Oad bu yn ddiofal, ac mae ganddo amryw linellau gwallus, yn enwedig yn y ffurf o dbr mesur I dywys head cariadus hynt.' I ni oedd i'w mwynhau.' Er ei nawdd mor hawdd rhoi'n rhudd aur, Denai ef gwdyn o aur.' Iaith ddrwg Y'ngwres ei dan meddiacow Ewyllys hyf i'n lleshau.' Mordaith Bywyd.-Mae cyfnewidiad y mesur braidd yn sydyn ac anhwylus, ond mae ton awen- yddol i'r gan, a chyhoeddir hi. Trigolion jabez-Gilead, a Galarnad.-Cymer. adwy.
-------I'R FLWYDDYN NEWYDD.
News
Cite
Share
I'R FLWYDDYN NEWYDD. IACH y byddoch, a buddiawl ;—Nef Jwyddo Y flwyddyn ddyfodawl Duw o'i hedd i ni rhoed hawl-—i'w deyrnas Yno'i fwyn addas foli'n feunyddiawl. March, Cambs. CLWYDWENFRO.
-------Y FLWYDDYN NEWYDD.
News
Cite
Share
Y FLWYDDYN NEWYDD. DYHIDLWN swynol odlau, Tarawn dant y gan Chwareuwn ein telynau I'r flwyddyn newydd lan Y mae newydd-deb dwyfol Yn ei haddurno 'i gyd, Hi ddaeth mewn gwisg sancteiddiol 0 ddwylaw Duw i'r byd.
CYDGAN.
News
Cite
Share
CYDGAN. Rhagorol flwyddyn yw, Ac ami ddelw Duw Mae'n d'od yn ei bendithion I gwrdd a. dynolryw. Ar fcdd yr hen flynyddoedd Y mae ei gorsedd gu, Goleuni o'r wybrenoedd Lewyrchii gwyneb hi Mae adsain can ac emyn Yn swn dyfodiad hon, A gwen addysgol wanwyn Yn harddwch sr ei bron Mae hefyd drwst a berw Gwleidyddol yn mhob man, Fel dwndwr estron lanw Yn golchi at y laa Of beithio, flwyddyn dyner, Yn swn y tonau i gyd, Y teithi a dy faner Ymlaen at lanach byd. Fanteisiol flwyddyn newydd, Rhagorol yw ei nod, Mae Ilawnder dysg ysblenydd, Yn goron ar ei chlod 0 na boed galar gymyl Yn duo'i hanes hi, Ond bydded edyn engyl Yn gysgod dros ei bri. Caerdydd. REES REES (Teifi.)
'-!GALARNAD.
News
Cite
Share
GALARNAD. I Daith ar Ddeurod drwy Ogledd Cymru. (Ples- tiniog-Hydrrl Isled, 1909). DEUGANT milldir wedi'u teithio, Cant ac ugain eto ddaw, Ond rhaid rhoi'r^chwe' ugain heibio: Daeth yn wlaw! Wedi cysgu yn Ffestiniog, A brenddwydio'm Drallwm draw, Carwn gyrhaedd-ond mae'n wyntog, Ae mae'n wlaw I Felly gobaith Ilon dry'n brysur Sudda'n is ac is i fraw, Can's mae'm 'cestyll yn yr awyr' Yn y gwlaw Wele'n awr argoelion gwella'! Tylwyth teg yn crasu draw Hwyrach mai ar ol ciniawa Cilia'r gwlaw. Na I Ffestiniog yw'm harosfan, Ar drwst y ddrycin nid oes taw Llygad faglog !—gobaith druan !— Gan y gwlaw I Na I nid mwy o Gymru welaf, Nes d'od hafdydd maes o law I ddeurodio—mwynhad fynaf- Heb y gwlaw Llundain. COETIRFAB.
MORDAITH BYWYD.
News
Cite
Share
MORDAITH BYWYD. Cyflwynedig i Mr E. Griffiths (draper), Burry Port, a Miss M. J. Aubrey, Cefngoleu, Llanon, ar eu huniad mewn glan briodas, Rhaglyr 14eg, 1909. Ar doriad y wawr un bore 'Roedd Hong yn aros I y trai,' Tra'r morwyr oil ar eu gore' Yn lledu'r hwyliau i'r bau. Hwylio wna'r llong efo'r awel I'r dwfn ar y dyiys f6r, Tra'r don fel baban yn dawel, A'i thynged sy'n nghudd gan yr lor. Ceraint wylia'r Hong yn hwylio Mewn mawr bryder ar y treeth, Rhai yn wylo, rhai'n gweddio, Am gael llwyddiant ar y daith. Llawer un gan storm a gollwyd Yn nghrafangau creulon craig, A gobeithion gwynion chwalwyd Gan gynddeiriog donau'r aig. Darlun yw'r llong o fywyd Yn morio ar f6r y byd, Ceir y ser, a chymyl gofid Yn ffurfafen dyn o hyd. Unwyd dau wrth allor Hymen, Gan anturio'r fordaith hon, Credodd Jane ac hefyd Eben, Mai gwell dau i nofio'r don. Bellach, maent yn hwylio'n fedius, A gwir gariad wrth y llyw Os try'r storm eich cwrs yn ddyrys, Cedwch hwn, a chofiwch Dduw. Llwyddiant fo ar eich ymdrechion 'Gadw'r hwyliau yn y gwynt; Cwmni sirio), mwyn gyfeillion, A'ch cysuro ar eich hynt. Pontrobert. (Parch) DAN AUBREY.
H U NAN-GO FI ANT Y PARCH…
News
Cite
Share
H U NAN-GO FI ANT Y PARCH D. GRIFFITH, BETHEL. Yn gncsran Barddoniaeth, ni feddyliais am gyf- lawni unihyw orchest neillduol hyd oni welais y ihestr o destynau yr Eisteddfod Genedlaethol oedd i gael ei chynal yn Nghaernarfon yn y flwyddyn 1886 oblegid yn hono hysbysid fod gwobr o £ 20 a choron arian i gael eu rhoddi am yr Arwrgerdd oreu ar 'Cystenyn Fawr.' Yn y fan meddyJiais mai nid peth all-n o le fyddai i mi ddefnyddio rhai o'm horiau hamddenol i geisio cyfansoddi cerdd felly, e anrhydedd i goffadwriaeth yr ymherawdwr Cristio ogol cyntaf fu ar Orsedd Rhufain, a'r offeryn neill- duol a godwyd gan Regluniaeth i roi terfyn ar yr erledigaeth ofnadwy hono a fygythiai ddifodi yr Eglwys Gristionogol oddiar wyneb y ddaear. Yr oedd hanes Cystenyn genyf wrth law, ac yr oeddwn wedi darlien nodiadaa Dr Blair, ac ereil!, yn nghylch teithi a rheoiau yr Arwrgerdd, fel nad oeddwn yn ymaflyd yn y gwaith yn gwbl ddiamcan: ond pell oeddwn oddiwrth feddwl y buaswn yn enill y Goron, er gwneyd fy ngoreu boddio fy anianawd farddonol ar y pryd, a chael barn y beirniaid, Dyfed a Glanmor, ar fy ngherdd, oeddynt y prif bethau yn fy ngolwg. Anfonwyd i ysgrifenydd yr eisteddfod Wyth o gyfansoddiadau ar y testyn dyddorol hwn, ond nid oedd ond un i enill y gamp, a hwnw oedd y Parch J. Davies (Cadfan). Yr enw a ddodasai ef wrth ti arwrgerdd oedd 'Caradog ab Bran,' a'r enw wrth yr eiddof finau oedd Hesiod.' 0 hyny hyd yn awr ni ddywedais wrth neb ddarfod i mi fod mor ryfygus ag anfon rhywbeth ar lun arwrgerdd eisteddfod freiniol fel hono; ond waeth i mi heb gadw y secret yn hwy, Bu yr ymdrech yn foddion diwylliant i mi, a chefais beth mwynhad hefyd, yn nghydag addysg, wrth ddarllen beirniadaeth Dyfed a Glanmor ar fy ngwaith. Fel hyn y mae yn dechreu :—' Hesiod.—Aiwrgerdd faith iawn -Y feithaf yn y gystadleuaeth, ac yn cyfranogi yn helaeth o nodweddion arwrgerdd. Y mae ynddi rai darnau godidog, ond ereill yn llipa a diafael.' Yn ymyl hyn dywedir fod yr awdwr yn feddyliwr cryf, a gesyd allan ei feddyliau yn glir a deheuig.' Ac yna, ar ol cyfeirio at y diffygion a'r gwaliau a wel- ent yn y gerdd, hwy derfynent drwy ddyweyd fod ynddi, fel yr awgrymwyd, rai darnau tra rhagorol yma a thraw.' Heb iddynt hwy ddyweyd dim am ei meithder, ac am y darnau diafael a geir ynddi, gwyddwn yn dda am danynt, a buaswn wedi grym- uso a thalfyru cryn lawer arni pe cawswn hamdden i wnemthur felly cyn bod yn rhaid ei hanfon i'r gystadleuaeth. Yn ddiweddar, wrth edrych drosti o'r newydd, meddyliais ynof fy hun fod yn resyn i gymaint o lafur fyned yn ofer, fel yr ymroddais i grynhoi nifer o'r darnau tra rhagorol' y dywedid eu bod ynddi, gan fwiiadu cyhoeddi gyds. hwynt fraslun o hanes Cystenyn, gyda'm hadolygiad ar feirniadaeth Dyfed a Glanmor, a'm syniad yn nghylch Arwrgerdd y Goron. Y mae yn fy mryd roddi cyhoeddusiwydd i'r rhai hyn oil cyn bo hir.— (O'r Geninen' am Ionawr: cyhoeddiad cenedl- aethol.)
Y GAENAN ARiAN. -
News
Cite
Share
Y GAENAN ARiAN. HOLLT YN Y CYMYLAU 0 DYWYLLWCH AC ANOBAITH. BYDD I EREILL EICH CYNORTHWYO, OS BYDD I CHWI GYNORTHWYO EICH HUNAN. Mae'r cymylau yn ddu a chuchiog. Dysgwyliwch bob awr am fflachiad mygydol y fellten a thrwst y daran. Amgylchynir chwi gan ami ofidiau. Os oes nerth ac iechyd genych, gellwch eu cyfarfod fel dyn. Byddwch yn barod pan dyr yr ystorm. Pa fodd y gellwch sefyll i fyny a bod yn gryf, pan gollwch eich cwsg a'ch cof, pan y mae eich treuliad wedi ei anmharu, a'ch ystumog wedi ei gorlwytho a'i gor- weithio ? Yma y gorwedd y dirgelwch o nerth, yni meddyliol, a chosfiorol. Prynwch flychaid o Stuart's Dyspepsia Tablets. Bydd iddynt gyflawni holl waith eich ystumog flinedig, rhydd orphwysdra, ac adferant hi ïw by wiogrwydd rheolaidd. Os bydd i chwi eu defnyddio unwaitb, bydd i chwi eu defnyddio yr ail waith, ac wedi hyny chwi a gewch allan nas gellwch wneyd hebddynt. Mae arnom eisieu eich hargyhoeddi o wirionedd yr haeriad fod Stuart's Dyspepsia Tablets yn an- ff aeledig yn eu.hiachad, a Ithrwy ysgrifenu heddyw at F. A. Stuart Co., 86, Clerkenwell-road, London, EX., chwi a dderbyniwch gyda throad y post becyn fel sampl yn rhad. Nid cynghor meddyg na meddyginiaeth freintebol ddirgelaidd yw hon mae'r cynghor wedi ei roddi yn ihad i'r byd. ac y mae'r meddygon yn gyffredinol yn unol am ragoroldeb eu defnyddiau adferiadol. Ni chaniata gofod i lli i roddi unrhyw ddrych- feddwl o'r tystiolaetbau i effeithiolrwydd Stuart's Dyspepsia Tablets a gyrhaeddant gyda phob ilythyr-god. Bydd i un dyfarniad fod yn ddigon Rhoddodd awdurdodau meddygol gyfarwyddiadau i mi am dair blyncdd at anwyd ar yr ystumog heb beri iachad, ond heddyw yr wyf y dyn dedwyddaf ar ol defnyddio ond un blychsid o Stuart's Dyspepsia Tablets. Nis gallaf gael geiriau digon pnodol i ddatgan fy nheimlad da. Yr wyf wedi cael cnawd, archwaeth, a chwsg esmwyth wrth eu defnyddio.' Gyda nerth i ymdrechu ymdrech dda, bydd i obaith gyfodi eto, chwi a oresgynwch yn raddol eich anhawsderau, dengys y cymylau eu caeuen arian, a bydd i chwi fendithio Stuart's Dyspepsia Tablets, y rhai a* ddangosasant i chwi y ffordd i iechyd, nerth, boddlonrwydd, a llwyddiant.
-----FERNDALE.
News
Cite
Share
Price, B.A., Dowlais, ar Deyrnas Nefoedd.' Caf- wyci gwledd feddyiiol gan bob un ohonynt. Cenadaeth.-Bu y gwr enwog Ap Glaslyn, yn cynal tua thair wythnos o Genadaeth yn y Rhondda -Cenadactl, yn gyfuniad o Efengyl, Dirwest, a chan. Cafwyd pedair oedfa effeithiol ganddo yn y He hwn. ac amlygrwydd sicr nad yw tan y diwygiad wedi diffodd eto. Dysgwyliwn glywed am lawer o wasanaeth effe;thiol gan hwn eto yn y dyfodoL Gwnaeth les mawr yma, a gaIlwn yn galonog ei gymeradwyo i peoedd ereill. Hir oes iddo i geisio sobri, gwells, a dyrchafu ei genedl, a Chodi yr hen wlad yn ei hoi.' P.