Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

FLWYDDYN NEWYDD DDA !

News
Cite
Share

Dymunwn yn gyntaf oil, ac o galon gynes, i holl ddarllenwyr y golofn hon FLWYDDYN NEWYDD DDA Diolch i'r beirdd am eu ffyddlondeb. Mae nifer o gyfansoddiadau ar y bwrdd yn aros eu tro. Rhaid gwneyd defnydd o'r darnau mwyaf cymhwys o ran hyd ac ansawdd. Yr ydym yn barod i gyhoeddi darnau ar achlysuron tystebol, priodi, geni, marw, &c. Ond rhaid ceisio cymhwyso y cyfan i derfynau gofod a dyddordeb cyffredinol y darllenwyr. Mae y testynau personol, yn enwedig marwnadau a phriod asau, yn rhy he!aeth o lawer ar gyfartaledd i des- tynau ereill. Anodd boddhau pawb. Oawsom o bryd i bryd lythyrau yn dwrdio am na chyhoeddesid yr hyn a lanwasai golofnau o'r TYST, o linellau pur gyffredin, ar achlysuron cyffredin iawn a chawsom hefyd gwynion am gyhoeddi gormod o bethau felly. Gwnawn ein goreu, yn ol ein barn ni, o'r gofod sydd ar ein cyfer ac erfyniwn ar ein gohebwyr am iddynt gofio byrdra a phriodoldeb, ac mai colofn o bapyr, ac nid India rubber, sydd ar eu cyfer yn y TYST. Ymadawiad, &c.-Gofynai yr awd" r i ni gy- hoeddi ei linellau fel y maent.' Oad bu yn ddiofal, ac mae ganddo amryw linellau gwallus, yn enwedig yn y ffurf o dbr mesur I dywys head cariadus hynt.' I ni oedd i'w mwynhau.' Er ei nawdd mor hawdd rhoi'n rhudd aur, Denai ef gwdyn o aur.' Iaith ddrwg Y'ngwres ei dan meddiacow Ewyllys hyf i'n lleshau.' Mordaith Bywyd.-Mae cyfnewidiad y mesur braidd yn sydyn ac anhwylus, ond mae ton awen- yddol i'r gan, a chyhoeddir hi. Trigolion jabez-Gilead, a Galarnad.-Cymer. adwy.

-------I'R FLWYDDYN NEWYDD.

-------Y FLWYDDYN NEWYDD.

CYDGAN.

'-!GALARNAD.

MORDAITH BYWYD.

H U NAN-GO FI ANT Y PARCH…

Y GAENAN ARiAN. -

-----FERNDALE.