Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

LLENYDDIAETH UNDODAIDD YN…

PENYBONT-A R-OGWY.

MERTHYR TYDFIL.

Advertising

POB OCHR I'R HEOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

bob cyfrif, gobeithio y cedwir gwir bwnc yr etholiad ger bron y wlad—■' Ty'r Ar- I y glwyddi ynte'r Bobl.' Nid oes eisieu gwastraffu amser ar Ddiffyndolliaeth na mesurau addysg a thrwyddedau, nac hyd yn nod y Gyllideb fel y cyfryw; ond Ty'r Arglwyddi ynte'r Bobl.' Y Gor- thrymwyr sydd wrth y frawdle yn y prawf hwn y Tasgfeistri sydd i'w dwyn i gyfrif eleni, ac y mae'n beryglus gadael i ddim arall groesi'r llwybr; oblegid gall fod defnydd ymraniad yn nglyn a phob pwnc heblaw hwn. I lawr a Thy'r Arglwyddi.' (7) Mae gan y Methodistiaid gyhoeddiad Saesoneg yn hollol gyfyngedig i'r enwad yn Nghymru The Monthly Ireasury. Nid yw ond ceiniog yn y mis, a'i olygydd yw y Parch J. Glyn Davies. Mae ysgrifau didderbynwyneb yn hwn o fis i fis, ond yn yr ysbryd mwyaf serchog. Mae'r llith arweiniol yn rhifyn Ionawr y mis hwn yn ymwneyd a dyfodol y Corff, ac y mae ynddo bethau amserol a phlaen yn cael eu dy- weyd am y fugeiliaeth a'r eglwysi Cyd- nebydd yr awdwr fod llu mawr o fugeiliaid y Corff yn anghysurus yn eu cylchoedd, ac mai anhebgorol yw cael rhyw drefniant yn yr enwad i sicrhau fod gweinidogion yn cael newid eu cylchoedd. Dywed fod bod yn hir yn yr un eglwys yn llethu gallu pregethwrol llawer un, &c. Dygir y cwyn- ion hyn ger bron mewn math o ymddyddan doniol a ffraeth rhwng tri Methodist da. Dyma rywbeth up-to-date mewn cyhoedd- iad enwadol; ac y mae llu o faterion fel hyn y dylid eu trin a'u trafod yn ddiau, a pherthynant i bob enwad. w (8) Yn Ysgol Sul y Tabernacl, Llanelli, prydnawn y Sul diweddaf, cyflwynwyd llyfrau heirdd yn wobrwyon am ffyddlon- deb yn yr Ysgol Sul ar hyd 1909 yn ddi- fwlcli i tua haner cant. Nid oeddynt wedi colli cymaint ag un Ysgol Sul drwy y flwyddyn. Cafodd ereill badges am gadw'r Ysgol yn gyfan i gyd hyd o fewn un Sul. Y mae peth fel hyn yn anog i ffyddlondeb. Cyflwynwyd yr her-darian i'r un dosbarth am y bedwaredd waith, ac ni roddir hon ond i'r dosbarth ffyddlonaf yn unig. 4 (9) Clywir dyweyd weithiau yn wyneb tynerwch annaturiol yr hin oddeutu'r adeg hon o'r flwyddyn nad ydym yn cael I gauaf' yn awr. Os na cheir un naturiol, yr ydym, ni a ofnwn, yn cael gauaf ys- brydol go hawdd ei deimlo. Dywedir mai blwyddyn bur farw gyda chrefydd oedd yr un ddiweddaf. Onid yw meddwl am hyn yn creu syndod pan gofir cyn lleied o amser sydd er pan basiai Cymru drwy ei Diwygiad mawr, tanllyd. Yn ei ysgrif ar Ddiwygiad 1859,' dywedai y Parch W. Thomas, Whitland, fod yr Hybarch Joshua Lewis, Henllan gynt, yn siomedig yn y Diwygiadau gaed yn 1840 ac 1850, am na throdd y nifer allan yn ol y dysgwyliadau pan roed deheulaw cymdeithas iddynt, ac. o ganlyniad, gorfu iddo en diarddel, a throdd yr eglwysi yn oer a diymdrech am flynyddoedd.' History repeats itself, onide ? Tybed, pe ceid gwir brofiad llawer un yn awr, ei fod yn mhell oddiwrth Joshua Lewis, Henllan. # (10) Prydferth yw deall fod gan Gymru gynifer o'i haelodau Seneddol yn gapelwyr cyson a dirodres. Wrth gwrs, y maent ar wasgar oil yn awr. Dywedid yn y papyrau