Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLENYDDIAETH UNDODAIDD YN…

PENYBONT-A R-OGWY.

MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

MERTHYR TYDFIL. YParch D. Enrof Walters, M.A., B.D. —Traddododd y boneddwr hwn ei bregeth ymadawol yn nghapel Market-square nos Sul diweddaf. Eglur oedd fod y pregethwr a'r gynulleidfa o dan deimladau dwys, oblegid y mae y teimladau goreu wedi bodoli o'r ddau tu byth oddiar ei ddyfodiad yma yn haf 1905. Yr wythnos gynt cynaliwyd cyfarfod tystebu, Mr J. M. Berry, Y.H., yn y gadair. Cyflwynodd Mr W. L. Daniel, Y.H., dros yr eglwys i Mr Walters roll-top desk hardd, ac i Mrs Walters silver tea and coffee service, fish carvers, and knives and forks. Cymerodd amryw ran yn y cyfarfod, a datganwyd gofid cyifredinol y trefwyr am ymadawiad Mr Walters. Mae wedi cymeryd gwaith ei swydd newydd i fyny, a symuda yn fuan i Abertawe i fyw. Pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Bydd yn golled i bob symudiad crefyddol a chymdeithasol yma ar ei ol. Ynysgau.-Nos Nadolig, cynaliwyd yma gyfarfod cystadleuol llewyrchus iawn; gwelwyd ffrwyth atnlwg yn ymdrechiadau y plant. Beirniadwyd gan Cynog Mr Tom Evans, Cefn a Mrs D. D. Williams. Colli Hen Drefwyr. —Daeth ton o brudd- der dros y dref, dydd Gwener diweddaf, pan daenwyd y newydd fod y Milwriad D. Rees Lewis wedi marw. Yr oedd wedi bod yn beryglus wael ychydig wythnosau yn ol, ond gorchfygwyd y gelyn y pryd hwnw, a galluogwyd ef i godi o'i wely a d'od i'r llawr. Bu ar y llawr boreu ddydd Gwener, ond daeth gwendid y galon arno, a bu farw yn sydyn iawn yn 65 mlwydd oed. Cy- merai ddyddordeb mawr yn mhob peth berthynai i'w dref enedigol, ac yr oedd yn Wirfoddolwr aiddgar oddiar ei fachgendod. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac efe oedd Cofrestrydd Llys y Man- ddyledion, Clerc yr Ustusiaid, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol Sir, a Thrysor- ydd y Y.M.C.A. Efe oedd wedi cael e ethol (am y drydedd waith, ond nid yn olynol) yn Feistr Cyfrinfa y Meiswniaid Rhydd gwnaed hyny allan o barch iddo gan ei frodyr, gan mai y flwyddyn hon fydd y gan fed o oes Cyfrinfa y Loyal Cambrian. Perchid ef yn gyffredinol, oherwydd yr oedd yn foneddwr perffaith, a gwelir bwich mawr ar ei ol mewn llawer adran o gymdeithas. Cymer ei gladdedig- aeth le dydd Mercher (heddyw). Un arall o frodorion Merthyr a symudwyd megys a dyrnod oedd Mrs Frank James, gweddw y diweddar Mr Frank James, cyfreithiwr, a mam y Maer presenol. Yr oedd yn edrych allan o ffenestr ei thy pan oedd y bobl yn myned i'r cwrdd boreu Sul diweddaf, ond cyn iddynt ddychwelyd yr oedd ei bysbryd hi wedi ehedeg ymaith. Gwelodd 78 o flwyddi, ac yr oedd hi yn foneddiges hawddgar a da. Mae'r dref hon wedi colli llawer un o'i hen frodorion yn ddiweddar.

Advertising

POB OCHR I'R HEOL.