Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. -----

News
Cite
Share

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. CAN GWLEIDYDDWR. CAFWYD seibiant dros y Cadoediad c1 y 111 h 0 r byr yn y Gwleidyddol. Senedd. Math o gad- oediad gwleidyddol yd- oecld. Ond prin y gellir dyweyd fod y prif areithwyr wedi cael llonydd i orphwys mynyd awr. A chyda llaw, tueddir fi i ofyn ai nid buddiol fyddai casglu a chyhoeddi yn llyfryn y prif areithiau a draddodwyd, ac a draddodir, er addysg i'r oes a ddel, ac er mwyn pawb ohonom ? Yr ydys wedi bod yn sefyll mewn syndod uwchben y fath doraeth o wybodaeth amrywiol a llenyddiaeth ardderchog. Prin y buasai neb yn barod i gydnabod y posibilrwydd o'r hyn sydd heddyw yn ffaith. Dichon na cheir cyhoeddwr digon anturiaethus i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb. A dyna sydd yn hynod a dyddorol i'r Rhyddfrydwr aiddgar a theyrngarol ydyw y ffaith fod yn agos yr oil o'r cynyrch godidocaf yn eiddo i'r blaid y perthyna y Rhyddfrydwr ei hun iddi. Gelyn i'r Toriaid fyddai y neb a feddyliai am gyhoeddi areithiau Toriaidd ar y Gyllideb a Thy yr Arglwyddi, gyda'r eithriad o eiddo Mr Balfour. Nid oes neb arall wedi gwneyd enw mawr iddo ei hun. Anffawd i'r blaid Doriaidd oedd i iechyd ei harweinydd dori i lawr ychydig cyn ysgariad y Senedd, ond hysbysir ei fod wedi cael adferiad. Hyn yn achos o lawenydd i'r rhan fwyaf. Dirgelwch i lawer ydyw fod iechyd aelodau y Cyfriw- gynghor ac ereill wedi gallu dal o dan y fath faich eithriadol. Hyn yn arbenig wir am Mr Asquith, Mr Lloyd George, Mr Winston Churchill, Mr Ure, yr Arglwydd Ddadleuydd, a Syr Edward Grey. Cewri y wlad ydyw y dynion hyn. Maddeuir i ddynion a ymfalchiant ynddynt. Y mae sel ac eiddigedd yn y byd gwleidyddol yn gystal ag yn y byd crefyddol. NID oes raid ei henwi. Plaid Bwganod. Hysbys ydyw ei gwaith a'i hanes. Ni bu erioed mor epiliog ag ydyw eleni. Dyna Germani i ddechreu. Yn ol proffwydoliaeth y bwgan, ychydig o amser sydd yn ol i ni, drueiniaid diymadferth Pa beth a ddaw ohonom ? Onid yw lleferydd Tariff Reform yn ein clustiau, a braidd nad yw pawb ohonom wedi ein byddaru. Beth yw Tariff Reform? Pwy a wyr? Nid myfi a wyr. Nid Balfour, medd efe ei hun. Hyd yma ni ddaeth y dehonglydd i'r golwg. Y mae yr enw, oherwydd ei natur dwyllodrus, yn dramgwydd mawr, er pob ymgais i wneyd ei enw yn bersain. Bwgan ydyw efe. Bwgan arall ydyw Ym- reolaeth Wyddelig. Ceisir adfer hwn er mwyn dychrynu y bobl. Gorchwyl digon hawdd ydyw hyny. Cadach coch i darw ydyw Ymreolaeth Wyddelig i'r Toriaid a Rhyddfrydwyr ofnus. Yn araeth ar- weiniol y Prifweinidog, yn mhlith mater- ion pwysig ereill, crybwyllodd Home Rule. Neidiodd Balfour ato. Tybiodd fod y bwgan iawn yn ei law. Ond dygodd ym- chwiliad i'r achos y cyn-Brifweinidog i'w le, gan sylweddoli yn fwy yr hyn a olygai anerchiad Mr Asquith. Cafodd y Gwyddel fesur go dda o Ymreolaeth, fel nad yw yn gyfyng arno yn awr megys yn y blyn- yddoedd o 1880 hyd I890.Cafodd _hefyd fesur tir pur dda yn ddiweddar. Gall efe aros am dipyn cyn codi ei lef yn uchel. Teilwng ydyw i ereill gael yr hyn a geisir ac aaddewir iddynt yn Manifesto y Prif- weinidog. Dysgwylir cefnogaeth drwyadl yr aelodau Gwyddelig i gario y Gyllideb ac i ryddhau gorthrwm Ty yr Arglwyddi. Ofnir yr offeiriad Pabyddol yn ei ymyriad a chwestiwn mawr Addsyg. Gobeithir er hyny na lwydda yr un offeryn a lunier i'r amcan o ddwyn addysg y genedl o dan iau y Babaeth. Yr ydym yn ei chanol Poethder y yn awr. Cymer en- Frwydr. webiad nifer pur fawr o'r bwrdeisdrefi le tua chanol mis Ionawr, a diau yr effeithia can- lynaid y bleidlais yn y bwrdeisdrefi ar bleidleisiau yr etholaethau sirol. Mawr fydd y pryder a'r cywreinrwydd yn nglyn a, r etholaethau. Pel y mae yr adeg yn neshau, felly y mae y pryder yn cryfhau. Llundain ydyw y broblem. Dyma brif anhawsder y blaid, y cynydd a ddylai fod yn y Brifddinas yn nglyn a phob diwygiad. Prin y dysgwylir y fath fuddug- oliaeth y tro hwn a'r hon a gafwyd yn 1906. Ond ni raid digaloni mewn un modd. Dywedir y gellir fforddio colli tua 60 seddau, neu ychwaneg, ac eto dal y Brif- ddinas yn ei lie. Dylid cofio fod natur y diwygiad mawr a geisir yn gofyn i ni gael mwyafrif, os posibl, mwy nag o'r blaen. Y mae Toriaeth mor ffyrnig yn y rhyfel hwn, fel na cheir dim un o'r gwelliantau a ddylid eu cael heb i ni allu dangos grym ein byddin wleidvddol. Da gan bawb sydd yn caru yr achos ddeall fod y frwydr eisoes yn myned yn boethach bob dydd, acarwyddion cynyddolo unoliaeth a brwd- frydedd y blaid Ryddfrydig. Yn y South Wales Daily News yr wythnos ddiweddaf ymddangosodd llythyr Arglwydd Rendel at Gymru. Galwad ar y genedl i'r frwydr ydyw y llythyr. Dyma bendefig sydd yn meddu hawl arbenig i anfon Manifesto i'n Tywysogaeth. Efe, naw mlynedd ar hugain yn ol, waredodd Gymru o gaeth- iwed Toriaeth. Buddugoliaeth Maldwyn yn 1880 oedd prif fuddugoliaeth yr ethol- iad hwnw. Dyeithr-ddyn, heb nawdd na chysgod, dorodd hualau Toriaidd holl bendefigion Maldwyn, a daeth y carchar- orion yn rhydd. Dyma foneddwr sydd wedi cyfranu miloedd at Brifysgol Cymru. Gwrandawer ar ei lais.

POB OCHR I'R HEOL.