Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

;GOLYGWYR:

News
Cite
Share

GOLYGWYR: Parchn. J.THOMAS a J. JONES, MERTHYR TYDFIL. ANWYL DPARLLENWYR,- Yn y rhagolwg o groesi gyda'n gilydd o 19091191 o, ein gorchwyl cyntaf yw diolch i chwi am eich cefnogaeth werthfawr am un flwyddyn arall. Daeth y Cenad Hedd atoch o fis i fis yn gwbl ddiym- hongar, a gosododd ger eich bron ei arlwy heb honi ei bod yn well nag eiddo ereill, a dangos- asoch chwithau, o dro i dro, eich bod yn ei mwynhau. Yr ydym wedi ceisio gofalu fod yr oil a osodasom ger eich bron yn iachus eiriau y ffydd,' ac yn gyson a'r pethau a gredir yn ddiamheu yn ein plith.' Nid ydym yn credu mewn brysio at y newydd am ei fod felly, eithr hoffwn, yn hytrach, chwiiio a yw yn well na'r hen-yn fwy cyson a. goleuni nas gellir gyda rhesymoldeb ei wrthod. Un peth yw bod yn wahanol, peth arall yw bod yn well. Bwriac^wn y flwyddyn nesaf eto ddilyn yr un prif linellau ag a ddilynasom er's blynyddoedd, gan ein bod wedi cael profion diddadl eu bod yn eich boddloni chwi. Daw DARLUN bob mis o rywun y bydd am- gylchiadau yn cyfiawnhau gaiw sylw ato ond nid ymddengys neb yn ein Horiel na fydd yn gymeriad da, ac wedi rhoi gwasanaeth teilwng. Parhawn i dalu sylw i'r AELWYD. Yr ydym wedi cael ami brawf fod darnau sydd wedi eu cyhoeddi yn y Cenad Hedd wedi bod yn gy- mhorth mawr i feithrin crefydd ar yr aelwyd. Nis gwyddom am ffurf ar wasanaeth y carem yn fwy ei gyflawni yn effeithiol. Ymdrechwn gadw yr amcan hwn mewn golwg ar hyd y flwyddyn ddyfodol. Rhoddir y flwyddyn ddyfodol eto BREGETHAU a THRAETHODAU byrion ar destynau o ddyddor- deb, a bwrir golwg dros brif symudiadau y dydd yn y COFNODION MISOL. Adolygir, fel arfer, Lyfrau, Cyfnodolion, &c., a anfonir i'r Swyddfa. Parha IVIFIONYDD i ddarparu ARLWY AD- RODDIADOL bob mis ar gyfer ein bechgyn a'n merched sydd yn hoff o adrodd, a gofala am iddynt fod yn gyfaddas i Gyfarfodydd yr Ysgol Sul a Chymdeithasau Llenyddol. Ymddengys y WERS SABBATHOE, hefyd, a gofelir am bersonau cymhwys i'w hysgrifenu. Parha Mr. J. M. WEBBER, G.T.S.C., i ofalu am ein HADRAN GERDDOROL, a gofala am gadw i fyny ei rhagoriaeth. Anfoner Cyfansoddiadau Cerddorol i Gethin Cottage, Abercanaid, Merthyr Tydfil. Y mae yn adeg pan y mae o'r pwys mwyaf i gadw ein hieuenctyd gyda phethau na fydd perygl iddynt dderbyn niwaid oddiwrthynt; gan hyny, taer erfyniwn am i arweinwyr ein heglwysi roi iddynt bob cefnogaeth yn nglyn a. hyn. Gwnawn ein goreu i ofalu am ddarpar- iaeth deilwng o fis i fis. Yr eiddoch yn lffyddlon, Y CYHOEDDWYR A'R GOLYGWYR. ;;JIoI.I'

Advertising