Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

SEION, ABERCANAID -Y Parchn J. Walters' Clydach Vale, a D. E, Davies, B A Troedyrhiw, fu yn cynal cyfartodydd haner-blynyddol yr eglwys hon, Sul a Llun, Rhagfyr 12fed a'r I3eg. LLANDEILO.—Dechreuymis olafyn y flwyddyn cafwyd gwasanaeth gwerthfawr yr efengyles Miss Rosina Davies, o dan nawdd Pwyllgor y Gronfa, yn y cylch hwn. Gwasanaethwyd mewn amryw eglwysi yn ystod ei chenadaeth. Cafwyd cynulliadau llu- osog iawn, ac oedfaon effeithiol. Da oedd gan lu o'i hen edmygwyr gael y cyfle o'i gwrando unwaith yn rhagor, a chawsom ar ddeall fod effeithiau daionus yn aros ar ol ei hymweliad y waith hon eto. Arosed y gwlith nefol ar yr egin grawn, fel y tyfo ffrwyth gwerthfawr yn y meusydd y bu ein chwaer yn hau Gair y Bywyd. SOAR, SEVEN SISTERS.—Gwasanaethwyd yn nghyfarfod haner-blynyddol yr eglwys hon, ar Rhagfyr I2fed a'r i3eg, gan y Parch Stephen Thomas, Salem, Llandeilo, pryd y cafwyd oedfaon dymunol iawn. Cafwyd arwyddion amlwg o bresen- oldeb y Meistr yn ein plith.

Family Notices

Advertising

Advertising

Family Notices