Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYNGRAIR EGLWYSI RHYDDION…

News
Cite
Share

CYNGRAIR EGLWYSI RHYDDION AC EFENGYLAIDD CYMRU. PWYLLGOR YMGYRCH DADGYSYLLTIAD. DADGANIAD AR GYFER YR KTHOUAD CYFFREDINOL. At yr Etholwyr perthynol i Eglwyst Rhyddion Cymru. Bu gwaith yr Arglwyddi yn gwrthod y Gyllideb am eleni yn achlysur Etholiad Cyffredinol ar unwaith. Mae'r Prifwein- idog, ar ran y Weinyddiaeth a'r Blaid Ryddfrydol, wedi datgan yn glir mai prif amcan yr Etholiad fydd rhoddi hawl i'r Weinyddiaeth i wneyd terfyn ar rwystraeth Ty yr Arglwyddi, nid yn unig yn nglyn a'r Gyllideb a Mesurau Arianol, ond yn nglyn a phob Mesur y cafwyd awdurdod iddo gan yr Ktholwyr. Yn nychweliad y Weinydd iaeth gyda mwyafrif mawr, gan hyny, gwneir yn bosibl, nid yn unig ddeddfwr- iaeth gyfiawn yn nglyn ag Addysg a'r Fasnach Feddwol; ond- hefyd, fel y dy- wedodd Mr Asquith yn glir a phendant, ( symudir yr unig rwystr i basio Mesur i ddadgysylltu a dadwaddoli Eglwys Loegr yn Nghymru. Ei eiriau ei hun ydoedd;- c Bydd hawl y Cymry i gydraddoldeb ] crefyddol, a luddiwyd cyhyd, yn cael ei datgan, mi gredaf, yn yr Etholiad hwn gyda chymaint egni argyhoeddiad ag j erioed, a chyda chryfed prawf ei bod yn gri genedlaethol mewn gwirionedd. Y mae un rhwystr, ac un yn unig, i'w sylwedd- oliad [sef, Ty yr Arglwyddi]. Yr ydym, gan hyny, yn anog aelodau yr Eglwysi Rhyddion yn Nghymru i sicrhau addewidion pendant gan yr ymgeiswyr y bydd iddynt ymdrechu i'r eithaf i gadw Mesur Dadgysylltiad Cymru yn y safle bresenol o flaenoriaeth yn rhaglen ddeddf- wriaethol y Weinyddiaeth, fel ag i'w sicrhau yn ddeddf y cyfle cyntaf posibl yn y Senedd nesaf. EVAN JONES, Elywydd. ED WARD THOMAS, Cadeirydd. JAMES EVANS, Ysg. Anrhyd. 36, Pentyla, Aberafon, Port Talbot.

CARMEL, FOCHRIW. ---

'TRO DRWY FRO Y DEGWM.'

Y GYFEILLACH GREFVDDOL.

NODION 0 LUNDAIN.

CAERFYRDDIN.

Advertising