Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MORIAH, PEN FRO. i

News
Cite
Share

MORIAH, PEN FRO. CYFARFOD SEFYPI<U. Nos Fawrth a dydd Mercher, Mai neg a'r 12fed, cynaliwyd cyfarfodydd yn nglyn a, sefydliad y Parch E. Afan Jenkins, gynt o Bantycrwys, yn weinidog ar yr eglwys uchod. Y Sabbath blaenorol a nos Fawrth, pregethwyd yn y cylch gan y Parchn J. Lewis, Blaenycoed Lewis (B.), Craigcefnparc Richards, Tre- banos Penar Griffiths, Pentre Estyll; J. Davies, B.A., Mynyddbach; E. Jones, Clydach; D. Davies, Felindre M. G. Dawkins, Tre- foris B. Davies, Plasmarl; a Lewis (B.), Salem, Llangyfelach. Yn Moriah, nos Fawrth, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch W. J. Rees (B.), Maenclochog a phregethwyd gan y Parchn L. Evans, Capel- ywig, a Mafonwy Davies,Solfach. Boreu Mercher, dechreuwyd gan y Parch J. T. Gregory, Bryn- berian a phregethwyd gan y Parchn D. Rees, Rock, a B. Davies, D.D., Castellnewydd Emlyn. Am 2 o'r gloch, cymerwyd at y lywyddiaeth, yn absenoldeb y Parch. J. Stephens, Llwyn- yrhwrdd, gan y Parch J. T. Phillips, Hebron. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch D. E. Williams, Henllan. Wedi cael ychydig eiriau gan y llywydd, galwyd ar Mr THOMAS, Pilmawr, ysgrifenydd eglwys Moriah, i gyflwyno i Mr Jenkins, dros yr eglwys, nifer luosog o lyfrau gwerthfawr. Cafwyd ganddo anerchiad byr a phwrpasol. Rhoddodd ychydig o hanes yr eglwys, a'r gweinidogion fuons yn y lie, ac hanes yr alwad i Mr Jenkins. Dywedai fod yr alwad yn hollol unfrydol. Siaradwyd hefyd dros eglwys Moriah gan Mr BEN EVANS. Gobeithiai gael cadw y gweinidog yn hir. Diolchodd Mr JENKINS yn gynes i'r eglwys am y llyfrau. Dywedodd fod yr eglwys oddiar y cychwyn wedi bod yn hynod o garedig iddo. Addawai roi ei oreu iddynt. Yr oedd yn glynu wrth hen wirioneddau mawrion crefydd; yn penderfynu cadw'r Groes yn amlwg. Dywedai na chawsai neb achos i ofyn ar y Moriah hwn tra y byddai yma Pa le y mae Oen y poeth- offrwm ? Diolchai am weled nifer mor luosog o'i frodyr yn y weinidogaeth yn bresenol ac yr oedd yn neillduol o dda ganddo weled cynifer o Bantycrwys yno, a'i fam oedranus. Yna siaradwyd gan y brodyr canlynol:— Y Parch B. DAVIES, Plasmarl: Yr oedd yn dda ganddo fod yn bresenol. Mr Jenkins wedi d'od i Moriah yn y ffordd iawn; wedi cael galwad drwy weddi. Yr eglwys yn hoff o lenorion wedi cael llenor a bardd. Mr Jenkins yn ddyn o ysbryd iach, ac yn ddyn caredig. Y Parch D. S. DAVIES (B.), Login Yn bresenol fel cymydog. Wedi bod yn y gymydogaeth dros 38 o flynyddoedd. Rhywbeth yn Mr Jenkins gan fod cynifer wedi d'od o bell i'r cyfarfod. Yn d'od i eglwys garedig. Cynghorai hwynt i Weddio llawer drosto. Y Parch EIDDIG JONES, Clydach: Yn dda ganddo fod yn bresenol i ddangos ei barch mawr 1 Mr Jenkins, a chymeryd rhan yn ei gyflwyno o Gyfundeb Gorllewin Morganwg i Gyfundeb t>e.nfro. Yr oedd yno yn cynrychioli ei eglwys Ymunent arno gyflwyno eu dymuniadau goreu Mr Jenkins yn ei faes newydd. Yn frawd teilwng y gallent ymddiried yn dawel ynddo. Wedi gwneyd gwaith da yn Mhantycrwys. Yn colli ffrynd calon Y Parch D. DAVIES, Felindre: Yn gyfar- vvydd a'r ddau faes. Yn llongyfarch yr eglwys ei dewisiad. Y sefydliad yn un hapus. Yn ^yledswydd arno fod yn bresenol wedi gweinid- Ogaethu yn yr un maes wedi ei gael yn gy- ^ihorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Mr. IVOR JONES, Pantycrwys: Yn teimlo iliraetli ar ol Mr Jenkins yn Pantycrwys yn gweled ei eisieu yno yn barod. Yn weinidog rdderchog. Yn adnabod y plant wrth eu «euwau. ■ Mr. D. N. JONES, Pantyerwys: Siarad yn anhadd; nis gallai ddyweyd ei deimlad. Mr Jpikhis ac yntau wedi bod yn gyfeillion agos. oeHri wedi ymadael a Phantycrwys yr 9r.ei ddylanwad yn aros. A ^ARCH E. D. EVANS, Penygroes: Yn croes- ad<^ Jenkins i Gyfundeb sir Benfro, ac yn va^ cyineryd gofal ohono. falch RC^ — DAVIES (M.C.), Cwmbach Yn j>r 1 yn bresenol i'w groesawu fel cymydog ^rdal. Mr J enkins mewn cwmni da yn Moriah. crop ("R- WIIJJAMS, St. Clears Yn rhoi fyrdd^W *^r Jenkitis i Orllewinbarth sir Gaer- yw vlu- Mr Jenkins yn un gwreiddiol—un nad yn debyg i neb arall. Anogai hwynt i roi chwareu teg iddo, a byddai yn sicr o wneyd daioni iddynt. Y Parch P. E. PRICE, Glandwr Yn croesawu Mr Jenkins dros eglwysi Glandwr a Chefn- ypant i gylch y Gymanfa Ysgolion. Yn rhoi argraff ei fod eisoes yn hapus yn ei gylch newydd. Mr Jenkins yn sicr o wneyd gwaith rhagorol yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Y Parch LEWIS (B.), Craigcefnparc: Adnabyddiaeth o Mr Jenkins am 13 o flynydd- oedd. Wedi gweled ei eisieu yn Pantycrwys. Wedi ei brofi yn ddyn. Eglwys Pantycrwys wedi bod yn loyal. Moriah wedi cael dyn ardderchog. Y Parch D. R. DAVIES, Rhydyceisiaid Yn dda ganddo fod yn bresenol. Wedi clywed digon am gymeriad y gweinidog a'r eglwys. Cynghorai hwynt i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Y Parch D. REES, Rock-gweinidog mam- eglwys Mr Jenkins: Gallai ddyweyd llawer. Mr Jenkins yn gymeriad cyflawn. Meddwl mawr am dano yn Cwmafon. Yn ddyn wedi ymroddi i'r gwaith. Dymunai arnynt gyd- weithio ag ef. Y Parch J. DAVIES, B.A., Mynyddbach: Wedi d'od i ddymuno yn dda i'r eglwys a'r gweinidog. Yn teimlo eu bod yn Nghwm Tawe wedi colli cyfaill caredig. Ei bresenoldeb fel heulwen Mai. Y Parch M. G. DAWKINS, Treforis: Yno i ddangos parch. Mr Jenkins yn gyfaill ffyddlon a chywir. Ddim yn gallu gwneyd tro gwael. Yn barod bob amser i wneyd cymwynas. Rhoddai gymhorth iddynt fod yn ddedwydd. Y Parch LEWIS (B.), Llangyfelach Mor gyfarwydd a neb o Mr Jenkins. Wedi cael llawer o fwynhad yn ei gymdeithas. Yn frawd sydd yn werth ei ganmol. Dymunai Dduw yn rhwydd iddo. Y Parch D. PEREGRINE, B.A., Trelech Lion- gyfarchai y ddwy ochr. Gobeithiai y byddai yn ddylanwad ysbrydol yn y lie. Mr Jenkins wedi bod yn garedig iddo. Y Parch W. THOMAS, Llanboidy: Teimlai gyfrifoldeb yn nglyn a'r cyfarfod, am iddo gymeryd rhan yn symudiad Mr Jenkins. Yn ddyn yn llawn o'r Efengyl. Y Parch D. G. RICHARDS, Trebanos Gwnewch yn fawr ohono. Cynorthwywch ef drwy roi gwrandawiad da iddo. Bydded llewyrch y pwlpud ar bobpeth fydd yn wneyd. Y Parch J. LEWIS, Blaenycoed: Ddim yn meddu adnabyddiaeth helaeth o Mr Jenkins. Da ganddo am yr hyn a glywai. Yr oedd ganddo adnabyddiaeth dda o eglwys Moriah, a syniad uchel am dani. Hoffai eu gweled yn ffyddlonach eto. Mr E. H. JAMES, Y.H., Derlwyn Dymunai yn dda i'r undeb. Yn hoffi Mr Jenkins fel pregethwr. Gobeithiai y byddai yn llwyddiant mawr, ac y gwnai waith efengylwr yn yr ardal. Y Parch PENAR GRIFFITHS, Pentre Estyll: Cydymdeimlai a Mr Jenkins arddiwedd y cwrdd, am ei fod wedi ei ganmol gymaint. Yn ddyn gwych. Bywyd naturiol. Ei ddyfodiad i'r lie yn gyfle newydd i'r eglwys. Dymunai arnynt apelio at y goreu oedd ynddo, a pheidio bod yn brin yn eu-canmoliaeth. Pan y try ei wyneb yn ol at ei gyfeillion yn ardal Abertawe, am dro neu i aros, bydd croesaw mawr iddo ar eu haelwydydd. Y Parch G. HIGGS, B.A., Whitland Mynegai ei lawenydd fod gwr cystal wedi ei gael i fugeilio yr eglwys. Dywedai y CADEIRYDD Rhaid fod Mr Jenkins yn ddyn da, gan fod y brodyr wedi beiddio siarad mor uchel am dano. Mr Jenkins wedi d'od i'r Cyfundeb goreu yn y wlad. Dymunai ei gysur a'i lwyddiant.. Diweddwyd y cyfarfod gan y Parch R. J. Morgans, Ffynonbedr. Dechreuwyd yr oedfa 6 o'r gloch gan y Parch E. Jones, Clydach a phregethwyd gan y Parchn D. Evans, D.D., Hawen, ac R. Rees, Alltwen. Siaradodd hefyd y Parch M. Jones, B.A., Whitland. Gwelwyd yn bresenol, heblaw y rhai a enwyd, Parch Griffiths (B.), Gelliwen Mri John Wood, Pantycrwys John George, eto; Lewis, golyg- ydd y Pembroke and County Guardian Cynghor- wr Phillips, Caerlleon; Mri John Thomas, Clydach William Davies, David Lewis, Phillip Davies, J. P. Davies, Hopkin Williams, Pont- ardawe a Mr John Richards, Treforis. Daeth tyrfa fawr o Bantycrwys, Clydach, Pontardawe, a Chwmafon.. Derbyniwyd llythyrau yn gofldio am absenol- deb oddiwrth nifer fawr o frodyr.. Cafwyd hin ddymunol, a chyfres o gyfarfod. ydd ardderchog. Mae ein hanwyl frawd yn dechreu ar ei weinidogaeth yn ei faes newydd o dan amgylchiadau hynod o gysurus. Mae ganddo faes y gall wneyd llawer o waith ardder- chog ynddo. Dymunwn iddo lwyddiant a ded- wyddwch mawr. Gorphwysed bendith yr Arglwydd yn helaeth ar yr undeb. Gwnaed darpariadau helaeth gan yr eglwys yn Moriah ar gyfer y gynulleidfa luosog. Yn nghyfarfod y prydnawn, darllenodd Brynach y llinellau canlynol:— Amrywiol fawl sy'n Moriah-i fwyn Feistr y gynulleidfa,— Hoelen wyth-saint lawenha Dan emyn y dyn yma. iJl Gwr didwyll o gredadyn,—a da was Gyfyd hwyl ei delyn Yn ysbonc sionc yw Siencyn,— Hyawdl dd'wed fel duwiol ddyn. Ei ben teg, crych, o Banctyrwys-a drodd Draw at Benfro'n gymhwys, A rhedodd i'w Baradwys Yn mherl ardd Moriah lwys. Tlysni ei weddi fo'n hud—a'i bregeth Yn brigo o'r pwlpud O'i galon llifed golud Bri hen drefn y croesbren drud. Diwyro fo'i dafod arian-i ddeddf Ei Dduw fflamied trydan Sancteiddiol y Dwyfol dan Fwyn wefus Ifan Afan. R. E. P. —

SOAR, PENBOYR.

Advertising