Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
."-. YR YSGOL SABBATHOL
News
Cite
Share
YR YSGOL SABBATHOL Y WERS RYMJWIADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D TREFFYNON. Mehefin Ged.-Gallu y Tafod. -Iago iii. 1-12. Y Tbstyn Euraidd.—Y neb a gadwo ei euau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyng- der.Diar. xxi. 23.
Y RHANAU i'w DARLLEN YN Ddyddiol
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y RHANAU i'w DARLLEN YN Ddyddiol Llan (Mai Slain).—Iago iii. 1-12. Mawrth (Mehefin laf).Ter. ix. 1 8. Mercher.—Zach. viii. 9-17. Iau Salm Iii. 19. Gwener.—Salm xii. 1-8 1, Sadwrn.-Diar. x. 11-22 Sabbath.-Salm xxxiv. 11-18. 1:.
Rhagarweiniol,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Rhagarweiniol, Ysghikenwyd yr epistol hwn gan l'ago, brawd yr Arglwydd. Cyfeirir ef at yr luddewon Cristionogol oedd ar wa,sgar. Gan eu bod mewn amgylchiadau adfydus, calonoga hwy, a rhydd iddynt gyfarwyddiadau cyfaddas i'r amgylchiadau oeddynt ynddynt. Yna darlunia natur gwir grefydd, o ran ei tharddiad, a'i dylanwad ar y galon, ac ar yr ymarweddiad. Anoga hwy i ddangos caria(l a brawdgarwch yn annibynol ar yr amgylchiadauallanol I Dengys ragrith yr hwn sydd yn proffesu fod ganddo ffydd, heb fod ganddo weithredoedd yn cyfateb i'w broffes Rhybuddia hwy rhag bod yn rhy brysur i feio ereill; ond yn hytrach ffrwyno y tafod, yr hwn,er nad ydyw ond aelod bvchan, eto, y mae yn achos llawer o ddaioni ae o ddrygioni. Dywed Solomon, 'Ateb araf- aidd a ddetry lid; ond gair garw a gyffry ddigofaint.' Yn y Wers, cymharir y t,afod i ffrwyn yn mhen y march, llyw llong, gwylltfilod heb eu dofi, ffynon, pren. Esboniadol Adnod 1. Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr; gan wybod y derbyniwn ni famed igaeth fwy.' Cyf. Diw" 'Na fyddwch athrawon lawer.' Rhybudd yn erbyn gorawydd i honi bod yn athrawon. Gosod eu hunain i fyny fel rhai teilwng i ddysgu ereill. Cymharer Matthew xxiii. 8-10. Gan wybod y derbyniwn ni, &c. Gwelwn ostyngeiddrwydd yr aposbol yn gosod ei hun i fewn. Ni fyn roddi rhy- budd i ereill, heb ei gymiiwyso ato ei hun. Farnedigaeth, Barn gondemniol. Matthew xxiii. 14. Adnod 2. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gwr perffaith yw hwnw, yn gallu ffrwyno yr holl gorff hefyd Yn llithro Stumble. (tier perffaith. Un wedi tyfu i gyf- lawn faintioli cymeriad moesol perffaith. Nodir llywodraethiad y genau fel y test sydd yn profi y perffeithrwydd. Y mae yr hwn sydd yn -r ,allu Ilywodraet[iii y tafod w(-,di cyrhtpdd saile uchel iawn mewn moesol d ab ac ysbrydol- rwydd cymeriad. Adnod 3.—' Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau yn mhenau y meirch, i'w gwneuthur yn ufaddi ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddiamgylch,' Yn yr adnod hon a'r nesaf, dengys yr apostol y gallu sydd gan y tafod, trwy ddwy gymhariaeth syml. Y ffrwyn yn mhen y march, a'r llyw yn llywodraethu y Hong. Gyda,"r ffrwy-n y mae y march yn cael ei droi yn ol ewyllys y marchogwr. Adnod 4.—' Wele, y llongau hefyd, er en maint, ac er eu gyru gan wyntoedd creulon, a droir oddiamgylch a, llyw bychan, lie y myno y llywydd.' Wele, y llongau hefyd, &c. Y mae y Hyw, er yn fychan, yn troi y llong yn ol ewyllys y llywydd. Felly y mae y tafod yn ei allu. Adnod 5.—'Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn tlrosfcio pebhau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y tnae ychydig dan yn ei enyn Yn ffrostio pethau mawrion. Nid boast wag, ond boast ag oedd sail wirioneddol lddi. Wele, faint o ddefnydd. Ncu faint o good-how great a forest-yehydig dan yn t inio forest fawr. A spark will set ablaze the illimitable forest' Adnod 6.—'A'r tafod, tan ydyw, byd o an sQynawnder. Felly y mae y tafod wedi ei yn mhlith ein haelodau ni, fel y mae yn -A" halogi yr holl gorfr, ac yn gosod troell natur iaeth yn fflarn; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.' A'i, tafod, t(in ydyw, Y mae y gymhariaeth yn y rhan olaf o r adnod flaenorol yn cael ei chymhwyso at y tafod. Y n yr adnod hon defnyddia yr ysgrifenydd ymadroddion byrion, gwahanol, i osod allan y drwg mawr a wneir gan y tafod-byd o anghyfiawnder-yn balogi yr holl gorff. Yr axle ar ba un y mae olwyn bywyd yn troi, a thrwyddi y rhoddir hi ar dan Wedi ei wneuthur yn fjiam gan uffern Y mae lago yn olrhain pechodau y tafod yn ol i'w tarddiad-fflnm Gehenna. Adnod 7.—' Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y mor, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol.' Canys holl natur gwylltfilod. Gwylitfilod o bob math o natur. Golygir creaduriaid pedwar carnoi. Ymlusgiaid. Creeping things, o bob rhywogaeth. A ddofwyd ac a ddofir yn barhaus. Adnod 8.-1 Eitb.r v tafod ni ddichon un (hn ei ddoii; drwg aalIywodraethub ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.' Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi. Nid oes unrhyw allu perthynol i natur dyn yn alluog i'w ddofi. Ond gwyddai Iago fod yr hyn sydd anmhosibl i ddyn yn bosibl i Dduw. Rhaid cael gallu Duw i ddofi y tafod. r Adnod 9.—' Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad ag ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, a wnaethpwyd ar Inn Duw.' Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad. Detnyddir y ffaith i ddangos anghysondeb ymadroddion hyd yn nod y rhai oedd yn proffesu ffydd yn Nuw. Diau fod yma gyfeiriad at ymddygiad yr luddewon Cristionogol at y Cenedloedd. Dangosir gwagder proffes y rhai oeddynt a'r un tafod yn bendithio Duw ac yn melldithio eu cyd ddynion. Y mae y rhybudd yn briodol iawn i broffeswyr yn ein dyddiau ni. Adnod 10.—' 0'1' un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.' O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Yr oedd hyn yn afresymol, ac yn profi drygioni y galon. Ni ddylai y pethau hyn fod felly. Hyn yn groes i natur a deddf. Adnod 11.—' A ydyw ffynon o'r un llygad yn rhoi dwfr melus a chwerw ?' A ydyw ffyuon o'r un llygad. O'r un tarddeli. Y mae tarddoll y ffynon yn cyfateb i'r galon, a'r ffrydiau yn cyf- ateb i ymadroddion y genau. Eglurir au- mhosibilrwydd moesol trwy anmhosibilrwydd naturiol. Adnod 12.—' A ddichon y pren ffigys, fy ti-trodyr, ddwyn olifairt ? neu winwy(l(len, ffigys ? folly ni ddielion un ffynon rod?-li dwfr htllt a chroew.' A ddichoii. y p?-e?n fftq Fol y y.3. byddo y pren o ran ei natur, felly y bydd y fffwyth. Nis gall y pren ddwyn ffrwyth ond o un rhywogaeth. Nis gall y ffynon roddi ond dyfroedd melus neu chwerw. Nis gall y tafod fendithio a melldithio. Os ydyw yn. melldithio, nid oes dim ystyr yn ei fendithio -nid ydyw y fendith yn gymeradwy. Nis gall y rhai sydd yn melldithio folianu Duw.
GWKRBI,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
GWKRBI, I. Gallu y tafod i argyhoccldi-i berswadio. Fel y mae y ffrwyn yn mhen y march, neu y IIyw yn llywodraethu y Hong, felly y mae y tafod yn gallu penderfynu cwrs bywyd dyn yn ei berswadio i droi o'r naill l.wybr i Iwybr arall. Gallwn ddylanwadu ar ereill trwy ein geiriau-eu harwain oddiwrth y drwg at y da— eu harwain i rodio llwybrau rhinwedd a daioni Y pwys o arfer y tafod i berswadio at yr hyn sydd dda. II. Gallu y tafod i niweidio. Tan ydyw, medd Iago. Y mae y tafod athrodus fel taa yn deiflo cymeriadau. Nis gellir dirnad dylanwad fiiweidiol geiriau yr athrodwr. Y fath felldith sydd yn perthyn i dafod wedi ei wneyd yn fflam gan uffern. Ond gellir troi y gallu hwn i amcanion daionus—i gynyrchu ca,riad a brawd- garweh, III. Gallu y tafod i fendithio. Y mae Ðuvv wedi rhoddi awdurdod i ddyn. ar ei dafod. Gall benderfynu pa betta. i ddywedyd, Gall benderfynu bod yn ddystaw. Y defnvdd nchaf y gall dyn wneyd o'i dafod i'w 'bendithio Duw' bod yn offeryn addoliada nsawl. Dylid cofio mai o helaethrwydd y galon y mae y tafod yn llefarn. Y mae nodwedd y galon yn pen- derfynu nodwedd y geiriau. Ein gwr di ddylai fod—' Crest galon lan ynof, 0 Dduw.' GOFYNIADAU AR Y WERS, 1. Pwy oedd Iago ? At bwy yr ysgrifenodd yr epistol hwn ? 2. Paham yr oedd yn rhoddi y fath bwys ar lywodraethn. y tafod ? 3. Pa fodd y mae yn dangos fod pertbynas rhwng llywodraethiad y tafod a chynydd bywyd moesol ac ysbrydol? 4. Pa gymhariaethau a ddefnyddir gan yr apostol i osod allan y gallu mawr sydd gan y tafod ? 5. Yn mha ystyr y gellir dywedyd am y tafod, A'r tafod tan ydyw' ? 6. Pa fodd y mae esbonio yr ymadrodd- Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi I ? 7. Pa ddefnydd a wneir o'r tafod ? Beth oedd ystyr uniongyrchol yr ymadrodd -I Ag ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion ? 8. Pa ddefnydd a wneir ganddo o'r cymhar- iaethau ffynon a I phren "? 9. Pa fodd y mae yn dangos nas gall yr hwn sydd yn melldithio dynion fendithio Duw ? f';
EBBW VALE.'
News
Cite
Share
EBBW VALE. Eglwijs Libanus.—Cynaliwyd cyfarfod preg- ethu yn Libanus ddechreu Mai, pryd y gwas- artaef hwyd gau y Parchn J. Morris,*Caerdydd, cyn-weinidog, a J. Cradoc Owen, y gweinidog. Gaed oedfaon gwlithog a chasgliadau da. Da gan bawb oedd gweled a chlywed Mr Morris mor gryf ar ol y brofedigaeth lem o golli ei fab, Penry. Deailwn ei fod yn bwriadu ym- ddeol o'r weinidogaeth sefydlog tua diwedd y llwyddyn hon. Boed iddo nawnddydd. teg ac hamdden hir gyda'i hoff efrydiau. Cymanfa GaTiu.-Ar yr ail flan yn Mai, cynaliwyd Cymanfa Ganu y cylch yn Libanus. Unodd corau Carmel, Saron, a Libanus i wneyd un Gymanfa gref. Rhifai y lleisiau tua 400. Yn y boreu caed y plant i ganu tonau swynol, sef Rickmansworth,' Goshen,' I Stwley,' Y Plentyn lesu,' 4 Dyddiau Hyfryd,' Dysglaer yw ein Baner," Y Milwr Bach,' a Wells New.' Yn y pryduawn a'r hwyr, canwyd y tonau can- lynol: Mayfield,' Castle Rising,' 4 St. Chrysostom,' I St. Aelred,' 4 Houghton,' 4 Llan- goedmor,' 4 Bronclydwr,' 'St. John,' 'St. Michael,' 'Min-yr-afon,' 'Lyons,' Henryd,' 'Rhyddid,' 4 Ymlyniad,' Aberteift,' 4 Emyn Hwyrol,' a'r anthemau, Pwy yw y rhai hyn ? (Stainer), a 4 Duw a sych bob deigryn' (Gabriel). Arweiniwyd yn ddeheuig ac yn feistrolgar gan Mr T. Glyndwr Richards, Mountain Ash. Llywyddwyd gan y tri gwein- idog. Caed Cymanfa a hir gofir gan y dyrfa ddaeth yn nghyd i wrando.
LLAWER 0 ACHOSION ANAMHEU-EDIG…
News
Cite
Share
LLAWER 0 ACHOSION ANAMHEU- EDIG 0 MERTHYR. Nid oes dim y dylid ei ofni yn fwy nag anhwvlder yr arenau, oblegid yn ami y mae heb ai adnabod hyd nes y bydd wedi lledaenu afiechyd peryglus trwy yr holl gorff. Mae llawer o achosion felly yn Merthyr, ac os y cewch y fath arwyddion diamheuol o anhwylder yr arenau a phoeu yn y Iwynau a'r cefn, anhwylderau troethol, grafel, chwydd y dyfrglwyf, poenau y crydeymaiau, a llesgedd parhaus, dylech elwa oddiwrth brofiad y fenyw hon o Ferthyr. Mrs M. A. Wlliams, 24 Penuel-street, Twyn- yrodyn, Merthyr, a ddywed: Yr oeddwn yn arfer cael y fath boenau llusgol yn fy nghefn fel y teimlwn hi yn anhawdd lawn i ymsythu ar ol plygu i lawr. Ni chawswn ddim gorphwysdray nos oblegid y poenau; teiinlad au pen-syfrdanol a'm blinent, ac yr oedd fy nghoesau a'm fferau wedi chwyddo. Dyoddefwn hefyd oddiwrth ddiffyg treuliad, a chawswn boenau yn fy mrest, y rbai a aent trwodd i fy ysgwyddau. Yr oeddwn yn ami mor wael fel y gorfyddid fi i orphwys pan wrth fy ngwaith. Yr oeddwn wedi clywed am Doan's Backache Kidney Pills, a gwnaethum fy meddwl i fyny i wneyd prawf arnynt. lir fy llawenydd, hwy a esmwythasant yn fuan fy nghefn, a. llonasatit fi yn fawr. Parheais gyda'r pelenau, a gallaf ddyweyd eu bod wedi gwneyd y byd o les i mi; mae y poenau oil wedi myn'd yu Ilwyr. Yr wyf yn ddiolchgar i Beleuau Doau am y budd a dderbyniais.' Mae Doan's Backache Kidney Pills yn ddau swllt a naw ceiniog y blwch, neu chwe' blwch am dri swllt-ar-ddeg a naw ceinog, gan yr holl fferyllwyr, neu yn rhydd drwy y post oddiwrth y Foster McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford- street, London, W Byddwch yn ofalus i gael yr un math o belenau ag aJ gafodd Mrs Williams.