Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

1RHANBARTH GPENYBONT-AR OGWY.…

News
Cite
Share

1RHANBARTH GPENYBONT-AR OGWY. '■ 'I v. LlunfPasg, fel arfer, cynaliwyd cylchwyl flynyddol plant Annibynwyr y cylch hwn eleni yn Pencoed, yr hwn gwr o Fro firain Morganwg ddawnsia gan ysblander anianyddol pan wisga'r haf y rhandir ag arddunedd, ac yr estyna y dail niegy-si lIwyfanau i groesawu cor y wig i gathlu ei gerdd yn nghyngerdd y dddl lwyswerdd a'r gwastadedd pelydrog yn nghymanfa tlysineb a daeth llu yn nghyd er yr hin wleb. Cynwysai y rhaglen y tdnau canlynol o I Ganiedydd yr Ysgol Sul: St. Paul,' I Bydd yn wrol,' Plymouth.' Deuwch, blant,' Mae Iesu'n derbyn plant,' Voryd,' a 'De'wch i'r Ysgol gyda Pwy sydd o fewn y nef yn byw (Dr Parry), 4 Yr Ysgol Sul' (T. J. Hughes, F.T.S C., Llwynhendy, Dring i fyny' (Gwilym James, A.C., Ferndale), Unwn gyda'r fyddinjj' (M. Williams, A.C., Nant- ymoel), Coroniad (Lewis Thomas,, Cefncribwr), a Cysegriad' (T. Price, G. & L., Merthyr Tydfil)! Darparwyd yr Holwyddoreg eleni gan y Parch W. Oscar Owen, yr hwn yw ei drydydd i faes y Gy- manfa hon yn ystod ei deng mlynedd ymaith. Gwir brydferth oedd tarawiad sain y plant, a'u hyngan- iad eglur goronai eu mynegiant byw. Mawr hoffid ami awgrym roddodd yr arweinydd, Mr M. Williams, A C., Nantymoel, a medr i roddi effaith i'r cyfryw yn meithriniad lleisiau y plant olyga ddad- blygiad amlwg yn nghaniadaeth ddyfodol Seion. tra gydaglychydig mwy o Iwyredd gyda'r Holwyddoreg byddai sicrwydd pellach am egwyddoriad dwfn yn hanfodion credoaeth oleuedig, a natur y gredo ben- derfyna y fuchedd. Llywyddwyd gan Mri Jacob Edwards, Blaenogwy, Nantymoel; W. Richards (Hirgoedfab), Cefncribwr a T. Lucas, A.C., Cwm. ogwy; tra yr holwyd gan y Parchn S. Jones, Tre- oes; G. R. Griffiths, Coity a H. Eynon Lewis. Dechreuwyd a diweddwyd y cyfarfodydd gan y Parchn S. Jones J. A. Roberts, Nantymoel; Eynon Lewis; R. Jones, Pencoed; a Mr John Stenner, Cefncribwr. Profodd Miss Ruth Davies, Bethel, Nantymoel, ei medr fel organyddes ar hyd y dydd. Y buddugwyr ar d6nau cyfaddas i raglen y plant oeddynt Mri Lewis Thomas, y wobr flaenaf, a Morgan Williams, A.C., arweinydd y dydd, yr ail wobr. Blin gan bawb oedd deall fod yr hin wedi rhwystro y Parch E. Davies, Abercynffig, i fod yn bresenol, tra wedi parotoi i gychwyn ond rhaid iddo arfer gofal am ychydig, er yn gwella yn gyflym, a gobeithiwn yn cadarnhau ei gwmni a'i wasanaeth diymffrost am lawer blwyddyn eto i'r rhai deithiant o Bethlehem i'r Olewydd. Cafwyd gwyl wir ddyddorol, ai chenadaeth ddyfnheir fel meithrinfa i'r alwedigaeth nefol.

BRYNTEG A'R CYLCH.

CYMANFA GANU TABERNACL, PONTYCLUN.

MACHYNLLETH.

DYFERWST FFROENOL A DIFFYG…