Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.

News
Cite
Share

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU. Dydcl Mercher, Ebrill 2Bain, 1909, cynaliwyd cyfarfod arbenig o Bwyllgor Gweithiol y sefyd- liad uchod yn Llyfrgell yr Athrofa, am 11.30 a.m. i ystyried y sefyllfa yn ngwyneb ymddiswyddiad yr Athraw, y Parch T. Rees, M.A., yn herwydd ei fod wedi peiiderfynu cydsynio a chais Pwyll- gor Athrofa Bala-Bangor i lenwi y gadair a adawyd yn wag drwy farwolaeth y Prifathraw y Parch Lewis Probert, D.D. Yr oedd yn bresenol y Cadeirydd, y Parch H. A. Davies, Aberdar; yr Athrawon y Trysorydd; yr Ysgrifenydd y Parchn L. Jones, Ty'nycoed T. Hughes, Caer- dydd; J. Jones, Senghenydd J. I-I. Parry, Llansamlet; Ben Evans, Barry; J. C. Owen, Ebbw Vale; J. Grawys Jones, Aberdar; J. Thomas, Jacob Jones, a D. E. Walters, M.A., B.D., Merthyr; J.J.Jones, B.A., a D. Lewis, Llanelli; R. E. Peregrine, B.D., Rhymni; R. Williams, Brychgoed D. E. Harries, Burry Port; L. Beynon, Builth W. Griffiths, Maen- ygroes G. S. Rees, B.A., Llandysul T. Llyfni Davies, B.A., Abertawe R. J. IIuws, Bethesda D. Miall Edwards, M.A., a T. Gwyn Thomas, Aberhonddu E. Aman Jones, B.A., Merthyr Vale J. Dyfnallt Owen, Pontypridd; L. Davies, Painscastle; J. Phillips, Cwniafon Gomer Harris, Llangynidr R. O. Evans, Cas- tellnedd C. T. Thomas, Groeswen Owen Jones, Mountain Ash"; J. T. Rhys, Godreaman; Mri D. Lleufer Thomas, bargyfreithiwr, Abertawe D. Jones, Talgarth W. L. Daniel, Y.H., a D. D. Williams, Merthyr H. Yorath, Talybont; D. James, Y.H., Trecastell; Dr W. Black Jones, Y.H., Llangamarch Josiah Griffiths, Treforis E. Price, Aberhonddu T. Vaughan, Crughywel D. Jones, Y.H., Ebbw Vale T. Thomas Bod- ringallt J. Powell Davies, Porth; a'r Parch D. Morgan, .Trallwm. Derbyniwyd gair oddiwrth y personau can- lynol yn egluro eu habsenoldeb :—Mri W. T. Lee, Aberhonddu Dr Griffith Evans, Bangor W. J. Parry, Y.H., Bethesda Parch J. S. Jones, Treoes; D. G. Williams, St. Clears; J. H. Rees, Burry Port; R. Peris Williams, Gwrecsam D. Jones, Cwmbwrla R. O. Hughes, Glantaf 1. Eynon Davies, Llundain ac H. Ivor Jones, Poor Agorwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch J. J. Jones, B.A., Llanelli yna darllenodd yr Ysgrifenydd y llythyr a dderbyniodd oddiwrth yr Athraw, y Parch T. Rees, M.A., yn hysbysu ei fod wedi dyfod i'r penderfyniad i dderbyn y cais taer ac unfrydol a dderbyniodd oddiwrth Bwyllgor Athrofa Bala-Bangor i ddyfod i lenwi cadair wag y Prifathraw yn y sefydliad hwnw. Mynegai mai nid heb gryn anhawsder y torai gysylltiad o ddeng mlynedd a'r Athrofa Y11 Aber- honddu, wedi deng mlynedd o gysylltiad hapus a'i gyd-athrawon, y myfyrwyr, a'r Pwyllgor, a phawb oedd yn dal cysylltiad a'r sefydliad. Ond teimlai fod y golofn yn ei arwain i Fangor, gan fod y cais, yr hwn 11awllaeth mewn modd yn y byd ei geisio, yn ymddangos iddo yn dyfod oddiwrth Ben yr Eglwys. Dymunai bob llwydd- iant i'r Athrofa yn Aberhonddu, gan obeithio mai nid diffrwyth fu ei gysylltiad a'r sefydliad, a hyderai y gallai fod yn foddion i ddwyn y ddwy Athrofa i gysylltiad agosach a'u gilydd, ac i gydwcithio i'r un amcan o barotoi gweinid- ogion y dyfodol. Gan ei fod wedi peiiderfynu ymadael, nid oedd gan y Pwyllgor ond derbyn ei ymddiswydd- iad, a gwnaed hyny drwy gynygiad y Cadeirydd ac eiliad y Trysorydd. Siaradwyd hefyd gan yr Ysgrifenydd, y Prifathraw Lewis R. J. Huws, Bethesda; J. J. Jones, B.A., Llanelli; J. Phillips, Cwniafon L. Jones, Ty'nycoed a J. Jones, Sengheuydd. Wedi pasio'r pender- fyniad, siaradwyd yn dyiier gan yr Athraw T. Rees. Pasiwyd penderfyniad i osod yn LIyfr y Cof- liodion gydnabyddiaeth y Pwyllgor o'r gwaith rhagorol a wnaed gan y Parch T. Rees, M.A., yn yr Athrofa yn ystod y dcng mlynedd y bu yn y Gadair Duwinyddol, a'r ymdeimlad mai anhawdd fydcl llanw ei le yn yr Athrofa a'r Sir. Y gwaith nesaf oedd gwneyd trefniadau ar gyfer Uenwi y Gadair ddaw yn wag yn niwedd Mehefin nesaf, a ueillduwyd Is-bwyllgor i'r amcan hwn, yn cael ei wneyd i fyny o'r Ath- rawon, y Cadeirydd, y Trysorydd, a'r Ysgrif- enydd, yn nghydag un aelod i gynrychioli pob Cyfundeb yn y Dywysogaeth, yn nghyda Chyf- undebau Cymreig Lloegr, sef y personau can- lynol :Parchn R. James, Llanwrtyd Proff R Auwyl, M.A., Aberystwyth; J. J. Jones, B.A., Llanelli; D. G. Williams, St. Clears; J. Grawys Jones, Aberdar Mr W. L. Daniel, Y.H., Merthyr Parchn J. H. Parry. Llansamlet; Ben Evans, Barry R. 0. Evans, Castellnedd Mr D. Lleufer Thomas, Abertawe Mr D. Jones, Y.H. Ebbw Vale Parchn R. E. Pere- grine, B.D., Rhymni; L. Berian James, B.A., Carfaii; J. Lloyd Williams, B.A., Tenby; L. Beynon, Builth R. T. Williams, Caergybi Mr W. J. Parry, Y.H., Bethesda; Parchn. J. Prytherch, Pwllheli J. Charles, Diiibych T. Talwyn Phillips, B.D., Bala D. Morgan, Tra- llwm D. Adams, B.A., Lerpwl; H. Elvet Lewis, M.A., Llundain H. Harries, M.A., Llundain a J. J. Poynter, Croesoswallt. Pendeffyllod(I y Pwyllgor wneyd yn liysbys fod y Gadair yn wag drwy gyfrwng y Tyst a'r British Congregationalist, a'i fod yn barod i dderbyn ceisiadau ynigeiswyr. Bydd yr Is- bwyllgor yn cael ei alw yn nghyd i ystyried y cyfryw, a chymeradwyo un lieu ychwaneg i ystyriaeth y Pwyllgor. Hyderir y gellir trefnu yr oil fel y bydd yn bosibl galw Cyfarfod Arbenig o'r etholaeth (Extraordinary General Meeting) yn nglyn a'r Cyfarfod Blynyddol ddiwedd Mehe- fin nesaf, fel y gellir dechreu y flwyddyn nesaf yn niwedd yr haf a'r Athrawon yn gyflawn o ran nifer. Derbyniwyd ymddiswyddiad un o fyfyrwyr y Cwrs Byr, sef Mr G. H. Davies, yn herwydd nad yw ei iechyd yn caniatau iddo fyned rhagddo a'i addysg. Dros y Pwyllgor, Troedrhiwdalar. D. A. GRIFFITH.

LITTLE HAVEN, PEN FRO.

Advertising

LITTLE HAVEN, PEN FRO.