Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
COLEG COFFADWRIAETHOL ABERHONDDU. WAI-IODDIR, gan Bwyllgor y Coleg uchod, G ymgeiswyr am y swydd o athraw mewn Doctrinal Theology, Theism, a Philosophy of Religion. Ceisiadau, yn nghyda thystlythyrau, i fod mewn llaw erbyn dydd Llun, Mai 17eg. Ceir manylion pellach ond anfon am danynt.— D. A. GRIFFITH, Garth, S.O., Breconshire. AT EIN GOHEBWYR. PWTSXG Dymunir ar ein Gohebwyr a'r Beirdd i ddal sylw ar y Cyfarwyddiadau can- ynol mewn perthynas a'u cynyrchion. Mae danfon Barddoniaeth i'r Swyddfa yn lie eu danfon i Pedrog, a chyfeirio Oohebiaethau i breswylfod y Golygydd yn lie i'r Swyddta, yn peri dyryswch ac anghyfleusdra mawr. i. I anion eu Gohebiaethau yn uniongyrchol i'r Swyddfa, gyda'u henwau priodol a'u cyf- eiriadau. 2. Rhaid danfon Barddoniaeth yn union- gyrchol i Olygydd y Farddoniaeth—y Parch. J. O. Williams (Pedrog), 30, Stanley-street, Fair- field, Liverpool. 3. Ni ellir sicrhau cyhoeddiad unrhyw oheb- iaeth yn y Rhifyn dyfodol os na chyrhaedda y "W 3 yddfa y boreu Gwener blaenorol. M. le.-Rhaid i chwi ein hesgusodi am beidio cy- hoeddi yr eiddoch. Mae derbyn ar y 14eg o Ebrill hanes amgylchiad a gymerodd Je ar y 4ydd 0 Bagfyr diweddaf ailan o bob rheswm. Mewn Llaw>—Caerdydd—Brynteg—Arholiad Undeb Ysgolion y Rhondda, &e.—Aberafon—Undeb Rhondda a Phontypridd—T. Gwernogle Evans-Saron, Tre- william-Myt,ydd Bach-Gwael odygn rth-Llain h'a ran- Llanidloes-Llangenech-J. U. Evans-Cymanfa Gane yn Nhreforis — Aberhosan—Treorci — Uwmcamlais— Libanus-Ferndale- Whitland-J. E. Thomas—Marw- olaethau—Cyfarfodydd—Rhwysg Hanes Uymru: Pa beth y w ?—Darlithiau Beiblaidd, &e, — —
Y GYLLIDEB NEWYDD.
News
Cite
Share
Y GYLLIDEB NEWYDD. CYNYRCHA y Gyllideb flynyddol ddyddordeb mwy cyffredinol na phob peth arall. Cyn- byrfa hyn y bywyd Seneddol drwyddo i gyd, a gwelir yn fynych ysgydwadau y bydd yn anhawdd iawn eu rheoli. Cyfranoga pob rhan o'r deyrnas o'r dyddordeb mawr, oblegid eyffyrdda y Gyllideb a buddianau lawer, a gwna unrhyw gyfnewidiad o bwys ynddi wabaniaeth sylweddol. Teimla Cymru ddyddordeb eithriadol yn y Gyllideb y flwyddyn hon, am fod y Cymro enwocaf a fagodd o fewn yr haner canrif di. weddaf yn dal y swydd uchel o Gang- hellydd. Ein Cymro blaenaf yn sicr yw Mr LLOYD GEORGE. Nid oes Gymro arall mor gyftredinol barchus gan yr oil o'r genedl, nac enw mor gyffredinol adnabyddus yn mhob rhan o'r byd. Anwylir ef yn mhob rhan o'n gwlad, a phe na buasai dim ond hyny, buasai yn ddigon i ddeffroi dyddordeb anarferol yn y Gyllideb. Ond yr oedd mwy. Dysgwyliai Cymru yn naturiol y rhoddasai ei ffafrddyn le yn ei Gyllideb i rai o'r gwelliantau y mae hi wedi bod yn eu pleidio er's blynyddau. Gwelai ei chyfle wedi d'od o'r diwidd, a theimlai yn sicr na adewid iddo basio heb wneyd defnydd ohono. Ac yn hyn ni chafodd ei siomi. Yr hyn sydd yn gwneyd darparu Gyllideb yn beth anhawdd yw, fod derbyniadau y Canghellydd yn ystod y flwyddyn flaenorol wedi syrthio yn is na'r amcangyfrif oedd wedi ei wneyd, gan adael dyled drom i'w cbyfarfod. Hyny, neu ynte fod rhyw dreul- iau newydd nas gellid eu rhagweled pan yn gwneyd yr amcangyfrif wedi dygwydd, sydd bron bob amser yn cynyrchu anhawsder. Eleni, yr oedd gan Mr LLOYD GEORGE i gwrdd a diffyg o dros bymtheg miliwn o bunau—swm anferth o fawr, a chwbl eithr- iadol. Y ddau brif achos o'r diffyg oedd fod y Ddeddf i roi Tal Henoed wedi pasio yn ystod y flwyddyn, ac fod angenrheidrwydd wedi codi i wario rhai miliynau ar longau rhyfel newydd. Yr oedd yr amcangyfrif hefyd wedi syrthio yn fyr mewn rhai pwynt- iau. Ymdrechai yr Wrthblaid wneyd a allai i chwyddo y diffyg, er mwyn lluosogi anhaws- derau y Llywodraeth, gwneyd tasg y Cang- hellydd yn fwy anhawdd, ae, efallai, hefyd gyda'r gobaith o gynorthwyo tipyn ar y mudiad sydd yn dwyn yr enw Tariff Reform. Dywedodd Mr GEORGE, yn nghwrs y ddadl yn y Ty, fod yr Wrthblaid wedi pleidio gwelliantau i Fesur Tal Henoed fuasent yn golygu mwy na dyblu y gost, ac yr ydym yn eu hadwaen hwy a'u hanes yn ddigon da i wybod nad o dosturi at hen bobl y gwnaent hyny, ond o awydd i wneyd anhawsderau y Canghellydd yn fwy. Fel bob blwyddv-n, felly y flwyddyn hon hefyd, cyhoeddwyd dyfaliadau lawer yn nghylch y Gyllideb. Nid oedd prinder cynghorwyr na chyfarwyddwyr. Gvvyr y oyhoedd am lawer, diau y gvvyr y Canghell- ydd am fwy. Cytunai y rhan fwyaf y buasai yn disgyn dipyn yn drwm ar y Fasnach Feddwol, a phroffwydai llawer y buasai yn gorfodi perchenogion tir ac ereill cyfi-ifir eu derbyniadau blynyddol wrth y miloedd i dalu ychwaneg. Mynai rhai y buasai yn rhaid iddo gwrdd &'r pethau a gyfrifir yn angenrheidiau bywyd, yn ogystal a tharo y moethau, ac y buasai y trethoedd ar de a siwgr, &c., yn cael eu hychwanegu. Ni fu erioed fwy o ddyfalu, na dyfaliadau yn cael eu cyhoeddi gyda mwy o hyder, ym- ddangosiadol, a dyweyd y lleiaf. Mynai y Tariff Reformers y buasai yn anmhosibl cwrdd a. diffyg mor fawr heb gymeryd eu rhaglen hwynt. Trefnasid i'r Gyllideb gael ei dwyn i fewn nos Iau diweddaf, a phan ddaeth yr adeg, nid oedd terfyn ar y dysgwyliad. Yr oedd y Ty yn orlawn, a phob un yn llawn o chwilfrydedd. Siaradodd y Cymro enwog am agos i bum' awr, a bu raid iddo gael ysbaid i orphwys cyn cwbl orphen. Yr oedd yr orchest yn un fawr iawn, a dangosodd y Canghellydd ei fod wedi cyflawn feistroli y manylion oedd ganddo i'w gosod ger bron y Ty. Rhyw syniad sydd wedi bod am ein cydwladwr galluog mai mewn anerchiad gwleidyddol yn gofyn parodrwydd meddwl, beiddgarweh, a thipyn 0 ergydio ffraethlym, y rhagorai. Oymerid yn ganiataol mai dyna ei gryfder, ond y mae erbyn hyn wedi profi y gall feistroli pethau mor anhawdd a man- ylion derbyniadau a threuliau Prydain Fawr. Bu yn llafur mawr iddo yn ddiau, a'r trueni yw fod y llafur hwnw i gael ei ddilyn gan wythnosau, os nad misoedd, o ymladd yn Nhy y Cyilredin i gario y cynygion drwodd yn llwyddianus. Diau fod manylion darpariaethau y Gyllideb yn hysbys i'r rhan fwyaf o'n dar- llenwyr drwy gyfryngau ereill. Y maent wedi gweled mai y ffynonellau o ba rai y I bwriada efe gael y rhan fwyaf o'r arian fydd. y canlynol:—Ychwanegiadau yn y treth- oedd ar drwyddedau motor cars, tafarndai, clybiau, myglys, cymunroddion, &c., treth- oedd newydd ar berchenogion tir, &c, Y maent wedi gweled hefyd fod yn mryd y Llywodraeth i ddefnyddio peth o'r arian i gynorthwyo cynllun pur eang o Yswiriant ar gyfer rhai yn methu ciel gwaitb, pJanu fforesbydd ar diroedd nad ydys yn awr yn gwneyd un defnydd ohonynt, &c. Gwelsant hefyd ei fod yn gadael treth yr incwm agos yr un fath i bersonau nad yw eu derbyniadau dros f500, ond yn unig ei fod yn darparu lieihad o £ 10 ar gyfer pob plentyn dan 16 oed. Lie mae'r inewm yn fawr iawn, mae'r dreth yn llawer mwy. Dyna brif ddarpar- iadau y Gyllideb. Beth am y derbyniad mae hi wedi gael Cellir ysgrifenu yn ddibetrus fod mwyafrif mawr Rhyddfrydwyr y deyrnas yn galonog o'i phlaid. Gellir ychwariegu fod gwahanol adranau Plaid Llafur yn uno i'w phymerad- wyo a'i chefnogi, er nad yw yn myned mor bell ag yr hoffent mewn rhai pethau. Wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu. Nis gallesid dysgwyl i'r tirfeddianwyr mawr ion sydd yn y ddau Dy, nac i'r cyfoethogion ereill sydd yno ychwaith, lai na chadw tipyn o dwrw. Yn neillduol, ni allesid dysgwyl i'r bragwyr a'r tafarnwyr lai na chyffroi. Arnynt hwy mae'r Canghellydd wedi disgyn drymaf yn ddiddadl, ac y maent eisoes yn trefnu i gynal cyfarfodydd i wrthdystio. Haerir y bydd raid cauad llawer iawn o dafarndai ar unwaitb, os na leiheir y gofynion, am nas gall y tenantiaid bytb dalu eu ifordd. Cwyna ysmygwyr hefyd, am fod pris y myglys yn myned i fyny, a thybir y gwrthwyneba y gwerthwyr hyn yn dra chyffredinol. Ond, ar y cyfan, pan gofir fod y Gyllideb y fwyaf Radicalaidd a gynygiwyd erioed, yn Senedd ein teyrnas, a'i bod yn cynwys amryw dreth- oedd newydd, y mae y derbyniad a roddir iddi yn nodedig o galonogoL Dengys fod egwyddorion tegwch a chyfiawnder yn enill tir yn gyflym yn ein mysg, a dyddiau anghyf- iawnder a gormes yn ymyl d'od i ben. Beth a wna Ty yr Arglwyddi ? Nid oes llawer o amheuaeth yn nghylch Ty y Cyff- redin. Y mae mwyafrif y Llywodraeth yn parhau mor fawr, er ei bod yn awr wedi cychwyn y pedwerydd Senedd-dymhor, fel y gall gario yn llwyddianus unrhyw fesur. Dichon y gwna rhai o'r tirfeddianwyr, ac o'r prif fasnachwyr sydd wedi arfer ei chefnogi, droi eu cefnau arni, pan fydd rhai o'r darpar- iaethau ger bron, ond eithriadau fydd y rhai hyny, yn ol pob ymddangosiad. Nos Lun, cychwynwyd o ddifrif y ddadl ar y Gyllideb, a thraddododd BALFOUR araeth faith, ond os nad oes ganddo rywbeth i'w ddyweyd na ddy- wedodd y noson hono, gall y Llywodraeth deimlo yn gwbl hyderus, oblegid amlwg oedd nad oedd ganddo ddim i'w ddyweyd sydd yn debyg o roi llawer o fywyd yn yr Wrth- blaid. Bu REDMOND, arweinydd y Blaid Wyddelig, yn siarad dipyn yn fygythiol, ond y mae yntau erbyn hyni;yn siarad yn fwy cymedrol, os nad ffafriol. Na, nid oes llawer o berygl yn nglyn a Thy y Cyffredin. Beth ynte, am Dy yr Arglwyddi 1 Fel tirfeddian- wyr, cyffyrdda rhai o'r darpariaethau yn bur drwm a llawer ohonynt hwy. Sut yr ym- ddygant ? Credwn y codant dipyn o dwrw am dymhor, ac y gwnant eu goreu i sicrhau rhai cyfnewidiadau; ond yn y diwedd, pasio ga y Gyllideb hon, er mor Radicalaidd. Mae yn hollol amlwg fod cydwybod ddeffroedig y deyrnas o blaid agos bob darpariaeth a gynwysa, ac na feiddia y galluoedd sydd yn ceisio caaw gwelliantau yn ol ddim atal hwn i ddyfod oddiamgylch.