Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ABERGWYNFI A'R CYLCH.

CAERSALEM, PONTYBEREM.

J CYFUNDEB DINBYCH A FFLINT.

Advertising

CAERNARFON.

News
Cite
Share

CAERNARFON. MARWOI,AETH MR R. R. STYTHE. „ filin genym gofnodi marwolaeth Mr R. R. Stytl-le, Caernarfon, gwr tra adnabyddus niewn ^ylehoedd cylioeddus, ac yn ngwersyll Aimi- j^iaeth yn Ngogledd Cymru. Yr oedd wedi ^y°ddef er's cryn amser oddiwrth ddolur poenus, c aeth yn nghwmni ei wraig, a'i ferch a'i fab- Yll-llghyfraith (Mrs a Mr Jeremiah Williams, KoK°^ Abergele), i Bournemouth, 3m y Daith y caifai yno adferiad ond yn anffor- bu*US' ae^1 yn waeth yno, ac er pob gofal gan v ^P o feddygon blaenaf y wlad, bu farw yno luhell oddicartref. Ca eiQl^r c°Ued fawr ar ei ol yn eglwys Salem, g^aarfon, lie yr oedd yn aelod fiyddlawn a y 5 §ar, ac yn nghynadleddau yr Ernvad yn fa lr, i'r rhai y rhoddodd wasanaeth gwerth- j5 a pharod am hir flynyddoedd. 0c^ atlai o ochr ei fam o deulu Cymreig, ac o ^arl-*21 0 *^eum ddaeth i'r wlad hon o Den- yu J" ers dros ddwy ganrif yn ol. Ganwyd ef y& yn 1853, ac. yr oedd ei dad a'i daid CI ^inwyr (Freemen) o'r ddinas hono. ItllwvdHW^ ei dad pan nad oedd efe ond chwe' PUf-rtu oec*> a symudwyd yntau i fyw gyda °s0^d ?aasau ei fam yn Bethesda, Arfon. Dang- Pu-bu -r arl:ienig 7" ieuanc, a gwnaed ef yn 0 dan yn Ysgol Prytanaidd Caraeddi, yr eiiv. og Garmonydd. Wedi treulio chvy flynedd yn Ngholeg Bangor, penodwyd ef yn 1873, pan nad oedd ond ,;20 ¿oed, yn'brifathraw Ysgol Prytaiiaidd Caernarfon, yr hon yn fuau wed'yn a drosglwyddwyd i'r Bwrdd'f.Ysgol. fe felly oedd prifathraw cyntaf Vsgol y Bwrdd yn Nghaernarfon. Ymneillduodd o'r alwedigaeth hono, ac ym- gymerodd a'r gwaith o accountant ac estate agent, gan sefydlu busnes llwyddianus a llew- yrchus, yr hwn a gariwyd yn mlaen ganddo hyd ddydd ei farwolaeth. lVIewn gwleidyddiaeth yr oedd yn Rhyddfryclwr argyhoeddedig a selog, ac yn llawn o'r ysbryd Cymreig. Mewn cylchoedd Eistecldfodol mae ei enw yn adnabyddus am ei wasanaeth fel Ysgrifenydd Histeddfoclau Cenedlaethol Caemar.fon yn 1886 ac 1894. At wasanaeth y gyntaf o'r ddwy wyl fawreddog hyn yr adeiladwyd Pafilion Mawr Caernarfon, a gwnaed yr ail yn hanesyddol am ymweliad rhwysgfawr y Brenin a'r Prenines bresenol. Trodd y ddwy allan yn llwyddiant arianol mawr, a phriodolir hyn i ymdrech a medr arbenig Mr Stythe. Nid oedd ei wasanaeth i'w Enwad yn llai amlwg. Am y cyfnod hir o 17 mlynedd gwas- anaethodd fel Ysgrifenydd i Gytndeitlias yr Achosion Gweiniaid yn y sir, ac nid oes neb ond y sawl oedd a wnelent a'r Gymdeithas hono fedr werthfawrogi yn iawn faint y gwasanaeth a roddodd yn llawen, distaw, diymhongar, a rhad i'r mudiad. Pan ymwelodd yr Undeb a Chaernarfon yn 1902, gwasanaetliodd fel ysgrifenydd lleol, a thalodd y ddwy eglwys, Pendref a Salem, iddo y deyrnged anarferol o roddi anrheg hardd iddo mewn cydnabyddiaeth am ei wasanaeth, ac fel coffadwriaeth o'r amgylchiad. Yr oedd eglwys Salem yn arbenig o dan rwymau iddo am was- anaeth blaenorol yn nglyn ag ail-adeiladu'r capel pan oedd y diweddar Dr Herber Evans yn wein- idog. Yr oedd gan Dr Herber Evans syniad uchel am allu a ffyddlondeb Mr Stythe. Bu Mr Stythe yn arolygwr Ysgol Sul Salem am bedair blynedd, ac yn Athraw ynddi am 30 mlynedd, ac ar ddau amgylchiad anrhegwyd ef gan ei ddysgyblion. Crynhoir barn y rhai a'i hadwaenent i'r englyn canlynol a gyfansoddwyd iddo gan gyfaill a chyd-aelod :— Mwyn oeswr cymwynasol—oedd Stythe, Was dyddan a siriol; Fe fydd mwy gryii rwyg ar ol Marw gwr mor ragorol. Cafodd gladdedigaeth barchus dydd Gwener, Ebrill 23am, yn Mynwent Llanbeblig. Daeth torf o wyr cyhoeddus y dref a'r sir i dalu iddo eu teyrnged olaf o barch. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Ll. Bryniog Roberts, Pendref, ac yn y fynwent gan ei weinidog, y Parch D. Stanley Jones, Salem. Amlygir cydymdeimlad cyffredinol a'i weddw a'i blaiiit--tair ilierch a mab.