Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HOREB, CEREDIGION.

BETH A GLYWODD GWRAIG 0 DROEDYRHIW.

POB OCHR I'R HEOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

oedd Die Aberdaron ? a pha faint feistrol- odd yr hen bererin rhyfedd ar ei iaith ei hun pan yn ffwdanu gyda'r ddwy-ar-hugain;' y gwyddai ryw ychydig am danynt ? Mae llun Die yn ddigon cyffredin fe'i hargraff- wyd ar glawr rhyw bamphledyn flynyddau yn ol,—' Dick of Aberdaron, the Cambrian Linguist; ac y mae hwnw wrth ein Haw yn awr. Fe ymddangosodd hanes yr ieithydd yn y Gwladgarwr, yn 1837; a dywedir iddo feddwl cyhoeddi Geiriadur Cymraeg, a Groeg, a Hebraeg; a bu yn gweithio ar hwnw am ddeng mlynedd. Dechreuodd yn 1821, a gorphenodd ef yn 1832; ond tra gofidus fu diwedd ei oes, a thlawd iawn ydoedd. Bu farw yn Llan- elwy, yn Rhagfyr, 1843. Gobeithio y ceidw Cynghor Dinesig Bangor y darlun hwn gyda gofal. Go esgeulus fuont gyda llu o luniau ereill oedd yn yr hen Greirfa a gwelsom hwy yn llwydo a phydru, ac ereill yn sychu, a'r lliwiau yn pilio ymaith oddiar y canfas. Mae darlun Die Aberdaron yn grair go lew a pha beth ddaeth o'i Bir- iadur tybed ? (3) Anrhegwyd Mr Oscar Owen gan yr Eglwys yn Mhenybont, ar ei fynediad i Gaersalem Newydd, y Cymer; a deallwn fod yno frwdfrydedd, a bod yr anrhegion yn werthfawr a hardd. Cafodd Mr John Stephens, Brynteg, Gorseinon, ei Dysteb hefyd yr wythnos ddiweddaf. Gweithiodd yn dda yn y Weinidogaeth am 44 mlynedd. Mae i ni yn bersonol gryn ddyddordeb yn ngyrfa Mr Stephens, oherwydd i ni ein dau gael ein hurddo yn yr un capel—Siloh, Porthdinorwig. Sicr genym y bydd dylan- wad ei fywyd tawel a da yn cael ei deimlo fwy-fwy o hyd yn nghylch Brynteg. Nid dweyd llawer, ac nid cadw twrw yn ei gylch y byddai Mr Stephens; ond goddef, a dangos amynedd, a chred ddisigl yn ei Arglwydd. Nawn teg a dedwydd iddor. (4) Nid ydym ni yn ein Hundeb yn arfer cael llawer o drafferth i dd'od o hyd i Gadeirydd; ond y mae ein brodyr yn Lloegr yn methu penderfynu heb bleid- leisio llawer pwy i'w osod yn Nghadair yr Undeb Cynulleidfaol eleni. Mae'r Athraw W. F. Adeney, a Mr Silvester Horne, a boneddwr arall, yn cydymwasgu am y blaen. Mae pleidlais newydd yn cael ei chymeryd eto rhwng y tri; ac ni cheir gwybod pwy etholir hyd y iofed o Fai, yn y cyrddau yn Elundain. (5) Bu farw gwr cryfyn ardal Llansadwrn yr wythnos ddiweddaf Rees Edwards, Bwlchygwynt. Yr oedd yn ddiacon er's llawer iawn o flynyddoedd yn Eglwys Ebenezer, sydd o dan ofal Mr Bowen. Cofiai Rees Edwards yn dda a chlir am yr anfarwol William Williams, Elandeilo,' yr hwn sydd wedi marw weithian er's dros driugain mlynedd, ond wedi gadael ei fare ar Dyffryn Tywi yn ddyfnach na nemawr i weinidog arall fu ynddo. Efe oedd arwr mawr bywyd Rees Edwards, ac nid oedd pall arno pan ddechreuai siarad am Wm. Williams,' a gwae'r neb a fentrai, hyd yn nod mewn cellwair, ddyweyd gair ysgafn am Williams. Buom yno-ddau ohonom— ychydig fisoedd yn ol, yn cael ymgom ag ef am yr efengylydd ieuanc, ac y mae genym ddefnyddiau llithoedd go newydd am dano pan geir egwyl i'w bwrw yn nghyd. Yr oedd Rees Edwards yn gerddor campus, ac yn gryn lenor hefyd ond dis- gynodd i'r bedd fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser.' (6) Dyma lyfr Tawelfryn allan o wasg Mr Hughes, Dolg'ellau-' Cofiant Ieuan Gwynedd.' Mae yn hardd ei wedd fel llyfr, ac yn llawn darluniau yr holl argraflfyn lan, a'r papyr yn tra thrwehus. Am gynwys y llyfr, y mae llawer o ddarnau o farddoniaeth ynddo gan wahanol edmyg- wyr o Ieuan Gwynedd ac y mae Tawel- fryn wedi cael help amryw lenorion da i ysgrifenu penodau ynddo ar wahanol agweddau i hanes a gweithgarwch di- gymhar Ieuan. Yr ydym yn gobeithio y prynir y llyfr yn helaeth, nid er mwyn yr awduron na'r argraffydd na neb felly, yn ogymaint ag er mwyn pobl ieuainc ein cenedl, pa rai ddylai ei ddarllen yn ofalus a meddwl llawer uwch ei ben. Mae Cofiant R. Oliver Rees i Ieuan Gwynedd wedi ei sicrhau i ni drwy help yr adroddwr trylen, Deiniol Fychan o Fangor, am yr hon gymwynas y diolchwn byth i Ddeiniol. Mae hefyd y llyfr gyhoeddodd Mr O. M. Edwards genym yn nglyn a Ieuan; ond bydd y Cofiant hwn eto'n drysor ychwan- egol. Mwyaf wyddom am Ieuan Gwynedd, mwyaf ein rhyfeddod a'n hedmygedd ohono. Yn nghanol pob ysgrifenu a siarad sydd y blynyddau hyn am wroniaid Cymru a'r gwyr mawr fu yn ein gwasan- aethu, saif efe allan yn un o'r ychydig sydd bob amser yn y rheng flaenaf. Gwron trwyadl oedd efe; ac y mae yn syndod parhaus, nid ei fod yn gallu gweithio hyd y fynyd olaf o'i oes yn mron, ond fod gwr cyn ieuenged yn dangos ei allu, a'i ddoethineb, a'i ysbryd da. # (7) Buom dros y Geninen, ac y mae ynddi amryw erthyglau sydd yn wir werth eu darllen, fel arfer. Mae'n dra thebyg mai yr ysgrif dyn fwyaf o sylw yw eiddo Mr Silyn Roberts 3m deho a Cholegau C37mru ac a bywyd ac arferion y genedl. Dywed bethau biathog ond yn sicrv mae yn dyweyd y gwir a gellir eto ysgrifenu llawer am y caner enwadol sydd yn difa nerth ein cenedl fel y mae enwadaeth yn gwneyd newyddiaduron yn wrthun; yn rheoli penodiadau pwysig yn brif erthygl ein credo genedlaethol yn mhob ystyr. Mae genym rai newyddiaduron hollol anmhleidiol ac anenwadol mewn proffes ond y maerhywrai sy'n perthyn i enwadau arbenig yn nglyn a hwy, ac nid oes yn en hadranau hwy o'r papyrau ond y pethau mwyaf aflednais o enwadol. Yr un tnodd gwneir i fyny gynghorau bychain a pbwyllgorau yn ein gwlad yn hollol yn ol buddianau enwadaeth ac ofer i lawer ym- geisydd geisio swydd oddieithr iddo fod yn perthyn i'r enwad cryfaf. Yn sicr, y mae math o Jesuitiaeth Gymreig yn codi yn nglyn ag enwadaeth. Er mwyn yr enwad y gwneir ac y dywedir pobpeth,. O na ddeuai rhyw ysgubell fawr o rywle i glirio y maldod a'r malldod hwn o'n gwlad i ddifancoll tragyfyth. Mae ysgrifau ereill pur gwynfanus yn y Geninen a rhwng y cwbl, hwyrach y bydd dyn yn dipyn o waethafwr,' chwedl Cymreigwyr diwedd- ar (am y gair pessimist), ar ol myn'd drwy ran fwyaf y rhifyn. ? (8) Mae'r cyhoeddiadau misol 3-n dra thebyg i arfer. Egyr y Diwygiwr gydag ysgrif gref ar 'Berthynas Duw a'r Cread,' gan y Proffeswr W. Oliver, M.A., o Lan- fynydd, a thai yn ddanddyblyg am ei darllen i'r mwyaf meddylgar. 'Rhagfyr' sydd ar Iwyfan 'Cymallfa'r Diwygiwr am y mis. Mae Mr George Davies yn esbonio 'I/lyfr Amos,' a Mr D. M. Rees, y cenadwr, yn adrodd hanes Madagascar.' Ceir yma ddarluniau Mr a Mrs Samuel Williams, Pontardulais, a chofiant iddi hi. Mae yn y rhifyn farddoniaeth darawiadol, a darnau ar gyfer cyfeillach, a'r Nodiadau Seneddol ac Enwadol, &c. (9) Yn Nysgedydd Mai mae Talwyn yn ysgrifenu ar 'John Parry y Bala' yn dra helaeth Mr H. M. Hughes yn trin pwnc duwinyddol-' Awdurdod Uchaf Cristion ogaeth;' Pedrog yn rhoi ei ail ysgrif ar Demtasiwn;' a Mr Stanley Jones yn cychwyn gyda lianes Y Capel a'i le yn mywyd Cymru.' Difyr dros ben a llifeir- iol, fel arfer, yw Pan oeddwn yn Fachgen,' gan J. T. Mae hwn yn rhifyn cyflawn a chyfan iawn. (10) Rhywfath o grynodeb o ysgrif Talwyn yn y Dysgedydd sydd ganddo yn agor yn y Cenad Hedd hefyd, er fod y ddwy yn ddarllenadwy a da, ar 'John Parry y Bala eto, ac y mae darlun ohono yn y rhifyn hwn o'r Cenad Hedd. Ysgrif- ena Mr Gwilym Rees ar Myfi yw y drws yn ddymunol iawn a Mr J. R. Davies ar Grist a'i Bob1.' Llith pur addysgiadol yw eiddo Penrith wed'yn ar Allor, Aberth, a Breuddwyd,' a'r berthynas sydd rhwng y tri pheth. Mae ein llenyddiaeth Annibynol am y mis rhywbeth yn dra thebyg i arfer, ac y mae mer ynddi. (11) Gwelwn yn y Cronicl Cenadol (Saesoneg) fod Dr Arnold Davies yn rhoddi ei le i fyny yn China, ac yn d'od adref. Mab i'r diweddar v?r dysgedig, Mr Cynfig Davies, yw'r Dr ieuanc nid oes lawer er pan aeth efe i'r maes ond oh'erwydd am- gylchiadau a. rhesymau teuluaidd y mae yn ymddeol, fel y deallwn. Mawr oedd brwd- frydedd ei dad ar ddydd ei urddiad. Edrychasai yn mlaen yn awchus at y dwthwn hwnw a da y cofiwn am.ei dyner weh a'i deimlad dwys yn y cyfarfodydd wrth ildio ei gyntafanedig yn mysg y meibion i'r gwaith Cenadol; ond prin yr oedd Dr Arnold Davies wedi cyrhaedd China a chydio yn ei waith 11a symud wyd y gwr lledaais o Borthaethwy at ei wobr. (., 'To