Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

--Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. RECORD Budget Speech,' Y Glfllideb meddai papyr Toriaidd y De Fythgofiadwy. am araeth Mr Lloyd George wrth gyflwyno ei Gyllideb fythgofiadwy i sylw y Ty Cyffredin dydd Iau diweddaf. Diwrnod mawr a rhyfeddol ydoedd. Ni bu ei gyffelyb yn nghof neb sydd yn fyw, oddigerth fod yn rhaid cyd- nabod gorchestion Cyllidebol Mr Gladstone. Safant yn glir oddiwrth eiddo pitwb ereill. Yr oedd medrusrwydd areithyddol Mr Gladstone yn amlycach bron yn nglyn a, Chyllidebau ei oes nag yr ydoedd yn nglyn ag odid un mater arail. Edrychid yn mlaen gyda dysgwyliad aeddgar am ddydd y Gyll- ideb, pan yr oedd Mr Gladstone yn Gan- ghellydd y Trysorlys, ac anaml y siomwyd ei wrandawyr, mor bell ag yr oedd yr elfen areitbyddol yn myned. Trafodai ffugyrau sychlyd fel pe byddent yn farjbles yn Haw plant. Yr oedd yn syndod i bawb. Y nesaf ato ydyw y Canghellydd presenol. Y Cymro gwladgar yn gystal a' r Gwladweinydd enwog ydyw hwnw. Er pan ddyrcbafwyd Mr Lloyd George i'r Trysorlys, nid oes pall ar y son am dano mewn rhyw wedd neu gilydd. Bu rhai yn ceisio darogan mai methiant a fuasai yn ei swydd newydd. Awgryment mai 'un peth oedd llwyddiant i ddwyn Cyf- alaf a Llafur i well dealldwriaeth a'u gilydd ar faterion dyrys masnach, ond mai peth arall, a hollol wahanol, ydoedd dal y prawf ar ddydd barn ei Gyllideb. Yr oedd yn hys- hys i bawb fod y Canghellydd Newydd yn derbyn y swydd pan yr ydoedd mewn an- hawsderau eithriadol, a'r rhagolygon yn fygythiol. Ond ni Iwyddwyd i dori ei galon. Yr oedd y dyn mwyaf dyddorol yn y deyrnas yn ysbaid yr wythnosau diweddaf. Rhai yn ei fygwth, rhai yn ei rybuddio, rhai yn ei gynghori a'i gyfaiwyddo, rhai yn ei felldithio, a rhai yn ei fendithio. Anfonwyd iddo lu o gynlluniau i gyfarfod a diffyg ei ddarbod- aeth. Gwneir yr un peth, ond ar raddfa lai, a phob Canghellydd. Diau mai gobaith eu helw eu hunain a bar iddynt ymgymeryd, a gorchwyl o'r fath. Dadblygir galluoedd dyfeisgar gan amryw. Ereill yn ddefnydd- lau difyrwch. Ond ni chafodd odid yr un Canghellydd gynifer o gynygion amrywiol i'w arwain allan o ddyrys anialwch ei gyflwr. Caledwaith y Canghellydd. YR oedd y Ty Cyffredin yn 11awn i'w ymylon, a thros hyny, ar ddydd y Gyllideb, a'r oil wedi ei meddianu gan y cywreinrwydd hwnw sydd yn ceisio allan ddirgelwch. Y mae yr holl amgylchiadau a welir yn gysylltiedig a, dydd y Gyllideb yn pueddu i chwyddo caledwaith y Canghellydd 1 raddau peryglus. Nid yr hyn a welir ac a glywir yn y Senedd ydyw ei unig ran ef yn I y gwaith. Misoedd o boen a phryder a gaf- odd wrth gasglu, trefnu, a lleoli y defnyddiau a glywir yn yr araeth. Gan nad beth oedd profiad Canghellyddion yr amser a fu, ni ragorodd neb yn fwy na Mr Lloyd Georgi- yn yr ymgais i berffeithio Cyllidaeth y wlad hon. Teithiodd lawer ar y Cyfandir a chartref i enill y wybodaeth atigenrheidiol i'w amcan clodwiw. Nid heb draul fawr mewn iechyd a phethau ereill y gwnaetb hyn, ac effeithiodd hyny ar ei iechyd yntau, or gwydned ydyw. Dyddorol iawn ydyw gweled yn y Wasg, a chlywed ar y llwyfan nlai a Gladstone y eymherir ef, ac nid a neb arall. Mewn meithder, amrywiaeth, a rhai pethau ereill, cyffelyb ydynt. Yn yr amser y traddod- odd Gladstone ei araeth fawr, bu ar ei draed dros bum' awr, a daliodd ei lais heb grygu a'i wddf heb sychn. Ymddengys fod ar wyddion cyn diwedd yr araeth fod Mr Lloyd George yn llesghau ychydig. Bu yn ofalus o ddechreu ei araeth i'w diwedd i gynilo ei lais. Ar ot Ilefaru am ddwy awr a thri chwarter, trodd y siaradwr at Mr Asquith, a dealhvyd mai awgrym am seibiant ydoedd. Cododd Mr Balfour ar ei draed mewn mynyd i hysbysu fod yr Wrthblaid oil yn awyddus iddo gael ychydig seibiant. Hyny a fu dros enyd. Adnewyddwyd ei nerth, ac aeth yn ei flaen yn llyfn ac esmwyth. Yr oedd tuag wyth o'r gloch pan ddaeth i'r terfyn. Dechreuodd ei araeth ychydig fynydau wedi 3 o'r gloch. Ar achlysuron arbenig arferai Mr Gladstone yfed rhyw fath o ddiod o wneuthuriad Mrs Gladstone. Egg flip-eymysgedd o wy a llefrith—y gelwid y ddiod gan ei gyfeillion mewn difyrwch. Dygai y dogn gydag ef i'r Ty Cyffredin mewn blwch bychan, ac yr oedd yn ei ymyl i'w yfed pan fynai. Dwfr yn unig ydyw diod y prif siaradwyr yn awr. Yr oedd dwfr o fewn cyrhaedd y Canghellydd prydnawn Iau, a dyddorol a difyr oedd gweled Syr S. T. Evans ger llaw yn gofalu am ei gydwladwr arwrol drwy roddi ei ddogn yn ei bryd iddo. Nodweddion y Gyllideb. ENFAWR ydyw y prif nod- wedd. Y mae pawb mewn syndod. Yr oedd y dysgwyl- iadau yn uchel, ond ehed- odd i'r uchelderau uwchben. Synir yn fawr at eangder cylch gwelediad a chyftyrddiad Mr Lloyd-George yn ei Gyllideb. Yr arfer ydoedd i Ganghellydd y Trysorlys ymgadw mewn cylch bychan, a gosod ei law ar yr hen bethau cynefin. Ni feiddiai odid yr un ohonynt osod toll ar wrthrych newydd, a gwae y neb a gyffyrddai ag eiddo cysegredig y bendefigaeth. Mor fyw ydyw yr adgof am orchestwaith Syr W. Yernon Harcourt, pan y llwyddodd i osod y Death Duties yn ei Gyllideb, a'i gario yn ddeddf! Nodwedd arall ydyw ei'degwch. Gwelir ei ymgais i gael y nifer mwyaf o dan y doll, a'r nifer mwyaf hwnw yn cynwys y bobl gymhwysaf i gael eu tolli. Graddolir Toll I ncwm o'r gwaslod i'r pen. Y mae y Gyllideb bresenol yn agor maes eang i Gyllidebau y d fod-ol, a dysgwylir ffrwyth toreithiog y y 0 flwyddyn nesaf. Teimlir cyn hir fod y Gyllideb hon, os derbynir hi, yn ddechreuad byd newydd. Nid oedd y diffyg, er yn fawr iawn, yn frawyohus. Rbywfodd neu gilydd, diflanodd o'r golwg o dan ddylanwad araeth y Canghellydd. Swynodd ei gyfaredd ef ymaith. Nid oedd y swm mawr yn newydd. Yr oedd yn y papyrau ddydd Iau cyn i'r areithiwr ddechreu ar ei waith. Un filiwn ar bymtheg ydyw y diffyg, ac amcan y Gyllideb ydyw ei ddileu. Pa beth a wna yr Arglwyddi ? Cryfha yr hyder na fyddant mor wallgof a'i wrthod. Tybir fod y Gyllideb yn myned yn mhell i'w dirymu. Os caniata yr Arglwyddi i adael y Gyllideb yn ei chryn- swth—ac nid oes ond ei gwrthod neu ei derbyn yn grynswth o'u blaen-bydd y Wein- yddiaeth mewn ffordd i ddal yn mlaen am dair blynedd yn mhellach er mwyn cario allan y rhaglen gymdeithasol a geir yn y Gyllideb. Goleuo y mae ar y Weinyddiaeth ar waethaf amryw o dylwyth ei thy ei hun. Ymgais fawr nifer ohonynt ydyw ymlid y Llywodraeth o'n gwlad. Prin y gall dim fod lawer yn waelach na'r ymdrech i ladd yr achos Rhyddfrydig. Daw ataliad yn ei amser. Achos i lawenhau sydd gan y Prif- weinidog a'i gefnogwyr y dyddiau hyn, a chymeryd calon. Nid yw cyflwr y gelyn yn gallu fforddio llawenydd ar hyn o bryd.

POB OCHR I'R HEOL.