Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

MERTHYR A'R CYLCH. --

News
Cite
Share

MERTHYR A'R CYLCH. Cynaliwyd yr uchod eleni dydd Mawrth, Ebrill 2il, sef dydd Mawrth y Pasg. Ac er cymaint fu y darogan mai cymanfa 1906 oedd i fod yn ddiweddaf ar lechres ein cylch, da oedd genym weled fod cymanfa 1907 wedi adnew- yddu ei nerth nes codi yn uwch o ran ei hys bryd a'i pherffeithrwydd nag amryw o'r rhai rhai sydd wedi ei rhagflaenu. Diau mai yr hyn sydd i gyfrif am hyny yw fod y pwyllgor wedi trefnu i fyned a'r cyrddau rhagbarotoawl (■rehearsals) ar gylch i'r cyrionpellaf. Ymwel- wyd a'r Cefn, Gellideg, a Phellydarell, trefnwyd hefyd fod arweinydd pob capel lie y cynelid y rehearsals i gymerycl yr arweinyddiaeth y noson hono, a thrwy hyny yr oedd nifer fwyaf o'r arweinyddion yn cael cyfleusdra i arwain ac ymgydnabyddu yn llwyrach o bosibl a'r rhaglen. LIe ei chynaliad oedd Soar, capel dihafal at wasanaeth o'r fath, a chredwn y dylasai y cylch deimlo yn falch fod ganddynt gapel mor braf, a phobl mor garedig yn ymgynull ynddo, sydd bob amser mor barod i'w roddi at unrhyw was anaeth teilwng y ceisir am dano. Fel arfer, cafwyd cynulliadau mawrion ar hyd y dydd. Arweinydd y dydd ydoedd yr athraw cerddorol Mr Tom Price, Merthyr Mr Tom Price yn arwain Cymanfa Ganu Annibyn wyr Merthyr ? Ie, a diolch am hyny. Prawf hyn nad ydyw rhagftir culni enwadol yn myned yn uwch nac yn fwy trwchus yn ein mysg, a brysied y boreu pan y Darfyddo son am bob enwadaeth mwy, Part'iol farn, a rhagfarn lawr a hwy.' Doed hedd, tangnef, a chariad unol a chyffred- inol i lywio ein gwersyllfaoedd crefyddol. Gwr noble yw Mr Price, nid oes raid iddo wrth, eiriau cymeradwyaeth oddiwrthym ni yn y fad hon 'sicr yw genym nad oes neb yn Ngwalia yn fwy adnabyddus fel cerddor ymarferol, nac yn fwy poblogaidd fel beirniad ac arweinydd. Rhoddodd foddlonrwydd perffaith i'r cylch yn ei sylwadau byrion pwrpasol, a'r dull medrus oedd ganddo drwy ei feistrolaeth o'r baton i dynu y goreu posibl allan o'r cantorion ar hyd y dydd. Yr organydd ydoedd Mr Tom Jenkins, organ- ydd eglwys Soar, ac un o ddiaconiaid Soar, a brawd ffyddlon, dirodres, dystaw, ond yn llawn daioni, ac yn awyddus i weithredoedd da. CYFARFOD DEG O'R GLOCH. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan Mr Mathew Owen, Ebenezer, Cefn, ysgoifeistr ac, wrth reswm, y dyn iawn yn y lie iawn. Pwy a ellid gael yn well nag ysgolfeistr i gadeirio mewn cyfarfod plant ? Adroddwyd i ddechreu y liii. o Esaiah gan Miss Rosie Evans, Bethesda. Yna arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch 1<, Walter Thomas, Cefn. Canwyd y tonau can- lynol o Ganiedydd yr Ysgol SuI: Y l' Oen Difai,' Mae Cyfaill i Blant Bychain,' Dal wrth y Groes,' Cenadon Bach y'm ni,' Gwyn- fyd y Nef,' anthem Arglwydd ein Hior, ymwel, ymwel,' I Dti\v cariad yw' (J. M. Webber), Hosannah' (R. Da vies), Rywbryd yn Rhywle' (y diweddar Alaw Brycheiniog), ymdeithgan, 'Yn mlaen chwi filwyr Duw' (W. J. Edmunds, G.T.S.C., Horeb, Penydaren). Y mae yn hen ddywediad bellach er's blyn- yddoedd mai cyfarfod y plant yw y goreu o'r tri chyfarfod, a gwi redd wyd hyn yn hollol eleni eto. Y rheswm da am hyn yw fod y plant yn cael ac yncymeryd eu dysgu ar hyd y tymhor o'r prydy daw y program allan hyd y gymanfa, ac erbyn y dydd gallant hebgor y llyfr a chanu. fel y dywedir o'r frest, tra y mae canoedd o'r cantorion mewn oed heb ymgyd- nabyddu yn y mesur Ueiaf ^i'r-I)rogram hyd y Sul cyn y gymanfa. Arweinydd rehearsals y plant eleni ydoedd Mr E. Lumley, Ynysgau, a gwnaeth yn rhagorol iawn. Byddai yn anheg i beidio dyweyd gair am yr adroddwyr a'r unawdwr yn y cyfarfod hwn. Adroddodd Miss Rosi Evans, Bethesda, Esiaii liii. yn ardderchog i ddechreu y cyfarfod. Canodd Mr Willie Evans, Ebenezer, Cefn, 'Rwy'n cam plant bychain, meddai'r lesu,' yn anarferol o dreidd- gar a swynol, ac yn 11awn cydnawsedd ag ysbryd y cyfarfod nes gwefreiddio pawl). A dilys genym na anghofir gan neb aiii yr adrodd- iad rhyfedd, clir, hyglyw, meistrolgar, o'r unfed Salm ar byrntheg ar ol y pedwar ugain (cliwedl hitliau) yr oedd dyweydjrhif y Salm yn Gymraeg bron a bod yn ddigon o adroddiad i un mor fechan, ond gwnaeth Miss Gwladys Williams, Soar, orchest wrth adrodd y Salm. Braidd na dclym unom ar ddiwedd y cyfarfod am gael diwrnod o gymanfa i'r plant. Terfyn- wyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch W. Evans, Salem. CYFARFOD DAU O'R GLOCH. Llywydd, Mr John Morgan, Salem, ac yr oedd yr arwr ar ei oreu yn llywio yn ddifyr a da, heb drethu amynedd neb drwy wastraffu. amser y can wyr. Adroddodd Miss Bessie Evans, Tabor (wyres i'r diweddar batriarch y Parch R. Griffiths), y xxiv. benod o efengyl Luc, ac er fod y benod yn cynwys 53 o adnodau yr oedd yr adroddiad mor nodedig, a chyda'r re fath arddeliad, fel y tybiem y byddai y dorf anferth yn barod i astud wrandaw arni yn myned rhag blaen am 53 o adnodau yn ych waneg. Yna arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch J. Thomas, Soar. Cafwyd hefyd unawd yn y cyfarfod hwn gan Mrs William Harris, Soar Canodd yn rhagorol. Yr oedd tonau y cyfarfod hwn i gyd o'r Caniedydd Cynulleid- faol:—'St. Ann,' 'Leoni,' 'Rockingham,' Udgorn,' Boreu Hyfryd,' Llandyfriog,' Sancteiddrwydd,' Dies Irae,' a Concwest,' sof y don fuddugol yn nghystadleuaeth y gymanfa gan Mr H. Lewis, Ynysgau, i'r hon y rhoddai Mr Price gymeradwyaeth uchel. Can- wyd hefyd yr anthemau Teyrnasa lesu Mawr,' Eisteddai Teithiwr Blin (o'r Caniedydd Cynulleidfaol"), ac 'Wrth afonydd Babilon' (Proff. D. C. Williams). Dyma, cliwedl yr arweinydd, Wyddfa y Gymanfa,' ac yn wir, ardderchog o beth oedd clywed y canoedd can- wyr a'u holl egni yn ceisio dringo llethrau y cydgan hwn o waith yr awdwr clasurol. Ter- fynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch R. T. Williams, Ynysgau. CYFARFOD CHWECH O'R GLOCH. Dechreuwyd y cyfarfod hwn gan y Parch T. B. Mathews, Penydaren. Llywyddwyd gan Mr John Beynon, llywydd y pwyllgor am y flwyddyn. Bachgen yw Beynon mor llawn o ddefnyddioldeb ag yw ei wyneb o heal wen, a'i galon o ddaioui. Un sydd yn galla llanw pob cylch ymddiriedir iddo hyd yr ymylon, a chredwn ofo(I llwyddiant y gymanfa eleni i'w briodoli i ddyfahvch a diwydrwydd llywydd y pwyllgor, yn nghyda ffyddlondeb a gweithgar- weh yr ysgrifenyddion, Mri B. Jones (Mer thyrfab), ac Edward Lumley. Canwyd y tonau a'r anthemau canlynol:—' Brynteg,' Common- wealth,' 'Nevern,' 'Penarth,' Moab,' 'Wei- mar,' anthem, Y mae afon' (o'r Caniedydd Cynulleidfaol') yr anthem fuddugol, Cenwch yn Hafar i'r Arglwydd,' (R. Davies, Gellideg). 'Wrth afonydd Babilon' (D. C. Williams), a thon anfarwol y diweddar Dr Parry, Dies Irea.' Cafwyd yn y cyfarfod hefyd unawd, 'Can Olaf Tudno,' gan Mr Lewis Jones (Gar- nant), Heolgeryg, a theimlwn ynddiolchgar i'r brawd am ei wasanaeth ar mor lleied o rybudd. Dysgwylid hefyd gydag awydd am ddeuawd gan Mrs John Beynon a Miss Blodwen Jenkins Soar, ond siomwyd ni am y ddeuawd drwy fod afiechyd yn nheulu Mr Beynon yn sir Benfro wedi galw Mrs Beynon i ffwrdd. Felly cafwyd unawd gan Miss Blodwen Jenkins, a gwnaeth yn deilwng o Soar, o'i thad (yr organydd), ac yn deilwng o'i hunan. Yn nghyfarfod yr hwyr yr arferir gwobrwyo y buddugwyr yn nghystadleuaeth cylch y gymanfa am eiriau tdn i'r plant, ac am y don oreu ar y geiriau; am don gynulleidfaol ac anthem gynulleidfaol; a rhyfedd, rhyfedd, cipiwyd y pedair gwobr gan frodyr o'r un eglwys, set' Horeb, Penydaren. Gwobrwywyd Mr Tom Jones (Darenog) am y geiriau, a Mr W. T. Edmunds am y tri chyfansoddiad cerdd- orol. Ewch rhagoch, frodyr ieuainc anwyl, a Duw yn rliwydd i chwi gipio llawryfon pvvys- icach ar hyd meusydd cyffeivb. Galwodd y Llywydd sylw yn y fan hon at un o gyfansodci- icach ar hyd meusydd cyffeivb. Galwodd y Llywydd sylw yn y fan hon at un o gyfansodci- wyr y cylch oedd yn ystod ychydig ddyddiau I. yn tlaenorol wedi ei galw o ymgipris am law- ryf a gwobr y lIawr igaelyliawryfbythol- wyrdd a'r wobr dragywyddol, sef Miss Edith Maud Mathews (Cerddores Tydfil), organyddes eglwys Ynysgau.. Boneddiges ieuanc, fel y sylwai y Llywydd, oeddyn addurn i bob cylch y troai ynddo, ac yn enwedig yn oi chysyllt- iadau crefyddol, un a'i cliymeriad yn ddihalog, dystaw fel y prydferth ôd, rhydd ei bron fel awel lwythog, ydoedd by wyd Edith Maud. Cipiodd amryw wobrwyon o'r cylch, a chanwyd ei thonau gydag arddeliad mawr yn amryw o'n cymanfaoedd. Pasiwyd pleidlais o gydy^j deimlad a'r teulu trallodus yn eu galar, wed colli megys angel y teulu o'u mysg. Cododd 7 gynulleidfa fawr ar ei thraed i arwyddo Y bleidlais, ac arch wyd yr Y sgrifenyddion i anfo" y cyfryw mewn du a gwyn i'r cartref galai'U8, Terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y PaJ"c, W. A. Jones, Seion (B.), wedi cael diwrn0 gobeithio o ganu a'r deall ac a'r ysbryd.

BRYNTEG A'R CYLCH.