Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

PLANT Y DIWYGIAD-PA LE MAENT…

AT OLYGYDD Y TYST.

-.---__-----------EGLWYS ANNIBYNOL…

Advertising

MARWOLAETH Y PARCH JAMES JONES,…

LLANWRTYD.

----UNDEB YSGOLION CANOLBARTH…

News
Cite
Share

UNDEB YSGOLION CANOLBARTH CEREDIGION. At Olygydd y Tyst. SYR,-Byddaf yn ddiolchgar am ofod fechan o'r TYST, i ofyn am eglurhad ar weithrediadau y Pwyll- gor uchod i'r aelodau. Daeth ei adroddiad i law y gwahanol eglwysi y Sabbath diweddaf, wedi bod naw mis ar y ffordd ac y mae i mi, fel Ilawer ereill, yn annealladwy iawn. (I) Dywed yr ysgrifenydd mewn un man, eu bod wedi penderfynu mewn I Pwyllgor cyffredinol, a gynaliwyd Hydref, 1905, nad ydyw yr Arholwyr Lleol i farcio Papyrau Dosbarthijdau II. Ill a IV., ond eu rhann yn hytrach i dri gradd, a danfon Pap yrau Gradd I., sef 65 o farciau ac uchod, i Arhol- wyr yr Undeb Cynulleidfaol Os felly, yn mha le y cafwyd y marciau sydd gyferbyn a, phob ymgeisydd, ac o ba le y cafodd yr Ysgrifenydd y daflen ysgrif- enedig a ddanfonwyd i r eglwysi yn rhoddi marciau ymgeiswyr y Sir, ac nid eu graddau, fel y dywedir yn ei adroddiad. Yn ol y dailen grybwylledig, Esther Jones, y Wig, oedd yr uchaf ar y rhestr, a Gwendoline Jones, y Wig, yn ail yn Dosbarth III., ac iddynt hwy yn ddiddiolch yr oedd y gwobrau cyn- taf ac ail i fod (gan mai personau o r Sir sydd yn eu rhoddi.) Gan mai adroddiad lleol ydyw, onid marciau yr Arholiad hyny ddylasai fad ynddo, ac nid marciau yr Arholiad cynulleidfaol, oherwydd y mae y rhai hyny wedi ymddangos yn y TYST er's wyth neu naw mis yn ol. Paham na fuasai y Pwyllgor yn rhoddi y gwobrau i'r sawl a'u henillodd yn y Sir, sef i'r ddwy chwaer a enwyd uchod ? Yn ol yr hyn a wnaeth y Pwyllgor, nid yw Arholiad y Sir o ddim daioni. Y maent yn diystyru yr Arholiad a'r Arholwr. Hefyd yn Dosbarth IV.. gwelaf fod pump o ym- geiswyr wedi cael eu rhestru yn Gradd II., ac hefyd pob un ohonynt wedi cael 65 o farciau, ac uchod. Y mae llawer ereill o bethau hollol annealladwy ynddo, ond cymerai ormod o'ch gofod i mi i sylwi arnynt. Gobeithio y bydd rhywun o'r aelodau mor garedig a rhoddi eglurhad trwy gyfrwng y TYST. Yr eiddoch. &c., Llangranog. JENKYN H. JONES.

Advertising

YR YSGOL SABBATHOL

-.---__-----------EGLWYS ANNIBYNOL…