Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
ARDDANGOSFA GENADOL LLANELLI.
News
Cite
Share
ARDDANGOSFA GENADOL LLANELLI. Cynaliwyd yr Arddangosfa yn Neuadd y Farchnad, am ddeg diwrnod, o Mawrth 2iain dros Ebrill iaf. Cymerodd yr agoriad le ddydd Iau, Mawrth 2 1 aiii. Cadeirydd, y Parch T, Johns, D.D. Agorwyd gan Arglwydd Glantawe. Dydd Gwener: cadeirydd, Mr. W. Williams, Y.H., Wern, Glandwr. Agorwyd gan y Parch A. N. Johnson, M.A., Ysgrifenydd Cartrefol y Gymdeithas. Dydd Sadwrn: cadeirydd, Parch J. Stephens, Brynteg. Agorwyd gan y Parch Job Miles, Aberystwyth. DyddLlun: cadeirydd, Mr D. James Davies, Ysgrifenydd Cyffredinlol. Agorwyd gan Syr Lewis Morris, Penbryn, Caerfyrddin. Dydd Mawrth: cadeirydd, Parch D. Lloyd Morgan. Agorwyd gan Mr W. Y. Nevill, Y.H. Dydd Mercher cadeirydd, Parch J. Evans, Bryn. Agorwyd gan y Parch]Evan Jenkins, Abertawe. Dydd Iau: cadeirydd, Mr J. Joseph, Y.H., Llangenech. Agorwyd gan y Parch W. Davies, Y.H., Llandeilo. Dydd Gwener: cadeirydd, y Parch J. H. Rees, Burry Port. Agorwyd gan Mr Llewelyn Williams, A.S. Dydd Sadwrn cadeirydd, Mr Ellis Evans, Gloster House. Agorwyd gan Mr F. H. Hawkins, LL.B., Gwreosam.. Dydd I,lun cadeirydd, Mr. Samuel Williams, M.D. Agorwyd gan Syr John Williams, Phis, Llanstephan.. Dechreuwyd bob dydd drwy ganu emyn Cenadol, gweddio, ac areithio. Traddodwyd areithiau gwresog gan y gwahanol siaradwyr. CyKoeddwyd rhanau helaeth o'r areithiau yn y wasg leol. Canwyd unawdau bob dydd gan ryw berganiedydd. Cymerai yr agoriad tua haner awr o amser, a deuai tyrfa luosog yn nghyd. Cyfrifir fod dros ugain mil o bobl mewn oed wedi talu ymweliad a hi, a thros bedair mil o blant yr ysgolion elfenol. Deuai y plant yn y boreu, rhyw fil y dydd, i ymweled a'r gwahanol gynteddau, er gweled y cywreinion, a gwrando anerchiadau y cenadon. Deuai yr ysgolfeistri a'r athrawon gyda'r plant, a threulid dwy awr yno i dderbyn addysg a gwybodaeth am wahanol wledydd a phreswylwyr y byd paganaidd. Dangosid iddynt hefyd ddarluniau byw- cinematograph. Er mai nid y cynyrch arianol oedd y prif ddyben, eto yr oedd yn bwysig i'r personau oedd wedi myned yn gyfrifol am y draul o'i chynal iddi droi yn llwyddiant yn yr ystyr hono. Ni bu arnom ni bryder am hyny o gwbl, oblegid yr ydym wedi byw yn ddigon hir yn Llanelli i adnabod y bobl, a gwybod am eu dyheadau crefyddol; ac fel yr oeddym yn dysgwyl, trodd allan yn anturiaeth lwyddianus mewn ystyr arianol.. Yr oedd gan y trysorydd, Mr Joseph Williams, Y.H., Caeglas, 750p. o arian yn yr ariandy erbyn gorphen. Heblaw hyny, y mae miloedd o docynau wedi eu gwerthu yn yr eglwysi, a'r arian heb ddyfod i law pan ydym yn ysgrifenu. Yr ydys yn cyfrif y gwneir o naw cant i fil o bunau. Bydd genym, wedi talu y treuliau, swm da i'w drosglwyddo drosodd i'r Gymdeithas. Mae llwyddiant yr Arddangosfa yn ddyledus i weithgarwch eglwysi Llanelli, Pembre, Llan- genech, a Phontardulais. Darfu iddynt wneyd llawer o waith-mwy nag a wyr neb ond y prof- iadol; ond gwnaed y gwaith yn ewyllysgar. Oni bai am hyny, ni fuasai ei ansawdd mor rliag- orol ag ydyw. Cymerwyd gofal y gwahanol gyn- teddau gan yr eglwysi fel y canlyn :—China, Siloali, a Soar, a'r Crwys; Madagascar, Jeru- salem, Carmel, a Seion (Burry Port), a'r eglwys Saesoneg yn Gowerton New Guinea, Lloyd- street, Ebenezer, a Saron Ynysoedd M6r y De, Tabernacl India, Bryn (Llanelli) a Beth- esda (Llangenech) Affrica, Capel Als Cyntedd Meddygol, Eglwys y Pare Colonial, Hope a Capel Newydd Llenyddiaeth, yr eglwys Gynull- eidfaol Seisonig. Byddai yn anheg cymharu pan oedd cynifer o swyddogion yn y gwaith ond bu raid i gryn nifer ohonynt weithio yn galed iawn am fisoedd yn nglyn a'r Arddangosfa. Saif yr enwau canlynol yn arnlwg iawn yn mysg y cyfryw, sef cadbeniaid y goruchwylwyr— y Parch Elias Davies, y Parch J. J. Jones, B.A., i'r Parch J. Evans (Bryn). Yr oedd ganddynt waith enfawr i'w gyflawni mewn gwahanol ffyrdd, ic ni adawodd yr un ohonynt ei safle o ddyled- iwydd yn ystod yr oil o'r deg diwmod y cynal- wyd yr Arddangosfa. Y mae clod mawr yn ddyledus iddynt am yr hunanaberth a'r gwaith caled ddarfu iddynt gyflawni, a hyny mor eff eitll- iol. Yn ychwanegol at y brodyr hyn, dyler3 grybwyll enwau Mr T. J. Davies, Rock House, Marble Hall-road—ysgrifenydd corau y plant; gweithiodd yn ddyfal er darparu y plant i ganu. Yr oedd performance bechgyn y llong John Williams yn enill edmygedd y lluaws bob nos, aC yn tynu canoedd yn nghyd. Yr oedd amryW- iaeth mawr yn entertainments y plant, ac y wae clod mawr yn ddyledus am y dull meistrolgaf yr aethant drwy ranau o'r gwaith i Mrs J. J. Jones a Mrs. Iona M. Williams, y rhai fu yn ell parotoi i fyned drwy waith y Zenana. ysgrtf: enyddion y cywreinion arddangosid oeddynt Mt* David Harris, New-road, ac Edward Morgan Prudential Chambers. Yr oedd ganddynt lawef o waith i'w casglu yn nghyd, a gwnaethant ef y11 ganmoladwy. Rhoddodd Mr Harris dy i dderby0 a chadw y cywreinion hyd yr Arddangosfa. Dylid crybwyll mewn modd neillduol lafyr nia^ Mrs J. B. Harries, Brynarymor, a Mrs Samue' New-road, y rhai a gymerasant ofal y refyeS'1 ments yn yr Arddangosfa i Mrs Ellis EvaO^ Gloster House, am ofalu am y sweet stall aU1 deg diwrnod; i Miss Griffiths, Upper Park- street, am ofalu am stall y defnyddiau ar hyd J amser. Cafodd pawb o'r rhai enwyd luaws 1 'II cynorthwyo i ddwyn yn mlaen y gwaith. Lieutenants y goruchwylwyr oeddynt :-Mag.- gascar, Parch J. H. Rees, Burry Port; Parch D. Davies, Llangenech; Affrica, Mr J' Sidney Francis, Marble Hall-road; China, Henry Edwards, George-street; Polynesia, W. Rees, Suarez, Newry-rd,; Colonial, Miss Ethe Thomas, Hendy, a Miss Jennie A. White, pont ardulais New Guinea, Parch D. Jones, Saron y Parch lona M. Williams oedd y gohebydd sicrhau gwasanaeth y cenadon. Gofalid am J hysbysiadau gan Mr Walter Chas. DavIe" Myrtle-terrace. Architect, Mr J. H. Montgomery' Crofft, Old-road. Cerddoriaeth, Mr D. FrancIS; (ilanalla-street. Ysgrifenydd y tocynau, } W. Morris, High-street, a Mr R. W. Davie$, Mansel-street gohebydd yr ysgolion, Gwilym Harries, College-square; ysgrifeny^ golygyddol, Mr Brinley R. Jones, Vaughan-S ysgrifenydd i'r wasg, Mr W. Evans, Lakefie' road; demonstration secretary, Mr Seth J on Marble Hall-road cinematograph, Parch Jones, Pwll. Yr oedd gofal y gyntedd Feddy^ ar Dr Samuel Williams, M.B. Gohebydd y ffyrdd oedd Mr W. T. Thomas, Park drive-W race. Ysgrifenydd y lletydai i'r cenadon, L. W. Adams, London House. Cymerodd j David John, Stepney-street, ofal yr anerchia Dr Griffith John, a llwyddodd i gael chwech a saith gant o enwau, a thalai pob ddim llai na chwecheiniog am y fraint. lvfr IP, J ames Davies, Press Buildings, oedd yr ysgrifel" ydd Cyffredinol, a chyflawnodd ei waith yn rb orol. Y president oedd Mr Joseph Maybery, yJY is-lywyddion, Parchn R. Gwylfa Roberts, Rogers, D. Lloyd Morgan, W. Trefor DaV Griffith Jones (Hendy), Mr W. Bramwell ]°\$ Cadeirydd ;y Pwyllgor Gweithiol, Parch T.J^w, D.D. trysorydd, Mr Joseph Williams, *'e$i Caeglas. Yr ydym yn lied sicr o fod gwrieyd elw o rai canoedd o bunau. Penderfy odd y Pwyllgor, cyn gwybod swm y trew 1 i anfon 150P i'r Gymdeithas yn ddioed cyn catl y cyfrifon am Mae yr Arddangosfa wedi gwneyd argraff ^0\ ar ganoedd a galonau. Bydd y teimlad cenaitb yn gryfach yn IJanelli a'r cylch am amser ar ei hoi. Yr ydym fel eglwysi yn falcli i n1 gymeryd a'r anturiaeth. Yr oedd genym yD Jt(, i fil o bersonau wedi ymrestru fel goruchwyl Nid oedd ball am ewyllysgaryddion at bob xA o'r gwaith. 0 bawb fu yn gweithio, y f' efi> ddarfu ragori. Dysgwyliwn ganlyniadau dithiol i'r Arddangosfa. GOHRRYDD LliANELlil.
ANGENRHEIDIAU TEULU AIDD-…
News
Cite
Share
ANGENRHEIDIAU TEULU AIDD- Cydnabyddir cyrants yn awr mor yn iachusfwyd fel y mae eu hymddang mewn pwdinau a theisenau yn dyfod angenrheidiol ac adnabyddus, tra am U a'r rhataf o'r holl Cyrants—y mae ei boblogrwydd yn yn barhaus. Yn wir, nid yw yn un syn^" bwyd sydd mor iaehus ac mor hawdd i wedi gwneyd lie iddo ei hun yn rhestr » rheidiau bob dydd perthynol i bob cartref,
MARWOLAETH MR T. THOMAS, DIWEDDAR…
News
Cite
Share
MARWOLAETH MR T. THOMAS, DIWEDDAR 0 DY'NYWERN. Ar ol cystudd byr, ond blin a phoenus iawn, bu farw y boneddwr urddasol a'r Cristion didwyll a enwir uchod yn Bryn- gafel, preswylfod ei anwyl ferch a'i fab-yn .nghyfraith, Mr a Mrs J. Grawys Jones, Ebenezer, Aberdar. Cymerodd yr am- gylchiad pruddaidd le nos Wener, Ebrill 5ed. Yr oedd ei unig a'i anwyl fab, Dr T. Thomas, Y.H., Caerphili, a Dr Banks-dau feddyg enwog-wedi bod ar eu goreu yn brwydro a'r dolur, a'i anwyl fab.yn- nghyfraith a'i ferch wedi bod ar eu goreu yn gweini iddo ac arno. Ond nid oedd bwrw arfau i fod, a hunodd yn yr Iesu yr adeg a nodwyd. Claddwyd ef y ddoe (dydd Mawrth) yn Mynwent enwog y Groes Wen—lie anwyl ganddo, a lie y treuliodd ei oes i grefydda a gwasanaethu ei Dduw. Daw hanes ei gladdedigaeth yn ein nesaf.
LLANDEILO.
News
Cite
Share
LLANDEILO. Yn etholiad y Cynghor Trefol, Mawrth 25am, cymerwyd Ilawer iawn o ddyddordeb. Yr oedd wyth o ymgeiswyr, ac o'r pump a etholwyd, safai Mr J. Stephens, London House, ar ben y rhestr. Rhoddwyd hefyd le anrhydeddus i Mr Claud Davies, cyf- reithiwr, mab y Parch W. Davies. Hyfryd yw gweled dynion fel hyn yn cymeryd dyddordeb mewn gwaith cyhoeddus. Fel y canlyn y gorphenodd Mr J. Stephens ei gyfarchiad i'r etholwyr wrth gydnabod ei etholiad:— Mae'r frwydr wedi troi, Y Cwrw wedi ffoi; Yr etholwyr wedi rhoi I hwn-y Cooper's Boy "— Fwyafrif mawr." Hir oes i'r ddau i wasanaethu y dref a'r cylch.
ABERTILERI.
News
Cite
Share
siarad yn erbyn Ymreolaeth i Gymru, a ddywedodd, nas gallai teimlad wneyd i ffwrdd a ffeithiau. Yr oedd brwdfrydedd y Cymro dros amser yn unig. Yr oedd Ym- reolaeth yn groes i drefn dadblygiad yr oesau. Yr oedd amser y cenedloedd bych- ain wedi darfod. Pa beth am Bulgaria a'r gwledydd bychain ereill sydd ar lanau y Danube ? Y maent wedi cael Ymreolaeth, ond nid oes dim cynydd ynddynt, na dad- blygiad. Dim ond rhyfel a son am ryfel sydd yno. Yr unig beth sydd yn sicrhau eu hannibyniaeth ydyw eiddigedd y gwledydd mawrion tuag at eu gilydd. Nid oes ar Gymru eisieu Ymreolaeth, nid ydyw y cwestiwn i gyd ond adsain oddiwrth y Gwyddel. Er engraifft, fe wnaed ymgais i uno siroedd Cymru i amcanion neillduol, ond methwyd. Y mae gormod o enwad- aeth yma, ac y mae culni y Cymro yn anghymhwyso y wlad i dderbyn Ymreol- aeth. Gall Cymru gyflawni ei chenadaeth yn well heb Ymreolaeth. Mr T. Morris, B.A., a ddywedodd fod Cymru yn ymborthi arni ei hun, oherwydd diffyg ymborth. Rhoddwch gwestiwn mawr fel Ymreolaeth o'i blaen, ac fe ddarfydda enwadaeth a'r culni yma. Y Parch D. L. Jenkins a ddy- wedodd mai nodweddion teulu ydoedd hunan-aberth ac hunan-ymwadiad, ac nid ymreolaeth. Dywedodd fod gwahaniaeth dirfawr rhwng Ymreolaeth a llywodraeth leol. Yr oedd efe dros lywodraeth leol, ond yn erbyn Ymreolaeth. Tueddiad yr oes ydoedd uno, ac yn fuan yr oedd efe yn gallu gweled undeb cyffredinol o holl wled- ydd Ewrop. Yr oedd sefyllfa foesol Cymru heddyw yn well o'r undeb. Nid llywodr- aethu yn wleidyddol ydoedd neges Cymru." Y Parch J. Marks Evans, yn siarad oddiar brofiad, a ddywedodd fod byw yn mysg y Saeson wedi gwneyd lies iddo. Yr oedd yntau yn credu mewn llywodraeth leol. Siaradwyd hefyd gan y Mri W. Davies a John John. Diweddwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau,' gan Mr J. John.