Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

0 FRYN I FRYN.

ABERTILERI.

News
Cite
Share

ABERTILERI. Y Gymdeithas Gymreig. Nos Fawrth' Mawrth 26ain. cynaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas hon. Daeth nifer Iled dda yn nghyd, ond yr oedd amryw o bethau yn milwrio yn erbyn cynulliad da. Yr oedd Macbeth yn y chwareudy y noson hono, ac hefyd yr oedd gwyliau y Pasg yn agos. Cymerwyd y gadair gan Mr T. J. Thomas, B.Sc., yn absenoldeb cadeirydd apwynt- iedig y Gymdeithas. Ar ol ychydig o nod- iadau pwrpasol, galwodd ar y Mri 0. N. Roberts, B.A., a E. W. Gruffydd i agor y ddadl ar 'Ymreolaeth i Gymru.' Mr Gruffydd, yr hwn a agorodd o blaid Ym- reolaeth, a ddesgrifiodd ymdaith ogon- eddus y Celt o ganolbarth Asia oesoedd dirif yn ol, ac wedi i'r Celt ddyfod i'r Ynys yma, yr oedd fel Alexander Fawr gynt yn wylo, oblegid nad oedd ganddo fydoedd ereill i'w concro. Ar ol ychydig sylwadau hanesyddol felly, er dangos annibyniaeth ein cyndadau, ac hefyd er ein coffhau o'r gwyr enwog sydd wedi ymfrwydro yn yr oesoedd pell yn erbyn y Rhufeiniaid, y Pictiaid, a'r Saeson, aeth yn mlaen at Ymreolaeth y dyddiau presenol. Dywed- odd fod gan bob cenedl ei chenadaeth, ac yn ei dyb ef, cenadaeth y Cymry ydyw atal materoldeb y Sais. Dangosodd sut yr oedd ymreolaeth mewn dyn unigol, y teulu, ac fel yr oedd y teulu i'r genedl, felly hefyd yr oedd y genedl i'r ymher odraeth. Yr oedd gan Gymru faterion teuluaidd i' w trin, sef. Cwestiwn y Tir, Dadgysylltiad, Addysg, &c. Yn ei dyb ef, ieuad anghymharus iawn ydoedd ieuad y Cymro a'r Sais. Mr Roberts, B.A., yn