Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

RHANBARTH PENYBONT-AR-OGWY.

News
Cite
Share

RHANBARTH PENYBONT-AR- OGWY. Glojaol.- Yr anghytundeb-os anghytundeb hefyd—yn nglofa y Wyndham yn yr Ogwy wedi ei derfynu yn foddhaol iawn i bob adran trwy gydymgynghoriad pwyllog a phrawnon helaeth o'r elf en hanfodol o bob tu-doethineb a hawlir na fu seiliau i ffyniant cystal dealldwr- iaeth rhwng cyfalaf a llafur yn y lofa hon er's hir flwyddi. Hyderir y cadârnheir hyn gan-ddad- blygiadau cydfynedol. Yn yr Aber, gan yr un cwmni (Cory Bros.), mae anturiaethau gorchestol gyda llwyddiant yn sicrhau cyflogiad nifer fawr o feibion, canys yn ddiweddar darganfyddwyd gwythlen uchel ei -choel yn y farchnad, a suddir yn ddyfnach eto at berlau. Daroganir y bydd cylch y lofa yn ddarlun byw o ranau o'r Cyfandir mewn peirianwaith newyddiol a chymhwys- iadau dueddant i ddyogelu bywyd ac aelod.— Blin gan lu ddeall am anffawd yr anturiaethus Solomon Andrews, yr hwn sydd yn dechreu medi, trwy lofa Brynmenyn, lie bu anobaith yn pylu ffurfafen llafur yn hir. Cae'rbryn, ger llaw, newydd benodi trefnydd a phob ysgogiad i hyrwyddo dygiad allan y perl du, tra mae pyllau Bryncethin yn barod i godi glo. Etholiadau.-Cyn yr ymddengys y llinellau hyn, bydd rhai ymgeiswyr wedi derbyn eu tynged am y tair blynedd nesaf parthed eu hymgeis- iaeth am aelodaeth ar Fwrdd Gwarcheidwaid Penybont, Mae yr Ogwy yn ferw i gyd, a doniol yw gwrando hawliau y gwahanol bleidiau a'r amrywiol leisiau drachefn glywir gan gyffelyb blaid. Beth gyfrifa am hyn, tybed ? Pe byddai mesur o unrhywiaeth yn yr amrywiaeth, buasai 3'n dygymod ond ofnwn nad yw ystyriaeth ddyladwy yn gymhellydd i rai o'r ymgeisiadau hyn. Beth yw'r fantais barhaol ddeilliedig o i un adran oresgyn y llall ? Pa bryd daw'r dydd yr etholir pob un ar ei deilyngdod cymhwys- iadol, ac y cleddir yr arferiad ffiaidd o ddeisebu o ddrws i ddrws, a'i drygsawr yn parlysu hunaneb a moes. Yn rhanbarth Elansantffraid, teimla gwarogaeth i wasanaeth yn flin iawn yn herwydd tyniad yn ol y pwyllog a'r hir-brofedig Mr Howell: Williams, Bryncethin Farm, a swyddog amryddawn yn Peniel. Gwir ei fod yn arbed traul etholiad ond bydd ei ysbryd tangnefeddus yn sicr o'i goroni a, dychweliad eto. Bethel, Naitillmoel.-Y Parch E. Richards, Tonypandy, oedd dewis-ddyn Cymdeithas Pobl Ieuainc yr eglwys hon i roddi darlith iddynt yn ddiweddar, a chyda'i asbri nodweddiadol, a phob acen yn tanio. uchelgais, portreiadodd ei ymweliad a, Chanaan iddynt. Cynge,yddai,t.-Llangrallo, Coity, Brynmenyn, a Chwmogwy wedi cynal eu cyngerddau blyn- yddol yn ddiweddar, pan ddyddorwyd lluoedd gan swyn cyfareddol brenines dedwyddwch, ac .yr cnillwyd at gyllid pob trysorfa. Parch J. Bevan, Waunarlwydd.—Bu yr efeugyl- ydd allwyl hwn yn gwasauaethu cglwys y Tabcr- nacl, Penybont, y Sul o'r blacn, a met hyfryd oedd ei gan am waed y Gwr mac wedi wasan- aet.hu mor fyw am 47 mlynedd. Parch J. Dyfnallt Owen.— Bu ef, ar gais pobl ieuainc Bethania, Cwmogwy, yma yn traethu araeth benigamp ar Patrwn Bywyd,' ac yn ei ddull syml, hyderwn i aiul un gael cyweirnod i lwyddiant a defnyddioldeb. Y Ddirprwyaeth Eglwysig.—Crybwyllwyd yma o'r blaen am wasanaeth aelod Seneddol yr ethol- aeth hon—Mr S. T. Evans—i Ymneillduaeth ar yr eisteddiad uchod, ac y mae ei safiad diweddar wedi cadarnhau ein proffwydoliaeth. Dyddorol gan blant cerdd fydd deall fod tystiolaeth i'w rhoddi ar y gangen hono gan un na feiddiwn yngan gair am ei wasanaeth difesur i gerdd ei genedl—Mr M. 0. Jones; a phwy gawn sydd mor gyfunol ? Y Sabbath.-Sibrydir y bwriedir rhedeg trains i'r cymoedd yma ar y dydd cysegredig wedi dechreu Mai. Mawr- hyderir iiiai si fydd, a dim mwy, onide bydd y dydd sydd fel gardd y nef i'r gwir addolwr wedi ei sangu.

KENSINGTON, LERPWL. !

._-------__-----_._-LERPWL.

----I Y CYFARTALEDD PRIODOL.…