Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BRYN SEION, CADOXTON.

News
Cite
Share

BRYN SEION, CADOXTON. Darlith.—Traddodwyd darlith yn gysyllt- iedig a'r eglwys uchod yn y Tabernacl, Barry Dock, nos Fercher, Mai 30ain. gan y Parch H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, ar y testyn dyddorol 'leuan Gwynedd.' Yr oedd y ddar- lith yn un o'r rhai goreu wrandewais erioed—' nid.i wneyd i bobl chwerthin-er fod digori 0 wit a humour yuddi--ond i rywbeth llawer mwy sylweddol. Y mae y ddarlith, nid yn unig yn ddyddorol ac addrsgiadol, ond hefyd yn ddyrchafol a chrefyddol dros ben. Os bu darlith yn amserol a buddiol erioed, y mae 'leuan Gwynedd' felly. Myned pawb ei chlywed; bydd yn fendith pen a chalon i bob un a'i gwrandawo. Cadeiriwyd yn ddeheuig ac yn ei ffordd effeithiol ei hun gan y Parch Ben Evans. Wedi talu diolch i'r darlithydd, a'r cadeirydd, ac i weinidog ac eglwys barehus y Tabernacl am fenthyg y capel, aeth pawb adref wedi cael, nid yn unig werth eu harian, ond hefyd wledd o'r radd Hchaf. UN OEDD YN BEESENOL.

-------------., --------------------__-----------DYFFRYN…

. CYMANFA GANU CYLCH PENYBONT-AR-OGWY.

UNDEB YSGOLION SABBATHOL CYFUNDEB…

CANOLBARTH CEREDIGION.