Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CENADAETH mudion MORGANWG.

SALEM, LLWYNYPIA.

TABERNACL, CWMGORS. -

TABOR, ABERGWYN Fl.

News
Cite
Share

TABOR, ABERGWYN Fl. Cantata.- Yr oedd yr eglwys wedi bod yn edrych yn mlaen am gryn amser at nos Iau„ Gorphenhaf 6ed, pan y perfformiwyd y cantawd 'Yr Ysgol Ddyddiol,' gan blant bychain yr Ysgol Sul. Yr arweinydd oedd Mr D. A. Jenkins, A.C. Cafodd pawb weled actio difai, a chanu rhagorol gan blant bychain iawn. Mae Mr Jenkins a'r plant wedi gweithio yn galed am fisoejd lawer er cael y fath berffeithrwydd gan y rhai bychain. Credwn eu bod wedi eu Ilwyr foddloni nos Iau wrth weled y fath dorf o wrandawyr astud. Mae y cantawd wedi profi yn llwyddiant addysgol i'r plant, ac yn arianol i'r eglwys. Gobeithio yr a. Mr Jenkins yn mlaen a'r gwaith rhagorol hwn, fel na bydd y cantawd hwn ond rhagflaenydd i lawer eto yn y dyfodol. Tr Tsgolion Sul.-Er mantais i ysgolion elfenol y lie, mae yr Ysgolion Sabbathol yma wedi penderfynu rhoddi eu gwledd flynyddol i'r plant ar yr un dydd. Felly dydd Llun diw- eddaf, cyfarfyddodd yr ysgolion ar y Square yn Commercial-street ac wedi i bob ysgol ganu, aethpwyd yn orymdaith drwy y lie. Wedi hyny, aeth pob ysgol i'w gwahanol gapeli i gyf- ranogi o'r danteithion parotoedig. Daeth ysgol Tabor allan yn rymus, a threuliwyd amser hyfryd yn nghymdeithas y plant. Gobeithio y ca y teimlad undebol uchod rhwng y gwahanol eglwysi le blasnllaw o hyn allan er mantais i eglwysi y lIe.

EBENEZER, CAERDYDD.

Advertising

EGLWYS Y CRWYS.

UNDER YR ANNIBYNWYR :/ - CYMREIG.