Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
ETHOL SWYDDOGION.
News
Cite
Share
ETHOL SWYDDOGION. CADEIRYDD 1905-6. Etholwyd y Parch Job Nli!es, Aberyatwytb, yn Gaieirydd am y flwyddyn nesaf, a dioicb- odd yntau mewn geiriau tyner am yr ail-amlyg- iad yma o garedigrwydd tuug ato trwy el ddethol am yr ail wa.th i lanw y swydd anrhyd- eddus hon. Dywedai fod sefyllfa ei iechyd wedi ei orfodi i beidio derbyn yr anrbydedd y t"o cynt if,. ond yn awr yr oedd mewn safyllf" iechyd llawer gwe/1, a derhyniai gyda phob teimlad o ddiolchgarwch vr ail-Hdangosiad yins o ewyllys di aelodau yr Undeb iddo. YSGRIFENYDD AM DAIR BLYNEDD. Bu raid pleidle sio ddwywaith er mwyn cael y mwyafrif angearheidiol i efchoi i'r 8wytld yma, a bti-isgi yn rhaid gwneyd hyn y drydedd waith oni bai i'r Parch J. H. Parry, Liansaul- let, dynu yn ol yn ffafr y Parch T. Hughes* A.T.S Cjerdydd. Yna etholwyd Mr Hughes yn unfrydol. Mae Mr Parry wedi cynorthwy0 y Gynadledd i ddyfod allan o'r un anhaw s ief fwy nag unwaith o'r blaen a hyny mewn ysbryd rhagorol. SWYDDOGlON EREILL. Ai!-eth jlwyd y Parch D. A. Griffith, Troel- rhiwdalar, yn Ysgrifenydd Arianol; Mr E. ff Davies, Y.H., yo Drysorydd a'r Parch 3* Eynon Lewis yn Y stadegydd. Diweddwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch R. Deiniol Joues, Llaurhaiadr.
DYDD MERCHER.
News
Cite
Share
DYDD MERCHER. Am haner awr wedi naw yn Saron, cynalivvyd CYNADLEDD YR UNDEB. Blaenorid traddodiad Anerchiad y Cadeirydd gan gyfai-fod gweddi am awr, a chymerodd amryw ran ynddo. L'ywyddwyd y rhan yna gan Dr T. Johns, Llanelli. Yna, ar ol canu emyn, cafwyd
Y GYNADLEDD BUSNES.
News
Cite
Share
yr aelodau oedd 802, ac yn ihif deiliaid yr Ysgol Sabbathol, 1,377, ond y mae cyfanswm y casgliadau yn llai o 4,011p. Dehau.Bu diwedd IPOi a dechreu 1905 yn amserau nodedig yn hanes y rhan fwyaf o eglw j si y Dehendir ac oni bai mai gwneyd gwaith Yagrif- enydd Ystadegol yr wyf, byddai parygl i mi fyned i hwjl wrth son am y galla a'r dylanwad fu yn codi ein heglwysi i ben mycydd y Gweddnewidiad. Prin y mae eisieu i mi ddyweyd fod iliif yr aelodau wedi cynyddu yn mhob Cyfun 'eb OLd Cyfundeb Seisonig Maesyfed, l'e y ceir ychydig o leihad. Y Cyfundeb lluosocaf o ran rhif ei aelodau yw Gor- Ilewin Morganwg; ond y Cyfundeb a gasglodd fwyaf yw Dwyrun Mcrganwg. Y mae y cynydd yn rhif deiliaid yr Ysgol Sabbathol yn 9,507. Ych- wanegwyd 11, 443 o aelodau fel ffrwyth y Diwygiad, ac y mae cyfanrif cynydd yr aelodau yn 12,688, neu fwy na h ner cymaint a holl aelodau Cyfun- debau y Gogledd. Y mae y casgliadau yn llai o 370p, Fe nid rhyfedd hyny, oblegid gwy idom am eglwysi oedd yn anghofio y ctsgliadau gan gynnint y bias oedd ar gasglu eneidiau. Gosodir c.olofn i fewn i ddangos cyfartaledd y swm a gasglwyd yn mhob Cyfundeb ar gyfer pob aelol. Y swm a gyfranodd pob aelod ar gyfartaledd oedd lp 4s. 9c. Cyfranodd eglwysi Lerpwl, Man- eeinion, &c., lp 16s. Ifc. ar gyfer pob aelod Llun 4 dain, lp 10s. 4|c. y Gogledd, lp. 6s. 9c.; a'r Deheudir, lp 3s. 1 tc, Dymunaf alw syfw at un peth, sef y lleihad yn Dghyfraniadau yr eglwysi at y Genadaeth. Ceir lleihad yn mhob Cyfundeb yn y Deheudir ond tri, ac yn mhob Cyfundeb yn y Gogledd ond tri. Y mae y lleihad mewn rhai C fundebau yn ganoedd o bunau. Oni bai am ewyllys-rodd y diweddar Mr Thomas Williams, Y.H., Merthrr, buasai y cyfan- swm at y Genadaeth dros l,000p yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Diolchaf yn gynes i'r brodyr am y cynorthwy i wneyd yr adroddiad mor gywir a chyfiawn, a, hyderaf fod y deuddeg mil a ychwanegwyd drwy y Diwygiad o lwyth y Cymry at yr eglwysi fel y deuddeg mil a welodd loan o holl lwythau Israel, wedi eu selio yn eu taleenau, ac yr ychwanegir deuddeg mil arall yn ystod y flwyddyn hon. A ganlyn sydd grynodeb o'r cyfanrif a'r cyfan. symiau, gyda'r cynydd neu'r lleihad Cyfanrif Cynydd a'r neu Cyfraniadau Leihad Eglwysi ac Ysgoldai 1,407 c. 16 Aelodau 167,181 c. 13,831 Cynydd drwy y Diwygiad 12,026 Diaconiaid. 6,342 c. 68 Ysgolion Sabbathol (ar y llyfrau) 165,991c, 11,438 Atlirawon 16,402 c. 538 Gweinidogion â gofal 647 11. 4 heb ofal log c. I ymryddhaodd 5 ordeiniwyd n e u sefydlwyd 18 11. 7 fuont feirw 13 c. 3 Myfyrwyr. 242 C. 10 Pregethwyr 33411. 19 Capelau Newyddion 12 11. 3 „ A.dnewyddwyd, &c, 81 c. 15 Ysgoldai newyddion neu adne- wyddwyd. 17 c. 8 Adeiladau ercill newyddion 20 c. 4 Tai Gweinidogion. isi C. 6 Tai Anedd. 51711. 37 Eglwysi gawsent Jubili 1711. 15 Cyfanrif yr Eisteddleoedd 441,896 c. 6,921 £ s. c. £ s. c. Casglwyd ar y Genadaeth 10,755 14 5 c. 1,004 8 5 At y Colegau 3,104 15 9t II, 91 17 6 Cyfanswm y Casgliadau 207,333 5 Si 11. 4,096 10 5 Tal w y d o'r Ddyled 37,338 16 61 11.13,867 3 9 2 Dyled arosol 276,180 19 1 rc. 16,643 17 3 Gwerth Adeil- adau newydd- ion, &c. 63,031 06 c. 10,960 11 i Cyfanswm g w e r t h yr eiddo 1,552,978 13 2 c. 50,307 16 10 C a s g 1 w yd ar gyfer pob Aelod 149? 11. 0 2 9t 4 H. E-YNojv LEWIS. ADRODDIAD PWYLLGOR UNEDIG UNO Y PWYLL- GORAU A'R LLYFRFA. Yn Nghyriadledd yr Undeb yn Mangor y flwyddyn hon, penderfynwyd, gan fod yr Adroddiadau a gyf- Iwynwyd i'w sylw gan- Bwyllgor y Pwyllgorau a phwyllgor y Llyfrfa yn rhedeg ar yr un llinellau, fod i'r ddau Bwyllgor uno a'u gilydd i ystyried yr holl gwestiynau, ac i dynu allan gynllun unedig i'w gyf- lwyno, yn gyntaf, i'r Cyfundbau, ac yna i Gynadl- edd yr Undeb y flwyddyn nesaf yn Nhredegar. Y mae y ddau Bwyllgor hyn yn awr wedi cyfarfod, ac wedi rhoddi pob ystyriaeth yn eu gallu i'r materion ac wele yn awr adroddiad o'u gweithrediadau yn cael ei gyflwyno. Yr oedd y Pvvyllgor yn ymwybodol o anhawsder y gorchwyl, yn enwedig wrth gymeryd i ystyriaeth y gwaith rhagorol oedd eisoes wedi cael ei gyflawni gan y gwahanol Dwyllgorau, y llafur mawr a'r aberth personol oedd wedi cael eu amlygu gan lawer yn ngwasanaeth yr Enwad. Ofnid gwneyd rhuthr a bychanu gwasanaeth cydwybodol, a thrwy hyny ddolurio teimladau a pheri anghydfod fel y mae yn hawdd deall fod y Pwyllgor wedi ymaflyd yn y gorchwyl gyda chryn lawer o bryder. Byddai yn hawdd iawn cymeradwyo drastic changes, a sathru ar deimladau a gwasanaeth ond yr oedd y Pwyllgor nid yn unig yn awyddus i uno y Pwyllgorau, os oedd hyny yn ddoeth a dymunol,ond hefyd i uno teiml- adau, ac i wneyd pob cyfnewidiad mor ddidramgwydd ag ydoedd bosib). Nid oedd yn perthyn i'r Pwyll- gor i ymofyn pafodd y daeth y gwahanol Bwyllgorau i fodolaeth, ond i ystyried a ydoedd parhad eu bod- olaeth yn eu tfurf bresenol y dull m wyaf effeithiol i gyflawni gwasanaeth llwyddianus; i ystyried hefyd a ydoedd amldra Pwyllgorau yn wastraff ar nerth ac arian ac yn mhellach, a oeddynt yn sathru ar derfynau y naill y llall ac a oedd perygl iddynt fyned o gyrhaedd rheolaeth yr awdurdnd roddodd iddynt fodolaeth a chenadwri ? Cafodd y cwestiwn yn ei holl agweddau ystyriaeth fanwl y Pwyllgor. PWYLLGORAU. Y mae chwech o Bwyllgorau yn gysylltiedig a gwaith yr Undeb ar hyn o bryd, sef-Pwyllgor yr Undeb, Pwyllgor y Gronfa, Pwyllgory 'Caniedydd,' Pwyllgor yr Un Maes Llafur, Pwyllgor Llenydd. iaeth, a Phwyllgor Dirwest. Nid oedd Pwyllgor yr Undeb yn dyfod o dan ein hystyriaeth. Bu Pwyllgor y Gronfa dan sylw, ond yr oeddym o farn uufrydol, gan nad ydyw ei weithrediadau yn barhaol, a'i fod yn agored i gael ei ddwyn i derfyniad unrhyw adeg trwy bleidlais dwy ran o'i dair o gyn- rychiolwyr, a chan nad oes unrhyw elw yn deilliaw oddiwrtho, mai doeth a phriodol fyddai iddo barhau i gano ei waith yn mlaen fel yn y gorphenol. Mae y pedwar Pwyllgor arall yn rhedeg bron ar yr un llinellau o ran gwaith, gyda hyno wahaniaeth sef fod • Pwyllgor y "Caniedydd"' a 'Phwyllgor yr Un Maes Llafur' yn cynrychioli y Cyfundebau, tra y Mae I Pwyllgor Llenyddiaeth a Phwyligo 'r Dirwest' yn ddewisedig gan Gynadledd yr Undeb. Ond i bob pwrpas ymarferol, y mae y pedwar hyn yn gweithio ar yr un llinellau mor bell a'u bod yn parotoi, yn cyhoeddi, ac yn lledaenu Llenyddiaeth at wasanaeth yr Enwad. Er fod yr holl Bwyll- gorau a nodwyd yn gweithio ar yr un llinellau cyffredinol, eto yr oedd y Pwyllgor yn barnu fod y ffiniau terfynol yn ddigon amlvvg. Y mae Pwyljo-Or y Caniedydd' yn darparu ar gyfer Caniadaeth y Cysegr; tra y mae yr Un Maes LIafur a'i ciIwg yn hollol ac yn unig ar yr Ysgol Sabbathol; y mae gwaith arbenig Llenyddiaeth gyffredinol yn syrthio i ran y Pwyllgor dan yr enw tra y mae Sobrwydd a Phurdeb yn ngofal Pwyllgor Dirwest. Yr oedd y Pwyllgor yn barnu nad anfantais ydyw cael nifer o Bwyllgorau fel hyn i gario allan wahanol adranau o'r gwaith, oblegid y rhoddant gyfleusderau ychwanegol i wasanaeth, ac y gwnant trwy hyny greu dyddordeb a dadblygu talentau. Y cwestiwn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ydoedd: Yn mha le ac yn mha ddull yr oedd y Pwyllgorau hyn i gyd-gyfarfod ac i gydlino ? Teimlid y buasai yn ddymunol (I) Fod Pwyllgor y Llyfrfa i fod yn ganolbwynt yr holl Bwyllgorau sydd i uno, sef Pwyllgor y Caniedydd,' yr Un Maes Llafur, Llenyddiaeth, a Dirwest. (2) Fod y Pwyllgor hwnw i fod yn gyfansoddedig o ddau aelod o bob Pwyllgor, yn nghyda nifer cyfartal i gael eu dewis gan Gynadledd yr Undeb. (3) Fod holl weithrediadau y gwahanol Bwyllgorau i gael eu hystyned a'u cymeradwyo gan Bwyllgor y Llyfrfa cyn eu gosod mewn gweithrediad. (4) Fod Pwyllgor y Llyfrfa i roddi Adroddiad Blynyddol, yn cynwys gweithrediadau 4ilenyddol ac ar:anol yr holl Bwyllgorau ereill, i Gynadledd yr Undeb. Y CYLLID, Y mae rhyw gyma:nt o gyllid blynyddol gan bob un o'r Pwyllgorau a nodwyd. Yr unig un ohonvnt ag y mae yr eiddo wedi ei osod mewn trust, a dos- barthiad yr. elw wedi ei benderfynu, ydyw Pwyll. gor y 'Caniedydd.' Y mae y Pwyllgor yn cymer- adwyo fod Trust y Caniedydd yn cael ei lielaethu i gynwys amcanion ac i benderfynu dosbarthiad elw y Pwyllgorau ereill, ac i ychwanegu at ei ymddir- iedolwyr ac i wneyd y cyfnewidiadau angenrheiodiol i'w gymhwyso i dcbrbyn yr ychwanegiadau hyn. Awgrymir fod Pwyllgor y Llyfrfa i fod yn centre gweithrediadau yr holl Bwyllgorau i ledaenu pob llenyddiaeth ddygir allan dan nawdd yr Undeb, a bod Arolygydd Cyflogedig yn cael f-i apwyntio gan yr Undeb i arolygu yr holl waith. Dymuna y Pwyllgor gymeradwyo — I.-Gan fod cymhwysderau arbenig yn angen- rheidiol er cario allan waith neillduol y gwahanol Bwyllgorau yn effeithiol, ein bod o'r farn y dylent barhau i weithio fel y maent yn bresenol, ond yn unol a'r awgrymiadau sydd yn dilyn. 2.—Ein bod yn dymuno awgrymu y priodoldeb 0 sefydlu Llyfrfa mewn rhyw fan canolog. 3.—Fod Pwyllgor Canolog i gael ei ffurfio o dan yr enw Pwyligor y Llyfrfa,' a bod y Pwyllgor hwn i gynwys dau gynrychiolydd o bob un o'r Pwyll- gorau ereill, yn nghyda Phwyllgor y Gronfa, a nifer cyfartal i gael eu dewis gan Gynadledd yr Undeb. 4.- Fod y llyfrau a gyhoeddir yn awr dan nawdd yr Undeb i gael eu cymeryd drosodd ar unwaith gan Bwyllgor y Uyfrfa i'w gwasgaru. 5,-Ein bod yn mhellach yn awgrymu y priodol- deb o sicrhau gwasanaeth Goruchwyliwr taledig. 6.—Fod elw yr holl Bwyllgorau, ar ol talu y treuliau, ac mor fuan ag y gellir trefnu, yn cael eu talu i'r Trysorydd Cyffredinol a apwyntir gan y Pwyllgor Canolog, ac i gael eu rhanu o bryd i bryd at achosion enwadol, fel y penderfynir. 7-—Pwyllgor Dirwest a Llenyddiaeth yr Enwad i gael eu hethol gan y Cyfundebau—un cynrychiolydd ar gyfer pob Pwyllgor. 8.—Fod gweithred Ymddiriedol bresenol y I Can- iedydd yn cael ei helaethu i gynwys y'darpariadau ychwanegol hyn, a bod pump o Ymddiriedolwyr yn cael eu dewis i gydweithredu a'r rhai sydd eisoes yn cynrychioli y I Caniedydd,' neu fod Gweithred newydd yn cael ei thynu allan. Ydym, yr eiddoch yn gywir, JOSIAH THOMAS fOadeirydd), JAMES CHARLES, D. M. DAVEIS ac E. H. DAVIES, BEN EVANS, T. JOHNS, J. Towyx JONES, THOMAS MILLWARD, DAVID OLIVER, JNO. PARRY, 0. L. ROBERTS, J. MACTIRETuf REES, T. ROBERTS, JOHN THOMAS, T. E. THOMAS, D. WILLIAMS. Derbyniwyd yr uchod gan y Gynad'edd. ADRODDIAD IS-BWYLLGOR Y cyfansoddiad. Penderfynwyd gohirio ystyriaeth y mater hwa hyd Gynadledd y flwyddyn nesaf yo Ffestiniog.