Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

i U N DEB 1 9 0 5.

News
Cite
Share

i U N DEB 1 9 0 5. NODIADAU. BUASAI yn warth i ffydd yr un Annibynwr Cj mreig beidio edrych yn mlaen at Gyfar- fodydd yr Undeb yn Nhredegar eleni mewn hyder mawr, ac nis gallaf feddwl am neb yn edrych yn ol atynt ond mewn diolch a gor- foledd. Yr oedd y Diwygiad Dwyfol wedi gorlifo ein gwlad er's misoedd, ac eglwysi- fuont yn rhy hir fel cynifer o longau yn glynu yn llaid bydolrwydd a difaterwcb, wedi eu codi i nofio yn hardd a hwylus ar fynwes Y llanw mawr, dwfn, gloew, a hollalluog. Cafodd ein hen Enwad anwyl ninau ei ran 0 r benditbion nefol, ac yr oedd yn dyheu am ei Uchel-wyl i roi datganiad i'w brofiad llewydd. Yn wir, mor gryf oedd profiad ysbrydol yr eglwysi drwy yr holl wlad, ac lnor annibynol ar reolau a ffurfiau arferol y teimlid, fel y tybiai rhai nas gallesid cadw bywyd y Diwygiad o fewn terfynau y cyn- lluniau a wnaethid gan Bwyllgor yr Undeb ar y cyntaf, ac mai gwell fuasai newid hyd yn nod rai o'r testynau, a'u gwneyd yn fwy cydweddol a chenadwri uniongyrchol y Di- wygiad. Modd by nag, ni wnaed hyny, a chredaf nas cafwyd, ar y cyfan, achos i achwyn o'r herwydd. Mae lie cryf i gredu y buasai newid y testynau felly wedi gwneyd eyfarfodydd yr Undeb fel eyfleusdra i gynghori ac arwain ein pobl agos yn an- lnhosibl. Cawsem fwy o hwyl addolgar; ond mae y Diwygiad erbyn hyn wedi cyr- haedd pwynt sydd yn galw am bwyll a chyf- arwyddyd, am oleuni a gwybodaeth, am ^uith a threfn. Eto, yr oedd ysbryd a bywyd a chenadwri y Diwygiad yn ymweithio j^Wy yr hall gyfiawniadau, a phob un o'r brodyr anwyl a gymerasant ran arbenig yn syIweddoli ea bod yn ngwres y Pentecost, yn 3" swn o'r nef,' yn y PI esenoldeb Dwyfol. Yr wyf yn ysgrifenu fy nodiadau fel 'Un °r dyrfa,' a chefais gyfieusderau i ddal fy nghlust yn ngbanol y bobl, a chymeryd i fewn yr hyn a ddywedid am y gwahanol Syfarfodydd, yn gystal a myfyrio ychydig fy *jun ar yr hyn a welais, a glyvvais, ac a ^itnlais. Ond y mae yn anhawdd iawn feddwl am yr 'Undeb' eleni fel wedi lnyn'd heibio. Y mae yn rhy gynar i hyny etO., Aethum i i'r Undeb, ond yn awr mae Y Undeb ynof fi, a byddwn mewn un leb a'n gllydd byth mwy! Cafodd Dirwest ei thafodau tan eleni eto, ac ardderchog y gwnaeth yr holl frodyr rhan drosti hi, bob un yn ei ffordd ei hun. ^^avvodd y Cadeirydd-—Huwco Penmaen— y cyweirnod yn deg, a gwnaeth ei waith yn ueheuig, ac mae'n syn genyf, os oedd efe yo bresenol, na fuasai Ap y Freni Fach wedi ^°esi allan o'i bapyr doniol y cyfeiiiad cell- eirus hwnw at feirdd fel dosbarth heb fod sound' yn eu penau Testyn lied gyf- J^ge^ig ei adnoddau oedd gan y Parch Tl J*am Evans, Merthyr, ond gwelodd yr ^ndeb ynddo ef, fel yn y Parch E. B. Jones, y llynedd, weinidog ieuanc teilwng 0| ^wyfan, ac nid yn fuan yr anghofir rhan ei anerchiad hyawdl a dyrchafedig. y ai eiddo y Parch Ross Hughes gael ei argraffu a'i osod o dan glawr y Beibl Teulu- aidd ar bob aelwyd drwy y wlad, a chael ei ddarllen yn ofalus gan bob tad a mam, athraw, a gwarcheidwad plant. Ac yn ei anerchiad dyddorol a nodweddiadol, safai y Parch J. C. Evans, Gilfach Goch, o flaen torf o wrandawyr a edmygent brawd ffydd- lon, gweithgar, dewr, ac un a anwylir gan bawb a'i hedwyn. Mae y Diwygiad presenol wedi gogoneddu Dirwest drwy ei chofleidio i fynwes crefydd yn dynach nag y cafodd erioed o'r blaen. Da oedd genyf hefyd weled dirprwyaethau Dirwestol yn ymweled a'r Undeb eleni, ae yn cael derbyniad mar galonog. Yr oedd y Gyfeillach ar awr rhy foreu ddydd Mawrth i luaws allu ei chyrhaedd, ond clywid swn canmoliaeth iddi drwy y dyrfa a phwy mwy cymhwys na'r brawd anwyl a galluog o Glandwr i'w hanerch ? Ond gallodd y pellaf o'r bron gyrhaedd erbyn cwrdd y Gronfa. Clywais ami un yn son am y Gronfa' gyda graddau o oerni, os nad diystyrwch, ond yr oedd hithau wedi ei hysbrydoli y boreu hwn. Gwelid oddiwrth adroddiadau y swyddogion ei bod yn elfen o allu cenadol a chynorthwyol nerthol yn yr Enwad, a bod y llafur a'r aberth a wnaeth rhai brodyr erddi yn talu yn dda i'r rhai y bwriedid hi iddynt. Ond mi wn y cytuna pawb fod yr anerchiad a draddododd yr anwyl a'r athrylithgar Barch Silyn Evans ar y Gronfa yn un o'r pethau goreu a dra- ddodwyd mewn unrhyw Undeb erioed. Yr oedd gweled yr aflonydd Silyn bach,' nas gallasai gynt eistedd am bum' mynyd yn yr un fan, erbyn hyn yn dymuno na yrid ef i'r pwlpud, am nas gallai sefyll yno, oherwydd y goes a dorodd dro yn ol wrth fwydo 'deryn bach, yn peri i ddyn gymysgu gwen a deigryn yn nghyd Y pethau rhyfedd y gall damwain ei gwneyd Wel, yn sicr, yr oedd yr anerchiad a draddododd yn beni- gamp mewn meddylgarwch a chraffder, sylwadau doeth, ergydion cyrhaeddbell, dar- luniau byw, cyfoethogrwydd iaith, a thra- ddodiad gwefreiddiol. Dymuniad piwb o'r dý'rfa' oedd na welid y dydd pan y byddai i'r Silyn digymhar adael llwyfan yr Undeb tra fyddo byw, a chanddo ryw lun o goesau dano! Mae y Dirprwyaethau bob amser yn dderbyniol dros ben, ac felly eleni ond, ac er nad oedd neb i'w beio am hyny, gresyn oedd iddynt dd'od ar ol, yn lie o flaen, anerchiad Silyn a chanu Miss Rosina Davies. Cododd can y chwaer ragorol hon ysbryd goreu y dorf i bwynt uchel iawn. Gyda llaw, barn y dyrfa' oedd, fod caniadau Miss Davies eleni wedi gogoneddu y cyfarfodydd yn mha rai y cymerodd ran, ac y dylem fod yn falch o foneddiges o'i bath hi yn y gwaith pwysig a gyflawna i'r Enwad ac i Grist. Y syndod yw ei bod yn dal cystal y llafur cenadol diball y mae ynddo. Gwelais 'Gynadledd Busnes mwy cynhyrfus, ond yr oedd yr un eleni hefyd yn fywiog ar adegau, a chafwyd dadl dda gyda golwg ar y cyfnewidiad cynygiedig yn nglyn a, Phwyllgorau yr Undeb. Mae y gwr glew o Ebenezer, Caerdydd, yn d'od yn allu dadleuol mawr iawn, ac nid ar ei fedr ef yr oedd y bai iddo golli yn y ddadl hon. Tybed fod rhywbeth mewn size i wneyd cynadleddwr pybyr a da ? Yn meddwl yr oeddwn am Towyn a H. M. H. Ond, wed'yn, dyma gysgod cawraidd Llywydd yr Undeb yn d'od drosof, a phwy a'i lloria ef ? Sylwn fod y ddwy ochr yn y ddadl yn ceisio gwneyd allan mai hwy oedd y mwyaf gwerinol; ac yr oedd yn foddhad mawr i mi ddeall fod pawb yn credu na wna Undeb i'r Annibynwyr y tro ond a fo werinol. Da y gwnaed i ohirio y mater. Clywais amryw yn cwyno oherwydd y Cyfarfodydd Adranol; ond ymddangosai i mi mai sail benaf y gwyn oedd, yr anmosibl- rwydd i ddyn tra :yn y cnawd fod yn bres- enol mewn dau le gwahanol yr un pryd Eto yr oedd yn resyn nas cawsid un cyfar- fod cyfan o'r holl Undeb i drafod cwestiwn mor bwysig ac amserol ag I Addysg' yn ei agwedd bresenol. Nid rhyfedd i'r cyfarfod basio penderfyniad cryf i gefnogi Meirion yn ei bnvydr ddewr; ond synai ami un o'r dyrfa glywed Towyn yn beio Mr Lloyd George am nad oedd ddigon yn mlaen ar y mater-ddim yn ddigon pendant yn erbyn cyfaddawdau ychwaneg. Mae y sefyllfa yn ddyrys, y frwydr ar ei chanol, a rhaid cofio am gadw y Gymru Unol' y soniai y Parch Ellis Jones, Bangor, mor hyawdl am dani yn ei araeth. Dylid trafod ychwaneg ar y mater hwn, cyn troi oddiwrth Mr Lloyd George na cholli hyder ynddo. Mawr oedd y ganmoliaeth i'r Cyfarfodydd Cyhoeddus nos Fercher, a lluosog y cynull- iadau iddynt, er bod dau yn cael eu cynal yr un pryd. Gwelaf, fodd bynag, fod fy ugofod yn dirwyn i fyny. Ond rhaid cyf- eirio at Bregethau yr Undeb. Yr oedd y dysgwyliad yn uchel iawn, a llanwyd y dysgwyIiadau yn y ddau frawd rhagorol-y Parchn 0. L. Roberts a D. A. Griffith-hyd yr eithaf. Mae Mr Roberts yn rheng flaenaf pregethwyr ei Enwad, ac yn anterth ei nerth a theimlai yr Undeb yn falchach ohono nag erioed o'i glywed yn traddodi pregeth mor alluog ac amserol gyda'r fath nerth ac eneiniad. Cyflwynodd genadwri deilwng o broffwyd-cenadwri oleu, iach, onest, obeithiol, a gofir gan bawb a'i clyw- sant. Cyfeiriodd at rai peryglon yn nglvn a'r Diwygiad, ac yr oedd yr amlygiad a roddai y gynulleidfa fawr o'i chymeradwy- aeth yn profi iddo ddyweyd gair yn ei bryd. Mae y gwirionedd a'r eglwysi yn hawlio ychwaneg o beth tebyg. Pregeth feddylgar, gref, gynwysfawr, wedi ei chyfansoddi yn rhagorol, ac yn cael ei thraddodi gyda phwyll ymrgsymiadol a difrifoldeb dirodres, oedd gan Mr Griffith, a chlywais amryw o'r I dyrfa yn datgan syndod na fuasai mwy o son am dano fel pregethwr. Ni raid i'r Undeb ofni pwy fyddo yn ei oedfa tra y bydd ganddo bregethwyr fel y rhai hyn yn ei bwlpud. Cafwyd gan y Cadeirydd, Mr Josiah Thomas, yr hyn a ddysgwylid gan bawb a'i liadwaenai. Nid ar antur yr etholwyd ef i'w swydd bwysig, yr hon a gyflawnodd gyda"r fath urddas ac effeithiolrwydd. Haeddodd