Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

'-YR YSGOL SABBATHOL. !

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBATHOL. Y WE US vVLA!)\Yll[ARTHOL. i International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TRE- FFYNON. HXDREF 16eg.— Eliseus a'r Sunamees.-2 Bren. iv. 25-37. Y TESTYN EURAIDD. CA.'lYs cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragy- wyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. -Rhuf. vi. 23. Y RHANAU I'W DAELIIBII YN DDYDDIOL. Llun (Hydref 10fed).-2 Bren. iv. 8-24. Mawrth,-2 Bren. iv. 25-37. Moreber.-2 BreLi viii. 1-6. Ian.-Luc vii. 11-17. Gwener.—Luc viii. 41-56. Sadwrn.—Salm cxvi. 119. Sabbatb.-Ioan xi. 18-27. KHAQARWEINIOL. YN ystod nrosiad Eliseus yn Snnam, pentref yn meddiant llwyth Issachar, tua 25 niilldir 11' gogledJ o Samaria, dangoswyd caredigrwydd neillduol iddo gan wraig oludog oedd yn byw .ino. Neillduodd ystafell yn ei thy i fod yn hollol at wasanaeth y proffwyd. Fel gwobr am ei ffyddlondeb a'i cliar- edigrwydd, addawodd Eliseus iddi y cawsai fab. Yn mhen amser ganwyd iddi fab, yn ol gair y proffwyd, a daeth yn natnriol yn wrthddrych serch neillduol ei reni. We H i'r bachgen gynyddu, aeth allan un diwrnod at ei dad, yr hwn oedd gyda r medelwyr. Wedi Cirhaedd y cae, gwaeddodd y plentvn yn sydyn ar eidad, • Fy mhen, fy mhen. Gorchymynodd ei dad i un o'r gweisioa ei gymeryd ef at ei fam. Ar adeg y cynhauaf yr oedd yr haul yn boeth iawn, a thebygol yw i'r plentyn gael sunstroke. Ymddengys nad oedd ei dad yn tj bied fod aftechyd ei blentyn yn beryglus felly nid aeth gydag ef i'r ty. Ban ddaeth y gwas gydag ef i r ty gallwn yn hawdd ddychmygu gyda pha dynerwch* phryder y cymerodd ei fam y plentyn. Gosododi ef ar ei gliniau ei hun, a gwnaeth bobpeth ar a allasai iddo. Ond bu farw y plenty^ Wedi ei daro, nibufywondychvdig oriau—hyd haner dydd. Deneys y fam huuanfeddiant neillduol yn yr am- gUchiad. Nid ydyw yn ymollwng i dristwch gor- modol Gwyddai fod Elias wedi adgyfodi mab y wraig weddw o Sarephta, a phenderfynodd hithau d -wyn ei hachos at wr L>uw. Rhydd ei phlentyn l orwedd ar y gwely yr arferai y proffwyd orwedd arno pan yn aros yn ei tby. Galwodd ar ei gw •, a gofynodd iddo am roddi iddi un o'r asynod, a llano i'w gyru, gan ei bod am fyned at wr Duw. Aw- gryma y buasai yn dychwelyd yn fuan. Ni wyddai y tad fod ei blerityn wedi marw, ac y mae yn ym- ddangos ei bod hithau am gadw y ffaith alarus oddiwrtho. Ar adeg y cynbauaf nid oedd yn hawdd hebgor y llanc na'r asyn. Felly gofynodd, I aham yr ai di heddyw ?' Yr oedd yn arferol o fyned ar y ewyliau, ond nid oedd yn gweled yr un rheswm paham yr ai y diwrnoi hwnw. Nid yayw am ddadleu y pwnc, ond sicrha ei phriod fod g nddi amcan daionus. Rhoddodd yntau ei chais iddi heb ymholi yn mhellach. ESBONIADOL. Adnod 25.—' Felly hi a aeth, ac a ddaeth at wr Duw i fynydd Carmel. A pban welodd gwr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehazi ei was, Wele y Sunamees hono.' Felly hi a aeth, ac a ddaeth at wr Duw. Eliseus, prodwyd yr Arglwydd. I fynydd Carmel. Yr oedd y pellder i Carmel yn rhyw 16 o filldiroedd. A phan welodd gwr Duw hi o bell. 0 ben Carmel, yn agos i'r fan lie yr oedd aUor Jehofah (1 Bren. xviii. 30). O r fan hono gallasai gwr Duw weled i bellder mawr. Efe a ddy- wedodd wrth Gehazi ei was, Wele y Sunamees hono. Un yn preswylio yn Sunem. Ni roddir ei henw. Adnod 26. —' Rhed yn awr, atolwg, i'w chyfar- fod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy wr yn iach ? a ydyw y bachgen yn iach? Dy- wedodd hithau, Iach.' Rhed yn awr, &c. Adnabu Eliseus y wraig o bell, a gwydd i fod rhywbetli angbyffredin wedi dyfod a hi yno. Denfyn Gehazi ei was i'w chyfarfod, ae i wneyd ymholiad a hi. Rhoddodd hithau yr atebiad arferol i'r gwas- Shalon-iach. Nid oedd ganddi amser i egluro iddo ef, yr oedd am brysuro i.ddyfod at wr Duw. Adnod 27. A phan ddaeth hi at wr Duw i'r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef; a Gehazi a nesaodd i'w gwthio hi ymaith. A gwr Duw a ddy- wedodd, Gad hi yn llonydd canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a'r Arglwydd a'i celodd oddiwrthyf fi, acnis mynegodd i mi.' ]'r mynydd Carmel. Ili a ymajlodd yn ei draed, &c. Wedi dyfod at y proffwyd, ymostyngorid o'i fl "aen fel un wedi ei llethu gan ofid. Hyd yn hyn yr oedd wedi cadw ei theimlad iddi ei hun, ond rhydd ffordd iddynt, gan .1 y credai y gallasai y pvoffwyd ei chynorthwyo. Nid ydyw yn gallu dywedyd yr nn gair, yn uaig ymaflai yn nhiaed gwr Duw. Teimlodd Gehazi ei bod yn cymeryd gormod o hyfdra ar ei feistr, a nesaodd i'w gwthio hi ymaith. Ond gwyddai Eliseus fod rhyw ofid mawr yn gwasgn ami, a gorchymynodd i'w was i adaelllonydd iddi. Nid oedd wedi cael dat- guddiad odliwrth yr Arglwydd am yr achos o'i thrallod, ac erys i glywed gacddi hi ei hun. Adaod 28.—' Yoa hi a ddywedodd, A ddymunaia i fab gan fy arglwydd ? oui ddywedais, Na thwylla fi.' YnfL hi a ddywedodd, & Dywed wrtho yr hanes mewn brawddegau byrior. Yr oedd dwysder ei theimlad yn ei banalluogi hi i ddywedyd ond brawddegau. Adnod 29.—' Yna efe a ddywedodd with Gehazi, Gwregysa dy lwynau. a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaitb o chyfarfyddi a neb, na chyfarch iddo ao o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen.' Yna efe a ddywedodd wrth Gehazi, &c, Deallodd Eliseus yr achos o'r g Hd. Yna rhydd ei ffon i Gehazi, a gorchymynodd iddo fyned g.yda'r brys mwyaf a gosod y ffon ar wyneb y 1 acligeu. Nis gellir ponderfyuu i sicrwydd beth oedd ei amcan yn hyn. T, bia rim ei fod yn credu nad oedd y baohgen yn hollol farw, ac y gallasai ffon y proffwyd wneyd y tro. Ereill a dyb- iant ei fod yn anfoa y gwas gyda'r ffon er mwyn boddloni teimlad y fam fod rhywbeth ar gael ei wueyd, ond ei fod ef ei hun yn aros i gael gweledig- aeth mwy eglur gan yr Arglwydd. Adnod 30. 'A maffi y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi a thi. Ac efe a gyfododd, ae a aeth ar ei hoi hi.' A mam, y bachgen a ddywedodd, &c. Er fod gan y wraig ffydd gref yn Eliseus, nid oedd ganddi fawr ffydd yn ei ffon. Yr oedd am ei breseuolieb ef ei hun, ac felly ymbiliodd arno. Wrth weled ei thaerineb a'i phenderfyniad, cydsyn- iodd i fyned gyda hi. Adnod 31. — A Gehazi a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen ond nid oedd na lleferydd, F a chlvwed. Am hyny efe a ddychwelodd i'w gyfarfod ef ao a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrodd y bacbgen.' A Gehazi a gerddodd o'u blaen, Sfc. Methodd Gehazi a'i ffon. Nid oedd y gallu gwyrthiol mewn ffon, nac ychwaith mewn person, ar wflhan oddiwrth Dduw. Mewn atebiad i weddi ffyddiog yn amcanu at ogoneddu Duw y rhydd yr Arglwydd allu i wneuthur gwyrthiau. i ychwelodd at ei feistr, a hysbysodd ef o'i fethiant. Ad'lOd 32.—' A phan ddaeth Eliseus i mewn i'r ty, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.' Wele y bachgen loedi marw. Nodir hyn yma ac yn adnod 20 i ddangos nad mewn Ilewyg yr oedd y bachgen, ond ei fod wedi marw. Ei wely. Sef gwely y proffwyd, yr hwn a neillduwyd iddo gan fam y bachgen. Adnod 33 —' Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gauodd y drws arnynt ill dau, ac a we Miodd ar yr Arglwydd.' Ac a gawodd y drws. Yr oedd am fod mewn unigedd i weddio. A c a weddiodd ar yr Arglwydd. Dywed Esgob Ilal I I Yr oedd y ffon hon, beth bynag am y Ilall, yn ddigon i gyrhaedd y nefoedd, a gwyddai Eliseus hyny.' Gweddi ydoedd ei unig nerth mewn amgylchiadau o'r natur yma. Adnod 34 —' Ac efe a aeth i fyny, ae a orwedd- odd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntan, a'i lygaid ar ei lygaid ef, a'i ddwylaw ar ei ddwylaw ef, ac efe a ymestynodd arno ef; a chynesodd cnawd y bachgen.' Ar ol gweddio y mae arfer cyfryngau. Gwnaeth hyny yn ol cyfar- wyddyd yr Arglwydd, neu, efallai, am ei fod wedi clywed hanes Elias. Gwel 1 Bren. xvii. 21. Adnod 35.—'Ac efe a ddychwelodd, ao a rodiodd yn y ty i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, 8C a ymestynodd arno ef a'r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a'r bachgen a agorodd ei lygaid.' Cyf. Diw., Ao a rodiodd unwaith yn y ty i fyny ac i waered.' Gwnaeth hyn am ei fod yn angen- rheidiol i'w gorff ar ol yr ymdrech yr oedd wedi bod ynddo. Yr ail effaith ydoedd i'r bachgen disian. Yna agorodd ei lygad. Adnod 36.—' Ao efe a alwodd ar Gehazi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd ami hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab.' Galw y Sunamees. Gallwn yn hawdd dybio ei bod hithau mewn rhan arall o'r ty yn gweddio am i'r Arglwydd ei chofio a llwyddo ymdrechion ei was. Adnod 37. A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.' Y peth cyntaf a wnaetb ydoedd oydnabod yn ddiolchgnr y pro- ffwyd, yna oymerodd ei mab, aca aeth allan. GWERSI. I. Y Snnamees. Yr oedd yn wraig nodedig iawn. Yr oedd yn wraig gyfoethog, eto nid oedd yn dangos nnrhyw falchder, a defnyddiai ei chyfoeth i lesoli erfeill. Yr oedd ganddi galon eang a chyd- ymdeimladol. Yr oedd ynddnwiolfrydig. Ofnai Dduw, anrhydeddai Ei weision. Meddai alln i lywodraethu ei hunan. Nid ymollyngodd i ormod tristweh, pan mewn gofid mawr. Yr oedd yn ben- derfynol mewn gweithred. Yn benaf oil, yr oedd ganddi ffydd ddiysgog yn Jehofah. Ffydd yn cael ei phrofi. Ffydd yn gweithio. Ffydd yn cael ei gwobrwyo. II. Peth personol ydyw galla ysbrydol. Nid mewn pethau y Mae. Methodd ffon y proffwyd yn llaw Gehazi. Nis gellir ei drosglwyddo. Oddiwrth Dduw y mae, a rhaid bod mewn eymundeb ysbryd a, Duw cyn y gellir Ei fwynhau. Nid peth swydd- ogol. Daw mewn atebiad i weddi. Er fod Eliseus yn feddianol ar allu gwyrthiol, eto rhaid ydoedd iddo ef weddio-parhau i weddio hyd nes derbyn. GOFYNIADAU AR Y WEBS. 1. Pa fodd y daeth y Sunamees i adnabyddiaeth o Eliseus ? 2. Pa garedigrwydd neillduol a ddangosodd hi iddo ? 3. Beth addawodd y proffwyd iddi ? Beth ddy- gwyddodd i'r bachgen ? 4. Beth oedd amcan y fam wrth fyned at wr Duw ? 5. Pan welodd Eliseus y wraig, paham yr anfon- odd ei was i'w chyfarfod. Beth ddywedodd hi wrth Gehazi ? 6. Wedi dyfod at y proffwyd, pa beth a wnaeth ? Paham yr oedd Gehazi am ei gwthio hi ymaith ? 7. Wedi deall ei gofid, pa beth a wnaeth Eliseus ? Paham yr anfonodd Gehazi a'r ffon ? 8. Beth fu llwyddiant Gehazi a'r ff on? 9. Beth a wnaeth y proffwyd pan ddaeth i'r ty ? Beth fu y canlyniad ?

ABERDAR A'R CYLCH.

Family Notices