Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
LLINELL Y GREAT WESTERN. GWYLIAU YR HAF. GWIBDEITHIAU 0 FERTHYR I LunrDiiLXiv GORLLEWIN LLOEGR, CORNISH RIVIERA, Aberystwyth, YNYS MANAW, YSGOTLAND, IWERDDON, ac i lawer o fanau CANOL GWLAD, IECHYD, a PLESER. Tocynau diwedd yr wythnos am y Flwyddyn. Am fanylion gwel y biliau a'r pamphledau, neu anfoner post card i unrhyw Orsaf neu Swyddfa y Cwmni. NOS SADWRN, HYDREF 15fed, i aii u war jo a m na, Am 2, 5, 6, neu 9 o ddyddiau, yn gadael HIRWAUN am 11.15 yr hwyr, Aberdar JLJL 11.20, Mountain Ash 1130, Merthyr 11.15, Quakers' Yard 1140, Rhymney Junction 12.5, Tredegar Junction 12.10, Crumlin 12 20, Pontypool (Clarence-street) 12.35, Pony pool- road 12 40 y nos. Am fanylion, gwel y biliau, neu anfoner Post Card i ua o orsafoedd neu s vyddfeydd y Cwmni. JAMES C. INGLIS, Prif Oruchwyliwr.
AT EIN GOHEBWYR.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. J. Leivis.-Cafodd arall y blaen arnoch, oud diolch i chwi am anfon. Ar J on fab.—Anfonwyd yr hanes gan ohebydd arall. Diolch i chwi, er hyny. Mewn Llaw.-D. W.-Aberaman a'r Cyleh-Glandwr, Penfro-Beulah-Betbel, Caerphili—Mountain Ash -Penywern, Dowlais-Oeinewydd-Nodion o-Feir. ion Fad-Cyfurideb Brycheiniog—Llanddewi-biefi— Treffynon-Soar, Llantrisant, a Castellau-Aberafou —Nodion o Lundain-Pontycymer-Pontypridd- Llanelli-Priodasau, &c.
Y DIWEDDAoR BARCH J. TAIHIRION…
News
Cite
Share
Y DIWEDDAoR BARCH J. TAIHIRION DAVIES. ER gwybod fod Mr DAVIES mewn gwth o oedran, ac yn bur llesg er's cryn amser, eto chwith iawn genym ydyw cysyllta y gair diweddar' a'i enw. Prin y tybiem ei fod ef i farw o gwbl. Fel un byw-mwy byw na'r -cyffredin-yr adwaenem ac y meddyliem am dano bob amser. Dyeithr ac annaturiol i ni braidd ydyw gosod Taihirion yn nghanol ei enw, yn lie ar ei ol. Diau mai felly y teimlai canoedd ereill. Fel Mr DAVIES, Taihirion, yr adnabyddid ef hyd y diwedd; ac fel Mr DAVIES, Taihirion, yr erys yn nghof pawb o'i gydnabod yn mhell ac agos tra pery y genedl- aeth bresenol. Teimlwn raddau o wylder ac ofn wrth ddechreu ysgrifenu yehydig o lin- ellaa arno. Cysegredigrwydd ein cysylltiad ag ef, a'n parch i'w goffadwriaeth, ya ddiau, sydd yn cyfrif am hyn. Nid ydym heb fesur o brofiad o'r gwaith o ysgrife IU am frodyr ymadawedig, ond teimlwn heddyw ryw fath o bryder sanctaidd wrth geisio son am un a fu a llaw amlwg yn rhai o amgylchiadau a dygwyddiadau cysegredicaf ein bywyd. Efe a roddodd i ni ddeheulaw eymdeithas yn y Taihirion, Mehefin 4ydd, 1854, ac efe a'n harweiniodd i'r pwlpud y tro cyntaf, ac yn Bronllwyn, Pentyrch, yn ngwanwyn 18G2,"y cymerodd hyny le. Cymerodd ran yn ein hurddiad yn Bethesda, Merthyr, ac yn ein sefydliad yn Aberystwyth yn nechreu 1873. y Er pellder trigfan y naill oddiwrth y Hall, eto nid oedd odid flwyddyn yn myned heibio heb gyffe i weled ein gilydd, a thrwy hyny gadw yn fyw a fresh y cyfeillgarwch a fodolai rhyngom. Y mae yn edifar genym heddyw na buasem wedi gohebu ag ef yn gyson ar hyd y blynyddoedd. Diau y cawsid yn ei lythyrau ddefnyddiau amrywiol a gwerthfawr, y rhai yn awr a fuasent yn drysor yn ein golwg, ac yn wasanaethgar i'n galwedigaeth. Cof plentyn sydd genym am ei ddyfodiad cyntaf i unig faes llafur ei weinidogaeth faith a llwyddianus; ond y mae yr adgof yn bur fyw a chywir hefyd, Mewn cyfarfod diolch- garwch yn Llansantffraid y gwelsom ef gyntaf. Yr oedd yn ddyn ieuaDC tal, main, ac unionsyth yr amser hwnw. Pan gododd i siarad, syllai pob llygad arno yn y fan. Cyn pen pum' mynyd gwrandawai pob clust arno gyda dyfalwch diball. Yr oedd ei leferydd fel ffrydlif diatal, ac ymddangosai ei adnoddau yn anhysbydd. Gwnaeth argraff nodedig o ffafriol ar bawb. Yr ydoedd y pryd hwn wedi cael galwad o'r Taihirion a'r Efail Isaf, ond heb ei urddo. Medi 30ain a Hydref laf, 1851, y cymerodd yr urddiad le yn yr olaf, a Hydref 2il yn y blaenaf. Yr oeddym yn bresenol yn y Taihirion ar yr achlysur dy- ddorol hwnw; ond yr unig beth ydym yn gofio ohono ydoedd dwysder angerddol y teimlad pan yr oedd y Parch THOMAS DAVIES, Treforis, yn traddodi Siars i'w frawd ieuanc. Nid oedd llygad sych yn yr holl le. Gan nad oeddym yn deall ystyr ac amcan yr hyn a gymerai le, yr oeddym yn llawn o dosturi plentyn wrth y siaradwr, ac yn arbenig wrth ei brif wrandawr ar y pryd. Braidd na thyb- iem ei fod yn cael cam a chan ei fod yn ffafryn gan ein mam, prin yr oeddym yn foddlon i'r driniaeth a gawsai. Hwyrach mai dyddorol a buddiol fyddai rhoddi yma enwau y gweinidogion a gymerasant ran yn yr urddiad yn y ddau le. Yn yr Efail Isaf, traethwyd ar Natur Eglwys gan Mr E. JACOB, Abertawa. Holwyd y gofyniadau gan Mr M. REES, G roes wen, ac offrymwyd yr Urdd- weddi gan Mr E. GRIFFITHS, Abertawe. Traddodwyd Siars i'r gweinidog gan Mr D. REES, Llanelli. Yn y Taihirion, dranoeth, pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr G. GRIFFITHS, Casnewydd; offrymwyd yr Urdd- weddi gan Mr W. GHIFFITHS, Llanharan; pregethwyd i'r gweinidog gan ei frawd, Mr T. DAVIES, Horeb, Treforis, ac i'r eglwys gan Mr J. EVANS, Oymer. Hen faes enwog oedd yr hwn y galwyd y gwr ieuanc i lafurio ynddo, ac ymroddodd yntau i'w waith gydag egni a dyfalbarhad In 0 canmoladwy. Yr oedd cryn nifer o aelodau y Taihirion, a rhoi o'r Efail Isaf, yn byw yn Pentyrch tua chanol y ffordd rhwng y ddwy eglwys. Yn fuan ar ol ei ymsefydliad yn y cylch, gwelodd Mr DAVIES fod eisieu capel yn y canolfan hwn a phan ddaeth yr amser cymeradwy, symudodd yn effeithiol i'r amcan, a'r canlyniad fu capel hardd a chyfaddas i'r gymydogaeth, yr hwn a alwyd Bronllwyn, a mynwent gyfleus iawn o'i amgylch. Aed i'r capel newydd y Sabbath olaf yn Medi, 1858. Ar ol cael y capel angenrhaid oedd talu am dano, ac ni orphwysodd Mr DAYIES hyd nes clirio y geiniog ddiweddaf o'r ddyled. Yn ychwanegol at ymdrech gyson yr eglwys, yr unig foddion arall i gyrhaedd yr amcan oedd darlith, ac yr oedd hono yn dyfod yn bur fynych. Lie bynag yr elai efe pan fyddai darlith ar droed, yr oedd y tocynau yn ei logell, a sicr yw fod ei faich lawer yn ysgafn- ach o docynau pan yn dychwelyd, ond yn gyfatebol drymach o arian. Am werthu tocynau, yn sicr, ni bu ei well, os ei gystal, un amser. Yn anffolus, cyn gorphen talu am gapel cyntaf BronllwyD, daeth yn amlwg fod dry rot yn dechreu ei ddifa, ac nid hir iawn y bu cyn gorfodi ei dynu i lawr i'w sylfaen, ac adeiladu capel hollol newydd yn ei le, yr hwn a agorwyd Mai, 1871. Y mae hwn yn gapel prydferth iawn tufewn a thu- allan, ac oriel ynddo, yr hyn nad oedd yn y capel cyntaf. Megys y bu yn hanes y cyntaf, felly y bu yn yr ail yn nglyn &'r ddyled. Mynodd y gweinidog llafurus Iwyr ddileu y ddyled, a gwnaeth hyny drwy gydweithrediad unol a chalonog yr eglwys a chynorthwy y rhai oddiallan mewn amser eithriadol fyr. Cafodd orchwyl cyffelyb i'w gyflawni yn yr Efail Isaf. Yr oedd cynydd y gynulleidfaa'r eglwys yno yn gorfodi helaethu yr hen gapel neu adeiladu un newydd holjol, a hyny a wnaed, ac agorwyd y capel presenol yn Gor- phenhaf, 1870. Talwyd am hwn hefyd mewn amser cymharol fyr. Ychwanegwyd at y capel ysgoldy cyfleus a rhai pethau ereill, a chafwyd Jubili y capel, a Jubili gweinidog- aeth Mr DAVIES yr un pryd tua thair blynedd yn ol. Ni lafuriodd odid yr un gweinidog erioed yn nglyn ag adeiladu capeli a thalu am danynt yn fwy nag y gwnaeth Mr DAVIES, Taihirion, yn ei ddydd. Arno ef yr oedd yn agos yr holl gyfrifoldeb, ond yr oedd yr eglwysi yn ei gefnogi yn galonog yn y gwaith. Teithiodd lawer i'r amcan, a hyny ar draul bur fawr mewn mwy nag un ystyr. Ond yr oedd bob amser yn hynod o siriol a charedig. Hoffid ef yn fawr yn holl deulu- oedd Bro Morganwg, yn gystal ag yn nheu- luoedd cylch ei weinidogaeth. Cafodd ddyn- oliaeth gyfoethog. Yr oedd teml ei gorff yn lluniaidd a hardd, a'i holl ysgogiadau yn urddasol. Yr oedd o daldra mwy na'r cyff- redin, a safai mor unionsyth a ffon. Yr oedd ei wynebpryd yn brydferth a deniadol. Gof- alai yntau am ei ddiwyg a'i arferion eu bod yn gynorthwy i lendid a harddwch ei ddyn oddiallan. Yr oedd yn mhell oddiwrth bob math o ffug a mursendod, ac yr oedd mor naturiol a phlentyn. Hyny yn rhanol a'i gwnaeth yn gymaint o ffafryn plant y teulu- oedd yr arferai ymweled a hwynt. Yr oedd yn dra chwareus, a medrai wneyd gorchest- gampau a'i ddwylaw. Gofynai i blentyn am gael gweled ei degan. Pan estynid ef iddo diflanai yn y fan. Trwy symudiad rhy gyflym hyd yn nod i'r llygad codai ei law at ei enau, ac yna gollyngai hi i lawr, ac wele nid oedd y tegan mwyach. Pan godai y swynwr ei Jaw at ei enau, medrai ollwng yr hyn fyddai ynddi i'w lawes, gan beri i'r edryehydd dyb- ied mai i lawr tfordd arall yr aeth. Dyna olygfa oedd gweled y plentyn Safai yn syn- fyfyriol, a chodai ei olygon i fyny at enau cauedig y swynwr, ac yna gollyngai hwynt i gyfeiriad y llawr yn y gobaith o ddyfod o hyd drachefn i'w degan. Nid plant yn unig a welsom yn y benbleth hon. Gwelsom weinidog oedranus bron colli ei dymher pan welodd ddiflaniad rhywbeth a estynodd i'r swynwr i gael golwg arno. Pan welodd plent- yn ef yn nesau at y ty unwaith rhedodd i fewn gan lefain, 0, mamma, here is the man that swallows our boots coming!' Yr oedd yn gymeriad cryf iawn. Ganwyd ef i deyrnasu. Meddai ewyllys gref, a phen- derfynolrwydd didvoi-ya-ol wedi iddo wneyd ei feddwl i fyny. Yr oedd yn hanu o deulu neillduol. Nodweddid y teulu gan nerth cymeriad. Cydoabyddid Mr DAVIES fel Esgob y Fro, ac felly yr oedd. Nid meith- der ei arosiad yn unig nac yn benaf a'i gwnaeth yn esgob, ond ei ddylanwad iachusol, ei wasanaeth effeithiol, a'i bersonoliaeth urdd- asol. Un o'r hen ysgol ydoedd efe fel gwein- idog. Nid ei fod yn henaidd ei ysbrjd a'i ffordd a olygir, pell o hyny. Parhaodd efe yn ieuanc hyd y diwedd. Ond yn ol arddull yr hen weinidogion y llywodiaethai efe, ac yr oedd ganddo fedr i wneyd hyny yn fwy na'r