Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. ] -i

News
Cite
Share

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. ] GAN GWLEIDYDDWR. Tawelwch y Byd Gwleidyddol. TEIJILA llawer o ysgrifenwyr brinder defnyddiau y dyddiau hyn. Tawelwch y byd gwleid- yddol yw yr achos. Er fod rhyfel ofnadwy ar droed, eto i gyd prin ydyw y defnyddiau o'r maes hwnw. Ceidw Japan gynrychiolwyr y wasg yn mhell. Oherwydd hyny anhawdd iawn ydyw cael y gwir. Ceisio dyfalu y ff'eithiau a wneir. Sicr yw na cheir byth wybod yn agos nifer y lladdedigion. Sonir llawer am ddewrder y Japs am eu bod yn rhuthro i safn marwolaeth. Nid dewrder ydyw dibrisdod o werth bywyd. Dylid cael gair arall i ddynodi ymddygiad ac ysbryd sydd yn gwneyd hyn yn bosibl. Enillant edmygedd a chanmoliaeth y difeddwl a'r difater. Nid os nad ydyw bywyd yn rhywbeth amgen i'r hyn ydyw yn nghyfrif y Japs, ffolineb drwy yr oesau ydoedd yr ymdrech a'r pryder i'w ddyogelu yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Ym- wared mawr i bobl ddifrifol ac ystyriol fyddai cael terfyn buan a llwyr ar y fath ddifrod a galanastra ag sydd yn cymeryd lie ar hyn o bryd. Teimlir aeth drwy ein natur wrth feddwl am erchylldod effaith arfau dinystr. Arswydir 'i wybod fod llawer o dalent ddys- gleiriaf Ewrop ac Asia ar waith yn gyson i ddyfeisio arfau effeithiolach i ddinystrio dynion ac eiddo. Dichon fod hyn yn foddion i atal rhyfel yn y pen draw. Felly y tybia rhai. Dywedir yr ymgeidw cenedloedd hyd y gallant o ryfel am eu bod yn gwybod fod yr arfau newyddion mor ofnadwy o ddinyatriol. Mawr hyderir y bydd rhyfel De Affrig a rhyfel y Dwyrain Pell yn rhybudd effeithiol i holl wledydd gwareiddiedig rhag brysio i bender- fynu eu cwerylau drwy foddion mor farbaraidd a dychrynllvd. Yn nghylchoedd gwleidyddol cartref mwynheir mesur helaeth o dawelwch. Byr yn ddiau y pery. Pan ddaw yr hydref clywir y floedd i'r gad. Creda rhai y dad- gorfforir y Senedd yn sydyn ac annysgwyl- iadwy, a hyny yn gymharol fuan. Bernir y bydd y rhyfel cartrefol yn nghlyn a. Deddfau Addysg yn Nghymru, a chyffroad Mr. Chamberlain a'i ganlynwyr yn foddion i yru y Prifweinidog i geisio ymwared trwy daflu y cwbl i fyny. Bydd yn rhaid i Gynghorau Sirol Cymru symud i ryw gyfeiriad, ac ychydig o betrusder sydd i ba gyfeiriad y symudant. Byddai ildio yn awr yn angeuol i bob diwygiad gwleidyddol yn ein gwlad, ac yn waradwydd i'r genedl yn ngolwg yr holl deyrnas. Y mae y deddfau a wthiwyd drwy y Senedd yn y fath fodd yn cyfreithloni gwrthryfel. Nid yn unig y mae yn ei gyfreith- loni, eithr y mae yn galw am dano oni cheir llwyr ddiwygiad ynddynt. Dylid sefyll yn gadarn a diysgog tu ol i'r Cynghorau yn eu hymgais i ddwyn barn i fuddugoliaeth. Mewn undeb y mae nerth. Er nad yw ein cenedl ond- bychan mewn nifer, eto y mae ei nerth yn fawr drwy gyfiawnder ei hachos, dyfnder ei hargy hoeddiad, ac unoliaeth ei hamcan a'i hysbryd. Y Rhagolygon Rliyddfrydig DYWEDIR na bu y rhag- olygon Rhyddfrydig er's blyn- yddoedd mor addawol ag ydynt yn awr. Gwnaeth y rhwyg ar Ymreolaeth W yddelig ddifrod mawr i'r achos Rhyddfrydig. Fel pob rhwyg yn gyffredin, ymledodd ei wreiddiau yn mhell y tuhwnt i ddim a ddychymygid ar y pryd. Erys y rhwyg hyd y dydd hwn. Gwnaeth Ryddfrydwyr proffesedig cyn hyny yn fwy Toriaidd na'r Toriaid eu hunain. Gweithiodd y rhwyg ei ffordd i holl gysylltiadau bywyd, yn grefyddol, gwleidyddol, dinesig, a chymdeith- asol. Ar ol cychwyn i gyfeiriad neillduol, anhawdd iawn oedd troi yn ol. Pan awyddai ambell un ddychwelyd, sylweddolid yn fuau fod y rhwymau yn lluosocach a thynach nag y dychymygwyd eu bod. Pan y dechreuwyd ymiachau oddiwrth y pla hwnw, daeth y rhyfel i atal cynydd y gwelliant, a meddwodd y wlad ar yd ynfydrwydd hwnw. Parodd hwn rhwyg drachefn yn y blaid Ryddfrydig, a hyny pan ydoedd yn ei nychdod a'i gwendid. Ond ar waethaf yr holl anffodion, y mae heddyw yn iachaeh nag y bu er's yn agos i ugain mlynedd. Y mae pob adran ynddi yn rhan hanfodol ohoni ac yn cydweithredu yn galonog i'r un amcan. Gwnaeth y Senedd-dymhor diweddaf waith effeithiol arni. Mawr yw ei rhwymau i'r Weinidogaetb, ac yn enwedig i'r Prifweinidog, am ei meddyginiaethu a iachau ei briwiau. Wele un ydyw yn awr. Digon o brawf o'r adfywiad Rhyddfrydig yn y wlad ydyw y buddugoliaethau gogoneddus a enillwyd dro ar 01 tro, a hyny gyda mwyafrif a barai syndod cyffredinol. Yn gymaint a bod y blaid yn y Senedd mor unol a chalonog, a'r etholaethau yn y wlad mor frwdfrydig a phen- derfynol, onid oes genym hawl i ymorfoleddu yn y rhagolygon addawol sydd i'r achos ar hyn o bryd ? Ar yr ochr arall, y mae ymb!eidio ac ymrafaelio nes peri mwy nag un rbwyg. Y gwir yw na wyr neb eto beth fydd ansawdd na nifer y m&n adranau yn y gwersyll Toriaidd. Ym- ffrostia Mr Chamberlain fod ganddo ef ddau gant o gefnogwyr wedi eu gwystlo i gyffes Diffyndolliaeth. Pwy, na pha nifer sydd gan Balfour ni wyr neb. Anhysbys hefyd pa ochr i'r clawdd y disgyna efe. Hwyrach y ceir awgrym i'r perwyl gan Mr Chamberlain pan yr ymgymer efe a'i ymgyrch nesaf. Barna efe mai nid ei nerth yw aros yn llonydd. Gwei fod y byd yma yn ddigon angharedig a chreulon hyd yn nod i'w anghofio ef y mynyd y cilia o'r neilldu. Dysgwylir nad all efe guddio lawer yn hwy y gyfrinach o berthynas i'w gysylltiad a, Balfour. Hyder y Toriaid Rhyddfasnachol ydyw fod y Prifweinidog wedi cefnu ar y Diffyndollwr a'i gynllun anffodus. Mawr yw eu ffydd. Nis gwn pwy arall a ddichon osod ei hyder ar un o'r fath. Helbulus a phryderus ydyw cyflwr Toriaeth ar hyn o bryd er maint y mwyafrif yn nau Dy y Senedd. Bradychir yr achos gan y ddau ddyn sydd yn fwyaf dyledus iddo. Bradycha y naill ef drwy ddwyn cynllun ynfyd ger bron y wlad yn hollol ddirybudd, a bradycha y llall ef drwy ystrywiau dichellgar sydd yn ddinystriol i unrhyw achos yn y pen r draw. I Gtor y Fantol, GLANIODD Mr John Redmond a nifer o'i gefnogwyr yn New York yr wythnos ddiweddaf. Croesawyd hwy gan Mr Byrne, y Dadleuydd Cynorthwyol. Mewn atebiad iddo dywedodd yr arweinydd Gwyddelig fod yn ddrwg ganddo mai byr fyddai ei arosiad yn America y tro hwn am fod yn rhaid iddo ddychwelyd yn fuan i'r Iwerddon i barotoi ar gvfer yr argyfwng gwleidyddol yn Lloegr. Hysbysodd fod y Weinyddiaeth bresenol wedi ei thyngedu, ac y byddai yr Etholiad CyfFredinol sydd ger Haw o'r pwys mwyaf i'r Iwerddon, gan fod yn debygol mai mwyafrif bychan fyddai i'r Llywodraeth nesaf yn y Ty Cyffredin lie y byddai y bleid- lais Wyddelig yn troi y fantol. Dyna bro- ffwydoliaeth John Redmond. Diau fod y bro- ffwydoliaeth yn hollol gyson a. dymuniad y pro- ffwyd os nad yn gwbl ddyledus iddo. Teg yw cydnabod fod rhai heblaw Gwyddelod yn tueddu i gredu yr un peth, ond nid am eu bod yn dymuno hyny, eithr am eu bod yn ei ofni. Os bydd y fantol yn llaw John Redmond ofer yw dysgwyl diwygiad yn Neddfau Addysg a Deddf y Trwyddedau, a dichon y bydd Mri Chamberlain a Redmond yn gyd-ddiffyndoll- wyr. Na ryfedder os gwelir hyn yn ffaith. Ychydig a rydd neb sydd yn adwaen y ddau am egwyddor y naill na'r llall, a lIai na hyny am eu cysondeb oddigerth y cysondeb a nodweddai y Vicar of Bray. Wrth gwrs, y mae proffwyd- oliaeth John Eedmond yn bosibl, ac ofer yw cau ein llygaid ar hyny. Ar yr un pryd y mae rhagolygon y blaid Ryddfrydig oherwydd am- ryw resymau yn ffafriol i'r dybiacfch y bydd y mwyafrif yn ddigon mawr i orekfygu pob adran a phlaid wi'thwynebol or uno ohonynt oil i'r amcan o ddifetha Gweinyddiaeth Ryddfrydig. Bydd gan John Redmond waith yn yr Iwerddon i ddechreu. Y mae Mr William O'Brien wedi ei ethol yn ddiarwybod iddo ei hun dros Cork, oud bernir y eymer ei le yn y Senedd. Hysbys ydyw fod y ddau yn croesolygu ar bwnc y tir ac nid yw Redmond yn alluog i ddangos dalen Ian ar y mater hwnw. Heblaw anghydfod y Gwersyll Gwyddelig, beth am y Gwersyll Tor- iaidd ? Dysgwylir y bydd nifer Toriaid ac Undebwyr yn llai o lawer yn y Ty nesaf nag ydyw yn y Ty presenol. Byddai mwyafrif o ugain mewn ymraniad, pan fyddai pob adran yn uno yn erbyn y Weinyddiaeth, yn ddigon i waith. Dylai y Weinyddiaeth Ryddfrydig nesaf wneyd pob ymdreck i barhau mewn swydd am o leiaf bum' mlynedd, i'r wiad gael ei hanadJ, ac i ymiachau oddiwrth y clefyd a fu yn agos ei dinystrio. Byddai pum' mlynedd yn pender- fynu amryw bethau. Yn y cyfamser, delai dynion newyddion i'r golwg, a diflanai ereill. Delai goleuni newydd ar faterion sydd lieb eu deall yn glir yn awr. Os ceir Gweinyddiaeth gref, iachus, a phenderfynol, bydd gwaith mawr yn bosibl ar waethaf y lluoedd gelynol. Tybia Chamberlain ond iddo unwaith gael ei symud i ochr arall y Ty, y gwna efe fyr waith ar y Weinyddiaeth. Dyna ei brofTwydoliaetk, a chyffelyb ydyw oran ei bystyr a'i gwraidd i'r eiddo John Redmond. Wele broffwydoliaeth arall, a chymerer hi am ei gwerth, ond Did eiddof fi ydyw cofier. Dyma hi—y ceir gweled Joseph Chamberlain a John Redmond yn un o guddfanau y Ty CyfFredin, yn ceisio cytuno ar Fesur Ymreolaeth i'r Iwerddon, fel prif, os nad unig amod cefnogaeth yr olaf i ymgais y blaenaf i fyned i swydd drachefn er mwyn cario Diffyndolliaeth.

------------0 GWR Y WINLLAN.