Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NODION.

News
Cite
Share

NODION. Edifeirwch ac Ofn. MAE Arglwydd London derry wedi tywallt ei galon yn lied Iwyr a rhydd yn ngtyn ag effaith ymgyrch Chamberlain ar y blaid Doriaidd. Mewn araeth draddodwyd ganddo y Sadwrn di- weddaf yn Stockton, addefodd fod cwestiwn diffyniaeth ac ad-drefniad cyllidol wedi ei wthio ar y wlad yn llawer rhy fuan, ac mai hyn oedd y rheswm am fuddugoliaethau didor y Rhyddfrydwyr yn yr etholiadau achlysurol. Yr oedd, hefyd, wedi rhanu'r blaid i adranau gelyniaethus i'w gilydd, ac os na chytunid i ohirio'r cwesfciwn ac i gyfanu'r blaid, fod y rhagolwg yn ddinystriol iddynt yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Cymhellai'r Undebwyr o bob lliw a llun i rwystro'r cwestiwn hwn rhag peryglu pwyntiau mwyaf y Cyfansoddiad Prydeinig, sef, cadwraeth y cysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, a rhwng Lloegr a'r Iwerddon! Mae'r datganiad olaf hwn yn dra awgrymiadol. Prif werth y Cyfan- soddiad Prydeinig yn marn Llywydd y Bwrdd Addysg, y gwr sydd yn cyfarwyddo Anson a Morant yn eu rhaib a'u gormes, ac yn gyfrifol am weinyddiad Deddf Addysg 1902, yw cadw'r cysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth Beir Rhyddfrydwyr ac Ymneillduwyr am barhau i ddatgan mai i hyn yn unig y pasiwyd y Deddfau Addysg diweddar, ond dyma'r prif swyddog addysg yn addef mae i hyn y mae'r Cyfansoddiad i gyd, heb son am y Ddeddf, yn dda. A hysbys ddigon yw mai hyn yw credo Balfour a'r Llywodraeth, ond eu bod hwy ychydig gallach yn eu cenedlaeth na Londonderry, druan. Nid oes eisieu mwy o esboniad ar natur a gweinyddiad y Ddeddf na chyffesiad diniwed ei arglwyddiaeth. Ond yr hyn sydd ddyddorol yn yr holl araeth yw gofid diweddar Londonderry am gamgymeriad Chamberlain, a'i ofn am y dyfodol os na roddir geufa yn ei ben. Sut y cymer Cham- berlain hyn, tybed ? Mae mwyafrif yr aelodau Toriaid yn ddilynwyr iddo, ac nid gwr i gymeryd ei geryddu gan Londonderry yw efe. Y tebygolrwydd yw mai fflamychu yn fwy a wna, ac y gwelir ef a'i bleidwyr yn blaid ar wahan tua'r hydref. Cyfraith a Threfn. MAE'R Times wedi bod yn apelio, fel y crybwyllwyd yn y colofnau hyn yn ddi- weddar, at Mr. Lloyd George am iddo atal ei law yn yr ymgyrch Gymreig ar dir 'cyfraith a threfn.' Ni ddylai gwr sydd eisoes wedi ei benu allan ar gyfer un o brif swyddi'r Llywodraeth nesaf, roi ei nawdd, heb son am arweiniad, i'r hyn a ystyria'r Times yn annhrefn hollol. G*yr pawb a edwyn Mr. Lloyd George mai budd- iant ei wlad, ac nid gogoniant swydd, sydd uchaf yn ei olwg, ac mai yn ofer yr ebycha'r Times yn nglyn ag ef. Ac nid oes eisieu mwy na moment o ysfcyriaeth i weled mai bai -08 bai hefyd-Mr, George yw arwain ei gydgenedl i gadw at lythyren y ddeddf. Ac mae'r llythyren yn sicr o'i lladd, ond nid bai Lloyd George yw hyny. Ac ar yr un llin- ellau yn union y cyfarfyddir a, Deddf Gorth; rech 1904. Ond pa hawl sydd gan y gelyn ddadleu cyfraith a threfn ? Onid yw Deddf Gorthrech yn tori yn ddeilchion rai o brif ddarbodion y Ddeddf Addysg ? A mwy na hyny, onid yw y Ddeddf Addysg ei hun yn ddernyn o anarchiaeth rone, yn gymaint a'i bod wedi ei ffurfio a'i phasio yn groes i holl argyhoeddiadau cenedl y Cymry, ac yn wyneb ei gwrthdystiadau mwyaf pendant? Oni phasiwyd y Ddeddf Addysg a'r Ddeddf Gorthrech trwy rym y gag ? Ac onid yw deddfu yn groes i bob egwyddor a anwylir gan genedl yn hollol anghyfansoddiadol—yn Mhrydain, a dyweyd y lleiaf? Rosebery. MAE Arglwydd Rosebery wedi condemnio yn y modd mwyaf diarbed y Cytundeb diweddar a wnaed rhwng Ffrainc a Phrydam, trwy yr hwn y rhoddwyd Morocco i Ffrainc, ac y cafodd Prydain wared o rhyw hawliau Ffrengig tua gororau Newfoundland. Ei gred ef, mae'n amlwg, yw y gwna hyn Gibaraltar yn hollol ddifudd,ac y peryglir ein ffordd drwy'r Canoldir i'r India a'r Dwyrain lie mae ein buddiant yn aruthrol. Os ydym yn ei ddeall yn iawn, buasai yn well ganddo roi i fyny ein honiad yn Ngogledd Amerig, na rhoi'r ochr arall i'r heol' yn Mor y Can- oldir dan ofal Ffrainc. Nid oos a fpnom iiV cwestiwn ynddo ei hun, er y rhaid addef fod gan Rosebery fantais ar bawb i farnu'r sef- yllfa. Yr hyn y methwn ei ddeall yw, Paham y mae gwr o'i alluoedd a'i safle ef, yn sefyll tuallan i bob cyfluniaeth a wna ei ddy- lanwad yn effeithiol ? Os yw'r Toriaid fel hyn yn gwastraffu a gwario nerthoedd yr Ymherodraeth, paham na chymer ei le yn rheolaidd gyda'r unig blaid a fedd y gronyn lleiaf o siawns i ddadwneyd drygioni Balfour ? Mae Prydain yn rhwym o flino ar feirniad- aeth anffaeledig y ffroenuchel a'r batch nad 0 ymostynga i wneyd ei hun yn ymarferol. Yr Y mgyrch G ymreig, MAE swyddogion y Cynghor Rhyddfrydol Cymreig eisoes wedi dechreu ar eu gwaith o ddifrif gyda'r ymgyrch y cyfeiriasom ati wythnos neu ddwy yn ol. Y mae De a Gogledd—yn arbenig y De-eisoes wedi eu mapio allan, a chyfarfodydd yn cael eu trefnu i'w cynal yn mhob rhanbarth, er goleuo'r bobl yn nghylch gormes ofnadwy y Ddeddf Gorthrech, ac er casglu trysorfa deilwng ar gyfer yr etholiadau seneddol a sirol. Bu adeg pan y gellid myned a'r holl Aelodau Seneddol Toriaidd o Gymru i St Stephen mewn berfa, ond wedi'r etholiad nesaf, dysgwylir hyd yn nod i'r ferfa gael seibiant hollol. Er gwneyd Cymru yn barod ar gyfer yr etholiad seneddol pwysicaf yn ei holl hanes, yr ymgymerir a'r mudiad pres- enol: ac mae pob argoel y try allan yn llwydd- iant perffaith. Buom mewn cyfarfod brwd- frydig yn nglyn ag ef yn Tonyiefail, Morgan wg, yr wythnos ddiweddaf—y cyfarfod cyntaf yn nglyn a'r ymgyrch—a phasiwyd yno eu bod yn myned o ddrws i ddrws i gasglu at y mudiad, ac i sicrhau cymhorth mewn ffurfiau ereill. Yr wythnos hon a'r nesaf, cynelir cyfarfodydd yn Nghwmtawe, a pharthan ereill, a hyderwn yr ymdeflir i waith cyffelyb ynddynt oil. Y Parch W. Griffiths, Cendl. GVDA syndod a gofid dwys y clywsom am farwolaeth Mr Griffiths, Carmel, Cendl, yr hyn a gymerodd le dydd Llun, Awst 23am, ac efe yn 68 mlwydd oed. Nid oeddym wedi clywed am ei waeledd, fel y daeth y newydd am ei farwolaeth gyda sydyn- rwydd mawr i ni. Mab i'r diweddar enwog Griffiths, Llanharan, oedd yr ymadawedig, ac yn Llanharan y ganwyd ef, y derbyniwyd ef, ac y dechreuodd bregethu. Wedi cwrs o addysg yn Aberhonddu, urddwyd ef yn Trefriw, yn 1865, a bu yno hyd 1876 yn fawr ei barch, ac yn boblogaidd iawn fel pregethwr yn siroedd Arfon a Dinbych. Symudodd i gymeryd gofal hen eglwys barchus Carmel yn '76, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes. Llwyddodd yn rhyfedd yn Cendl drachefn, yn enwedig pan gofir fod rhyferthwy'r iaith Seisonig yn ei lyffetheirio yn fawr. Yr oedd ei bersonoliaeth addfwyn, a'i weinidogaeth wlithog yn ei wneyd yn anwyl gan bawb. Yr oedd yn fyfyriwr a darllenwr mawr, ac yn wr o gyneddfau medd- yliol naturiol cryfion. Gwasanaethodd ei ardal ar bron bob bwrdd cyhoeddus, addysgol a moesol a chrefyddol o'i mewn, a hyny gyda chymeradwyaeth mawr. Pan fu'r Undeb Cynulleidfaol Cymreig yno yn 1890, cafwyd prawf o'i ddylanwad a'i barch yn y lie. Ac yr oedd tbiiy- yu-mybg ei Tronyr yn y weimaog- aeth trwy y Cyfundeb, a theimlir colled a hiraeth ar ei ol. Gwr da oedd Mr Griffiths, ac mae ei wobr yn fawr yn y Nef. Nodded y Ceidwad a fo dros ei weddw a'i feibion a'i ferched, a thros yr eglwys alarus yn Carmel. Y Parch T. Trefor Davies, Ceryqcadarn. Bu y gweinidog ienanc hwn yn dihoeni yn hir, ac o'r diwedd galwyd ef adref mewn oedran cvnar. Nid ydym wedi gweled manylion am ei fywyd na'i farwolaeth, ond gwyddom ei fod yn enedigol o Dreforis, ac yn hanu o deulu y diweddar Davies, Horeb, a'r Hybarch J. Taihirion Davies. Cofiwn am dano yn dyfod i'r Coleg yn Nghaerdydd, ychydig flyn- yddau yn ol, ac yr oedd yn fyfyriwr diwyd a llwyddianus. Yr oedd yn fachgen nodedig o hynaws, ac o ysbryd gwir grefyddol. Ond gwanaidd oedd ei iechyd y pryd hwnw, ac er iddo wella llawer yn ystod ei ddwy flynedd olaf yn Aberhonddu, ac wedi hyny yn ardal brydferth Cerygcadarn, wedi iddo ymsefydlu yno, eto, ni chafodd oruchafiaeth ar ei hen elyn, a bu farw yn dawel yr wythnos ddiweddaf. Taened y Nef ei chysgod dros y rhai sydd yn galaru ar ei ol. Y Geninen Eisteddfodol. RHODDIR y rhifyn i fyny yn gyfangwbl i gyfansoddiadau barddonol, caeth a rhvdd. a wobrwywyd mewn Eistedd- fodau, bach a mawr. Maent yn lluosog iawn, ac i'r rhai a hoffant farddoniaeth newydd, ca'nt yma arlwy dda. H.

LLINELL Y GREAT WESTERN.