Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
PROFWCH a deliwch ar yr hyn sydd dda. Mae Coltsfoot Elixir James, Llanelli, wedi profi mai y feddyginiaeth oreu yw at Beswch, An wyd, Bronchitis. Mae i'w gael gan bob fferyllydd. Rhodd- weh brawf arno, and you will praise and recommend it as a great Cough and Lung remedy.
YR YSGOL SABBATHOL. ,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR YSGOL SABBATHOL. Y WRRS RHYNG WLADWLtlAKTHOL. International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TITE. FFYNON. MEDI 4ydd.-Calonogi Elias.—1 Breninoedd, xix. 9-18. Y TESTYN Eur.AIDD.-I Nac ofnq canys yr ydwyf Fi gyda thi na lwfrlia canys Myfi yw dy Dduw cadamhaf di, cyDorthwyaf di hefvd, a chynaliaf di a deheulaw Fy nghyfiawnder.Esaiah xli. 10. Y RHANAU I'W DAKLLEN YN DDYDDIOL Llun (Awst 29ain.)-1 Bren. xix. 9-18. Mawrth.-Rhufeiniaid xi. 1-6. Mercher.—Exodus xxxiii. 12-23. Iau.-Salm xlii. 1 11. Gwener. -2 Timotheus iv. 9-18. Sadwrn.—Ezra ii. 1-7. Sabbath.—Esaiah xli. 10-20. KHAGARWEINIOL. YR oedd Elias trwy ffoi wedi dangos gwendid ac an- ywddiriedaeth yu Jehofah. Yr oedd wedi gadael ei waith. Felly awelwn briodoldeb gofyniad Jehofah iddo, Beth a wnei di yma Elias?' Nid oedd yn y lie iawn. Yr oedd ei angen eto yn ngwlad Israel, ac yr oedd gan Jehofah waith ar- benig iddo wneyd yno. Y mae Jehofah yn ei barotoi ar gyfer y gwaith hwnw trwy roddi iddo weledigaethau. Yr oedd gan y Ilef ddystaw fain genadwri ne llduol i Elias. Yr oedd efe wedi ym- ddiried i nerth a llymdra, ond nid dyna ffordd Jehofah. Yr oedd Ei deyrnas Ef i'w lledaenu, nid trwy y ddaeargryn a'r tan, ond trwy foddion mwy tyner, yn arwain i edifeirwch a diwygiad buchedd. ESBONIADOL. Adnod 9.—' Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef ac Efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Elias ?' Ac efe a aeth ifewn i ogof, ac a letyodd yno. Yr un ogof neu agen, mae yn debygol, ag y gosodwyd Moses ynddi tra elai gogoniant Jehofah heibio. Gwel Exodus xxxiii. 22. Ac wele air yr Arglwydd ato ef. Na 11 ai mewn gweledigaeth nog, neu ynte mewn Uais hyglyw a dealladwy. Beth a wnei di yma Elias ? Math o gerydd ysgafn Nid yma y mae dy le di, ond yn ngwlad Israel.' Mae rhai yn tybio nad oes yn y geiriau gerydd o gwbl, ac nad oedd Elias yn dangos dim gwendid wrth ffoi i'r anialwch. Ond y mae yn ymdaangos fod rhediad naturiol y geiriau yn myned yn erbyn y golygiad yna. 11 Adnod 10.—' Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr get dros Arglwydd Dduw y IInoedd; oberwydd i feibion Israel wrthod Dy gyfamod Di, a dystrywio Dy allorau Di, a lladd Dy broffwydi a'r cleddyf; a mi fy hunan a adawyd a cheisio y maent ddwyn fy einioes inau.' Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros Arglwydd Dduvo y lluoedd, &c. Y mae y proffwyd yn agor ei galon i Jehofah. Dywed ei fod wedi ei ddigaloni oherwydd sefyllfa dorcalonus Achos yr Arglwydd. Wrthod Dy gyfamod. Yr hwn a wnaethai a hwynt ya Horeb, trwy fyned ar ol duwiau dyeithr. A dystrywio Dy allorau. Ya Ramah, Gilgal Carmel, a mauau ereill. Codwyd yr allorau hyn i'r rhai nad allent fyned i Jerusalem i addoli. Liadd Dy broffwydi. Gwel penod xviii 4. A. mi fy hunan a adawyd. Hyny yw, nid oedd neb yn beiddio ymddangos yn gyhoeddus. A cheisio maent fy einioes inau. Yr hyn a barodd i mi ffoi yma. Y mae y proffwyd yn gosod y ffeithiau, fal yr ymddangosent iddo ef, ger bron obh, Adnod 1] Ae efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd ger bion yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo y mynyddoedd ac yn dryllio y creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt ac ar ol y gwynt daear- gryn ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn.' Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd, tfec. Aeth allan i enau yr ogof i weled effeitliiau y gwynt a'r tan, ond nid aeth allan i'r mynydd hyd nes y clywodd y Ilef ddystaw fain. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio. Trwy arwyddion o'i allu. Nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt na'r tin hyny yw, yn ei bresenoldeb achubol. Dangosasant hwy allu Jehofah yn unig, ond nid Ei gymeriad fel Duw yr achubydd. Adnod 12. 'Ac ar ol y ddaeargryn, t'n ond nid oedd yr Arglwydd yn y tan ac ar ol y tan, lief ddystaw fain.' Llef ddystaw fain. Yn. neu trwy yr hwn yn unig y bwriadai yr Arglwydd ddwyn yn mlaen ei waith achubol. Yr oedd Jehofah yn y Ilef ddystaw fain, a theimlai Elias hyny. 'Dysgir Elias nad oedd efe i ryfeddu fod Jehofah heb amlygu Ei bresenoldeb grasol ac achubol yn ngwir ddychweliad lioll Israel ato Ei Hun trwy ei wyrthiau goruweh- naturiol ar ben Carmel, y rhai a osodir allan yma trwy wynt a than ond fod hyny i gael ei ddwyn oddiamgylch drachefn trwy lef ddystaw fain, sef trwy foddion moesol. Nid oedd y gwyrthiau wneid yn yr oes apostolaidd yn cael eu bwriadu i achub neb eu dyl en hwy oedd tynu sylw y bobl yn unig at bregethiad yr Efengyl. Yr oedd yr lioll arddang- osiadau hyn yn gerydd ar Elias am nad arosasai efe yn ngwlad Israel i oiphen y gwaith o ddychwelyd y bobl, yn ile dianc i'r anialwch cyn i'r Arglwydd ddyfod allan i weithio yn achubol trwyddo ef.' Adnod 13.—' A plian glybu Elias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr lion a ddywedodd, Beth a wnei di yma Elias ?' A phan ffhjbu Elias. efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, &e. Pan glybu Elias y lIef, cuddiodd ei wyneb yn ei fantell, yn arwydd o barch i'r Hwn oedd yn llefaru wrtho ef. Ail-ofynir i Elias yr un cwestiwn er mwyn gweled pa effaith oedd y weledig- aeth wedi gael arno. Adnod 14. Dywedodd yntau, Dygais fawr zel dros Arglwydd Dduw y lluoedd oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod Di, a dystrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi a'r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd a cheisio y maent fy einioes inau i'w dwyn hi ymaitb.' Dywedodd yntau, Dygais fawr sel, & Y mae ei atebiad yn profi nad oedd wedi deall gwir ystyr y weledigaeth. Rhydd yr un atebiad ag o'r blaen, ond yr oedd mewn ysbryd gwahanol yn llefaru. Mae yn ail-adrodd y ffeithiau, ond erbyn hyn, diau ei fod yn ymwybodol o'i wen- did, ac yn barod i ufuddhau i orchymyn Jehofah. Adnod 15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i'th ffordd i anialweh Damascus: a phan ddelyeh eneinia Hazael yn frenin ar Syria.' A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos dychwel i'th ffordd i anialwch Damascus. Nid yw yn eael ei anfon ar hyd ffordd lie y byddai yn debyg o gyfarfod Jezebel, na neb arall o'i elynion. Eneinia Hazael. Hyny yw, penoda ef yn frenin. Yr oedd i hysbysu Eliseus oddiwrth yr Arglwydd y byddai Hazael yn frenin ar Syria. Gwel 2 Bren. yiii. 13. Trwy Hazael yr oedd A hab ac Israel i gael eu cosbi am eu gwrthgiiiadau oddiwrth Jehofah. Adnod 16. A Jehu, mab Nimsi, a eneini di yn frenin ar Israel; ae Eliseus mab Saphat, o Abel- meliolah, a eneini di yn hroft wyd yn He dy hun.' A JeJat mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel. Wyr Nimsi, mab Jeliosaphat, ydoedd. Gelwid ef mab Nimsi, am fod ei dad wedi marw pan oedd yn ieuanc, ac iddo gael ei ddwyn i fyny gan ei daid. Eliseus o Abelmeholah. Cawn hanes ymoddy galwodd efe Eliseus yn adnodau 19-21. Bwried.d hyn oil fel rhagfynegiad mai trwy y gwyr hyn y byddai i Jehofah gosbi yr Israeliaid dirywiedig, amddiffyn ei achos Ei Hun, a dial cwervl Ei gyfamod.' Sicrheir Elias y bydd i Jehofah, yn Ei amser da Ei Hun, weithio allan Ei fwriadau grasol. Rhaid i ereill ddilyn Elias yn y gwaith o ddwyn hyn i ben. Adnod 17.—' A'r hwn a ddiango rhag cleddyf Haz-iel, Jehu a'i lladd ef ac Eliseus a ladd yr hwn a ddiango rhag cleddyf Jehu.' Cleddyf Hazael. Dangosir mor llwyred y caiff y gwaith ei gyflawni, Ymosodwyd ar Israel gan Hazael. Gwêl 2 Bren, viii. 12, 13, 29 x. 32 xiii. 3,-7, Torwyd ymaith dy Ahab gan Jehu. Gwgl 2 Bren. ix. 24-33 x. 1-28. Ceryddwyd y gweddill gan gleddyf gair Eliseus, Adnod 18.—'A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y g!iniau oil ni phlygasant i Baal, a phob genau a'r nis cusanodd ef.' Saith o filoedd. Sicr- heir Elias nad oedd ar ei ben ei hun, fel yr oedd ef yn tybio. Wrth saith o filoedd, golygir llawer o filoedd. Yr oedd cusanu eu duwiau yn ddefod gan eilunaddolwyr. Nodir hyn er calonogi Elias i fyned yn rnlaen gyda'i waith. Nid oedd Israel wedi cilio mor llwyr oddiwrth Jehofah ag y mynai y proffwyd. GWERSI. I. Rhoddodd Jehofah ddatguddiad i Elias o 1 atur y moddion trwy ba rai yr oedd Efe i ddy- chwelyd y byd ato Ei Hun. Yr oedd Elias wedi camsynied. Nid oedd Duw yn y gwynt, y ddaear- gryn, a'r tan. Daeth yn y lief ddystaw fain. Yr oedd Elias wedi ymddiried i'r sychder, a'r tan, a'r gwlaw. Ond yr oedd Ysbryd Duw yn gweithio yn ddystaw yn nghalonau y bobl. Yr oedd yn rhaid i Elias weithio, er fod Jehofah yn gweithio. Nid ei le oedd yn yr ogof Yr oedd wedi gadael ei ddyledswydd. Yr oedd gwaith mawr iddo i'w wneyd yn ngwlad Israel. Nid oedd i edrych ar yr ochr dywyll o hyd. Yr oedd yna ochr oleu i'r cwmwl. Yr oedd dros saith mil o rai ffyddlon yn y
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
MARWOLAETHAU. DA-VIFs.-Dydd Iau, yr lleg cyfisol, y brawd defnydd- iol a diymboDgar Mr Davies, Danygraig, Mydrim, ar ol cystudd cymha-ol fyr. Y dydd Lluu canlynol, daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebiwng ei weddilliou i Fynwent Ffynonbedr, yr hon sydd yn gysylltiedig a'r capel y bu ein brawd yn addoli ac yn wasanaeth- gar fel ysgrifenydd a diacon am flynyddoedd. Hawdd iawn oedd canfod fod parch dwfn i Mr Davies gan yr ardal wyr yn mliell ac ago?, fel y dangosodd nifer o bobl ddafth yn ngbyd i dalu eu teyrnged ddiweddnf o barch iddo. Cynaliwyd gwasanaeth yu y ty. Darllenwyd rhanau o'r Gyfrol Sanctaidd gan y Parch T. Jones, ficer y plwyf. a gweddiwyd gan y Parch D. R. Davies, Rhydyceisidd. Ar ol cauu emyn, cychwynwyd i gapel Ffynonbedr, lie y cynaliwyd gwasanaeth crefyddol. Dechreuwyd trwy ddarllen gan y Parch B. Howells, Gelliwen. Ar ol canu, gweddiodd y Pareh W. Thomas, Llatiboidy. Yna siaradodd y Parchn E Jones, Cana; E. Price, Lacharu; Stephen Thomas, Elim; D. G. Williams, Bethlehem, St. Clears-y rhai a ddygasant y dystiol- aeth uchaf i gymeriad pur y brawd ymadawedig. Dymuniad pawb o'r siaradwyr, a phawb oedd yn bresenol, oerid i'r tenlu lluosog ac hardd hwu gael eymhorth i beidio dyweyd dim yn yufyd yn erbyn yr Arglwydd, ac i beuderfynu ctu-io allan y pethau oeddynt gysegredig gan eu hanwyl dad. Wedi canu Bydd myrdd o ryfeddodau,' &c., terfynwyd y gwas anaeth ar lan y bedd. Siaradodd y Parch J. Jones, ficer Trelech, a gweddiwyd gan y Parch D. Griffiths, Talog. Canwyd yr emyn I Ymado wnaf a'r babell,' &c., ac aeth pawb i'w cartreli yn y teimlad eu bod wedi talu y gymwynas olaf i un o wir blant Seion- dyn da, a dyn Duw. Bydded i'r defnyddioldeb a'r cariad at yr achos sydd wedi bod yn nodweddiadol o deulu Danygraig am flynyddoedd fod yn nodwedd eto am flynyddoedd yn mywyd y meibion a'r merched prydferth sydd wedi eu gadael yn amddifaid. Y mae eglwys1 F fyuon bedr yn cael ergydion tryniion y dyddiau hyn. Nid oes ond ychydig gydag wythnos er pan gladdwyd diacon arall, y brawd Mr D. Morris, Penrhosyn. Boed i'r Penbugail mawr fod yn arweinydd i'r eglwys—i osod awyd I byw yn y bobl ieuainc i gymeryd yr arch ar eu hysgwydflau, fel y gellir dvweyd, os yw'r tadau yn gorfod gadael, fod y meibion yn cymeryd eu lie. Gwelsom, heblaw y rhai a euwyd, y Parch Sulgwyn Davies, Aberdar, yn yr angladd.—Cymy&og. HOPKTNS.-Awst 8fed, Mr David Hopkins, oedd yn aros er's blynyddau belhch gyda'i frawd, Mr William Hopkins, Cefngorwydd, ger Gowerton, yn ei 81 miwydd oed. Yr oedd yn frawd nodedig fel -■ gweddiwr, a bu yn ffyddlon iawn gyda chyfarfodydd gweddi pan yn byw yn WindMill, Browyr ac wedi symud i Cefngorwydd, mynychai gyfarfodydd gweddi yn ardal y Duuvant, pryd nad oedd capel uac ysgoldy wedi eu codi. Mae yma rai yn ei gofio pan yn ddyn ieuanc yn cerdded.railldiroedd, haf a gauaf, i gynal cyfarfodydd ar hyd y parthau anghysbell, ac yr oedd yn wledd i fod lie y byddai efe yn gweddio. Yr oedd yn berffaith gartrefol yn y ddwy iaith, yr hyn oedd fanteisiol yn Mrowyr. Daliodd yn ffydd- Ion hyd aiigeii; mynychai yr Ysgol Sul a'r cyfar- fodydd wythnosol Lyd y diwedd. Hen Antiibynwr ydoedd, ond oherwydd cyfleusderau crefyddol yr oedd wedi ymuno gyda'r Methodistiaid Calfinaidd er's rhai blynyddau. Mae ei frawd, Mr W. Hopkins, yn aelod parchus yn y Orwys, lie yr arferai yr ym- adawedig hefyd fod yn aelod. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn Llandeilo Talybont, ger Pont- arduhtis, gyda llu o berthynasau oedd wedi blaentl. Gweinyddwyd yn yr angladd yn y ty gan y Parchu E. G. Davies, Dunvant; J. John, Crwys ac yn yr eglwys gan J. Richards (M.C), Gowerton; ficer Pontardulais ac er Ian y bedd gan Jones (M.C), Casllwch-vr. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parch D. Davies (B), Gowerton. Yr oedd yr angladd yn lluosog a pharchus iawn. Dyddaned Duw y galar- wyr, a rhodded eto i'r byd nifer o bobl o gyffelyb ysbryd i'r brawd ymadawedig. JOHN.-Awst lydd, yr hen chwaer Mrs Elizabeth John, Cwm-mawr, ger y Crwys, Browyr, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 87 o llynyddau. Saith mlyuedd yn ol, claddwyd Lewis John, ei gwr, yn PI ood. Yr oedd ef yn cofio yr enwog Barch John Evans yn gyi^ud o Gapel Iwau i'r Crwys. Bu y ddau o dan ei weinidogaeth ef a'r diwesldar Barch J Ll. Jones yn ddifwlch fel aelodau ffyddlon ac ym- drechgar. Yr oedd yr ymadawedig yr heuaf, ac yn perthyn i un o hen deuluoedd hynaf yr ardal, sef Eton, y Urwys Mawr. Nid oedd hi yn gallu myn- 3-cliti y capel er's llawer blwyddyu, ond yr oedd yu ddyddan a siriol ar yr aelwyd, a daliodd i godi o'i gwely hyd y dyddiau diweddaf. Claddwyd hi y dydd Mawrth caulyDol yn Mynwcnt y Crwys, pan y daeth nifer fawr yn ughyd o bell ac agos. Gwasan- aethwyd yn yr angladd gan y Parch J. John, ei gweinidog J. Mat k-s Evans, Abertil ri ac E. G. Davies. Dunvant. Bydded Duw yn dyner wrth y merched a'r wyrion a'r perthynasau sydd ar ol.