Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NEWYDDION 0 OGLEDD CYMRU-

News
Cite
Share

NEWYDDION 0 OGLEDD CYMRU- Towyn, Meirionydd.-Boddodd pedwar o'r gwir- foddolwyr wrth ymdrochi yn y lie hwn yr wythnos o'r blaen. Y fath nifer aofeitbol yn ystod yr bar hwn sydd wedi cyfarfod a'u diwedd wrth chwilio am bleser Llanbedrog.—Blin oedd genym am brofedigaeth y Parch E. Jones, yn marwolaeth ei anwyl briod. Yr oedd hi yn un o'r gwragedd goreu yn y wlad, ac yn mhob yatyr yn ymgeledd gymhwys i'w hanwyl briod, ac yn fam dyner i'w pblant sydd heddyw mewn galar ar ei hot. Er y bydd yn rhaid i'n haowyl frawd dreulio gweddill y daith hebddi hi, eto, bydd ei bysbryd a ldfwyn a Ilonydd yn llenwi yr hen gjlcboedd, a bydd ei chymer- iad glan yn fwy byw am ei bod wedi marw. Wrth gladdu gweddillion y sant mae ei gymeriad yn adgyfodi fel yr haul, ac ni wyr am fachlud. Bydded Duw yn gysurydd i'n brawd a'i deulu yn eu trallod. Fenai.-Pan ar y Fenai mewn bad, disgynodd cawod o wynt ar y eweb, a suddodd mewn moment i'r dyfnder, a bwriwyd y pedwar dyn ieuanc oedd ynddo i'r m6r. Achubwyd dau ohonynt pan ar soddo, eitbr boddodd y ddiu arall, a chafwyd eu cyrff yn mhen ychydig djydditu. Un o'r ddau oedd Mr H. Williams, mab Mr W. Wil iams, master painters, Beaumaris. Gwasanaethai yn y Bane, yn Llangollen. Yr oedd yn ddyn ieuanc crefyddol, pur ei gymeriad, a nodedig o weithgar. Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r Aunibynwyr yn y dref ucbod. Yr oedd efe yn gerddor medrus, ac efe oedd yn chwareu yr offeryn ya y capel lie yr oedd yn aelod. Yn wir yr oedd yo hoffddyn gan y dref yn gyffredinol, a daeth ewmwl dros Langollen pan y daeth y newydd am ei t'arwolaeth sydyo. Dyddined Duw ei deulu sydd mewn galartrwin. Caer.-Da iawn oedd genym ddeall fod Frank V. Williams, mab i Mr W. Williams, un o ddiac- oniaid Albion Park, wedi pasio y London University Matriculation, ac efe eto ond un-ar bymtl eg mlwydd oed. Dyna orchest gwerth i'w chyhoeidi. Gobeithiwn nad yw hyn ond dechreu cwrs o fywyd dysglaer yn myd addysg a daion'. Bydd ein calon yn llawenbau wrth weled ein pobl ieuainc yn codi eu llygitid i'r lan, ac yn gosJd eu nod yn uchel. Rhos. -Pregethwyd yn nghyfarfodydd blynyddol yr eglwys hon eleni gan y Parchn B. Davies, Panteg, ac O. R. Owen, Lerpwl. Ponclau.T.,Wedi gryn leggedd, bu yr hen .frawd hoff Eiward Parry t'arw, yn 82 mlwydd oed.. Yr oedd yn. hen Gristiop gloew, a'i :gymeriad fel y grisial, yn dysgleitio trwy yrardal. Daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i'w argel wely, yn mynwent y capel y bu yn addoli am lawer blwyddyn. Gwae- anaethwyd gan y Parchn Q. J. Owen ac R. Roberts. Llangollen.— Mae Mr Rees wedi rhoddi rhybudd y bydd ei gysylltiad gweinidogaethol a'r Eglwys Ancibynol yn y dref, a'r chwaer eglwys yn Trefor, yn terfynu yn niwedd y mis hwn. Mae Mr Rees wedi bod yn weithgar iawn yn ystod ei arosiad yn y lie. Mae ganddynt yn awr gllpel newydd pryd- fertb, ar eafle ddymunol iawn, a chryn lawer o'r ddyled wedi ei thalu, a phob cyfle i ddylanwadu ar y dref a'r gymydogaetb. Bydd yn chwith gan luaws mawr ei golli o'r cylch, oherwydd ei fed yn frawd caredig ae anwyl. Mae yn awr mewn add- fedrwydd prcfiad a gwasanaetb, ac yn ngbanol ei nertb, fel yn ddiau y bydd meusydd ereill yn agor eu pyrth iddo. Beth am y Tafarnwyr r-Mae nifer aruthrol o ddynion a mercbed yn ciel eu dirwyo am feddw- dod yn siroedd y Gogledd yn barbaus. Yn ben- difaddeu mae yr olwg a welir yn ein llysoedd yn wir ddifrifol a oiraddiol. Mewn llawer o achosion yooddengysyr un rhai o wythnos i wythnos. Ond pa le mae y trwyddedwr ? Paham na welid ef yn fynycbach o flaen ei well, tc Da chosbid ef yn ol haeddiant ei weithredoedd ? Mae ganddo luaws o ffyrdd i ochel cyfraith, ac y mae hyd yn nod y Faine yn hynod o ofalus o'i hawliau, a tbrugarog wrth ei anghvfiawnderau. Bellach mae y wlad ac amryw o'r Ynadon yn agor eu llygaid ar y mater hwn. Diau fod yn rbaid cael diwygiad buan yn y mater hwn. Dylai pob ardal ddwyn sylw yr hedd- geidwaii a'r Yeadon lleol at y petb, ac os na thycid hyny, beth am y Cynghor Siiol ? Coded pob cymydogaeth ar ei thraed, a myned trwy deg neu trwy arw, i gael gweinyddiad teg o'r deddfltu sydd genym, heb soil am y rhaf dtStyiem gaet. Caernarfon.—Diwedd y mis yma trefnir cyfar- fyddiid o gynrychiolwyr yr holl adranau Celtaidd yn yr hen dref enwog, i ystyried eu buddianau fel gwahancl ganghenau o'r hen gyff anrbydeddus. Dywedir y dysgwylir 400 o gynrychiolwyr yn ngbyd ar yr acblysnr. Gobeitbio y gwnant rywbeth gwerth y d aul a'r drafferth wedi y delont. Qwrecsam — Mae Miss Berta Evans, merch y Parch M. O. Evans, wedi pasi3 Arholiad y Matriculation yn Mhiifysgol Cymru yn y Dosbarth Cyntaf. Mae Miss Evans yn eneth ieuanc dalentog. Llwyddiant iddi yn ei gyrfa addysgrl. Ba,ngor.-Bu Mrs Jane Llystyn Jones o'r ddinas hon, farw yn hen a llawn o ddyddian. Yr oedd ei phriod, y diweddar fardd bregethwr Llystyn, wedi ei blaenori i'r ochrdraw er's dros ugain mlyn- edd. Merch ydoedd hi i'r lienor adnabyddus, Gweirydd Ab Rbys. Heblaw bod yn lienor gwycb, yr oedd Gweirydd yn ymgomiwr dyddan ac yn gyfaill hyfryd. Moriah, Porthdinorwig.-Mae yr eglwys uchod newydd dala yr hatling ddiweddaf o'i dyled. Preg- ethwyd ar yr achlysur gan y Parchn Owen Evans, D. D., ac O. L. Roberts, Lerpwl. Caerlleon.-Mae y Parch D. Gwynfryn Jones, gweinidog Wesleyaidd o'r ddinas hon, newydd gychwyn i Ddeheudir Affrica, gyda'r bwriad o fugeiiio eglwys Gymraeg gymjsg yn y wlad hono. Bendith ddilyno ei genadaeth. Elangefni.Ar daith chwyrn trwy dref canol- barth Mon y dydd o'r blaen, cefais ddigon o egwyl i wrando ar angel newyddion da, yn adrodd ei stori fach felus yn fy nghlust. Sisial yr oedd fod golwg siriol iawn ar yr Eglwys Annibynol yn ei chapel newydd. Dyna newydd gwerth ehedeg yn mhell i chwilio am dano. Diau pe ceid yma weinidog, yn ddyn cryf, craff, a doeth, y gwelid y capel yn y man wedi ei lenwi. Gobeithio y bydd y frawdol- iaeth yn y mater yma dan arweiniad y Nef. Rhyl.-Dywedir fod dros 600 o ymgeiswyr yn parotoi i ymornestu yn yr Eisteddfod agoshaol. Cwestiwn Addysg.-Rhyw fadlosgi mae y mater yma yn awr. Dysgwylir i'r amgylchiadau sydd yn yr ymyl wasanaethu fel glo ar y tan, nes bydd y whd yn wenfflam o ben-bwy-gilydd. Cyn pen ychydig amser eto, bydd Cymru ar ei phrawf. Y mae genym hyder y bydd hi yn ddigon o bwysau yn y clorianau. GOHEBYDD.

LLWYDDIANT CYNAR YN ,Y WE…