Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

0 GWR Y WINLLAN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

ddeuai miloedd yn ychwaneg o'r tywyllwch i' goleuni fel ag i gydnabod hyn. Y mae yn eithaf gwir dyna paham mae Cymru heddyw yn addfetach i rai mesurau pwysig na Lloegr a'r Alban. Am yr Iwerddon wel! # — Dyma gynghor o eiddo Dyfnallt yn ei Bryddest fuddugol ar Orfoledd,' i ba un y rhoddir y lie arweiniol yn y Geninen Eistedd- fodol am A wet Bydd fyw yn llawen fel pe bai'r byd yn becffaith erioed; Dysgwyl am creu bywyd, a daw y eoreu'n ddioed, Dos allan i'r noa 3. Hid gvallgofrwjdd brad yn dy fr/d, A cbyfle a gei i fradychu Gwaredwi o byd. Os met a gorfoledd yw bywy] i ti hr dy hynti Yn lion gelli yfed ei wenwyn ftil Socrates gynt. Dychwel at natur yn ngbwmni awen, Wurdsworth am dro, A cblvwi chwardd y dJasar yn di irbedlin drwy'i- hot Dos i alanas bywy3 gyda Whitman lygad glas, A chei fod y llif cieulonaf yn gwisgo mantellgras. A dyma benill arall a ddengys ysbryd hyderus y bardd Pe y gwelwn i y cread fel y mae- Fel y mae ya meddwl Duw ac ynddo'i bun, Ni wnawn alw'r ddaear hardd yn gartref gwae, Sydd yn rhoi i'r lili deg ei g'wêr¡ a'i llun. Y mae cread Duw yn dlws i'r llygad Hoc, Per o fiwsig caiiad yw j'rclust a glyw, A chynghanedd llawen bywyd, don ar d6a, Dyr ar draethau ymwybyddiaetb llawn o Dduw. # -Wrth ddarllen drwy y Geninen awgrymid y syniad fod yno lawer iawn o destynau englyn- ion unigol i D. Lloyd George, De Wet, a'r Motor. Dyna'r tri sydd a mwyaf o fyn'd ynddynt, mae'n debyg. r —Yn y cyhoeddiad newydd sydd yn dwyn yr enw Ysbryd yr Oes, rhoddir cyfres o ddarJuniau o feirdd byw, a sylwadau arnynt. Ben Davies sydd yn yr un am y mis hwn, ac y mae'r darlun yn un rhagorol. Mae y sylwadau hefyd yn briodol iawn. V —Anhawdd anghofio rhai darnau o Awdl E Nicholson Jones, ar 'Y Bugail.' Yr oedd hon hefyd yn fuddugol, a cheir hi yn y Geninen .Eisteddfodol.' Dyma ddesgrifiad o ffon y. bugail a'i gwasanaeth :— Hyd riw mae'n rhodiwr eou, Yn ddyn a ff 5 dd yn ei t'fon- Ffon heddweli: a phen iddi Yn uchel facb, welaf fl. Yn wydn, hir, a'i hoed yn ben, Arddelir yn urdd-wialen. Nid ffon cur, ond ffon cariad !—na edwyn Niweidi j'r un ddafad; Help bugail yw byd alp gwlad Rydd hyder i'w gerddediid. —A dyma eto ddesgrifiad o gi y bugail yn casglu y praidd i'r gorlan, gyda fod y bugail yn galw arno at ei waith :— Ar hedeg fel y trydan, A'n felltenfollt yn y fan. Acw orcbest yw cyrchu 0 borfa las-brefol lu Clch y ihai'n o'u cylch y rhed Gwas y cwm megys corned. Acw'i hunan yn cynull— Crynbodd hwynt mewn cywrain ddull Ac o'u herlid i'w corlan Hawlia glod y bugail glan. 0 fawr helynt. ei frolio- Da was' yw ei wynfyd o. Dawes a a neidia'n nwydwyllt, 0 fel y chwardd mae'n falch wy 1: t Pleser na wel palasau Hyd waenydd ga'r ddedwyd,t ddau. -Gwelsom fod Cyfrol Bregethau ein cyd. wladwr enwog y Parch J. Ossian Davies, Old, yet ever New,' i gael ei hail-argraffu. Da iawn genym fod llwyddiant mor fawr wedi bod ar werthu yr argraffiad cyntaf. Prawf hyny fod y bobi am gael Ossian yn y ffurf hon eto. —Dymunir llongyfarchMr Fred Ernest Rees, B.Sc., mab y Parch R. Rees, Alltwen, ar ei apwyntiad yn gyncrthwywr i Brif Gyfar- wyddwr Addysg yn Sir Forganwg. Efe yw cyntafanedig Mr a Mrs Rees, a ganwyd ef yn Merthyr Tydfil bum' mlynedd ar hugain yn ol. Deallwn mai yn nglyn a'r Technical Classes y bydd ei ddyledswyddau yn benaf. I ochr Science y mae efe wedi troi o'r dechreu, ac y mae ei gwrs wedi bod yn ddysglaer o'r dechreu. O'r Higher Grade yn Abertawe, lie y daliodd Ysgoloriaeth am dair blynedd, aeth i Goleg Caerdydd, yn dal un o Y sgoloriaethall Cyn- ghor Sir Forganwg-Ysgoloriaeth gwerth 40p. y flwyddyn. Daliodd hono am bedair blynedd. Ar derfyn ei gwrs yno graddiodd yn B.Sc., ac apwyntiwvd ef yn gynorthwywr am dymhor. Oddiar 1901, y mae wedi bod yn Ddarlitliydd mewn Physics yn Mangor, ac wedi enill iddo ei hunan air da gan bawb. Dymunir iddo ieehyd a llwydd i g.) flawni ei waith pwysig. ■» —Dymunir llongyfarch y Parch J. Davies, Cadle, ar yr arwyddion o barch a gyflwynwyd iddo yn ddiweddar. Yr oeddynt yn lluosog ac yn ddrudfawr, ond wedi eu haeddu yn llawn a'u cyfranu yn llawen. Anfynych y cyfarfyddir a gweinidog wedi ac yn rhoi cymaint o'i amser i waith cyhoeddus. A gwna yr oil yn berffaith gydwybodol. Teimla yn ddwfn, a sieryd yn gryf. Daw drwy hyny i wrthdarawiad a rhai, ond gall daraw heb ddigio, na dal teimlad drwg. Gobeithio y ca flynyddoedd lawer i gario ei waith pwysig yn mlaen Mae ei ddylanwad yn nghylchoedd Addysg y De yn fawr iawn. m —Cadair eto i'r Parch J. Lewis, Libanus, Aberhonddu! Y mae ganddo nifer ohonynt bellach, ac y mae yn un o'r cystadleuwyr mwyaf llwyddianuEi, "1- —Parotoi mawr sydd yn Nghaerdydd, ar gyfer ymweliad yr Undeb Cynulleidfaol, yn nyddiau olaf mis Medi. Dysgwylir dros ddeuddeg cant o ymwelwyr, ac yn eu mysg rai o arweinwyr enwocaf ein Henwad yn Lloegr. Diau y ceir yno gyfarfodydd i'w hir gofio. -Yn mysg y rhai a sicrhasant eu graddau yn llwyddianus yn Mhrifathrofa Cymru yn ddiw- eddar, ceir enw Miss M. Johns, merch y Parch T. Johns, Llanelli. Y mae hithau yn awr yn B.A. ac oddiar hyny wedi derbyn apwyntiad yn Nghaerfyrddin yn nglyn a'r Pupil Teacher Centre. Pob llwydd iddi. # —Ar ol symudiad diweddar y Parch D. Glannant Davies o Bryste, wele y Parch Rhys Harris yn gadael King's Bridge, Devon, am Plymouth, yn yr un swydd. Treuliodd Mr Harries saith mlynedd Uafurus a llwyddianus iawn yn King's Bridge, ac y mae yn glod iddo i gael maes morrhagorol a Plymouth o gylch ugain milldir i'w hen faes. Saif Mr Harries yn amlwg yn mhlith gweinidogion ei Gyfundeb gyda phob mudiad cyhoeddus, ac y mae yn ami ar lwyfanau yn dadleu hawliau y werin yn gys- tal ac yn y pwlpudau ya efengylu i'r bobl. Llwyddiant iddo yw dymuniad ei gyfeillion lluosog yn Nghymru a Lloegr. —Ba y Parch O. L. Roberts, Lerpwl, ar I. ymweliad a Phwllheli, Sabbath, Awst 14eg, ac yn pregethu yn Mhenlan, a diau nad yn fuan yr anghofir yr amgylcbiad. Hawdd ydoedd gweled fod y pregethwr a'r gynulleidfa mewn cydymdeimlad perffaith, ac yn deall eu gilydd yn dda, a'r Efengyl yn cael ei thraddodi gyda nerth a dylanwad amlwg. Dywedai y boneddwr hynaws a charedig, Mr Hichard Roberts, Hope House, yn y gyfeillach nos Sul eu bod wedi bod yn edrych yn mlaen gyda dyddordeb mawr at y Sabbath hwnw, a dysgwylid yn hyderus am y fraint o gael treulio un Sul eilwaith gyda'u cyn- weinidog anwyl a pharcbus, Mr O. Roberts, ac yn arbenig y plant a'r bobl ieuainc oeddynt yn dysgwyl am gael eu derbyn i gyflawn aelodaeth y noson hono, a theimlai yn llawen iawn fod eu dysgwyliadau penaf wedi eu sylweddoli. Golygfa anghyffredin oedd gweled gymaint a phedwar-ar-bugain o bobl ieuainc a phlant yn dyfod yn mlaen i ddangos eu bod am ymgysegru i wasanaeth lesu Grist, a derbyniasant gynghor- ion gwerthfawr, buddiol, a thyuer odiaeth gan Mr O. L. Roberts, ac arogl esmwyth ar yr holl wasanaeth. Dymuniad pawb ar ddiwedd y dydd oedd ar i Mr Roberts ymweled a Phenlan yn fuan eto. —Yr oedd yn ofidus genym glywed y dydd o'r blaen fod Mr Thomas Hughes, diacon ffyddlon yn yr eglwys yn Menai Bridge, wedi ei gymeryd yn wael iawn. Hyderwn fod adferiad buan iddo. -Cydymdeimlir yn fawr i'r Parch Evan Jones, Llanbedrog, yn ngwyneb y goiled fawr y mae wedi gael yn marwolaeth ei anwyl briod. Yr oedd Mrs Jones yn un o'r gwragedd goreu, ac y mae yr holl gylch yn galaru yn fawr oblegid ei hymadawiad. Yr oedd y dyrfa fawr a ddaeth yn ngbyd i'w hangladd yn dyst- iolaeth uchet i'w chymeriad ardderchog, yn ogystal ag yn arwydd o'r cydymeimlad dyfnaf a'i phriod a'i phlant yn eu galar. —Dymunwn yn galonog longyfarch yr eglwys yn Moriah, Porthdinorwig, ar ei Jubili- Trwy ymdrechion ei gweinidog ffyddlon, y Parch Keinion Thomas, llwyddodd yr eglwys i dalu rhyw 500p oedd yn ddyle.1 arui, ac y mae hyny yn glod mawr iddi. IJer-rodd haelionus Mrs Keinion Thomas lu y symbyliad mwyaf iddi i ddwyn hyn oddiamgylch. --De illasom mai aros gyda'i bobl yn Aber- canaid yw penderfyniad y Parch J. D. Jones, ac nid symud i Langenech, a'i fod erbyn hyn wedi hysbysu y ddwy eglwys. Da iawn. Colled fawr i Abercanaid fuasai ei ymadawiad. Y mae yn ddyn mor fyw i holl symudiadau ei ddydd, fel y mae wedi gwneyd ei hun yn arweinydd yn ei gylch, ac yn Uafurwr iiior ddidwyll yneî eglwys, fel y mae yn anwyl ganddi, ac yn uchel yn ei golwg. —Collodd yr eglwys Y1 Great Mersey-streat' Lerpw', un o'i diaconiaid henaf a mwvaf ffydd- lon, yn marwolaeth Mr John Jones, Canada Dock. Cafodd gystudd maith, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel. Bu farw dydd Mawrth, yr 16eg cyfisol, a chladdwyd ef y dydd Gwener dilynol yn Mynwent Llanrhaidr Atochnant. Gwasauaethwyd yn yr aagladi gan y Parchn Griffith Ellis, M.A a J. O. Williams (Pedrog.) —Y mae Cymanfa Lerpwl am eleni eto wrth y drws. Dysgwylir i wasanaethu y Parchn Job Miles, Aberystwyth; W. Oscar Owen, Pen- ybont;"Ben Morris, Pontyberem Owen Jones, Mountain Ash; T. E. Thomas, Coedpoeth; Ellis Jones. B ingor Rhys J. Huws, Bethel J Charles.: Dinbych; Ben Davies, Pant-teg; Gwylfa Roberts, Llanelli; D. Rees, Capel Mawr; D. Stanley Jones, Caernarfon; J. Towyn Jones, Cwmaman E. Cyuffi Davies, M.A., Menai Bridge; R. Peris WilliamSi Gwrecsam; W. Pari Huws, B.D., Dolgellau; C. Tawelfryn Thomas, Groeswen a T. M. Rees, Buckley. -Sefydliad pwysig yn nglyn â'r Gymanfa- ydyw y Gyfeillach uos Sadwrn yn nghapel Great George-street. Cymerir y gadair eleni gan y Ptrch O. Llovri Owen, a siaredir gan Y Ptirch E. Cynffig Davies, M.A., Ben Daviep, W. Oscar Owen, Rhys J. Huws, a D. ReeP. Testyn y Gyfeillach fydd Crelydd Ymarferol seiliedig ar y bymthegfed Salm. -Bydd yn dda gan lu cyfeillion y Parch D. Edwards, Pilton Green, Browyr, glywed ei fod yn llawer gwell ei iechyd nag yr ydoedd ychydig amser yn ol. Gwnaeth ei ymweliad a. Llanwrtyd leg mawr iddo, a theimla yn ddyn arall. Mwynhaodd Mrs Edwards ac yntau eu