Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-----SENEDD-DYMHOR Y DAFARN

News
Cite
Share

SENEDD-DYMHOR Y DAFARN MAE y Senedd-dymhor presenol wedi ei gait i fyny. Mae canoedd o'r dynion a gyfrifir yn arweinwyr wedi fcreulio cbwe' mis eto yn yr hyn a elwir weithiau yn brif ddeddfwrfa y byd, ac nid oes dim wedi ei wneyd ganddynt ond cadarnhau safle y dafarn, a rhoi ychwaneg o arian yn Ilogellau tafarnwyr a bragwyr! Y mae un dosbarth arall hefyd wedi cael tam aid braf-y cyfalafwyr yn Neheudir Affrig, ond yr oedd hwnw yn ymarferol weli ei roi cyn agor y Senedd-dymhor sydd yn awr wedi ei gau, fel mai gwaith y tymhor fu gwneyd yr hyn a grylwyllasom. A dyma ffrwyth gwerth ei ddangos ac ymffrostio ynddo ar ol chwe' mis o lafur! Bu rhai yn meddwl ar y dechreu na lwydd- asai y Weinyddiaeth i ddal y tymhor hwn drosodd. Amryw weithiau ceisiwyd ein har- wain i gredu fod posibirwydd y byddai raid iddi dori i fyny. Ond nis gallaswn o gwbl gredu hyny. Cofiem fod bywyd gwleidyddol nifer luosog o'i chefnogwyr yn dibynu ar iddi barhau, am ei fod yn gwbl sicr y gwrthouid 1 hwy gyda'r apel gyntaf at yr etholwyr. Gwyddem hefyd fod y Weinyddiaeth yn deall temper y wild yn burion, er yn cymeryd arni nad yw. Dj,n yr amgylchiadau hyny, ynfyd- rwydd oedd dysgwyl y rhoddai BALFOUR fyny, tra byddai ganddo y mwyafrif peirianol gwasaidd sydd wedi bod mor llíudd iddo, yn benaf er mwyn eu heinioes eu hunain. Y galluoedd fu yn bygwth aradegau—a dim mwy na bvgwth-oeddyrit y blaid hyny yn raysg yr Undcbwyr nad ydynt am ddilyn CHAMBERLAIN, a'r blaid hyny yn eu mysg sydd wedi pendet fyun ei ddtlyn i ba le bynag yr ä, yr Unionist Free Fooders' ar y naill law, a'r Unionist Whole Hoggers ar y llaw arall. Gwelir felly mai tylwyth ei thy ei hun fa yn bygwth y Weinyddiaeth. Ni fa perygl oddiallan o gwbl, oddifewn y bu yr oil. A rhyw ymladd felly i ddyogeln ei bywyd ei hun, ac nid trefnu deddfwriaeth lesiol i'r deyrnas, y ba Gweinyddiaeth BALFOUR drwy y Senedd-dymhor hwn. U olg ffrwyth y tymhor mewn ffordd o ddeddfwr- iaeth newydd yw fod y fasnach feddwol ya fwy parchus a d/ogel, a'r bragwyr a'r tafarn- wyr yn edrych yn mlaen am gynhauaf mawr. Oredem o'r dechreu nas gallai dim a ddy- wedem nac a wnaem fel teyroas rwystro y Mesur hwn i ddyfod yn ddeddf. Y mae BALFOUU fel pe wedi penderfynu rhoi pethatl yr ydys er's blynyddoedd, wedi bod yn ea gofyn, ond a ystyrid bob amser yn rhy eithafol ac afresymol o anheg i'w rhoi. yr oedd y clerigwyr er's blynyddoedd wedi bod yn llefain am i'w hysgolion gael eu rhoi ar y trethi, ond ni cheid Gweinyddiaeth a wrandawai arnynt. Gwrandawodd BALFJUB, a gwnaeth y peth. Wedi iddo ei wneyd, dywedai diweddar Archesgob CAEBGAINT na feddyliodd erioedry cawsid Gweinyddiaeth Brydeinig a ai mor bell i ffafrio Ysgolion Eglwysig. Ba y Gwyddelod yn hir yn gwaeddi am ddeddfau tirol gwell ar draul trethdalwyr Prydain Fawr, ond ystyrid y cais yn rhy eithafol i roi clust iddo. G Nrandaw- odd BALFOUH, a rhoes hyny drachefn, ar draul mor fawr i'r trethdalwr Prydeinig fel yr oedd y ffugyrau yn eia synu pan ddarilen- asom hwynt. Mor fawr oe ld y rhodd fel y dywedai hyd yn nod JOHN REDMOND yn ddiweddar eu bod wedi llwyddo i gael Dedclf Tir dda iawn oddiwrth y Toriaid. Ac nid dyn yw efe i ganmol y naill mwy na'r Hall o'r pleidiau gwleidyddol yn y Ty oddieithr ei fod wedi cael tamaid go fawr. Bu perchen- ogion y mwngloddiau aur yn Neheudir Aff.ig yn gwaeddi yn hir am gael llarurwyr rhatach i'r mwngloddiau, onide y buasai y cyfran- ddaliadau yn myned yn ddiwerth Gwran- dawodd BALFOUR, a cha-niataodd iddynt gael Ilafurwyr o China ar delerau sydd yn eu gwneyd yn gaethion tra byddout yu eu gwas- anaeth. Ie, gwnaeth hyn heb ymgynghori a

Advertising