Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Family Notices

MACHYNLLETH. j

|CYFUNDEB CEREDIGION.

MARWOLAETH GWILYM PENNANT.

SAFON RYFEDD 0 WERTH.

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

Y Corona convivialis a wisgid ar wleddoedd. Daeth yr arferiad hon i fod oddiwrth waith hen genedloedd yn cy lymu eu penau agwlanen mewn gwleddoedd, erlleihau poen meddwdod. Daeth- pwyd i wneyd y goron hon wedi hyny o flodau a dail, a ystyrid yn atalfa i feddwdod, sef rhos- ynau, myrtwyddd, mill, eiddiorwg, a pherllys. Gwisgid y Corona nuptialis gan y briodasferch, wedi ei gwneyd o flodaa, a dorwyd ganddi hi ei hunan. Ystyrid gwisgo blodau a dorwyd gan arall, yn arwydd ddrwg. Y Corona natalitia a osodid ar ddrwsty lie y buasai plentyn newydd- anedig. Arferion Dwyreiniol paganaidd oedd dech- reuad yr arferiad i freninoedd Ewrop i Wisgo coron. Nod gwahaniaethol breninoedd Dwy- reiniol oedd y sidan, y wlanen, neu y Ilian a glyment o arngylch y pen. Yr oedd llun y Barff gysegredig ar y defnydd y cylymid penau breninoedd a duwiauyr Aifft ag ef. Gwelir fod pen Bacchus, duw gwin, yn cael ei gylymu, gan adiiel penau y sidan i hongian o'r tucefn iddo. Gan y Persiaid ceid y rhwymiad hwn, tuallan i'r dalaeth, o ddefnydd glas a gwniadwaith gwyn arno. Gadawodd Ymherawdwyr boreuaf Rhufain yr arferiad o wisgo y penaddurn hwn o'r neilldu, rhag deffro adgofion cas yn y werin am y freniniaeth a iffeiddient. Diocletian oedd y cyntaf i'w dwyn i arferiad wedi hyny, ac ych- wanegodd Constantine Fawr addurniadau ati. Wedi ei amser ef addurnid hi â dwy res o berlau a meini gwerthfawr. Gwisgodd Alexander Fawr hi am fod breninoedd Persia yn ei gwisgo. Gwisgodd Antony hi yn ei wledd gyda Cleopatra Gwisga breninoedd a breninesau Prydain hi yn unig am ei bod yn arferiad gan freninoedd Ewrop. Cylch agored am y pen yw coron due iaid, ond y mae coron brenin neu ymherawdwr yn cau i fyny, fel y gwelwch ar arian bathol. Bwriedir coroni Edward VII. y Sadwrn nesaf, Awst 9fed, yn Mynachlog Westminster, gan y Parch Fredrick Temple, Archesgob Canterbury. Mae yn frenin e¡:y foment y marw ei fam, heb i neb ei ddewis na'i gyhoeddi, ond yn y Coroniad y cymer y llw i lywodraethu yn ol deddfau y wlad, i weinyddu cyfiawnder, ac i ddal i fyny yr Eglwys Brotestanaidd drwy y deyrnas. Mae cadair y Coroniad yn ddyddorol ar gyfrif j y gareg sydd ynddi o dan yr eisteddle. DJ- wedir mai y gareg hono yw y maen osododd Jacob dan ei ben yn obenydd i gysgu arno ger dinas Luz. Cariodd y Scythiaid hi i'r Ysbaen, a dygodd Simon Breck, mab Brenin Milo, hi oddiyno, i'r Iwerddon. Cariwyd hi o'r Iwerddon i'r Alban, fwy na thair mil o flynyddoedd cyn Crist, ac arni y coronwyd breninoedd Scotland drwy y cenedlaethau. Codwyd Mynachlog enwog Scone ger llaw afon y Tay, yn swydd Perth, ac yn y fynachlog hono y gosododd y Brenin Kenneth y maen coroni yn y flwyddyn 850, A.D. Ystyrid y maen yn un cysegredig gan y Celtiaid. Dyma fel y dywedent- If fate speek sootb, where e'er this stone is found, The Scots shall monarchs of that realm be crowned.' Gorcbymynodd Iorwerth I. o Loegr, i gario y maen i Lundain, a'i roi yn Mynachlog West- minster, a choronir breninoedd a breninesau Prydain arno. Perthyna hirhoedledd anher- fynol i hen arferion crefyddol boreu oes dynol- iaeth, ac y mae eisieu pob help a chynorthwyon ar Albert Edward, i'w wneyd yn Frenin da i Brydain a'r byd. Boed iddo rodio yn neddfau y Nef, rheded barn fel afon, a chyfiawnder fel t6nau y m6r. CAERLUDD.